Y Cefndir
3.Ar 17 Rhagfyr 2015, cafodd Deddf Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2015 y Cydsyniad Brenhinol. Gwnaeth y Ddeddf ddarpariaeth ar gyfer cynnal refferendwm yn y DU a Gibraltar o ran pa un a ddylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd (“yr UE”). Cynhaliwyd y refferendwm ar 23 Mehefin 2016 ac arweiniodd at bleidlais o 52% i ymadael â’r UE.
4.Cafodd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu am Ymadael) 2017 y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2017. Rhoddodd adran 1 o’r Ddeddf honno y pŵer i Brif Weinidog y DU i hysbysu’r Cyngor Ewropeaidd am fwriad y DU i ymadael â’r UE o dan Erthygl 50(2) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd. Rhoddwyd yr hysbysiad hwn ar 29 Mawrth 2017. Ar yr un pryd, rhoddodd y DU wybod ei bod yn ymadael â Chymuned Ynni Atomig Ewrop (‘Euratom’), yn unol â’r un Erthygl 50(2) fel y’i cymhwysir gan Erthygl 106a o’r Cytuniad sy’n Sefydlu Cymuned Ynni Atomig Ewrop (“Cytuniad Euratom”).
5.Ar 23 Ionawr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar y cyd Bapur Gwyn o’r enw Diogelu Dyfodol Cymru. Mae’r papur yn gosod y prif faterion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhai sy’n hanfodol i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE. Mae’n cynnwys nodau cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer y negodiadau rhwng Llywodraeth y DU a’r UE, gan roi pwyslais ar ddiogelu a hybu ffyniant gan gydnabod dymuniad y mwyafrif i ymadael â’r UE. Roedd y papur hefyd yn cynnwys syniadau ynghylch strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethu’r DU yn y dyfodol ar ôl ymadael â’r UE.
6.Ar 15 Mehefin 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur polisi pellach o’r enw Brexit a Datganoli a ddatblygodd y syniadau ar y strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethu yn Diogelu Dyfodol Cymru.
7.Ar 13 Gorffennaf 2017, cyflwynwyd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (“y Bil i Ymadael â’r UE”)(1) yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’n cynnwys darpariaeth ar gyfer diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“DCE 1972”) a darpariaeth arall mewn cysylltiad ag ymadawiad y DU â’r UE. Deddfwyd DCE 1972 yn barod i’r DU ymuno â’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1973 (mae’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd wedi esblygu ers hynny a’r UE ydyw bellach). Un o amodau aelodaeth o’r UE yw bod effaith yn cael ei rhoi i gyfraith yr UE mewn cyfraith ddomestig. Nid oedd y cytuniadau a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DU i sicrhau aelodaeth o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn newid cyfraith y DU. Roedd angen deddfwriaeth i gorffori pob cytuniad mewn cyfraith ddomestig. Darparodd DCE 1972 i’r gyfraith a oedd yn deillio o gytuniadau amrywiol y Cymunedau Ewropeaidd ar y pryd ddod yn rhan o gyfraith ddomestig ac mae’n parhau i ddarparu bod cyfraith yr UE yn rhan o gyfraith ddomestig.
8.Mae cyfraith yr UE wedi ei chorffori mewn cyfraith ddomestig gan DCE 1972 mewn dwy ffordd:
Mae adran 2(1) o DCE 1972 yn darparu bod yr hawliau, y pwerau, yr atebolrwyddau, y rhwymedigaethau, y cyfyngiadau, y rhwymedïau a’r gweithdrefnau a ddarperir mewn rhai mathau o gyfraith yr UE yn uniongyrchol gymwys i system gyfreithiol y DU. Mae hyn yn golygu eu bod yn uniongyrchol gymwys heb yr angen am ddeddfwriaeth ddomestig bellach. Er enghraifft, mae darpariaeth yn un o Gytuniadau’r UE, megis y Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, sy’n creu hawl sy’n uniongyrchol gymwys, yn orfodadwy yn llysoedd y DU heb i’r DU orfod cymryd camau pellach.
Mae adran 2(2) o DCE 1972 yn awdurdodi’r DU i weithredu rhwymedigaethau gan yr UE drwy is-ddeddfwriaeth. Er enghraifft, caniateir gweithredu rhwymedigaethau mewn Cyfarwyddeb gan yr UE drwy is-ddeddfwriaeth. Nid yw hyn yn atal rhwymedigaeth gan yr UE rhag cael ei gweithredu’n ddomestig drwy ddeddfwriaeth sylfaenol (er enghraifft Rhan 5 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016) nac yn atal defnyddio pwerau a geir mewn deddfwriaeth sylfaenol arall (er enghraifft adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999).
9.Bydd diddymu DCE 1972 yn golygu y bydd y darpariaethau hyn yn peidio â chael effaith.
10.Yn Miller(2), datganodd y Goruchaf Lys, er bod DCE 1972 yn rhoi effaith i gyfraith yr UE, nad DCU 1972 ei hun yw ffynhonnell wreiddiol y gyfraith honno. Disgrifiwyd y Ddeddf mewn dadleuon ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol fel ‘conduit pipe’ ar gyfer cyflwyno cyfraith yr UE yng nghyfraith y DU. Cytunodd y Goruchaf Lys â’r gymhariaeth hon. Byddai dileu’r ‘conduit pipe’ yn atal llif cyfraith yr UE i gyfraith ddomestig felly. Byddai unrhyw ddarn o gyfraith yr UE sy’n gymwys mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 2(1) o DCE 1972 yn peidio â chael effaith felly oni wneir darpariaeth i ddiogelu effaith y gyfraith honno.
11.Pan ddiddymir adran 2(2) o DCE 1972, bydd yr holl is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y pŵer hwnnw yn darfod yn awtomatig oni wneir darpariaeth i’w diogelu. Mae’r Bil i Ymadael â’r UE yn gwneud darpariaeth yng nghymal 2 i ddeddfwriaeth o’r fath gael ei harbed wrth i Ddeddf 1972 gael ei diddymu.
12.Ar 12 Medi 2017, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad mewn cysylltiad â’r Bil i Ymadael â’r UE fel y’i cyflwynwyd ar 13 Gorffennaf 2017. Mae’r rhestr lawn o gymalau sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, neu sy’n addasu’r cymhwysedd hwnnw, wedi ei nodi mewn tabl yn atodiad A i’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Nododd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu argymell i’r Cynulliad ei fod yn rhoi cydsyniad i’r Bil fel y’i drafftiwyd wrth ei gyflwyno.
13.Ar 19 Medi 2017, anfonodd Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog yr Alban lythyr ar y cyd at Brif Weinidog y DU gan nodi cyfres o welliannau arfaethedig i’r Bil i Ymadael â’r UE. Eglurodd y llythyr y gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ystyried argymell i’r Cynulliad ac i Senedd yr Alban fod cydsyniad yn cael ei roi i’r Bil i Ymadael â’r UE, pe gwnaed y gwelliannau i’r Bil. Cyflwynwyd y gwelliannau yn Senedd y DU wedi hynny ond ni chytunodd Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin arnynt.
14.Cyflwynodd Llywodraeth y DU welliannau i gymal 11 o’r Bil i Ymadael â’r UE yng nghyfnod Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch effaith y Bil hwnnw ar ddatganoli. Cafwyd dadl ynghylch y rhain, ynghyd â gwelliannau eraill sy’n ymwneud â datganoli, ar 21 Mawrth 2018. Tynnwyd pob gwelliant yn ôl yng nghyfnod Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ac mae’r cymalau hyn i gael eu hystyried ymhellach yng nghyfnod Adrodd Tŷ’r Arglwyddi.
15.Mae cyfeiriadau isod at ddarpariaethau’r Bil i Ymadael â’r UE yn gyfeiriadau at y Bil fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 18 Ionawr 2018(3), sef fersiwn y Bil fel y safodd pan basiwyd Bil y Ddeddf hon gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 21 Mawrth 2018.
R (on the application of Miller and another) v Secretary of State for Exiting the European Union [2017] UKSC 5, ym mharagraff 65.