67.Mae’r adran hon yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i alluogi Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol, i benodi is-gadeirydd i fwrdd Ymddiriedolaeth GIG.
68.Mae is-adrannau (3) a (4) yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â’r prif gynigiad yn is-adran (2). Yn achos is-adran (3), mae’r diwygiadau hyn yn angenrheidiol i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cymwysterau a deiliadaeth swydd is-gadeirydd (gan gynnwys yr amgylchiadau y mae’n peidio â dal swydd neu y caniateir iddo gael ei ddiswyddo neu ei atal dros dro odanynt). Mae’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan is-adran (4) yn angenrheidiol i’w gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolaeth GIG dalu tâl a lwfansau eraill i is-gadeirydd.
69.Mae’r adran hon yn esbonio bod pwerau i wneud rheoliadau i’w harfer drwy offeryn statudol (sy’n golygu bod gofynion gweithdrefnol penodol a gofynion eraill a gynhwysir yn Neddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau).
70.Mae is-adran (3) yn darparu y bydd y weithdrefn gadarnhaol yn gymwys i reoliadau a wneir o dan adran 26 os yw’r rheoliadau yn diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad a gynhwysir mewn deddfwriaeth sylfaenol (mae adran 26 yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc. sy’n angenrheidiol at ddibenion y Ddeddf). Mae hyn yn golygu bod unrhyw reoliadau o’r fath yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ddatganedig y Senedd.
71.Mae is-adran (4) yn darparu bod yr holl reoliadau eraill yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd, gan gynnwys rheoliadau a wneir o dan adran 26 nad ydynt yn diwygio nac yn diddymu deddfwriaeth sylfaenol.
72.Mae’r adran hon yn diffinio termau allweddol a ddefnyddir yn y Ddeddf, gan gynnwys “Bwrdd Iechyd Lleol”, “rheoliadau” ac “Ymddiriedolaeth GIG”.
73.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 3 sy’n nodi mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r ddyletswydd ansawdd a Chorff Llais y Dinesydd.
74.Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn nodi diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â dileu’r Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a chreu Corff Llais y Dinesydd.
75.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer unrhyw ddarpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol neu ddarpariaeth gysylltiedig, neu unrhyw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (1).
76.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y daw’r Ddeddf i rym.
77.Mae is-adran (1) yn darparu y daw’r adran hon ac adran 30 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
78.Bydd darpariaethau eraill y Ddeddf yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir mewn gorchymyn (neu orchmynion) cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2). Yn rhinwedd is-adran (3), bydd gan Weinidogion Cymru y pŵer i bennu dyddiadau gwahanol at ddibenion gwahanol ac i gynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol a darpariaeth arbed mewn unrhyw orchymyn cychwyn.