Atodlen 2
Y Comisiwn Etholiadol: Diwygiadau Pellach
86.Mae'r Atodlen hon yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”) ac i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“PPERA”).
87.Mae diwygiadau i Ddeddf 1983 yn caniatáu i'r Comisiwn Etholiadol wneud cod ymarfer mewn perthynas â threuliau etholiadol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
88.Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo'r Cod gydag addasiadau neu hebddynt. Yna, rhaid iddynt osod y Cod, ar ffurf drafft, gerbron y Senedd. O fewn 40 diwrnod, caiff y Senedd wneud penderfyniad i beidio â chymeradwyo'r Cod drafft. Os digwydd hynny, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chymryd rhagor o gamau mewn perthynas ag ef.
89.Os na wneir penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r Cod ar ffurf y drafft a osodwyd gerbron y Senedd.
90.Mae Atodlen 2 hefyd yn mewnosod tair adran newydd yn PPERA.
91.Mae adran 6ZA newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol barhau i gael ei adolygu a chyflwyno adroddiadau i Weinidogion Cymru ar etholiadau a refferenda datganoledig a'r gyfraith sy'n ymwneud â hwy.
92.Mae adran 6G newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol lunio cod ymarfer ar bresenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn, sylwedyddion achrededig ac aelodau enwebedig sefydliadau achrededig mewn etholiadau. Mae'r ddarpariaeth hon yn ymwneud ag etholiadau i'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
93.Mae adran 9AA newydd yn caniatáu i'r Comisiwn Etholiadol bennu a chyhoeddi safonau perfformiad (i) swyddogion cofrestru etholiadol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, (ii) swyddogion canlyniadau ar gyfer etholiadau i'r Senedd a (iii) swyddogion cyfrif ar gyfer refferenda llywodraeth leol.
94.Mae'r Atodlen hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adlewyrchu’r darpariaethau a nodwyd uchod.