Gwarediadau tir
Adran 13 - Gwaredu tir: cydsyniad
76.Mae adran 13 yn diwygio adran 171D o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) ac yn diddymu adran 81, ac yn diwygio adran 133 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50)
Adran 171D> o Ddeddf Tai 1985
77.Mae adran 171D o Ddeddf Tai 1985 yn ymwneud â’r hawl i brynu a gadwyd. Mae’n bosibl bod tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a oedd yn denantiaid diogel awdurdod lleol, ac a ddaeth yn denantiaid sicr am i berchnogaeth eu cartrefi gael ei throsglwyddo i landlord cymdeithasol cofrestredig, yn meddu ar yr hyn a elwir yn hawl i brynu a gadwyd.
78.Diwygir adran 171D o Ddeddf Tai 1985 i ddileu’r gofyniad i landlord cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i’r landlord cymdeithasol cofrestredig waredu tŷ annedd sy’n ddarostyngedig i’r hawl i brynu neu’r hawl i brynu a gadwyd, oni bai bod y gwarediad i berson neu bersonau sy’n arfer yr hawliau hynny.
Adran 81 o Ddeddf Tai 1988
79.Mae adran 81 o Ddeddf Tai 1988 yn ymwneud â gwarediadau dilynol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig pan oedd y gwarediad gwreiddiol yn warediad gan ymddiriedolaeth gweithredu tai.
80.O dan adran 81 o Ddeddf Tai 1988, os oedd ymddiriedolaeth gweithredu tai yn dymuno gwaredu tŷ a oedd yn ddarostyngedig i denantiaeth ddiogel neu denantiaeth ragarweiniol i landlord cymdeithasol cofrestredig, roedd rhaid i’r trawsgludiad gynnwys gofyniad ei bod yn ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru (os oedd y tir yng Nghymru) neu’r Ysgrifennydd Gwladol (os oedd y tir yn Lloegr) pe bai’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn dymuno gwaredu’r tŷ wedi hynny.
81.Mae adran 81 yn cael ei diddymu ac effaith hynny yw na fydd yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol cyn iddynt waredu tŷ o’r math y cyfeirir ato yn y paragraff uchod.
Adran 133 o Ddeddf Tai 1988
82.Mae adran 133 o Ddeddf Tai 1988 yn ymwneud â gwarediadau dilynol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig pan oedd y gwarediad gwreiddiol yn warediad gan awdurdod lleol.
83.O dan adran 133 o Ddeddf Tai 1988, os oedd landlord cymdeithasol cofrestredig wedi caffael tir neu dŷ gan awdurdod lleol o dan adran 32 neu 43 o Ddeddf Tai 1985, ac nad oedd y cydsyniad oedd yn ymwneud â’r gwarediad gwreiddiol yn darparu fel arall, roedd rhaid cael cydsyniad Gweinidogion Cymru (os oedd y tir yng Nghymru) neu’r Ysgrifennydd Gwladol (os oedd y tir yn Lloegr) pe digwyddai bod y landlord cymdeithasol cofrestredig yn dymuno gwaredu’r tŷ wedi hynny.
84.Gwneir diwygiadau i adran 133 o Ddeddf Tai 1988 i ddileu’r gofyniad i landlord cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol cyn gwaredu tir neu dŷ o’r math y cyfeirir ato yn y paragraff uchod.