Adran 32 – Eithriad rhag anghymhwyso yn rhinwedd bod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi
111.Mae adran 32 yn mewnosod adran 17C newydd i Ddeddf 2006. Nid oedd Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi wedi'u hanghymhwyso rhag bod yn Aelodau o’r Senedd o'r blaen yn rhinwedd adran 17(1) o Ddeddf 2006 (a ddiddymir gan adran 30(2) o'r Ddeddf hon). Yn y dyfodol, bydd Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi yn cael eu hanghymhwyso o dan adran 16(1)(zb) o Ddeddf 2006 (a fewnosodir gan adran 29(3)(b) o'r Ddeddf hon), yn ddarostyngedig i’r eithriadau a gyflwynir gan yr adran hon.
112.O dan adran 17(C)(1) o Ddeddf 2006, ni fydd Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi a ddychwelir mewn etholiad fel Aelod o’r Senedd yn cael eu hanghymhwyso yn ystod y cyfnod wyth diwrnod ar ôl iddynt gael eu dychwelyd. Bwriad y 'cyfnod gras' wyth diwrnod yw rhoi digon o amser i Aelodau sydd newydd eu hethol wneud cais am ganiatâd i fod yn absennol o Dŷ'r Arglwyddi. Caiff Tŷ’r Arglwyddi ddyfarnu caniatâd i fod yn absennol i Aelod pan nad yw’r Aelod yn gallu mynd i eisteddiadau’r Tŷ dros dro a phan fo gan yr Aelod ddisgwyliad rhesymol y bydd yn cymryd rhan yn nhrafodion y Tŷ eto yn y dyfodol.
113.Bydd adran 17(C)(2) newydd o Ddeddf 2006 yn darparu, yn yr un modd, na fydd Aelodau o'r Senedd sy'n dod yn Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi yn cael eu hanghymhwyso cyn diwedd y cyfnod wyth diwrnod sy’n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r person yn tyngu’r llw (neu'r cadarnhad cyfatebol) fel sy'n ofynnol yn ôl Deddf Llwon Seneddol 1866.
114.Mae adran 17(C)(3) newydd o Ddeddf 2006 yn darparu nad yw person wedi'i anghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd os oes ganddo naill ai ganiatâd i fod yn absennol o Dŷ'r Arglwyddi, neu os yw wedi gwneud cais am ganiatâd nad yw wedi’i dynnu'n ôl na’i wrthod.
115.Bydd adran 17(C)(4) newydd o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn glir nad yw person sydd â chaniatâd i fod yn absennol o Dŷ'r Arglwyddi yn union cyn i Senedd y DU gael ei diddymu, wedi'i anghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd ar unrhyw adeg rhwng diddymu hen Senedd y DU a diwedd y cyfnod wyth diwrnod sy’n dechrau gyda diwrnod cyfarfod cyntaf Senedd newydd y DU. Diben y ddarpariaeth hon yw rhoi digon o amser i Aelod o Dŷ'r Arglwyddi sydd â chaniatâd i fod yn absennol yn ystod un tymor yn Senedd y DU (ac sydd am barhau i fod yn absennol) adnewyddu ei ganiatâd i fod yn absennol o'r Tŷ ar ddechrau'r tymor newydd yn Senedd y DU.