Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i DEDDF ANIFEILIAID GWYLLT A SYRCASAU (CYMRU) 2020

Yr Atodlen – Pwerau gorfodi

34.Mae’r Atodlen yn rhoi pwerau i arolygwyr orfodi’r drosedd yn adran 1, yn nodi rhychwant y pwerau hynny ac yn creu troseddau pan fo person yn rhwystro’r pwerau hynny rhag cael eu harfer.

35.Mae paragraff 1 yn diffinio “arolygydd”, “pŵer mynediad” a “mangreoedd”. Mae “mangreoedd”, yn benodol, yn cynnwys pebyll neu strwythurau symudol, ac felly mae’n cynnwys, er enghraifft, garafanau a chartrefi symudol a gysylltir yn gyffredin â syrcasau teithiol.

36.Mae paragraff 2 yn rhoi pŵer i arolygwyr i fynd i fangreoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel anheddau ac yn nodi’r amgylchiadau pan fo’r pŵer yn arferadwy.

37.Mae paragraff 3 yn rhoi pŵer i arolygwyr fynd i anheddau. Rhaid i’r arolygydd gael gwarant gan ynad heddwch cyn arfer y pŵer hwn. Mae’r paragraff hwn yn nodi’r materion y mae rhaid eu bodloni cyn i warant gael ei rhoi. Mae paragraff 4 yn darparu bod gwarant o’r fath yn awdurdodi mynd i’r fangre ar un achlysur yn unig a bod rhaid ei defnyddio o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

38.Mae paragraff 5 yn ei gwneud yn ofynnol i arolygydd, os gofynnir iddo gan unrhyw berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o’i fanylion adnabod cyn arfer pŵer mynediad a datgan pam y mae’r pŵer yn cael ei arfer. Os bydd arolygydd yn mynd i annedd o dan warant, rhaid iddo, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos copi o’r warant i unrhyw berson yn y fangre, a rhoi copi i’r meddiannydd neu i berson yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am y fangre. Os nad yw’r naill na’r llall yn bresennol, rhaid i’r arolygydd adael copi o’r warant mewn man amlwg. Rhaid i’r arolygydd adael y fangre wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan gyrhaeddodd.

39.Mae paragraff 6 yn ei gwneud yn ofynnol i arolygydd arfer pŵer mynediad ar adeg resymol oni bai bod yr arolygydd yn credu y byddai aros am yr adeg resymol honno yn llesteirio diben mynd i’r fangre honno a’i harolygu.

40.Mae paragraff 7 yn caniatáu i arolygydd ddefnyddio grym rhesymol pan fo hynny’n angenrheidiol i arfer pŵer mynediad.

41.Mae paragraff 8 yn caniatáu i arolygydd fynd â phersonau eraill gydag ef i’r fangre ac unrhyw beth sy’n angenrheidiol (gan gynnwys cyfarpar a deunyddiau) i gynorthwyo â’u dyletswyddau. Gallai’r cynorthwywyr gynnwys arbenigwyr, megis arbenigwr sŵolegol i helpu i adnabod anifeiliaid, neu gwnstabl yr heddlu.

42.Mae paragraff 9 yn nodi’r pwerau arolygu, chwilio ac ymafael sydd ar gael i arolygydd wrth arfer pŵer mynediad. Ni chaiff arolygydd ymafael mewn anifail gwyllt, ond caiff, er enghraifft, ei archwilio neu gymryd samplau. Mae paragraff 9(d) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre gynorthwyo’r arolygydd. Gallai arolygydd, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i berson roi mynediad i’r arolygydd i loc anifeiliaid, helpu’r arolygydd i gydio mewn anifail (er mwyn gallu cymryd samplau) neu symud cerbyd.

43.Mae paragraff 10 yn darparu y caiff unrhyw berson yr eir ag ef i’r fangre gan yr arolygydd arfer pwerau’r arolygydd o dan baragraff 9, ar yr amod ei fod o dan oruchwyliaeth yr arolygydd. Er enghraifft, gallai milfeddyg sy’n mynd gydag arolygydd, o dan oruchwyliaeth, gymryd samplau o anifail at ddibenion adnabod.

44.Mae paragraff 11 yn gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch y pŵer ymafael. Caniateir cadw unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff 9(k) am gyhyd ag y bo angen. Mae paragraff 11(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r arolygydd neu gynorthwyydd yr arolygydd gadw cofnod o’r eitem yr ymafaelir ynddi, ac os gofynnir iddo wneud hynny, ddarparu cofnod o’r eitem yr ymafaelwyd ynddi i’r person a oedd yn meddiannu’r fangre ar yr adeg yr ymafaelwyd yn yr eitem, neu’r person a oedd â’r eitem yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth yn union cyn yr ymafaelwyd ynddi. Nid yw paragraff 11(3) yn caniatáu ymafael mewn eitemau a allai fod yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol, megis dogfennau sy’n cynnwys cyngor gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol.

45.Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n methu â chydymffurfio â chais am gymorth neu os yw’n fwriadol yn rhwystro arolygydd wrth iddo arfer ei ddyletswyddau (paragraff 12). Gellir rhoi trosedd o dan y paragraff hwn ar brawf yn Llys yr Ynadon a chaiff y Llys osod dirwy ddiderfyn os ceir person yn euog.

46.Mae paragraff 13 yn diogelu arolygwyr ac unrhyw berson y mae arolygydd yn mynd ag ef i fangre rhag bod yn atebol mewn unrhyw achos sifil a throseddol am unrhyw beth a wneir neu am unrhyw beth na wneir o ganlyniad i gyflawni eu dyletswyddau. Nid yw’r esemptiad hwn rhag atebolrwydd yn gymwys pan fo’r arolygydd neu’r person sydd o dan oruchwyliaeth yr arolygydd yn ymddwyn mewn modd nad yw’n ddidwyll neu os nad oedd seiliau rhesymol dros weithredu yn y fath fodd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources