Search Legislation

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Legislation Crest

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

2018 dccc 5

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch yr isafbris y mae alcohol i gael ei gyflenwi amdano yng Nghymru gan bersonau penodol; ac at ddibenion cysylltiedig.

[9 Awst 2018]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Isafbris am alcoholLL+C

1Isafbris am alcoholLL+C

(1)Mae’r isafbris cymwys am alcohol i gael ei gyfrifo, at ddibenion adran 2 o’r Ddeddf hon, drwy ddefnyddio’r fformiwla I × Cr × Cy, pan—

(a)I yw pa bris bynnag a bennir mewn rheoliadau fel yr isafbris uned at ddibenion y Ddeddf hon, a fynegir mewn punnoedd sterling,

(b)Cr yw cryfder canrannol yr alcohol, a fynegir fel rhif prifol,

(c)Cy yw cyfaint yr alcohol, a fynegir mewn litrau.

(2)Pan, oni bai am yr is-adran hon, na fyddai’r isafbris cymwys am alcohol yn rhif cyfan o geiniogau, mae i gael ei dalgrynnu i’r geiniog gyfan agosaf (gan gymryd bod hanner ceiniog yn nes at y geiniog gyfan nesaf i fyny).

(3)Er enghraifft—

(a)yn achos potel o win, Cr (cryfder canrannol y gwin) yw 12.5%, a Cy (cyfaint y gwin) yw 75 o gentilitrau;

(b)gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, byddai’r isafbris cymwys am y gwin yn cael ei gyfrifo fel £0.50 × 12.5 × 0.75 = £4.69.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 1 mewn grym ar 14.10.2019 at ddibenion penodedig gan O.S. 2019/1336, ergl. 2

I3A. 1 mewn grym ar 2.3.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2020/175, rhl. 2(a)

TroseddauLL+C

2TroseddauLL+C

(1)Mae’n drosedd i berson sy’n fanwerthwr alcohol—

(a)cyflenwi alcohol o fangre gymhwysol yng Nghymru, neu

(b)awdurdodi cyflenwi alcohol o fangre gymhwysol yng Nghymru,

am bris gwerthu sy’n is na’r isafbris cymwys am yr alcohol.

(2)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon ddangos i’r person gymryd camau rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi ei chyflawni.

(3)Os yw person sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon yn dibynnu ar yr amddiffyniad yn is-adran (2), ac y dygir tystiolaeth sy’n ddigonol i godi mater mewn cysylltiad â’r amddiffyniad hwnnw, rhaid i’r llys gymryd bod yr amddiffyniad wedi ei fodloni oni bai bod yr erlyniad yn profi y tu hwnt i amheuaeth resymol nad yw wedi ei fodloni.

(4)Mae’n amherthnasol at ddibenion is-adran (1)(b) a yw’r awdurdodiad yn digwydd yng Nghymru neu yn rhywle arall.

(5)At ddibenion yr adran hon ac adran 6, ystyr “pris gwerthu”, mewn perthynas ag alcohol, yw ei bris gan gynnwys TAW a phob treth arall.

(6)Yn Atodlen 4 (trwydded bersonol: troseddau perthnasol) i Ddeddf 2003, ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2AAn offence under the Public Health (Minimum Price for Alcohol) (Wales) Act 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I5A. 2 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

Dehongli’r termau craiddLL+C

3Ystyr “cyflenwi alcohol” a “mangre gymhwysol”LL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr cyflenwi alcohol yw—

(a)gwerthu drwy fanwerthu alcohol i berson yng Nghymru, neu

(b)cyflenwi alcohol gan neu ar ran clwb i aelod o’r clwb, a’r aelod hwnnw yng Nghymru, neu i berson yng Nghymru ar orchymyn aelod o’r clwb,

ac mae ymadroddion cysylltiedig i gael eu dehongli yn unol â hynny.

(2)Mae mangre yn fangre gymhwysol at ddibenion y Ddeddf hon—

(a)os yw trwydded mangre a roddir o dan Ran 3 o Ddeddf 2003 yn awdurdodi defnyddio’r fangre i gyflenwi alcohol,

(b)os yw tystysgrif mangre clwb a roddir o dan Ran 4 o Ddeddf 2003 yn ardystio y caniateir i’r fangre gael ei defnyddio i gyflenwi alcohol, neu

(c)os yw cyflenwi alcohol yn y fangre neu o’r fangre yn weithgaredd dros dro a ganiateir at ddibenion Rhan 5 o Ddeddf 2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I7A. 3 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

4Ystyr “manwerthwr alcohol”LL+C

(1)Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(a), mae pob un o’r canlynol i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon—

(a)unigolyn y mae trwydded bersonol wedi ei rhoi iddo o dan Ran 6 o Ddeddf 2003 sy’n awdurdodi’r unigolyn i gyflenwi alcohol, neu i awdurdodi cyflenwi alcohol, yn unol â’r drwydded mangre o dan sylw;

(b)yr unigolyn sy’n oruchwyliwr dynodedig y fangre at ddibenion Deddf 2003.

(2)Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(b), mae’r person sy’n ddeiliad y dystysgrif mangre clwb o dan sylw i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(c), mae’r unigolyn sy’n ddefnyddiwr y fangre at ddibenion Rhan 5 o Ddeddf 2003 i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I9A. 4 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

Cynigion arbennigLL+C

5Cynigion arbennig: prynu sawl eitem o alcoholLL+C

(1)Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi mewn trafodiad alcohol amleitem, mae’r isafbris cymwys i gael ei gyfrifo drwy gyfeirio at yr holl alcohol sydd wedi ei gynnwys yn y trafodiad.

(2)Cyflenwir alcohol mewn trafodiad alcohol amleitem—

(a)os y’i cyflenwir yn rhad ac am ddim drwy gyfeirio at gyflenwi alcohol arall, neu

(b)os cyflenwir alcohol arall yn rhad ac am ddim drwy gyfeirio ato,

ac, yn y naill achos neu’r llall, mae’r alcohol am ddim a’r alcohol y cyflenwir yr alcohol am ddim drwy gyfeirio ato i gael eu trin fel pe baent wedi eu cynnwys yn yr un trafodiad.

(3)Cyflenwir alcohol mewn trafodiad alcohol amleitem hefyd—

(a)os y’i cyflenwir am bris penodol a bennir drwy gyfeirio at gyflenwi alcohol arall, neu

(b)os cyflenwir alcohol arall am bris penodol a bennir drwy gyfeirio ato,

ac, yn y naill achos neu’r llall, mae’r alcohol pris penodol a’r alcohol y cyflenwir yr alcohol pris penodol drwy gyfeirio ato i gael eu trin fel pe baent wedi eu cynnwys yn yr un trafodiad.

(4)Cyflenwir alcohol mewn trafodiad alcohol amleitem hefyd os y’i cyflenwir, ynghyd ag alcohol arall, am bris penodol, ac, yn yr achos hwnnw, mae’r holl alcohol a gyflenwir am y pris hwnnw i gael ei drin fel pe bai wedi ei gynnwys yn yr un trafodiad.

(5)Ond nid yw alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi mewn trafodiad alcohol amleitem os cyflenwir unrhyw beth ac eithrio alcohol yn y trafodiad.

(6)Er enghraifft—

(a)mewn cynnig arbennig, cyflenwir 4 can o lager a 4 can o seidr gyda’i gilydd am bris penodol: Cr (cryfder canrannol) yw 4% mewn perthynas â’r lager, a 6% mewn perthynas â’r seidr, tra bo Cy (cyfaint) yn 440 ml ym mhob achos;

(b)gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, yr isafbris cymwys am y trafodiad yw £8.80; a’r swm hwnnw yw cyfanswm y cyfrifiadau a ganlyn—

  • £0.50 × 4 × 1.76 = £3.52 (isafbris y lager), a

  • £0.50 × 6 × 1.76 = £5.28 (isafbris y seidr).

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I11A. 5 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

6Cynigion arbennig: cyflenwi alcohol gyda nwyddau a gwasanaethauLL+C

(1)Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi ynghyd â nwyddau ac eithrio alcohol, neu gyda gwasanaethau, am un pris, mae is-adran (2) yn gymwys.

(2)Mae’r alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi am yr un pris hwnnw at ddiben penderfynu a yw pris gwerthu’r alcohol yn is na’r isafbris cymwys.

(3)Er enghraifft—

(a)mewn cynnig arbennig, cyflenwir y caniau o lager a seidr a grybwyllir yn yr enghraifft a roddir yn adran 5(6) gyda pitsa am un pris;

(b)gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, mae pris gwerthu’r alcohol i gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel cyfanswm pris y caniau a’r pitsa, ac ni chaniateir i’r pris hwnnw fod yn is nag £8.80, sef yr isafbris cymwys am y lager a’r seidr.

(4)Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi am bris a bennir drwy gyfeirio at gyflenwi nwyddau ac eithrio alcohol, neu wasanaethau (“pris arbennig”), mae is-adran (5) yn gymwys at ddiben penderfynu a yw pris gwerthu’r alcohol yn is na’r isafbris cymwys.

(5)Mae’r alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi am bris sy’n hafal i gyfanswm y pris arbennig a’r pris (os oes un) y cyflenwir y nwyddau eraill a’r gwasanaethau amdano.

(6)Er enghraifft—

(a)mewn cynnig arbennig, cyflenwir y caniau o lager a seidr a grybwyllir yn yr enghraifft a roddir yn adran 5(6) am bris arbennig os yw pitsa yn cael ei brynu am £5.00;

(b)gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, mae pris gwerthu’r alcohol i gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel cyfanswm pris y pitsa a’r pris arbennig, ac ni chaniateir i’r pris arbennig hwnnw fod yn is na £3.80, sef yr isafbris cymwys am y caniau o lager a seidr (sy’n £8.80) llai pris y pitsa (sy’n £5.00).

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I13A. 6 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

7Cynigion arbennig: atodolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo rhan o’r alcohol a gyflenwir mewn trafodiad alcohol amleitem, neu am un pris neu am bris arbennig, o gryfder gwahanol i’r alcohol arall a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris hwnnw.

(2)Mae’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris hwnnw i gael ei gyfrifo drwy ychwanegu’r isafbris cymwys am bob cryfder o alcohol a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris.

(3)Mae cyfeiriadau yn adran 6 at alcohol yn cael ei gyflenwi ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau yn cynnwys cyfeiriadau at drafodiadau pan fo alcohol yn cael ei ddarparu ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau, ac—

(a)y cyflenwir y nwyddau eraill neu’r gwasanaethau am bris, ond

(b)y disgrifir yr alcohol fel pe bai’n cael ei gyflenwi yn rhad ac am ddim.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I15A. 7 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

CosbauLL+C

8CosbauLL+C

Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 2 yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I17A. 8 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

9Cosbau penodedigLL+C

(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 yn ardal yr awdurdod lleol, caiff y swyddog roi i’r person hwnnw hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno.

(2)Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson i gael ei ryddhau o fod yn agored i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.

(3)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael ei drin fel cyfeiriad at y bartneriaeth.

(4)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael ei drin fel cyfeiriad at y gymdeithas.

(5)Am ddarpariaeth bellach ynghylch cosbau penodedig, gweler Atodlen 1.

(6)Am ystyr “swyddog awdurdodedig”, gweler adran 11.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I19A. 9 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

GorfodiLL+C

10Camau gorfodi gan awdurdodau lleolLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol—

(a)dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau yn ei ardal o dan y Ddeddf hon;

(b)ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau honedig yn ei ardal o dan y Ddeddf hon;

(c)cymryd unrhyw gamau eraill gyda golwg ar leihau nifer y troseddau sy’n digwydd yn ei ardal o dan y Ddeddf hon.

(2)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)ystyried, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis, y graddau y mae’n briodol i’r awdurdod gynnal yn ei ardal raglen o gamau gorfodi mewn perthynas â’r Ddeddf hon, a

(b)i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gynnal rhaglen o’r fath.

(3)Wrth gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i awdurdod yn benodol roi sylw i’r amcanion a ganlyn—

(a)gwella iechyd y cyhoedd;

(b)amddiffyn plant rhag niwed.

(4)At ddibenion is-adran (2), mae rhaglen o gamau gweithredu mewn perthynas â’r Ddeddf hon yn rhaglen sy’n ymwneud â chymryd pob un neu unrhyw un neu ragor o’r camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I21A. 10 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

11Swyddogion awdurdodedigLL+C

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol yn gyfeiriadau at unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod at ddibenion y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I23A. 11 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

12Pŵer i wneud pryniannau prawfLL+C

Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol wneud unrhyw bryniannau a threfniadau, a sicrhau’r ddarpariaeth o unrhyw wasanaethau, y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I25A. 12 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

13Pwerau mynediadLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol fynd i fangre yng Nghymru ar unrhyw adeg resymol—

(a)os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a

(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.

(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd i fangre drwy rym o dan yr adran hon.

(4)Rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 11 cyn mynd i fangre o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I27A. 13 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

14Gwarant i fynd i anneddLL+C

(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal awdurdod lleol, a

(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol i fynd i’r fangre, drwy rym os oes angen.

(3)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I29A. 14 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

15Gwarant i fynd i fangreoedd eraillLL+C

(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal awdurdod lleol,

(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni, ac

(c)bod gofyniad a nodir yn is-adran (3) neu (4) wedi ei fodloni.

(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i’r fangre, drwy rym oes oes angen.

(3)Y gofyniad yw—

(a)bod gofyn am fynd i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a

(b)bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd neu i berson yr ymddengys yn rhesymol i’r awdurdod lleol ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.

(4)Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.

(5)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I31A. 15 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

16Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediadLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 13, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddir o dan adran 14 neu 15, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd iddi drwy warant o dan adran 14 neu 15 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant, rhaid i’r swyddog—

(a)rhoi enw’r swyddog i’r meddiannydd;

(b)cyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol o awdurdodiad y swyddog;

(c)cyflenwi copi o’r warant i’r meddiannydd.

(3)Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd iddi drwy warant o dan adran 14 neu 15 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I33A. 16 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

17Pwerau arolygu, etc.LL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 13, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddir o dan adran 14 neu 15, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni—

(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;

(b)ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau neu echdynion ohono;

(c)cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;

(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person.

(2)Os yw’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b), neu unrhyw beth y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c), gael ei ddadansoddi.

(3)Os yw swyddog awdurdodedig, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd meddiant o unrhyw beth, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre y cafodd ei gymryd ohoni ddatganiad⁠—

(a)sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a

(b)sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.

(4)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—

(a)i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).

(5)At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(a)dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a

(b)dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.

(6)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I35A. 17 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

18Rhwystro etc. swyddogionLL+C

(1)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 13 i 17 yn cyflawni trosedd.

(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—

(a)â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 17(1), neu

(b)â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 17(1)(b) neu (d),

yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 17(6).

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I37A. 18 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

19Eiddo a gedwir: apelauLL+C

(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 17(1)(c) (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau, naill ai i P neu i berson arall.

(2)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apel (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (Magistrates’ Courts Act 1980 (c. 43))) gael ei gwneud a dyfarnu arni.

(4)Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad a’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(5)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (Police (Property) Act 1897 (c.30)) (pŵer i wneud gorchymyn mewn cysylltiad ag eiddo sydd ym meddiant yr heddlu).

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I39A. 19 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

20Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C

(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 17(1)(c) (“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—

(a)bod P wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni, a

(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg P.

(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu P.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I41A. 20 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

Adroddiad a darpariaeth fachludLL+C

21Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf honLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod 5 mlynedd, osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2)Wrth lunio’r adroddiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad.

(4)Yn is-adran (1), mae i “y cyfnod 5 mlynedd” yr ystyr a roddir yn adran 22(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I43A. 21 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

22Cyfnod para darpariaethau’r isafbrisLL+C

(1)Mae darpariaethau’r isafbris wedi eu diddymu gydag effaith ar ôl i’r cyfnod 6 mlynedd ddod i ben, oni bai y gwneir rheoliadau o dan is-adran (2) sy’n darparu fel arall.

(2)Caiff rheoliadau, ar ôl diwedd y cyfnod 5 mlynedd ond cyn diwedd y cyfnod 6 mlynedd, ddarparu nad yw darpariaethau’r isafbris wedi eu diddymu, er gwaethaf is-adran (1).

(3)Caiff rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth (gan gynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i ddiddymu, yn rhinwedd is-adran (1), ddarpariaethau’r isafbris.

(4)Yn yr adran hon—

  • mae “addasu” (“modifying”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio, diddymu a dirymu;

  • ystyr “y cyfnod 5 mlynedd” (“the 5 year period”) yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2 i rym;

  • ystyr “y cyfnod 6 mlynedd” (“the 6 year period”) yw’r cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2 i rym;

  • ystyr “darpariaethau’r isafbris” (“minimum pricing provisions”) yw—

    (a)

    y Ddeddf hon (ac eithrio is-adran (3) a’r is-adran hon, ac at ddibenion gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), adrannau 26(1), (2) a 27), a

    (b)

    paragraff 2A o Atodlen 4 i Ddeddf 2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I45A. 22 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

Cymhwyso i’r GoronLL+C

23Cymhwyso i’r GoronLL+C

Mae adran 195 o Ddeddf 2003 (cymhwyso i’r Goron) yn gymwys mewn perthynas â darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon fel pe bai’r adran honno wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon (ac at y diben hwn, mae cyfeiriadau at Ddeddf 2003 yn yr adran honno i gael eu trin fel cyfeiriadau at y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I47A. 23 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

CyffredinolLL+C

24Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraillLL+C

(1)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).

(3)Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol.

(4)Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (Criminal Justice Act 1925 (c. 86)) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (Magistrates’ Courts Act 1980 (c. 43)) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.

(5)Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth wrth ei heuogfarnu o drosedd o dan y Ddeddf hon i gael ei thalu o asedau’r bartneriaeth.

(6)Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth wrth ei heuogfarnu o drosedd o dan y Ddeddf hon i gael ei thalu o gronfeydd y gymdeithas.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I49A. 24 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

25Atebolrwydd uwch-swyddogion etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan⁠—

(a)corff corfforaethol;

(b)partneriaeth;

(c)cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.

(2)Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan y canlynol, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)uwch-swyddog i’r corff corfforaethol neu’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig, neu

(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rhinwedd a grybwyllir ym mharagraff (a),

mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol, y bartneriaeth neu’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforaethol, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;

(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog i’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i chorff llywodraethu.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I51A. 25 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

26RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(c)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol ac arbed.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau a ganlyn gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)adran 1;

(b)adran 22;

(c)paragraff 5(2) o Atodlen 1;

(d)paragraff 9 o Atodlen 1.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 26 mewn grym ar 10.8.2018, gweler a. 28(1)(a)

27DehongliLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “alcohol” yw gwirodydd, gwin, cwrw, seidr neu unrhyw ddiod arall sydd wedi ei heplesu, ei distyllu neu sy’n wirodol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw un o’r canlynol—

(a)alcohol sydd o gryfder nad yw’n uwch nag 1.2% pan y’i cyflenwir;

(b)persawr;

(c)rhinflasau a gydnabyddir gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel rhai nas bwriedir i’w hyfed fel diod alcoholaidd dolladwy neu gyda diod o’r fath;

(d)y rhinflas aromatig a elwir yn gyffredin yn chwerwon Angostura;

(e)alcohol sy’n gynnyrch meddyginiaethol neu’n gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol, neu sydd wedi ei gynnwys mewn cynnyrch o’r fath;

(f)alcohol sydd wedi ei annatureiddio;

(g)alcohol methyl;

(h)nafftha;

(i)alcohol sydd wedi ei gynnwys mewn melysion gwirod.

(2)At ddibenion is-adran (1)—

(3)At ddibenion y Ddeddf hon—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “cryfder” (“strength”) alcohol yw ei gryfder alcoholaidd—

    (a)

    sydd, mewn perthynas ag alcohol sydd wedi ei gynnwys mewn potel neu gynhwysydd arall sydd wedi ei farcio neu ei labelu yn unol â gofynion a osodir drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol neu o dan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, i gael ei gymryd fel y cryfder alcoholaidd yn ôl cyfaint fel y’i dangosir gan y marc neu’r label ar y botel neu’r cynhwysydd;

    (b)

    sydd fel arall i gael ei gyfrifiannu yn unol ag adran 2 o Ddeddf Tollau ar Ddiodydd Alcoholaidd 1979 (Alcoholic Liquor Duties Act 1979 (c. 4));

  • ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Trwyddedu 2003 (Licensing Act 2003 (c. 17));

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) sydd wedi ei gynnwys yn un o’r canlynol, neu mewn offeryn sydd wedi ei wneud o dan un ohonynt—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae i “gwerthu drwy fanwerthu” yr ystyr a roddir i “sale by retail” yn Neddf 2003;

  • mae i “mangre” yr ystyr a roddir i “premises” yn Neddf 2003;

  • mae i “mangre gymhwysol” (“qualifying premises”) yr ystyr a roddir yn adran 3;

  • ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • mae i “trwydded mangre” yr ystyr a roddir i “premises licence” yn Neddf 2003;

  • mae i “tystysgrif mangre clwb” yr ystyr a roddir i “club premises certificate” yn Neddf 2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 27 mewn grym ar 10.8.2018, gweler a. 28(1)(a)

28Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adrannau a ganlyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adrannau 26 a 27;

(b)yr adran hon;

(c)adran 29;

(d)adran 30.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 28 mewn grym ar 10.8.2018, gweler a. 28(1)(b)

29Hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r isafbris am alcoholLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r bwriad i gychwyn y gofynion o ran yr isafbris a gyflwynir gan y Ddeddf hon.

(2)Rhaid i’r camau a gymerir gynnwys camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r risg i iechyd yn sgil goryfed, ac o sut y bwriedir lleihau lefelau yfed yn sgil cyflwyno’r isafbris am alcohol.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 29 mewn grym ar 10.8.2018, gweler a. 28(1)(c)

30Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 30 mewn grym ar 10.8.2018, gweler a. 28(1)(d)

(a gyflwynir gan adran 9)

ATODLEN 1LL+CCOSBAU PENODEDIG

Cynnwys hysbysiad cosb penodedigLL+C

1Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)datgan y drosedd honedig, a

(b)rhoi manylion am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I58Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

2Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y rhoddir yr hysbysiad ar ei ran;

(b)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thalu;

(c)y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei dalu;

(d)effaith talu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);

(e)canlyniadau peidio â thalu’r gosb neu’r swm gostyngol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (b) neu (c);

(f)y person y caniateir i’r taliad gael ei wneud iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i’r taliad gael ei wneud;

(g)y dull y caniateir i’r taliad gael ei wneud ynddo;

(h)y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir i unrhyw sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I60Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

3Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—

(a)hysbysu’r person y’i rhoddir iddo am hawl y person hwnnw i ofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, a

(b)esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I62Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

4Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach o ran cynnwys a ffurf hysbysiad cosb benodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I64Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

Swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer ei thaluLL+C

5(1)Swm y gosb yw £200.

(2)Caiff rheoliadau ddiwygio swm y gosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I66Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

6Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb yw’r cyfnod o 29 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I68Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

Y swm gostyngol a’r cyfnod ar gyfer ei daluLL+C

7(1)Mae’r swm gostyngol yn daladwy, yn lle swm y gosb, os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol.

(2)Y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod o 15 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, oni bai nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith.

(3)Os nad yw’r 15fed diwrnod yn ddiwrnod gwaith, y cyfnod hwnnw yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac sy’n dod i ben pan ddaw’r diwrnod gwaith cyntaf yn dilyn y 15fed diwrnod i ben.

(4)Yn y paragraff hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (Banking and Financial Dealings Act 1971 (c. 80)).

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I70Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

8Y swm gostyngol yw £150.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I72Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

9Caiff rheoliadau ddiwygio’r swm gostyngol.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I74Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

Effaith hysbysiad a thaluLL+C

10(1)Ni chaniateir i achos am y drosedd y rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â hi gael ei ddwyn cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi gofyn yn unol â pharagraffau 15 ac 16 am gael sefyll prawf am y drosedd honedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I76Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

11Os telir y gosb yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 10(1), ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I78Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

12Os telir y swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad cosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r swm gostyngol, ni chaniateir i achos am y drosedd gael ei ddwyn, ac nid yw paragraff 15 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I80Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

13Os yw achos wedi ei ddwyn yn unol â chais o dan baragraff 15, ond yna telir y gosb neu’r swm gostyngol fel y’i crybwyllir ym mharagraff 11 neu 12, rhaid peidio â pharhau â’r achos hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I82Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

14Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif sy’n dogfennu taliad o gosb neu swm gostyngol yn dystiolaeth o’r ffeithiau y mae’n eu datgan—

(a)os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y person sy’n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod lleol yr oedd y swyddog awdurdodedig a roddodd hysbysiad cosb yn gweithredu ar ei ran, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ran y person hwnnw, a

(b)os yw’n datgan bod taliad o’r gosb benodedig neu’r swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad wedi ei gael, neu nad oedd wedi ei gael, erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I84Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

TreialLL+C

15Os yw’r person y mae hysbysiad cosb wedi ei roi iddo yn gofyn am gael sefyll prawf am y drosedd honedig, caniateir i achos gael ei ddwyn yn erbyn y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I86Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

16Rhaid i unrhyw gais i sefyll prawf gael ei wneud—

(a)drwy hysbysiad a roddir i’r awdurdod lleol o dan sylw cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;

(b)yn y modd a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I88Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

Tynnu hysbysiadau yn ôlLL+C

17(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod lleol yn ystyried na ddylai hysbysiad cosb benodedig y mae swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran wedi ei roi i berson (“P”) fod wedi ei roi.

(2)Caiff yr awdurdod lleol roi hysbysiad i P sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

(3)Os yw’n gwneud hynny—

(a)rhaid iddo ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu ar ffurf cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a

(b)ni chaniateir dwyn achos na pharhau ag achos yn erbyn P am y drosedd o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I90Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

Derbyniadau cosb benodedigLL+C

18Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio’r symiau y mae’n eu cael yn unol â hysbysiadau o dan adran 9 ond at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir odani.

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I92Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources