27.Mae’r tair adran hyn yn nodi rheolau sy’n berthnasol wrth benderfynu ar yr isafbris cymwys mewn perthynas ag alcohol a gyflenwir drwy amrywiaeth o gynigion arbennig, at ddiben canfod a yw trosedd wedi ei chyflawni o dan adran 2.
28.Mae’r cynigion arbennig a nodir gan yr adrannau hyn yn dod o dan ddau gategori eang: trafodion alcohol amleitem (adran 5) ac alcohol a gyflenwir ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau (adran 6). Mae adran 7 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch y ddau gategori hyn.
29.Y categori cyntaf yw “trafodiadau alcohol amleitem” a ddiffinnir gan adran 5; trafodiadau yw’r rhain a all gynnig cymelliadau i gwsmeriaid i brynu cyfeintiau uwch o alcohol nag y byddent fel arall o bosibl. Mae’r mathau hyn o fargeinion yn cynnwys cynigion “prynu un, cael un yn rhad ac am ddim”.
30.Mae’r adran hon yn gymwys pan fo rhan o’r alcohol a gyflenwid mewn trafodiad wedi ei ddisgrifio fel pe bai’n cael ei gyflenwi yn rhad ac am ddim pan oedd alcohol arall yn cael ei gyflenwi; a phan oedd alcohol yn cael ei gyflenwi am bris gostyngol neu bris penodol pan oedd yn cael ei brynu gydag alcohol arall, neu pan oedd alcohol arall eisoes wedi ei gyflenwi. Mae’n debygol y byddai’r rhan fwyaf o drafodiadau alcohol amleitem yn golygu bod cyflenwr a chwsmer yn cyfnewid arian parod unwaith, ond ni fydd hyn yn wir bob tro. Er enghraifft, gallai pris diod a brynid yn ddilynol gael ei leihau drwy gyfeirio at ddiodydd a brynid yn gynharach. Effaith yr adran hon o dan yr amgylchiadau hyn yw y bydd angen i’r ddiod a brynid yn ddilynol a’r diodydd a brynid yn gynharach oll gael eu trin fel un trafodiad ac i’r isafbris uned cymwys gael ei gyfrifo fel y nodir yn yr adran.
31.Mae adran 5 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl alcohol a gyflenwir mewn trafodiad alcohol amleitem gael ei ystyried wrth benderfynu ar yr isafbris cymwys. Mae’r gofyniad hwn yn osgoi amheuaeth ynghylch sut y mae’r drosedd yn adran 2 yn effeithio ar achosion pan na fo gan ddogn o’r alcohol a gyflenwir mewn trafodiad unrhyw bris gwerthu y gellir ei nodi, neu pan fo ganddo bris gwerthu sydd wedi ei aflunio drwy ostyngiad.
32.Mae’r ail o’r ddau gategori o gynigion arbennig yn cynnwys bargeinion pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi ynghyd â nwyddau ac eithrio alcohol, neu wasanaethau; naill ai pan fo’r nwyddau eraill neu’r gwasanaethau a’r alcohol yn cael eu cyflenwi am un pris penodol, neu pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi am bris gostyngol os yw nwyddau eraill neu wasanaethau yn cael eu cyflenwi.
33.Byddai adran 6(2), er enghraifft, yn gymwys pan fo coctel yn cael ei gyflenwi, gyda chymysgydd, am bris penodol (gyda’r dogn dialcoholaidd o’r coctel yn gyfystyr â nwydd ac eithrio alcohol).
34.Mae llawer o’r cynigion y bydd yr adran hon yn gymwys iddynt yn debygol o fod yn gynigion sy’n cynnwys cyflenwi alcohol ynghyd â bwyd, ond nid ydynt yn gyfyngedig i achosion o’r fath.
35.Pan fo’r alcohol a gyflenwir mewn cynnig arbennig o gryfderau gwahanol, mae adran 7(2) yn ei gwneud yn ofynnol i gyfrifiadau ar wahân gael eu gwneud i benderfynu ar yr isafbris cymwys mewn perthynas â’r cryfderau gwahanol o alcohol. Mae cyfanswm y cyfrifiadau hynny yn darparu’r isafbris cymwys.
36.Mae adran 7(3) yn sicrhau bod gofynion adran 6 yn gymwys pan fo’r alcohol a gyflenwir gyda nwyddau eraill neu wasanaethau yn cael ei ddisgrifio fel pe bai wedi ei gyflenwi yn rhad ac am ddim. Er enghraifft, cynnig pan fo prynu cyfuniad penodol o fwyd yn cynnwys potel o win “yn rhad ac am ddim”.
37.Mae adrannau 5 a 6 o’r Ddeddf yn cynnwys enghreifftiau o sut y byddai’r isafbris cymwys yn gweithredu mewn perthynas â chynigion arbennig. Ond mae enghreifftiau ychwanegol wedi eu darparu isod.
38.Mae isafbris cymwys o £0.50 i gael ei dybio at ddibenion yr hyn sy’n dilyn.
39.Yn achos cynnig “prynu un, cael un yn rhad am ddim”, pan fo dau focs o lager â chryfder o 4% yn cael eu disgrifio fel pe baent yn cael eu cyflenwi am bris un bocs, a chan dybio bod pob bocs yn cynnwys 10 can â chyfaint o 330 ml yr un, byddai’r ddau focs yn cael eu trin fel pe baent wedi eu cyflenwi am y pris a delir am un bocs.
40.Gan gymryd bod un bocs wedi ei gyflenwi am bris gwerthu o £14, byddai’r isafbris cymwys mewn perthynas â’r lager yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
41.I yw £0.50; Cr yw 4 (cryfder yn ôl cyfaint y lager); Cy yw 6.6 litr (cyfanswm cyfaint yr 20 o ganiau).
41.0.5 × 4 × 6.6 = £13.20
43.Yn yr enghraifft hon, byddai’r pris gwerthu o £14 am y ddau focs yn uwch na’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwir, ac ni fyddai unrhyw drosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni.
44.Pe bai 3 bocs o gwrw, lager neu seidr ar gael i’w prynu am un pris gwerthu o £30, byddai angen i’r isafbris am bob bocs gael ei gyfrifo er mwyn gweithio allan a oedd y pris gwerthu o £30 yn is na’r isafbris cymwys am y cyfuniadau gwahanol o alcohol a allai gael eu cyflenwi.
45.Gan dybio bod y bocs o gwrw yn cynnwys 10 can 440 ml â chryfder yn ôl cyfaint o 6%; bod y bocs o lager yn cynnwys 12 o ganiau 440 ml â chryfder o 4%; a bod y bocs o seidr yn cynnwys 12 o boteli 300 ml â chryfder o 5%:
46.Yr isafbris am y bocs o gwrw fyddai £13.20 (£0.50 X 6 X 4.4 litr, cyfanswm cyfaint y bocs).
47.Yr isafbris am y bocs o lager fyddai £10.56 (£0.50 X 4 X 5.28 litr).
48.Yr isafbris am y bocs o seidr fyddai £9.90 (£0.50 X 5 X 3.96 litr).
49.Pan fo cwsmer wedi dewis prynu dau focs o gwrw a bocs o seidr, yr isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwid fyddai £36.30 (sef cyfanswm yr isafbris o £26.40 am y ddau focs o gwrw a £9.90 am y seidr).
50.Felly, yn yr enghraifft hon, byddai’r pris gwerthu wedi bod yn £6.30 yn is na’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwid, a, chan dybio absenoldeb amddiffyniad, byddai’r manwerthwr yn agored i gael ei erlyn am gyflawni'r drosedd o dan adran 2.
51.Ond ni fyddai prynu 3 bocs o seidr gan yr un cwsmer yn arwain at y drosedd o dan adran 2, gan y byddai’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwid yn £29.70 (sef cyfanswm yr isafbris o £9.90 am bob bocs o seidr).
52.Pan fo tair eitem o fwyd a photel o win yn cael eu cyflenwi am un pris o £10, byddai’r pris gwerthu am y gwin yn cael ei drin fel pe bai’n £10.
53.Pe bai cyfaint y gwin yn 0.75 litr a’i gryfder yn ôl cyfaint yn 14%, yr isafbris cymwys am y gwin fyddai £5.25 (£0.50 X 14 X 0.75).
54.Yn yr enghraifft hon, byddai’r isafbris o £10 yn uwch na’r isafbris cymwys am y gwin, ac ni fyddai’r manwerthwr wedi cyflawni’r drosedd yn adran 2.