Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Fe’u lluniwyd gan Swyddfa’r Prif Weinidog a Swyddfa’r Cabinet Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan o’r Ddeddf.

2.Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud y Ddeddf hon yn rhinwedd y darpariaethau yn Rhannau 4 a 4A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraffau 14 ac 16A o Atodlen 7 iddi. Mae’r darpariaethau hyn yn rhoi’r cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas â threthi datganoledig (a ddiffinnir fel trethi a bennir yn Rhan 4A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), statws staff a gyflogir gan gorff sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig, ac mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.