Rhan 5: Adennill Swm Gan Ddeiliad Y Contract
Adran 22 – Adennill taliad gwaharddedig neu flaendal cadw
101.Mae’r adran hon yn darparu y caiff person wneud cais i’r llys sirol i adennill taliad gwaharddedig neu flaendal cadw sydd wedi ei dalu gan y person, neu ar ei ran, mewn perthynas â chontract meddiannaeth safonol. Mae’r adran hon yn cyfeirio at y person sy’n gwneud hawliad o’r fath fel yr “hawlydd”.
102.Yn achos adennill taliad gwaharddedig, er mwyn i’r hawliad lwyddo, rhaid i’r llys fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod taliad gwaharddedig wedi ei wneud, ac nad yw’r holl swm, neu ran o’r swm, wedi ei ad-dalu. Os yw wedi ei fodloni, caiff y llys orchymyn i’r taliad cyfan gael ei ad-dalu, neu (os yw rhan ohono eisoes wedi ei had-dalu) y rhan honno o’r taliad sy’n dal i fod heb ei thalu. Dim ond pe byddai’r llys yn fodlon bod taliad gwaharddedig wedi bod yn ofynnol gan ddeiliad contract y gellid gwneud gorchymyn, ac mae hynny ynddo’i hun yn drosedd. At hynny, gallai’r ffaith bod ad-daliad wedi ei orchymyn fod yn fater i’w ystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw landlord neu asiant, yn ôl y digwydd, yn berson addas a phriodol i ddal trwydded at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 2014.
103.Yn achos adennill blaendal cadw, er mwyn i’r hawliad lwyddo, rhaid i’r llys fod wedi ei fodloni, yn ôl pwysau tebygolrwydd, fod blaendal cadw wedi ei dalu ac y bu methiant i’w ad-dalu i gyd, neu i ad-dalu rhan ohono, i’r hawlydd yn unol ag Atodlen 2. (Mae’r prawf gwahanol a gymhwysir yn yr achos hwn yn adlewyrchu’r ffaith nad yw methiant i ad-dalu blaendal cadw yn drosedd, yn wahanol i’r sefyllfa o ran ei gwneud yn ofynnol i berson wneud taliad gwaharddedig yn groes i adran 2 neu 3 o’r Ddeddf.) Unwaith eto, caiff y llys orchymyn bod y blaendal cadw cyfan yn cael ei ad-dalu, neu’r rhan sy’n weddill o unrhyw flaendal cadw a gymerwyd gan ddeiliad y contract.
104.Ni chaiff y llys ei gwneud yn ofynnol i swm gael ei ad-dalu os yw’r swm hwnnw wedi ei gymhwyso tuag at rent, neu’r blaendal sicrwydd o dan gontract meddiannaeth safonol.
105.Ni chaniateir gwneud hawliad i adennill taliad gwaharddedig pan fo achos troseddol wedi ei ddwyn mewn cysylltiad â’r taliad sy’n destun anghydfod, oni bai bod yr achos wedi ei ddirwyn i ben. Y rheswm am hyn yw y caiff y llys sy’n euogfarnu person am drosedd o dan adran 2 neu 3 mewn cysylltiad â thaliad gwaharddedig orchymyn bod swm sy’n cyfateb i’r taliad gwaharddedig yn cael ei dalu (adrannau 2(6) a 3(6)).