>Adran 81G DCRhT - Hysbysiad gwrthweithio terfynol
99.Pan fo hysbysiad wedi ei anfon at drethdalwr o dan adran 81F ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau ynghylch yr hysbysiad, mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i ACC ddyroddi “hysbysiad gwrthweithio terfynol” i’r trethdalwr.
100.O dan is-adran (2) rhaid i unrhyw hysbysiad gwrthweithio terfynol a ddyroddir gan ACC ddatgan pa un a yw’r fantais drethiannol i’w gwrthweithio drwy addasiad o dan adran 81E. Wrth benderfynu pa un a yw’r fantais drethiannol i’w gwrthweithio, mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i ACC ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y trethdalwr.
101.Os yw hysbysiad gwrthweithio terfynol yn datgan bod mantais drethiannol i’w gwrthweithio drwy addasiad rhaid i’r hysbysiad hefyd—
pennu’r addasiadau sy’n ofynnol i roi effaith i’r gwrthweithio,
pennu’r diwygiad i’r ffurflen dreth sydd i’w gynnwys yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50 pan fydd ACC yn llunio ei gasgliadau ar yr ymholiad,
oni roddir effaith i’r diwygiad drwy ddiwygio’r ffurflen, nodi neu gynnwys gydag ef asesiad ACC sy’n rhoi effaith i’r addasiad,
pennu unrhyw swm y mae’n ofynnol i’r trethdalwr ei dalu pan fo ACC wedi dod i gasgliad ar ymholiad, neu y mae’n ofynnol iddo ei dalu yn unol ag asesiad a wnaed gan ACC.
102.O dan is-adran (5) pan na fo mantais drethiannol i’w gwrthweithio, rhaid i’r hysbysiad gwrthweithio terfynol nodi’r rhesymau dros benderfyniad ACC.