Cyflwyniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”) a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 21 Mawrth 2018 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2018.
2.Fe’u lluniwyd gan Swyddfa’r Prif Weinidog a Swyddfa’r Cabinet yn Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohono.