Gorfodi
Adran 19 – Atebolrwydd troseddol uwch-swyddogion etc.
65.Pan fo trosedd o dan y Ddeddf yn cael ei chyflawni gan gorff corfforedig, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig heblaw partneriaeth mae’r adran hon yn ei gwneud yn bosibl, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), i unigolion sy’n dal swyddi cyfrifol yn y corff perthnasol, y bartneriaeth berthnasol neu’r gymdeithas berthnasol (yr “uwch-swyddogion” a ddiffinnir gan yr adran) i fod yn droseddol atebol am drosedd.