Adran 3 – Pŵer i ddargadw cyfraith uniongyrchol yr UE
29.Mae adran 3 yn darparu ar gyfer y gainc gyntaf o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE a restrir yn y diffiniad yn adran 2. Nid yw’r adran yn darparu ar gyfer corffori cyfraith uniongyrchol yr UE mewn cyfraith ddomestig yn awtomatig fel sy’n digwydd yng nghymal 3 o’r Bil i Ymadael â’r UE. Yn hytrach, mae’n galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig sy’n cyfateb i gyfraith uniongyrchol yr UE.
30.Diffinnir cyfraith uniongyrchol yr UE yn adran 3(3). Mae’n dal pob un o gyfreithiau’r UE sy’n uniongyrchol gymwys yn y DU.
31.Un categori o gyfraith yr UE yw Cytuniadau’r UE sy’n cael effaith uniongyrchol yng nghyfraith Cymru a Lloegr yn rhinwedd adran 2(1) o DCE 1972 (adran 3(3)(a)). Diffinnir Cytuniadau’r UE (“EU Treaties”) yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (“DD 1978”) drwy gyfeirio at adran 1 o DCE 1972 ac Atodlen 1 iddi. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddiddymu DCE 1972 ac mae darpariaeth wedi ei chynnwys i’r perwyl hwnnw yng nghymal 1 o’r Bil i Ymadael â’r UE. Mae’r Bil i Ymadael â’r UE (ym mharagraff 11 o Atodlen 8) yn diwygio’r diffiniad o Gytuniadau’r UE a geir yn Atodlen 1 i DD 1978 fel y bydd yn parhau i gyfeirio’n ôl at y diffiniad yn DCE 1972 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn ei diddymu.
32.Mae Cytuniadau’r UE yn gytundebau rhwymol rhwng Aelod-wladwriaethau’r UE. Maent yn nodi amcanion a rheolau’r UE ar gyfer sefydliadau’r UE, sut y gwneir penderfyniadau a’r berthynas rhwng yr UE ac Aelod-wladwriaethau. Mae pob cam a gymerir gan yr UE yn seiliedig ar Gytuniadau’r UE. Mae Cytuniadau’r UE hefyd yn cynnwys hawliau o sylwedd, megis cyflog cyfartal i ddynion a menywod o dan Erthygl 157 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.
33.Dau brif Gytuniad yr UE yw’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Mae adran 3(3)(a) yn darparu mai dim ond darpariaeth yng Nghytuniadau’r UE sy’n cael effaith uniongyrchol sydd i ddod o fewn cwmpas pŵer Gweinidogion Cymru yn adran 3(1).
34.Mae’r egwyddor o effaith uniongyrchol ynghlwm wrth ddarpariaethau penodol yng nghyfraith yr UE sy’n arwain at roi hawliau i unigolion sy’n orfodadwy yn y llysoedd cenedlaethol. Mae’r hawliau wedi eu rhoi’n uniongyrchol ac nid yw’n ofynnol cymryd unrhyw gamau deddfwriaethol ar ran yr Aelod-wladwriaeth. Nid yw effaith uniongyrchol ond yn gymwys i ddarpariaethau yng nghyfraith yr UE sy’n ddigon clir, manwl gywir a diamod(5).
35.Nid yw adran 3(3)(a) ond yn dal yr hawliau hynny o dan Gytuniadau’r UE sy’n uniongyrchol effeithiol ac nad ydynt wedi eu hatgynhyrchu eisoes mewn deddfiad sy’n gymwys o ran Cymru.
36.Diffinnir “Cytuniadau’r UE” (“EU Treaties”) at ddiben adran 3(3)(a) yn DD 1978 drwy gyfeirio at adran 1 o DCE 1972. Gwnaeth adran 1 o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (“yr AEE”) yn un o Gytuniadau’r UE at ddibenion DCE 1972. Felly, mae unrhyw hawliau sy’n uniongyrchol effeithiol o dan gytundeb yr AEE o fewn cwmpas y pŵer yn adran 3(1).
37.Pan fo darpariaeth yn un o Gytuniadau’r UE eisoes wedi ei hatgynhyrchu mewn deddfiad o ran Cymru, byddai’r deddfiad o dan sylw yn dod o fewn cwmpas adran 4 neu 5, nid adran 3. Mae’r cwestiwn o ran a yw darpariaeth yn un o Gytuniadau’r UE eisoes wedi ei hatgynhyrchu mewn deddfiad o ran Cymru i’w benderfynu drwy gyfeirio at y gyfraith ar y diwrnod y daw adran 3 i rym. Os caiff deddfiad ei basio neu ei wneud ar ôl i adran 3 ddod i rym sy’n atgynhyrchu darpariaeth yn un o Gytuniadau’r UE, ni fyddai’n atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y pŵer yn adran 3(1) mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth yng Nghytuniad yr UE.
38.Mae’r ail gategori o gyfraith uniongyrchol yr UE wedi ei nodi yn adran 3(3)(b). Diffinnir rheoliad gan yr UE yn adran 20(1) fel rheoliad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Mae rheoliadau gan yr UE yn cynnwys rheolau cyfreithiol manwl ac maent yn uniongyrchol gymwys ym mhob Aelod-wladwriaeth. Mae angen i’r DU fabwysiadu trefniadau ar lefel ddomestig er mwyn i gyfraith yr UE sy’n uniongyrchol gymwys gael effaith. Cyflawnir hyn drwy adran 2(1) o DCE 1972. Mae adran 2(1) yn darparu’r cyfrwng i reoliadau’r UE lifo drwyddo i gyfraith ddomestig. Yn gyffredinol, y canlyniad yw nad yw’n ofynnol cymryd unrhyw gamau pellach yn y DU i sicrhau bod rheoliad gan yr UE yn cael yr effaith gyfreithiol a ddymunir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae angen cymryd rhai camau domestig i addasu cyfraith ddomestig er mwyn sicrhau cydymffurfedd â rheoliad gan yr UE (er enghraifft, gall fod angen creu trosedd mewn cyfraith ddomestig er mwyn gorfodi rheoliad gan yr UE) neu pan fo darpariaeth ganlyniadol yn ofynnol ar lefel ddomestig er mwyn rhoi effaith lawn i’r gofynion a geir mewn rheoliad gan yr UE.
39.Mae penderfyniadau gan yr UE wedi eu dal hefyd gan adran 3(3)(b) ac fe’u diffinnir yn adran 20(1) fel penderfyniad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd neu benderfyniad o dan Erthygl 34(2)(c) flaenorol o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd. Mae penderfyniadau gan yr UE yn weithredoedd cyfreithiol rhwymol sy’n gymwys i un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, cwmnïau neu unigolion(6). Mae rhai penderfyniadau yn gyffredinol ac yn uniongyrchol gymwys ac ar gael mewn cyfraith ddomestig heb yr angen am ddeddfwriaeth weithredu benodol(7). Fodd bynnag, pan fo penderfyniad wedi ei gyfeirio at Aelod-wladwriaeth, gall fod angen gweithredu mewn cyfraith ddomestig er mwyn rhoi effaith i’r penderfyniad(8). Mae’r cyfeiriad at Erthygl 34(2)(c) flaenorol o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd yn adlewyrchu’r ffaith bod rhai penderfyniadau gan yr UE a wnaed cyn y Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, ac felly o dan Erthygl 34(2)(c) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd, yn parhau i fod mewn grym.
40.Deddfwriaeth drydyddol yr UE yw’r trydydd categori o gyfraith yr UE a ddelir gan adran 3(3)(b), ac fe’i diffinnir yn adran 20(1). Mae dau fath o ddeddfwriaeth drydyddol yr UE: actau dirprwyedig ac actau gweithredu. Mae actau dirprwyedig yn ddeddfau sy’n gyfreithiol rwymol sy’n galluogi’r Comisiwn Ewropeaidd (“y Comisiwn”) i ychwanegu at rannau nad ydynt yn hanfodol o actau deddfwriaethol yr UE, neu i ddiwygio’r rhannau hynny(9), er enghraifft, er mwyn diffinio mesurau manwl. Mae actau gweithredu yn gyfreithiol rwymol hefyd ac yn galluogi’r Comisiwn, o dan oruchwyliaeth pwyllgorau sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Aelod-wladwriaethau, i osod amodau sy’n sicrhau y caiff cyfreithiau’r UE eu cymhwyso’n unffurf(10). Gall deddfwriaeth drydyddol yr UE fod ar yr un ffurf â rheoliad gan yr UE, cyfarwyddeb gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, argymhelliad gan yr UE neu farn gan yr UE.
41.Mae adran 3(3)(c) a (d) yn dal darpariaeth mewn unrhyw reoliad gan yr UE, unrhyw benderfyniad gan yr UE ac unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth drydyddol yr UE fel y maent yn gymwys i’r AEE. Mae Deddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 yn gwneud cytundeb yr AEE yn un o gytuniadau’r UE at ddibenion DCE 1972. O ganlyniad, mae adran 2(1) a (2) o DCE 1972 yn gymwys i ddarpariaethau cytundeb yr AEE. Yn y bôn, mae rheoliadau gan yr UE, penderfyniadau gan yr UE a deddfwriaeth drydyddol yr UE yn gymwys i’r AEE yn rhinwedd eu cynnwys yn yr Atodiadau i gytundeb yr AEE, gydag unrhyw gyfaddasiadau sy’n angenrheidiol er mwyn iddynt weithredu’n effeithiol yng nghyd-destun yr AEE. Mae rheoliadau gan yr UE, penderfyniadau gan yr UE a deddfwriaeth drydyddol yr UE, fel y’u cyfaddesir, wedyn yn llifo i ddeddfwriaeth ddomestig y DU o ganlyniad i adran 2(1) o DCE 1972. Mae Protocol 1 i gytundeb yr AEE yn cynnwys cyfaddasiadau llorweddol sy’n nodi darpariaethau dehongli cyffredinol sy’n gymwys yn yr holl Atodiadau i gytundeb yr AEE. Er enghraifft, pryd bynnag y mae offerynnau gan yr UE yn cyfeirio at wladolion un o Aelod-wladwriaethau’r UE, mae’r cyfeiriadau, at ddibenion cytundeb yr AEE, i’w deall fel cyfeiriadau hefyd at wladolion gwladwriaethau Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop(11).
42.Mae adran 3(3)(c)(i) yn darparu cyswllt rhwng paragraffau (c) a (b). Ni fyddai unrhyw atodiad i gytundeb yr AEE yn berthnasol ond pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan adran 3 i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i reoliadau gan yr UE, penderfyniadau gan yr UE neu ddeddfwriaeth drydyddol yr UE. Felly, byddai’r cyfuniad o adran 3(3)(b), (c) a (d) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i reoliadau gan yr UE, penderfyniadau gan yr UE neu ddeddfwriaeth drydyddol yr UE fel y maent yn gymwys i gyd-destun yr AEE ac wedi eu cyfaddasu iddo.
43.Fel gyda pharagraffau (a) a (b), ni chaiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau pan fo effaith yr offeryn gan yr UE (fel y’i cyfaddesir ar gyfer yr AEE) eisoes wedi ei hatgynhyrchu mewn deddfiad.
44.Mae adran 3(1) yn darparu pŵer i wneud darpariaeth gyfatebol yn hytrach na phŵer i ailddatgan. Mae hyn yn adlewyrchu natur cyfraith uniongyrchol yr UE. Cafodd cyfraith uniongyrchol yr UE ei dylunio, ei drafftio a’i mabwysiadu i fod yn gymwys yn gydwladol. Felly, mae cyfraith uniongyrchol yr UE yn cynnwys darpariaeth na all weithredu’n effeithiol o ran Cymru yn unig. Bydd y pŵer i wneud darpariaeth gyfatebol felly yn galluogi Gweinidogion Cymru i gymryd darn o gyfraith uniongyrchol yr UE a’i ail-lunio’n rheoliadau Cymreig sy’n gweithredu’n effeithiol mewn cyd-destun domestig. Bydd y broses hon yn golygu addasiadau i gyfraith uniongyrchol yr UE. Mae adran 3(4) yn rhoi enghreifftiau o’r math o addasiadau a ragwelir fel rhan o’r rheoliadau. Nid yw’r rhestr o enghreifftiau yn adran 3(4) yn rhestr gynhwysfawr.
45.Nid yw’r pŵer i wneud addasiadau o’r fath yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddileu hawliau etc. a fwynheir ar hyn o bryd o dan gyfraith uniongyrchol yr UE gan unigolion yng Nghymru. Mae is-adrannau (1) a (2) yn gweithredu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau fod at ddiben parhau â gweithrediad cyfraith uniongyrchol yr UE ac er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru geisio parhau â’r hawliau etc. a fwynheir ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae pwerau Gweinidogion Cymru wedi eu cyfyngu i ddarpariaeth sydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Bydd unrhyw hawliau etc. yng nghyfraith uniongyrchol yr UE nad ydynt yn dod o fewn cymhwysedd datganoledig yn fater i Senedd y DU, ac yn benodol, os caiff ei basio, y Bil i Ymadael â’r UE sy’n mynd ar ei hynt drwy Senedd y DU ar hyn o bryd.
46.Mae is-adran (4)(a) yn adlewyrchu na all darpariaethau penodol yng nghyfraith uniongyrchol yr UE weithredu’n effeithiol mewn cyd-destun domestig yng Nghymru. Gallai hyn gynnwys darpariaethau penodol sy’n gymwys i Aelod-wladwriaeth benodol, ardal benodol neu ranbarth penodol yn yr UE ac eithrio Cymru. Er enghraifft, mae Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1100/2007 sy’n sefydlu mesurau ar gyfer adfer stoc llyswennod Ewropeaidd yn cyfeirio at ddiogelu stoc llyswennod Ewropeaidd, a’r defnydd cynaliadwy o’r stoc honno, yn nyfroedd y Gymuned, mewn morlynnoedd arfordirol, aberoedd ac afonydd sy’n llifo i foroedd, megis Môr y Canoldir. Ni fyddai darpariaeth sy’n cyfateb i Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor 1100/2007 a wneir o dan adran 3 o’r Ddeddf ond yn gwneud darpariaeth ar gyfer diogelu stoc mewn dyfroedd, morlynnoedd arfordirol, aberoedd ac afonydd sy’n llifo i’r môr o amgylch Cymru. Byddai unrhyw gyfeiriad, er enghraifft at Fôr y Canoldir, yn ddiangen. Wrth wneud y newidiadau i ddarpariaeth yng nghyfraith uniongyrchol yr UE, byddai’n golygu rhywfaint o addasu yn hytrach na hepgoriad syml, yn y rhan fwyaf o achosion. Yn yr enghraifft o Reoliad y Cyngor 1100/2007, yn hytrach na dim ond hepgor y moroedd amherthnasol a restrir, efallai y bydd yn well hepgor pob un o’r cyfeiriadau at y moroedd a rhoi geiriad newydd yn eu lle sy’n adlewyrchu’r moroedd o amgylch Cymru.
47.Gallai fod elfen o orgyffwrdd rhwng adran 3(4)(a) a’r hidlydd cyntaf a gymhwysir gan adran 3(1) - darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig. Pan fo darpariaeth yng nghyfraith uniongyrchol yr UE yn gymwys ac eithrio o ran Cymru neu’n rhychwantu ac eithrio dim ond i Gymru a Lloegr, ni fyddai’n goresgyn y prawf yn adran 3(1) (yr eithriad yw y gallai darpariaeth a oedd yn gymwys ac eithrio o ran Cymru fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad pe bai’n dod o fewn adran 108(5) o DLlC 2006. O dan amgylchiadau o’r fath, byddai angen i Weinidogion Cymru, wrth wneud darpariaeth gyfatebol o dan adran 3(1), hepgor y darpariaethau a oedd yn dod y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad.
48.Mae is-adran (4)(b) yn adlewyrchu bod cyfraith uniongyrchol yr UE yn sefydlu nifer o endidau o’r UE ac yn rhoi swyddogaethau i’r endidau hyn neu mewn perthynas â’r endidau hyn. Er enghraifft, mae Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid yn rhoi rhan ganolog i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop wrth awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid (yn ychwanegol at y Comisiwn). Yn ddarostyngedig i’r negodiadau rhwng y DU a’r UE ac unrhyw gytundebau ar gyfer perthynas yn y dyfodol, ni fyddai Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop yn chwarae rhan mwyach wrth awdurdodi’r defnydd o ychwanegion bwyd anifeiliaid yng Nghymru. Gallai rheoliadau a wneir o dan adran 3 a oedd yn gwneud darpariaeth gyfatebol i Reoliad 1831/2003 hepgor y swyddogaethau a roddid i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop. Fodd bynnag, er mwyn parhau â gweithrediad y system ar gyfer awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid, gallai Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth i sefydlu awdurdod cyhoeddus newydd yng Nghymru (is-adran 4(h)) a rhoi’r swyddogaethau i’r awdurdod hwnnw, neu roi’r swyddogaethau i awdurdod cyhoeddus sy’n bodoli eisoes (is-adran (4)(g)). Pan fo swyddogaethau o’r fath yn cael eu rhoi i awdurdod cyhoeddus sy’n bodoli eisoes, gall fod angen gwneud newidiadau i’r fframwaith deddfwriaethol sy’n llywodraethu’r corff hwnnw. Gallai hyn gynnwys gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol y mae is-adran (4)(i) yn darparu’n benodol ar ei gyfer.
49.Mae is-adran (4)(c), (d) ac (e) yn amlygu’r posibilrwydd y gall fod angen ymdrin ag unrhyw drefniadau cilyddol, neu drefniadau eraill sy’n ymwneud â’r UE, yng nghyfraith uniongyrchol yr UE fel rhan o wneud darpariaeth o dan adran 3. Bydd hyn yn dibynnu’n helaeth ar ganlyniad y negodiadau rhwng y DU a’r UE ar unrhyw berthynas yn y dyfodol. Fodd bynnag, dylid nodi mai adran 11 a fyddai’r pŵer perthnasol pan fo unrhyw gytundeb ymadael yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau cilyddol yn y dyfodol rhwng y DU a’r UE. Gallai is-adran (4)(c) fod yn berthnasol, er enghraifft, mewn perthynas â rhannu gwybodaeth. Er enghraifft, mae Erthygl 19(1) o Reoliad (EU) 2016/429 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar glefydau trosglwyddadwy anifeiliaid ac sy’n diwygio ac yn diddymu actau penodol ym maes iechyd anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau hysbysu’r Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill am unrhyw achosion o unrhyw glefydau a restrir. Wrth i’r DU ymadael â’r UE, byddai’r ddyletswydd ar Aelod-wladwriaethau ac eithrio’r DU i hysbysu’r DU o dan y ddarpariaeth hon yn peidio â bod yn gymwys. Felly, byddai’n amhriodol parhau â gofyniad mewn cyfraith ddomestig i Weinidogion Cymru hysbysu’r Comisiwn a’r Aelod-wladwriaethau pe bai achosion o unrhyw glefydau a restrir yng Nghymru. Fodd bynnag, unwaith eto, mae trefniadau cilyddol o’r fath yn debygol o fod yn destun trafodaethau fel rhan o’r negodiadau am unrhyw berthynas yn y dyfodol rhwng y DU a’r UE.
50.Mae is-adran (4)(f) yn adlewyrchu’r cyfeiriadau helaeth at yr UE (sy’n cynnwys cyfeiriadau at yr AEE) a geir yng nghyfraith uniongyrchol yr UE na fyddant yn briodol mwyach wrth i’r darpariaethau gael eu cyfaddasu i fod yn gymwys mewn cyd-destun domestig yn unig. Er enghraifft, mae cyfran fawr o gyfreithiau uniongyrchol yr UE yn nodi pwnc yr offeryn yn yr Erthygl(au) agoriadol. Yn aml, maent yn cyfeirio at nodau a dibenion y Rheoliad ac maent wedi eu drafftio fel arfer gan gyfeirio at amcanion Ewropeaidd, neu gymorth cydweithredu a chydgysylltu rhwng Aelod-wladwriaethau (gweler, er enghraifft, Erthygl 1(2) o Benderfyniad Rhif 1082/2013/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd ac sy’n diddymu Penderfyniad Rhif 2119/98/EC). Gallai ymdrin â diffygion o’r fath gynnwys hepgor y cyfeiriadau neu gyfaddasu’r cyfeiriad fel ei fod yn gweithredu’n effeithiol mewn cyd-destun domestig. Yn lle cyfeiriad at gyfrannu at lefel uchel o ddiogelwch iechyd y cyhoedd yn yr Undeb, gellid rhoi cyfeiriad at gyfrannu at ddiogelwch o’r fath yng Nghymru, pe bai’n briodol.
51.Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 3 wedi ei gyfyngu. Mae’r cyfyngiadau yn adlewyrchu’n fras y cyfyngiadau sy’n gymwys i’r pŵer yn adran 2(2) o DCE 1972. Mae’r cyfyngiad ar osod neu gynyddu trethiant yn deillio o baragraff 1(1)(a) o Atodlen 2 i DCE 1972, mae’r cyfyngiad ar wneud darpariaeth ôl-weithredol yn deillio o baragraff 1(1)(b) o Atodlen 2 ac mae’r cyfyngiad ar greu troseddau perthnasol yn deillio o baragraff 1(1)(d) o Atodlen 2. Diffinnir trosedd berthnasol yn adran 20.
52.Mae’r cyfyngiadau yn adran 3(5)(d) ac (e) yn adlewyrchu’r terfynau ar gymhwysedd y Cynulliad mewn cysylltiad â deddfu mewn perthynas â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron. Mae paragraff (d) yn adlewyrchu’r cyfyngiad a geir ym mharagraff 1(2) o Ran 2 o Atodlen 7 i DLlC 2006. Mae paragraff (e) yn adlewyrchu’r cyfyngiad a geir ym mharagraff 1(1) o Ran 2 o Atodlen 7, ond mae hefyd yn adlewyrchu’r eithriad i’r cyfyngiad hwnnw a geir ym mharagraff 6(1)(b) o Ran 3 o Atodlen 7. Nid yw paragraff (d) yn cyfeirio at unrhyw ailddatganiad o swyddogaethau Gweinidogion y Goron (a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn rhinwedd paragraff 8 o Ran 3 o Atodlen 7 i DLlC 2006) gan nad yw cyfraith uniongyrchol yr UE yn cynnwys unrhyw swyddogaethau Gweinidogion y Goron.
53.Mae adran 108(6)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu na all y Cynulliad wneud deddfwriaeth sy’n anghydnaws â chyfraith yr UE. Yn y mwyafrif o achosion, byddai darpariaeth a wneir o dan adran 3 yn anghydnaws â chyfraith yr UE pe bai’n dod i rym tra oedd y DU yn dal i fod yn aelod o’r UE ac yn ddarostyngedig i gyfraith yr UE. Er enghraifft, byddai darpariaeth o dan adran 3 a oedd yn hepgor gofyniad i hysbysu’r Comisiwn am achos o glefydau penodol yn groes i gyfraith yr UE ac felly ni fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Felly, mae’r cyfyngiad yn adran 3(6)(b) i atal y pŵer rhag cael ei ddefnyddio mewn modd sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Dylid nodi bod Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i gyfyngiad wrth wneud, cadarnhau a chymeradwyo unrhyw is-ddeddfwriaeth, neu wrth wneud unrhyw weithred arall, sy’n anghydnaws â chyfraith yr UE yn rhinwedd adran 80(8) o DLlC 2006. Felly, dim ond rheoliadau a oedd yn dod i rym ar neu ar ôl y diwrnod ymadael y gallai Gweinidogion Cymru eu gwneud o dan adran 3.
54.Darperir y cronicliadau sydd wedi eu cynnwys yng nghyfraith uniongyrchol yr UE yn unol ag Erthygl 296 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Gellir defnyddio’r rhain i hwyluso dehongli ond mae cyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr UE yn ei gwneud yn glir nad oes ganddynt unrhyw rym cyfreithiol rhwymol(12). Felly, ni fydd rheoliadau a wneir o dan adran 3 ond yn cynnwys darpariaeth sy’n cyfateb i’r rheolau cyfreithiol a geir yng nghyfraith uniongyrchol yr UE ac nid y cronicliadau.
Achos 26/62 NV Algemene Transporten Expeditie Onderneming van Gend en Loos v Nederlandse Administratie der Belastingen.
Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.
Er enghraifft, nid yw Penderfyniad y Comisiwn 2011/753/EU, sy’n sefydlu’r rheolau a’r dulliau ar gyfer cyfrifo targedau ailddefnyddio ac ailgylchu a nodir yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, wedi ei weithredu drwy ddeddfwriaeth benodol yn y DU, ond mae ar gael mewn cyfraith ddomestig drwy adran 2(1) o DCE 1972.
Er enghraifft, mae Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy. 282)) yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC dyddiedig 14 Mehefin 2007 sy’n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy’n esemptio’r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a dileu penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac sy’n diddymu Penderfyniad 2005/598/EC.
Erthygl 290(1) o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.
Erthygl 291(2) o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Erthygl 2(b) o Gytundeb yr AEE yn diffinio gwladwriaethau Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop fel Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein a Theyrnas Norwy.
Casa Fleischhandels, Achos 215/88.