Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023

Trosedd

Adran 5 - Y drosedd o gyflenwi cynhyrchion plastig untro gwaharddedig

17.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr yng Nghymru.

18.Mae is-adran (1) yn darparu bod person (a ddisgrifir yn is-adran (2)), yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw:

  • yn cyflenwi (fel y’i ddiffinnir yn is-adran (3)) gynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr sydd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys trefnu i ddanfon y cynnyrch i ddefnyddiwr mewn cyfeiriad yng Nghymru;

  • yn cynnig cyflenwi (fel y’i ddiffinnir yn is-adran (4)) gynnyrch plastig untro gwaharddedig drwy ei arddangos, neu ei wneud yn hygyrch i ddefnyddiwr neu ei roi ar gael i ddefnyddiwr mewn mangre yng Nghymru.

19.Mae is-adran (2) yn darparu na ellir cyflawni’r troseddau yn is-adran (1) ond gan y personau a ganlyn (“P”):

  • corff corfforedig (gan gynnwys corff sy’n arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus);

  • partneriaeth;

  • cymdeithas anghorfforedig heblaw partneriaeth;

  • person sy’n gweithredu fel unig fasnachwr.

20.Mae is-adran (3) yn darparu bod P yn cyflawni’r drosedd o gyflenwi os yw naill ai P neu berson sy’n atebol i P yn gwerthu’r cynnyrch, neu’n darparu’r cynnyrch am ddim i ddefnyddiwr.

21.Mae is-adran (4) yn darparu bod P yn cynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig o dan is-adran (1) os yw naill ai P neu berson sy’n atebol i P yn arddangos y cynnyrch yn y fangre (er enghraifft mewn ffenestr siop) neu’n cadw’r cynnyrch yn y fangre fel ei fod yn hygyrch i ddefnyddiwr, neu ar gael i ddefnyddiwr, yn y fangre (er enghraifft ar gownter siop).

22.Mae is-adran (5) yn darparu bod person yn “atebol i P” os yw’r person hwnnw:

  • yn gyflogai i P,

  • â chontract ar gyfer gwasanaethau gyda P,

  • yn asiant i P, neu

  • fel arall yn ddarostyngedig i reoli, rheolaeth neu oruchwyliaeth P,

a bod y person hwnnw—

  • yn gweithredu yng nghwrs busnes, masnach neu broffesiwn P,

  • yn gweithredu mewn perthynas ag arfer swyddogaethau P gan P,

  • yn gweithredu mewn perthynas ag amcanion neu ddibenion P, neu

  • fel arall yn gweithredu o dan reoli, rheolaeth neu oruchwyliaeth P.

23.Mae is-adran (6) yn egluro, at ddiben y drosedd o gyflenwi, pan ddangosir bod P wedi trefnu i gynnyrch gael ei ddanfon i ddefnyddiwr mewn cyfeiriad yng Nghymru drwy’r post neu drwy unrhyw ddull arall, y bernir bod y cynnyrch wedi ei gyflenwi i’r defnyddiwr yn y cyfeiriad y mae P yn trefnu i’r cynnyrch gael ei ddanfon iddo, hyd yn oed os caiff ei ddanfon i gyfeiriad arall neu nad yw’n cael ei ddanfon o gwbl.

24.Mae is-adran (7) yn darparu amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) i ddangos ei fod wedi arfer diwydrwydd dyladwy ac wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i osgoi cyflawni’r drosedd. Os dibynnir ar yr amddiffyniad, mae is-adran (8) yn egluro ar bwy y mae’r baich profi yn gorffwys. Os codir tystiolaeth ddigonol, mae’r baich o wrthbrofi’r amddiffyniad y tu hwnt i amheuaeth resymol yn gorffwys ar yr erlyniad.

25.Mae is-adran (9) yn nodi, mewn achos ar gyfer trosedd o dan is-adran (1), bydd honiad bod cynnyrch yn gynnyrch plastig untro a restrir yng ngholofn 1 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen yn cael ei dderbyn fel ei fod wedi ei brofi yn absenoldeb tystiolaeth i’r gwrthwyneb.

26.Mae is-adran (10) yn darparu eglurhad, pan gyflenwir dau neu ragor o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig, neu pan gynigir cyflenwi dau neu ragor o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig, gyda’i gilydd, at ddibenion is-adran (1) fod hyn i’w drin fel un weithred gyflenwi, neu gynnig i gyflenwi, cynnyrch plastig untro gwaharddedig.

27.Mae is-adran (11) yn darparu, at ddibenion yr adran hon, mai ystyr ‘defnyddiwr’ yw unigolyn sy’n gweithredu at ddibenion sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf y tu allan i fasnach, busnes neu broffesiwn yr unigolyn hwnnw (pa un ai’r unigolyn a brynodd y cynnyrch ai peidio). Er enghraifft, byddai unigolyn sy’n prynu platiau plastig untro i’w defnyddio yn ei gartref yn cael ei ystyried yn ddefnyddiwr at ddibenion y Ddeddf, tra na fyddai unigolyn sy’n prynu platiau plastig untro o gyfanwerthwr ar ran bwyty lle y mae’r unigolyn yn gweithio yn cael ei ystyried yn ddefnyddiwr at ddibenion y Bil. Fodd bynnag, byddai cyflenwi plât o’r fath gan y bwyty hwnnw i ddefnyddiwr yng Nghymru yn drosedd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources