Search Legislation

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 2 Chapter 3:

  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/373 by S.I. 2021/735 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/373 by S.I. 2021/938 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/516 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/516 art. 3
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/735 art. 3
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/383 by S.I. 2021/735 art. 4
  • specified provision(s) coming into force by S.I. 2021/381 art. 2 3 (This commencement not applied to legislation.gov.uk. S.I. 2021/381 revoked (12.8.2021) by S.I. 2021/938, art. 3)
  • specified provision(s) coming into force by S.I. 2021/383 art. 2 3 (This commencement not applied to legislation.gov.uk. S.I. 2021/383 revoked (12.8.20210) by S.I. 2021/938, art. 4)

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

PENNOD 3LL+CSWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau sy’n ymwneud â sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegolLL+C

47Dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)sydd ag anghenion dysgu ychwanegol,

(b)nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer, ac

(c)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r ysgol neu’r sefydliad, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc yn galw amdani yn cael ei gwneud.

(3)Rhaid i’r Cod o dan adran 4 gynnwys canllawiau ynghylch arfer y swyddogaeth yn is-adran (2) yn ystod y cyfnod y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ynddo ar gyfer plentyn neu berson ifanc ond nad yw wedi ei roi.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer gan awdurdod lleol, a

(b)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(5)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd) gymryd pob cam rhesymol i helpu’r awdurdod lleol sy’n cynnal y cynllun i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 47 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(c)

I3A. 47 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 47 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I5A. 47 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I6A. 47 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I7A. 47 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(f), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I8A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I9A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I10A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(f), 4

I11A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(f), 3

I12A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(f)

I13A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I14A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I15A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

48Dyletswydd i dderbyn plant i ysgolion a gynhelir a enwirLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw ysgol a gynhelir yng Nghymru wedi ei henwi mewn cynllun datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir ar gyfer plentyn gan awdurdod lleol at ddiben sicrhau bod y plentyn yn cael ei dderbyn i’r ysgol.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol dderbyn y plentyn.

(3)Cyn enwi ysgol o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori—

(a)â chorff llywodraethu’r ysgol, a

(b)yn achos ysgol a gynhelir pan nad yr awdurdod lleol na’i chorff llywodraethu yw’r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol, â’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r ysgol.

(4)Ni chaiff awdurdod lleol enwi ysgol a gynhelir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben sicrhau bod plentyn yn cael ei dderbyn ond—

(a)os yw’r awdurdod wedi ei fodloni ei bod, er lles y plentyn, yn ofynnol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn ei gynllun gael ei gwneud yn yr ysgol, a

(b)os yw’n briodol darparu addysg neu hyfforddiant i’r plentyn yn yr ysgol.

(5)Mae is-adran (2) yn cael effaith er gwaethaf unrhyw ddyletswydd a osodir ar gorff llywodraethu ysgol gan adran 1(6) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) (terfynau ar faint dosbarthiadau babanod).

(6)Nid yw is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer i wahardd disgybl o ysgol.

(7)Yn yr adran hon, mae i “awdurdod derbyn” yr ystyr a roddir i “admissions authority” gan adran 88 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I17A. 48 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I18A. 48 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I19A. 48 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(f), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I20A. 48 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I21A. 48 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I22A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I23A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(f), 4

I24A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(f)

I25A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(f), 3

I26A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I27A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I28A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I29A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-22)

49Dim pŵer i godi tâl am ddarpariaeth a sicrheir o dan y Rhan honLL+C

(1)Ni chaiff corff llywodraethu nac awdurdod lleol godi tâl ar blentyn, ar riant plentyn neu ar berson ifanc am unrhyw beth y mae’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol yn ei sicrhau ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan y Rhan hon.

(2)Nid yw plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc yn atebol i dalu unrhyw dâl a godir gan berson am unrhyw beth y mae corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn ei sicrhau ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan y Rhan hon.

(3)Yn yr adran hon, nid yw “rhiant” yn cynnwys rhiant nad yw’n unigolyn.

(4)Mae Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(5)Ym mharagraff 1, yn is-baragraff (1), ar ôl “mewn achosion ar wahân i’r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (8)” mewnosoder “, ac mewn achosion pan fo codi ffioedd wedi ei wahardd gan neu o dan ddeddfiad”.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I31A. 49 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I32A. 49 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I33A. 49 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I34A. 49 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I35A. 49 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(f), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I36A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(f)

I37A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(f), 4

I38A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I39A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I40A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I41A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I42A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(f), 3

I43A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-25)

50Dyletswyddau Gweinidogion Cymru i sicrhau addysg a hyfforddiant ôl-16LL+C

(1)Mae Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 31(3) (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(cc)take account of the education and training that is required in order to ensure that employees and potential employees are available who are able to deliver additional learning provision in Welsh;

(cd)take account of the education and training that is required in order to ensure that facilities are available for assessing through the medium of Welsh whether persons have additional learning needs;.

(3)Yn adran 32(3) (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n hŷn na 19 oed), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(cc)take account of the education and training that is required in order to ensure that employees and potential employees are available who are able to deliver additional learning provision in Welsh;

(cd)take account of the education and training that is required in order to ensure that facilities are available for assessing through the medium of Welsh whether persons have additional learning needs;.

(4)Yn adran 41 (personau ag anawsterau dysgu)—

(a)yn y pennawd, yn lle “learning difficulties” rhodder “additional learning needs”;

(b)yn is-adran (1)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “learning difficulties, and” rhodder “additional learning needs;”;

(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)to the desirability of facilities being available which would assist the discharge of duties under the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018.;

(c)hepgorer is-adrannau (2), (3) a (4);

(d)yn lle is-adran (5) rhodder—

(5A)In this Part, “additional learning needs” has the meaning given by section 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018, and “additional learning provision” has the meaning given by section 3 of that Act.”;;

(e)hepgorer is-adran (6).

(5)Hepgorer adran 140 (asesiadau sy’n ymwneud ag anawsterau dysgu).

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I45A. 50(1)(4)(5) mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I46A. 50(1) mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, ergl. 8(a)

I47A. 50(1)(4)(5) mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I48A. 50(1) mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(g) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I49A. 50(1) mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(g), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I50A. 50(1) mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(g) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I51A. 50(1) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(g), 4

I52A. 50(1) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I53A. 50(1) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(g) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I54A. 50(1) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(g)

I55A. 50(1) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(g), 3

I56A. 50(1) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(g) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I57A. 50(1) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(g) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I58A. 50(1) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(g) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I59A. 50(2)(3) mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(b)

I60A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(h), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I61A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(h) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I62A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(h) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I63A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(h), 3

I64A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(h) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I65A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(h)

I66A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I67A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(h) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I68A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(h), 4

I69A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(h) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I70A. 50(4)(5) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(h) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arallLL+C

51Dyletswydd i ffafrio addysg i blant mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelirLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac a ddylai gael ei addysgu mewn ysgol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod addysgu’r plentyn mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn anghydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;

(b)bod addysgu’r plentyn mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn briodol er lles pennaf y plentyn ac yn gydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;

(c)bod rhiant y plentyn yn dymuno i’r plentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.

(3)Ni chaiff awdurdod lleol ddibynnu ar yr eithriad yn is-adran (2)(a) oni bai nad oes unrhyw gamau rhesymol y gallai’r awdurdod eu cymryd i atal yr anghydnawsedd.

(4)Pan fo rhiant plentyn yn dymuno i’w blentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir, nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.

(5)Nid yw is-adran (1) yn atal plentyn rhag cael ei addysgu mewn—

(a)ysgol annibynnol, neu

(b)ysgol a gymeradwyir o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56),

os telir y gost ac eithrio gan awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I72A. 51 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I73A. 51 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I74A. 51 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I75A. 51 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(i), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I76A. 51 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I77A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I78A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(i), 4

I79A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I80A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(i)

I81A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I82A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I83A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I84A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(i), 3

52Plant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelirLL+C

(1)Pan fo plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yng Nghymru, rhaid i’r rheini sy’n ymwneud â gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer y plentyn sicrhau bod y plentyn yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol ar y cyd â phlant nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) ond yn gymwys i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol a’i bod yn gydnaws—

(a)â’r plentyn yn cael y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei anghenion dysgu ychwanegol yn galw amdani,

(b)â darparu addysg effeithlon ar gyfer y plant y caiff ei addysgu gyda hwy, ac

(c)â’r defnydd effeithlon o adnoddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I86A. 52 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I87A. 52 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I88A. 52 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I89A. 52 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I90A. 52 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(i), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I91A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I92A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(i)

I93A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(i), 3

I94A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I95A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(i), 4

I96A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I97A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I98A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-25)

53Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mannau ac eithrio mewn ysgolionLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol drefnu i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal ar gyfer plentyn, neu i unrhyw ran o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, gael ei gwneud mewn man ac eithrio mewn ysgol.

(2)Ond ni chaiff awdurdod lleol wneud hynny ond os yw wedi ei fodloni y byddai’n amhriodol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei gwneud mewn ysgol.

Gwybodaeth Cychwyn

I99A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I100A. 53 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I101A. 53 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I102A. 53 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(i), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I103A. 53 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I104A. 53 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I105A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I106A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I107A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I108A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I109A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(i)

I110A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(i), 3

I111A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I112A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(i), 4

54Diwygiadau i ofynion cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng NghymruLL+C

(1)Mae Deddf Addysg 2002 (p. 32) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 158 (cofrestrau), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)The Welsh Ministers must publish a list of the schools included in the register of independent schools in Wales, as amended from time to time.

(5)If the Welsh Ministers have been provided with the necessary information by the proprietor of the school, the published list must specify the type or types of additional learning provision made by a school on the list for pupils with additional learning needs (if any).

(3)Yn adran 160 (ceisiadau i gofrestru), yn is-adran (2), yn lle paragraff (e) rhodder—

(e)the type or types of additional learning provision made by the school for pupils with additional learning needs (if any).

Gwybodaeth Cychwyn

I113A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I114A. 54 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(e)

I115A. 54 mewn grym ar 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/373, ergl. 8(c)

55Amodau sy’n gymwys i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn ysgolion annibynnolLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei addysgu mewn ysgol annibynnol yng Nghymru oni bai—

(a)bod yr ysgol wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru, a

(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall yr ysgol wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei addysgu mewn sefydliad addysgol annibynnol yn Lloegr oni bai—

(a)bod y sefydliad wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) (“Deddf 2008”)), a

(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall y sefydliad wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.

(3)Yn yr adran hon, mae i “sefydliad addysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent educational institution” gan Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 2008.

Gwybodaeth Cychwyn

I116A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I117A. 55 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I118A. 55 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I119A. 55 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(j) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I120A. 55 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(j) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I121A. 55 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(j), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I122A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(j), 3

I123A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(j), 4

I124A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(j) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I125A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I126A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(j) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I127A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(j) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I128A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(j) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I129A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(j)

56Rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr (“y rhestr”) at ddiben is-adran (3).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r rhestr, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(3)Dim ond os yw sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr wedi ei gynnwys yn y rhestr y caiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau addysg neu hyfforddiant ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn y sefydliad hwnnw, yn ddarostyngedig i unrhyw esemptiadau rhagnodedig.

(4)Dim ond ar gais perchennog sefydliad y caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y sefydliad hwnnw yn y rhestr.

(5)Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)cynnwys y rhestr;

(b)gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy fel amod o gynnwys y sefydliad yn y rhestr;

(c)gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy tra bo’r sefydliad wedi ei restru (gan gynnwys gofynion o ran cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i drefniadau yn y sefydliad ac i newid trefniadau o’r fath);

(d)dileu’r sefydliad o’r rhestr;

(e)yr hawl i berchenogion sefydliadau apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau—

(i)i wrthod rhestru sefydliad;

(ii)i ddileu sefydliad o’r rhestr;

(iii)i beidio â chymeradwyo trefniadau yn y sefydliad neu i beidio â chymeradwyo newid iddynt.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” yw sefydliad sy’n darparu addysg neu hyfforddiant ar gyfer personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac sydd wedi ei drefnu’n arbennig i ddarparu addysg neu hyfforddiant o’r fath ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol, ac nad yw’n—

(a)sefydliad yn y sector addysg bellach,

(b)ysgol annibynnol sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)),

(c)sefydliad addysgol annibynnol (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)), sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o’r Ddeddf honno), neu

(d)Academi 16 i 19.

Gwybodaeth Cychwyn

I130A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I131A. 56 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(f)

I132A. 56 mewn grym ar 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/373, ergl. 8(d)

I133A. 56(1) mewn grym ar 4.1.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(2)(a)

I134A. 56(4)-(6) mewn grym ar 4.1.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(2)(b)

57Diddymu cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir yng NghymruLL+C

(1)Mae Deddf Addysg 1996 (p. 56) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 337A (dehongli’r Bennod), hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”.

(3)Yn adran 342 (cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

(ii)ar ôl “school”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (5)(a), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(c)hepgorer is-adran (6).

Gwybodaeth Cychwyn

I135A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I136A. 57 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(e)

58Diddymu cymeradwyo ysgolion annibynnol yng NghymruLL+C

Mae adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (cymeradwyo ysgolion annibynnol fel rhai sy’n addas i dderbyn plant â datganiadau anghenion addysgol arbennig) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I137A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I138A. 58 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(e)

59Darpariaeth ddysgu ychwanegol y tu allan i Gymru a LloegrLL+C

Caiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i wneud trefniadau i blentyn neu berson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol fynychu sefydliad y tu allan i Gymru a Lloegr, ond dim ond os yw’r sefydliad wedi ei drefnu i wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.

Gwybodaeth Cychwyn

I139A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I140A. 59 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I141A. 59 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I142A. 59 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(k), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I143A. 59 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(k) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I144A. 59 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(k) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I145A. 59 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(k) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I146A. 59 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(k)

I147A. 59 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(k) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I148A. 59 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I149A. 59 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(k), 4

I150A. 59 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(k) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I151A. 59 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(k) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I152A. 59 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(k), 3

Swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegolLL+C

60Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegolLL+C

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys—

(a)i gorff llywodraethu ysgol yng Nghymru—

(i)sy’n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol,

(ii)sy’n ysgol feithrin a gynhelir, neu

(iii)sy’n uned cyfeirio disgyblion;

(b)i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2)Rhaid i’r corff llywodraethu ddynodi person, neu fwy nag un person, i fod â chyfrifoldeb am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.

(3)Mae person sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol”.

(4)Caiff rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau bod gan gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol gymwysterau rhagnodedig neu brofiad rhagnodedig (neu’r ddau);

(b)rhoi swyddogaethau i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn perthynas â darparu ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.

(5)Yn is-adrannau (2) a (4)(b), ystyr “myfyrwyr” yw myfyrwyr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad yn y sector addysg bellach.

Gwybodaeth Cychwyn

I153A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I154A. 60 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(g)

I155A. 60 mewn grym ar 4.1.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(2)(c)

61Swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedigLL+C

(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r Bwrdd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog—

(a)sy’n ymarferydd meddygol cofrestredig, neu

(b)sy’n nyrs gofrestredig neu’n weithiwr iechyd proffesiynol arall.

(3)Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog y mae’n ystyried ei fod yn meddu ar gymwysterau a phrofiad addas o ran darparu gofal iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

(4)Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I156A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I157A. 61 mewn grym ar 4.1.2021 gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(1)

62Swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnarLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlant sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir.

(2)Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar”.

Gwybodaeth Cychwyn

I158A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I159A. 62 mewn grym ar 4.1.2021 gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(1)

Swyddogaethau amrywiolLL+C

63Dyletswydd i gadw darpariaeth ddysgu ychwanegol o dan adolygiadLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol gadw o dan adolygiad y trefniadau a wneir gan yr awdurdod a chan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y graddau y mae’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn ddigonol i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt, gan roi sylw i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a all gael ei threfnu’n rhesymol gan eraill.

(3)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn cynnwys dyletswydd i ystyried—

(a)digonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;

(b)maint a gallu’r gweithlu sydd ar gael.

(4)Os bydd awdurdod lleol yn ystyried nad yw’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) (gan gynnwys y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ar gael yn Gymraeg) yn ddigonol, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i unioni’r mater.

(5)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau, ac ar unrhyw adegau, y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I160A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I161A. 63 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I162A. 63 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I163A. 63 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I164A. 63 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I165A. 63 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I166A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I167A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I168A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I169A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I170A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I171A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I172A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I173A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

64Dyletswydd cyrff iechyd i hysbysu rhieni etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff iechyd a grybwyllir yn is-adran (2), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol ac y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdano, yn ffurfio barn bod gan y plentyn, neu ei bod yn debygol bod gan y plentyn, anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Y cyrff iechyd yw—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)ymddiriedolaeth GIG;

[F1(c)bwrdd gofal integredig;]

(d)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(e)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(3)Rhaid i’r corff iechyd roi gwybod i riant y plentyn am ei farn ac am ei ddyletswydd yn is-adran (4).

(4)Ar ôl rhoi cyfle i’r rhiant i drafod barn y corff iechyd â swyddog o’r corff, rhaid i’r corff iechyd ddwyn y farn i sylw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu, os yw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal, i sylw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, os yw’r corff iechyd wedi ei fodloni y byddai gwneud hynny er lles pennaf y plentyn.

(5)Os yw’r corff iechyd o’r farn bod sefydliad gwirfoddol penodol yn debygol o allu rhoi cyngor neu gymorth arall i’r rhiant mewn cysylltiad ag unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a all fod gan y plentyn, rhaid iddo roi gwybod i’r rhiant yn unol â hynny.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I174A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I175A. 64 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I176A. 64 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I177A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I178A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I179A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I180A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I181A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I182A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I183A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I184A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I185A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I186A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I187A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

65Dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arallLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) arfer swyddogaethau’r person i ddarparu gwybodaeth neu help arall i’r awdurdod, sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person.

(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais.

(4)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol arall;

(b)awdurdod lleol yn Lloegr;

(c)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)perchennog Academi;

(f)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(h)Bwrdd Iechyd Lleol;

(i)ymddiriedolaeth GIG;

[F2(j)GIG Lloegr;]

[F3(k)bwrdd gofal integredig;]

(l)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(m)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(5)Caiff rheoliadau ddarparu, pan fo person o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan yr adran hon, fod rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I188A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I189A. 65 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(h)

I190A. 65 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I191A. 65 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I192A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I193A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I194A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I195A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I196A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I197A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I198A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I199A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I200A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I201A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I202A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

66Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a sefydliadau eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan y Rhan hon ar gyfer plentyn neu berson ifanc.

(2)Mae hawl gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i gael mynediad ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fan lle y darperir addysg neu hyfforddiant ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ym mangre sefydliad a restrir yn is-adran (3) os yw mynediad i’r man hwnnw’n angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon.

(3)Y sefydliadau yw—

(a)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)ysgol a gynhelir yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)Academi;

(e)ysgol arbennig nas cynhelir;

(f)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o dan adran 56.

Gwybodaeth Cychwyn

I203A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I204A. 66 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I205A. 66 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I206A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I207A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I208A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I209A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I210A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I211A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I212A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I213A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I214A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I215A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I216A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22)

67Darparu nwyddau neu wasanaethau mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegolLL+C

(1)Caiff rheoliadau ddarparu i awdurdod lleol gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i—

(a)person sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu

(b)person sy’n gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, ddarparu ar gyfer y telerau a’r amodau y caniateir i nwyddau a gwasanaethau gael eu cyflenwi yn unol â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I217A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I218A. 67 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(f)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources