Adran 19 – Datganiad o gysylltiad lleol
45.Mae adran 19 yn diwygio adran 7B o Ddeddf 1983 mewn perthynas â chofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.
46.Mae adran 7B yn nodi o dan ba amgylchiadau y caniateir i berson wneud datganiad o gysylltiad lleol. Effaith datganiad o gysylltiad lleol yw y gellir cofrestru datganwyr drwy nodi cyfeiriad heblaw’r un nad ydynt yn byw ynddo fel rheol.
47.Mae’r diwygiadau a wneir gan adran 19(2) yn caniatáu i bersonau o dan 18 oed wneud datganiad o gysylltiad lleol os ydynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu’n cael eu cadw mewn llety diogel a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru mewn amgylchiadau a bennir hefyd yn y rheoliadau.
48.Mae adran 19(3) yn diwygio is-adran (3)(e) o Ddeddf 1983 i'w gwneud yn ofynnol i ddatganiadau o gysylltiad lleol nodi a yw person yn ddinesydd tramor cymhwysol.
49.Mae adran 19(4) yn diwygio adran 7B(4) o Ddeddf 1983 ac yn nodi’r gofynion o ran cyfeiriad person sy’n gwneud datganiad o gysylltiad lleol o dan adran 7B(2A). Rhaid i’r cyfeiriad fod yn gyfeiriad yng Nghymru y mae’r person wedi byw ynddo o’r blaen neu fod yn gyfeiriad mewn cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru y mae’r person wedi byw ynddo o’r blaen.
50.Mae adran 19(5) yn egluro na fydd y datganiadau a wneir yn rhinwedd adran 7B(2A) o Ddeddf 1983 yn cael effaith yn etholiadau seneddol y DU. Mae hefyd yn egluro na fydd datganiadau o gysylltiad lleol eraill a wneir gan ddinesydd tramor cymhwysol neu bersonau o dan 17 oed nad oes ganddynt hawl i gael eu cofrestru yn y gofrestr etholiadau seneddol yn cael effaith yn etholiadau seneddol y DU. Mae'n darparu y dylid marcio'r cofrestrau etholiadol i ddangos y datganiadau o gysylltiad lleol sy'n gymwys i gofrestru fel etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru yn unig.
51.Mae adran 19(5) hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y dylid nodi datganiadau o gysylltiad lleol ar y gofrestr.