Adran 2 – Cymhwyso darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006
8.Mae’r adran hon yn datgymhwyso neu’n cyfyngu ar gymhwysiad darpariaethau penodedig o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) i etholiad 2021.
9.Byddai is-adrannau (2)(a) a (3) o adran 3 o Ddeddf 2006, ar y cyd ag erthygl 148 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, wedi ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gael ei diddymu ar 7 Ebrill 2021. Mae adran 2(1) yn datgymhwyso’r darpariaethau hyn. Yn lle hynny, mae adran 3 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer diddymu’r Senedd cyn etholiad 2021.
10.Mae is-adrannau (2)(b) a (4) o adran 3 o Ddeddf 2006, fel y’i diwygiwyd gan adran 36(1) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”), yn darparu i gyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad cyffredinol arferol gael ei gynnal 14 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod y pôl. Mae’r darpariaethau hyn wedi eu datgymhwyso gan adran 2(1) o’r Ddeddf ac mae adran 5 yn gwneud darpariaeth arall ynghylch dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad 2021.
11.Mae adran 3(1) o Ddeddf 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddiwrnod y pôl ar gyfer yr etholiad cyffredinol arferol ddigwydd ar 6 Mai 2021, a dim ond ar y dyddiad hwnnw, yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 6 o’r Ddeddf sy’n galluogi i ddiwrnod y pôl gael ei symud os yw’n angenrheidiol ac yn briodol gwneud hynny am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws.
12.Mae adran 2(3) o’r Ddeddf yn darparu nad yw adran 4(2)(c) o Ddeddf 2006 (fel y’i diwygiwyd gan adran 36(2) o Ddeddf 2020) yn gymwys i etholiad 2021. Mae’r ddarpariaeth hon o Ddeddf 2006 yn caniatáu i broclamasiwn o dan y Sêl Gymreig ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gyfarfod o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod y pôl os yw’r pwerau i amrywio dyddiad yr etholiad yn cael eu harfer o dan adran 4 o Ddeddf 2006. Yn achos etholiad 2021, os caiff dyddiad y pôl ei amrywio o dan adran 4 o Ddeddf 2006, mae adran 5 o’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gyfarfod 21 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod y pôl.
13.Mae adran 2(4) o’r Ddeddf yn darparu bod adran 10 o Ddeddf 2006, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch is-etholiadau’r Senedd, yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 7 o’r Ddeddf. Mae adran 7 yn caniatáu i ddyddiad y pôl ar gyfer is-etholiadau gael ei bennu y tu hwnt i’r dyddiad y darperir ar ei gyfer yn adran 10(5) a (6) o Ddeddf 2006.