Rhagarweiniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 a basiwyd gan Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2022 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2023. Fe’u lluniwyd gan Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohono.