Search Legislation

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf

5.Mae saith Rhan iʼr Ddeddf syʼn cynnwys 85 o adrannau a dwy Atodlen. Mae Rhan 2 wedi ei rhannuʼn bedair pennod.

6.Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch trefniadau cwricwlwm ac asesu:

  • i ddisgyblion o dan 16 oed mewn ysgolion a gynhelir;

  • i ddisgyblion mewn ysgolion meithrin a gynhelir;

  • i blant sy’n cael addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

  • i ddisgyblion a phlant y mae’r awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau (o dan Ddeddf 1996) i addysg gael ei darparu ar eu cyfer ac eithrio mewn ysgol, er enghraifft, mewn UCD; ac

  • mae hefyd yn gwneud darpariaeth benodol sy’n ymwneud â’r cwricwlwm ar gyfer addysg ôl-orfodol mewn ysgolion a gynhelir.

7.Mae’r Ddeddf yn diddymu Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) a oedd, cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym, yn nodiʼr gofynion cwricwlwm ar gyfer ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir yng Nghymru.

8.Maeʼn gwneud darpariaeth ynghylch datblygu, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm i ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, ac ar gyfer datblygu a gweithredu cwricwlwm yn y cyd-destunau eraill y mae’r Ddeddf yn gymwys ynddynt. Mae hefyd yn rhoi dyletswyddau a phwerau i Weinidogion Cymru i lunio Codau a chanllawiau i helpu ymarferwyr addysg i fod yn broffesiynol ac yn greadigol wrth ddiwallu anghenion pob dysgwr.

9.Y bwriad yw sicrhau y gall pob disgybl a phob plentyn y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt gael profiadau, gwybodaeth a sgiliau syʼn eu galluogi i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben. I’r perwyl hwn, mae’r Ddeddf yn gwneud yn ofynnol addysgu a dysgu sy’n galluogi’r disgyblion hynny a’r plant hynny i ddatblygu yn y ffyrdd hynny; syʼn eang ac yn gytbwys; syʼn addas ar gyfer eu hoedrannau, eu galluoedd aʼu doniau; ac syʼn cynnig cynnydd priodol.

10.Wrth ei wraidd, maeʼr Ddeddf yn ceisio sicrhau addysgu a dysgu syʼn helpu dysgwyr i ddatblygu safonau uwch mewn llythrennedd a rhifedd, i fod yn gymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, i dyfu yn bobl syʼn meddwl mewn ffordd fentrus, greadigol a beirniadol ac i fod yn ddinasyddion hyderus, galluog a gofalgar.

11.Defnyddir ymadroddion penodol yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a ddiffinnir yn Neddf Addysg 1996 (neu y rhoddir ystyr iddynt ganddi):

YmadroddDarpariaeth
anghenion dysgu ychwanegol (“additional learning needs”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
awdurdod lleol (“local authority”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
awdurdod lleol yng Nghymru (“local authority in Wales”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
blwyddyn ysgol (“school year”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
cynllun AIG (“EHC plan”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
cynllun datblygu unigol (“individual development plan”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
darpariaeth ddysgu ychwanegol (“additional learning provision”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
disgybl (“pupil”)adran 3 o Ddeddf 1996
disgybl cofrestredig (“registered pupil”)adran 434(5) o Ddeddf 1996
gweithred ymddiriedolaeth (“trust deed”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
oedran ysgol gorfodol (“compulsory school age”)adran 8 o Ddeddf 1996
pennaeth (“head teacher”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
person ifanc (“young person”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
plentyn (“child”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
rhiant (“parent”)adran 576 o Ddeddf 1996
swyddogaethau (“functions”)adran 579(1) o Ddeddf 1996
ysgol arbennig (“special school”)adran 337(2) o Ddeddf 1996
ysgol feithrin (“nursery school”)adran 6(1) o Ddeddf 1996

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources