Search Legislation

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Legislation Crest

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

2016 dccc 6

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru; i wneud darpariaeth ynghylch casglu a rheoli trethi datganoledig; ac at ddibenion cysylltiedig.

[25 Ebrill 2016]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Deddf: rhoddwyd pŵer i ddiwygio (9.9.2022) gan Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (asc 2), aau. 1, 9 (ynghyd ag a. 2(4)(5)(6))

RHAN 1LL+CTROSOLWG

1Trosolwg o’r DdeddfLL+C

Mae’r Ddeddf hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei drefniadaeth a’i brif swyddogaethau;

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu trethi datganoledig;

[F1(ba)mae Rhan 3A yn gwneud darpariaeth ynghylch gwrthweithio trefniadau osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig;]

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch pwerau ymchwilio Awdurdod Cyllid Cymru, gan gynnwys darpariaeth ynghylch hysbysiadau sy’n gwneud gwybodaeth yn ofynnol ac ynghylch archwilio mangreoedd;

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosbau mewn perthynas â threthi datganoledig, ac mewn cysylltiad â hynny;

(e)mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth i log fod yn daladwy ar daliadau hwyr i Awdurdod Cyllid Cymru ac ar ad-daliadau gan Awdurdod Cyllid Cymru;

(f)mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch taliadau i Awdurdod Cyllid Cymru ac adennill symiau nas talwyd;

(g)mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau o benderfyniadau Awdurdod Cyllid Cymru ac apelau yn eu herbyn, ac mewn cysylltiad â hynny;

(h)mae Rhan 9 yn rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ynghylch ymchwilio i droseddau sy’n ymwneud â threthi datganoledig;

(i)mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(a)

RHAN 2LL+CAWDURDOD CYLLID CYMRU

Sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, a’i statwsLL+C

2Awdurdod Cyllid CymruLL+C

(1)Bydd corff corfforaethol a adwaenir fel Awdurdod Cyllid Cymru neu the Welsh Revenue Authority.

(2)Yn y Ddeddf hon, cyfeirir at Awdurdod Cyllid Cymru fel “ACC”.

(3)Cyflawnir swyddogaethau ACC ar ran y Goron ac felly mae eiddo, hawliau a rhwymedigaethau ACC yn eiddo, yn hawliau ac yn rhwymedigaethau i’r Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I3A. 2 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

AelodaethLL+C

3AelodaethLL+C

(1)Aelodau ACC yw—

(a)cadeirydd a benodir gan Weinidogion Cymru,

(b)dim llai na 4, na dim mwy nag 8, o bersonau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru,

(c)y prif weithredwr (gweler adran 9),

(d)naill ai 1 neu 2 aelod arall o staff ACC a benodir gan y prif weithredwr, ac

(e)1 aelod arall o staff ACC a benodir o dan adran 6.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi un o’r aelodau a benodir o dan is-adran (1)(b) yn is-gadeirydd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau er mwyn rhoi nifer gwahanol yn lle unrhyw un neu ragor o’r niferoedd a bennir ynddi am y tro; ond rhaid i’r rheoliadau sicrhau bod nifer yr aelodau anweithredol yn parhau i fod yn uwch na nifer yr aelodau gweithredol.

(4)Yn y Rhan hon—

(a)cyfeirir ar y cyd at gadeirydd ac at aelodau o ACC a benodir o dan is-adran (1)(b) fel “aelodau anweithredol”;

(b)cyfeirir ar y cyd at y prif weithredwr ac at aelodau o ACC a benodir o dan is-adran (1)(d) neu o dan adran 6 fel “aelodau gweithredol”;

(c)cyfeirir at yr aelod o ACC a benodir o dan adran 6 fel “aelod gweithredol etholedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I5A. 3 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

4Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredolLL+C

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi yn aelod anweithredol o ACC os yw’r person—

(a)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin, o Dŷ’r Arglwyddi, o Senedd yr Alban neu o Gynulliad Gogledd Iwerddon,

F2(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(d)yn aelod o awdurdod lleol,

(e)yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol,

(f)yn aelod o Lywodraeth Cymru,

(g)yn un o Weinidogion y Goron, yn aelod o Lywodraeth yr Alban neu’n un o Weinidogion Gogledd Iwerddon,

(h)yn gomisiynydd heddlu a throseddu,

(i)yn berson sy’n dal swydd o dan y Goron,

(j)yn berson sydd wedi ei gyflogi gan wasanaeth sifil y Wladwriaeth, neu

(k)yn deiliad swydd, neu’n aelod neu’n aelod o staff corff, a ragnodwyd drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I7A. 4 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

5Telerau aelodaeth anweithredolLL+C

(1)Mae aelod anweithredol o ACC yn dal swydd fel aelod am unrhyw gyfnod ac ar unrhyw delerau a bennir yn nhelerau penodiad yr aelod (ond yn ddarostyngedig i is-adran (4) ac adran 7).

(2)Ni chaiff y cyfnod yn y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 5 mlynedd.

(3)Mae aelod anweithredol o ACC a benodir yn is-gadeirydd yn dal swydd fel is-gadeirydd am unrhyw gyfnod ac ar unrhyw delerau a bennir yn nhelerau penodiad y person yn is-gadeirydd (ond yn ddarostyngedig i is-adran (4) ac adran 7).

(4)Caiff person ymddiswyddo fel aelod anweithredol o ACC, neu fel is-gadeirydd ACC, drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru.

(5)Caniateir ailbenodi person sy’n aelod anweithredol o ACC neu sydd wedi bod yn aelod anweithredol o ACC yn aelod anweithredol unwaith yn unig.

(6)Caniateir ailbenodi person sy’n is-gadeirydd ACC neu sydd wedi bod yn is-gadeirydd ACC yn is-gadeirydd.

(7)Caiff ACC dalu i’w aelodau anweithredol—

(a)unrhyw dâl a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, a

(b)unrhyw symiau a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, i ad-dalu’r treuliau yr aethant iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I9A. 5 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

6Penodi aelod gweithredol etholedigLL+C

(1)Rhaid i ACC gynnal pleidlais gudd ymhlith ei staff at ddiben penodi aelod o staff yn aelod gweithredol etholedig o ACC.

(2)Rhaid i aelodau anweithredol ACC—

(a)penodi enillydd y bleidlais gudd yn aelod gweithredol etholedig o ACC, a

(b)pennu telerau penodiad y person hwnnw.

(3)Mae aelod gweithredol etholedig o ACC yn gwasanaethu fel aelod am ba bynnag gyfnod ac ar ba bynnag delerau a bennir yn nhelerau penodiad yr aelod (ond yn ddarostyngedig i is-adran (4) ac adran 7).

(4)Caiff aelod gweithredol etholedig o ACC ymddiswyddo drwy roi hysbysiad i aelodau anweithredol ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I11A. 6 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

7Diswyddo aelodau etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo person fel aelod anweithredol o ACC drwy roi hysbysiad—

(a)os daw’r person yn anghymwys i’w benodi yn aelod anweithredol yn rhinwedd adran 4,

(b)os yw’r person wedi bod yn absennol o gyfarfodydd ACC am gyfnod hwy na 6 mis heb ganiatâd ACC, neu

(c)os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r person yn addas i fod yn aelod neu nad yw’r person yn gallu neu’n fodlon cyflawni ei swyddogaethau fel aelod.

(2)Caiff aelodau anweithredol ACC ddiswyddo person fel aelod gweithredol etholedig o ACC drwy roi hysbysiad—

(a)os yw’r person wedi bod yn absennol o gyfarfodydd ACC am gyfnod hwy na 6 mis heb ganiatâd ACC, neu

(b)os yw aelodau anweithredol ACC o’r farn nad yw’r person yn addas i fod yn aelod neu nad yw’r person yn gallu neu’n fodlon cyflawni ei swyddogaethau fel aelod.

(3)Mae person yn peidio â bod yn is-gadeirydd ACC pan fydd yn peidio â bod yn aelod anweithredol.

(4)Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol o ACC os daw’r person yn aelod o staff ACC.

(5)Mae person yn peidio â bod yn aelod gweithredol o ACC pan fydd yn peidio â bod yn brif weithredwr neu’n aelod arall o staff ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I13A. 7 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Pwyllgorau a staffLL+C

8Pwyllgorau ac is-bwyllgorauLL+C

(1)Caiff ACC sefydlu pwyllgorau at unrhyw ddiben sy’n ymwneud â’i swyddogaethau.

(2)Caiff ACC bennu cyfansoddiad ei bwyllgorau.

(3)Caiff ACC benodi personau nad ydynt yn aelodau o ACC i fod yn aelodau o bwyllgor, ond nid oes gan y personau hynny hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd y pwyllgor.

(4)Caiff pwyllgor o ACC sefydlu is-bwyllgorau.

(5)Caiff pwyllgor sy’n sefydlu is-bwyllgor bennu ei gyfansoddiad.

(6)Caiff pwyllgor benodi personau nad ydynt yn aelodau o ACC i fod yn aelodau o is-bwyllgor, ond nid oes gan y personau hynny hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd yr is-bwyllgor.

(7)Caiff ACC dalu i unrhyw aelodau o bwyllgor a sefydlir ganddo, neu i unrhyw aelodau o is-bwyllgor a sefydlir gan bwyllgor o’r fath, nad ydynt yn aelodau o ACC—

(a)unrhyw dâl a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, a

(b)unrhyw symiau a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, i ad-dalu’r treuliau yr aethant iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I15A. 8 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

9Prif weithredwr ac aelodau staff eraillLL+C

(1)Bydd prif weithredwr i ACC.

(2)Mae’r prif weithredwr yn atebol am (ymysg pethau eraill) sicrhau bod swyddogaethau ACC yn cael eu cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol.

(3)Mae’r person cyntaf a gyflogir fel prif weithredwr i’w benodi gan Weinidogion Cymru ar unrhyw delerau a bennir ganddynt.

(4)Mae pob prif weithredwr dilynol i’w benodi gan aelodau anweithredol ACC ar unrhyw delerau a bennir ganddynt gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(5)Caiff ACC benodi aelodau staff eraill ar unrhyw delerau a bennir gan ACC gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(6)Mae gwasanaeth fel prif weithredwr ACC neu fel unrhyw aelod arall o staff ACC yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I17A. 9 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Gweithdrefn a dilysrwyddLL+C

10GweithdrefnLL+C

(1)Rhaid i ACC lunio rheolau i reoli ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys ei gworwm) yn ogystal â gweithdrefn unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor.

(2)Rhaid i’r rheolau ddarparu nad oes cworwm mewn cyfarfod o ACC oni bai bod mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol yn aelodau anweithredol o ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I19A. 10 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

11Dilysrwydd trafodion a gweithredoeddLL+C

Nid yw’r materion a ganlyn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw un neu ragor o drafodion neu weithredoedd ACC (nac unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor)—

(a)unrhyw swydd wag ymhlith ei aelodaeth,

(b)unrhyw ddiffyg o ran penodiad aelod, neu

(c)unrhyw aelod anweithredol yn dod yn anghymwys ar gyfer ei benodi yn rhinwedd adran 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I21A. 11 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

SwyddogaethauLL+C

12Prif swyddogaethauLL+C

(1)Swyddogaeth gyffredinol ACC yw casglu a rheoli trethi datganoledig.

(2)Mae gan ACC y swyddogaethau penodol a ganlyn—

(a)darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â threthi datganoledig i Weinidogion Cymru;

(b)darparu gwybodaeth a chymorth yn ymwneud â threthi datganoledig i drethdalwyr datganoledig, eu hasiantiaid a phersonau eraill;

(c)datrys cwynion ac anghydfodau yn ymwneud â threthi datganoledig;

(d)hybu cydymffurfedd â’r gyfraith sy’n ymwneud â threthi datganoledig ac amddiffyn rhag efadu trethi ac osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig.

(3)Rhaid i ACC ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, unrhyw gyngor neu unrhyw gymorth yn ymwneud â’i swyddogaethau y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol o bryd i’w gilydd ar unrhyw ffurf y bydd Gweinidogion Cymru yn ei phennu.

(4)Yn ychwanegol at unrhyw bwerau eraill sydd ganddo, caiff ACC wneud unrhyw beth sydd, yn ei farn ef—

(a)yn angenrheidiol neu’n hwylus mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, neu

(b)yn atodol i arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol i hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I23A. 12 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

13Awdurdodiad mewnol i gyflawni swyddogaethauLL+C

(1)Caiff ACC awdurdodi’r canlynol i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (i unrhyw raddau)—

(a)aelod o ACC,

(b)pwyllgor o ACC neu is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath, neu

(c)prif weithredwr ACC neu unrhyw aelod arall o staff ACC.

(2)Ond ni chaiff ACC awdurdodi pwyllgor neu is-bwyllgor i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (i unrhyw raddau) oni bai bod o leiaf un o aelodau’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor yn aelod anweithredol o ACC.

(3)Nid yw’r awdurdodiad i gyflawni swyddogaeth o dan yr adran hon yn effeithio ar—

(a)gallu ACC i arfer y swyddogaeth, na

(b)cyfrifoldeb ACC dros arfer y swyddogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I25A. 13 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

14Dirprwyo swyddogaethauLL+C

(1)Caiff ACC ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i unrhyw berson a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff ACC roi cyfarwyddydau i berson y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo ynghylch sut y mae’r swyddogaethau dirprwyedig i’w harfer a rhaid i’r person y dirprwywyd y swyddogaethau iddo gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.

(3)Caniateir amrywio neu ddirymu dirprwyaethau neu gyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

(4)Rhaid i ACC gyhoeddi gwybodaeth ynghylch—

(a)dirprwyaethau o dan yr adran hon, a

(b)cyfarwyddydau o dan yr adran hon.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i’r graddau y mae ACC o’r farn y byddai cyhoeddi gwybodaeth yn niweidio ei allu i arfer ei swyddogaethau yn effeithiol.

(6)Nid yw dirprwyo swyddogaeth o dan yr adran hon yn effeithio ar—

(a)gallu ACC i arfer y swyddogaeth, na

(b)cyfrifoldeb ACC dros arfer y swyddogaeth.

(7)Caiff ACC wneud taliadau i berson y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau dirprwyedig gan y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I27A. 14 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

15Cyfarwyddydau cyffredinolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau o natur gyffredinol i ACC.

(2)Rhaid i ACC, wrth arfer ei swyddogaethau, gydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).

(3)Ni chaiff cyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1) ymwneud ag arfer y swyddogaethau yn adrannau 29 na 30.

(4)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I29A. 15 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

GwybodaethLL+C

16Defnydd ACC a’i ddirprwyon o wybodaethLL+C

(1)O ran gwybodaeth sy’n dod i law—

(a)ACC, neu

(b)person y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo,

mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC, caniateir ei defnyddio yn unol ag is-adran (2) yn unig.

(2)Caniateir defnyddio’r wybodaeth—

(a)gan ACC, neu

(b)gan unrhyw berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo,

mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau ACC.

(3)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig sy’n cyfyngu ar y defnydd o wybodaeth neu’n gwahardd ei defnyddio.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I31A. 16 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

17Cyfrinachedd gwybodaeth warchodedig am drethdalwrLL+C

(1)Ni chaiff unigolyn sy’n swyddog perthnasol, neu sydd wedi bod yn swyddog perthnasol, ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr oni bai bod adran 18 yn caniatáu ei datgelu.

(2)Yn yr adran hon ac yn adran 19, ystyr “swyddog perthnasol” yw unigolyn—

(a)sy’n aelod o ACC, yn aelod o bwyllgor o ACC, neu’n aelod o is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath,

(b)sy’n berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo, yn aelod o gorff y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo, yn aelod o bwyllgor o gorff o’r fath neu’n aelod o is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath, neu’n dal swydd mewn corff o’r fath,

(c)sy’n aelod o staff ACC,

(d)sy’n aelod o staff person y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo a gyflogir mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny,

(e)sy’n berson sy’n darparu gwasanaethau i ACC, neu

(f)sy’n berson sy’n darparu gwasanaethau i berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny.

(3)Yn is-adran (1) ac adran 18, ystyr “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr” yw gwybodaeth yn ymwneud â pherson (y “person a effeithir”)—

(a)a ddaeth i law ACC neu a ddaeth i law person y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o swyddogaethau ACC iddo mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, a

(b)y gellir adnabod y person a effeithir ohoni (boed oherwydd bod yr wybodaeth yn nodi pwy yw’r person a effeithir neu oherwydd y gellir casglu pwy ydyw ohoni).

(4)Ond nid yw gwybodaeth yn “wybodaeth warchodedig am drethdalwr” os yw’n wybodaeth am drefniadau gweinyddol mewnol ACC neu berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo (pa un a yw’r wybodaeth yn ymwneud ag aelodau o staff ACC neu staff person o’r fath neu â phersonau eraill).

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I33A. 17 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

18Datgelu a ganiateirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn caniatáu datgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr—

(a)os gwneir hynny gyda chydsyniad pob person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef,

(b)os gwneir hynny er mwyn cael gwasanaethau mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC,

(c)os gwneir hynny at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol neu at ddibenion atal troseddu neu ganfod trosedd,

(d)os gwneir hynny i gorff sydd â chyfrifoldeb am reoleiddio proffesiwn mewn cysylltiad â chamymddwyn ar ran aelod o’r proffesiwn sy’n ymwneud ag un o swyddogaethau ACC,

(e)os gwneir hynny at ddibenion achos sifil,

(f)os gwneir hynny yn unol â gorchymyn llys neu dribiwnlys,

(g)os gwneir hynny yn unol â deddfiad sy’n gwneud ei datgelu yn ofynnol neu’n caniatáu hynny, F3...

(h)os gwneir hynny i ACC neu i berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo ar gyfer ei defnyddio yn unol ag adran 16[F4,]

[F5(i)os gwneir hynny i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, neu

(j)os gwneir hynny i Gyllid yr Alban mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad â chasglu a rheoli treth ddatganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved tax” yn Neddf yr Alban 1998 (p. 46).]

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I35A. 18 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

19Datganiad ynghylch cyfrinacheddLL+C

(1)Rhaid i bob unigolyn sy’n swyddog perthnasol wneud datganiad sy’n cydnabod y rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd o dan adran 17.

(2)Rhaid gwneud datganiad—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penodi’r unigolyn, a

(b)mewn unrhyw ffurf a modd a bennir gan ACC.

(3)At ddibenion is-adran (2)(a)—

(a)nid yw adnewyddu penodiad cyfnod sefydlog i’w drin fel penodiad,

(b)mae unigolyn sydd o fewn adran 17(2)(e) i’w drin fel pe bai wedi ei benodi pan fo’r unigolyn yn darparu’r gwasanaethau a grybwyllir yno gyntaf, ac

(c)os penodwyd unigolyn sydd o fewn adran 17(2)(b), (d) neu (f) (neu os trinnir yr unigolyn fel pe bai wedi ei benodi) cyn dirprwyo’r swyddogaethau o dan sylw, mae’r unigolyn i’w drin fel pe bai’n ofynnol iddo wneud y datganiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dirprwyo’r swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I37A. 19 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

20Y drosedd o ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr ar gamLL+C

(1)Mae unigolyn sy’n datgelu gwybodaeth yn groes i adran 17(1) yn cyflawni trosedd.

(2)Mae’n amddiffyniad i unigolyn a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) brofi bod yr unigolyn yn credu’n rhesymol—

(a)bod adran 18 yn caniatáu datgelu’r wybodaeth, neu

(b)bod yr wybodaeth eisoes wedi ei darparu yn gyfreithlon i’r cyhoedd.

(3)Mae unigolyn sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i garchar am gyfnod nad yw’n [F6wy na’r terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr)] neu i ddirwy (neu’r ddau);

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau).

(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar y gallu i fynd ar drywydd unrhyw rwymedi na chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â thorri adran 17(1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I39A. 20 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Achosion llys a thystiolaethLL+C

21Achosion llysLL+C

(1)Caiff ACC gychwyn achosion troseddol ac achosion sifil yng Nghymru a Lloegr.

(2)Mae gan unigolyn sydd wedi ei awdurdodi i gynnal achosion troseddol neu achosion sifil mewn llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr—

(a)gan ACC, neu

(b)gan berson y mae ACC wedi dirprwyo iddo’r swyddogaeth o awdurdodi cynnal achosion o’r fath,

hawl i wneud hynny er nad yw’n berson a awdurdodir at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p. 29).

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I41A. 21(1) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

I42A. 21(2) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

22TystiolaethLL+C

(1)Mae dogfen yr honnir iddi gael ei dyroddi neu ei llofnodi gan ACC neu gydag awdurdod ACC—

(a)i’w thrin fel pe bai wedi ei dyroddi neu ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb, a

(b)yn dderbyniol mewn unrhyw achos cyfreithiol.

(2)Mae dogfen yr honnir iddi gael ei dyroddi gan ACC ac sy’n ardystio unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir yn is-adran (3) yn dystiolaeth ddigonol o’r ffaith honno oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(3)Y materion yw—

(a)bod person penodedig wedi ei benodi’n aelod o ACC ar ddyddiad penodedig;

(b)bod person penodedig wedi ei benodi’n aelod o staff ACC ar ddyddiad penodedig;

(c)bod aelod penodedig o ACC, ar adeg benodedig neu at ddiben penodedig (neu’r ddau), wedi ei awdurdodi i arfer un o swyddogaethau ACC;

(d)bod pwyllgor penodedig o ACC neu is-bwyllgor penodedig o bwyllgor o’r fath, ar adeg benodedig neu at ddiben penodedig (neu’r ddau), wedi ei awdurdodi i arfer un o swyddogaethau ACC;

(e)ar adeg benodedig neu at ddiben penodedig (neu’r ddau)—

(i)bod aelod penodedig o staff ACC, neu

(ii)bod aelod o ddisgrifiad penodedig o staff ACC,

wedi ei awdurdodi i arfer un o swyddogaethau ACC;

(f)bod un o swyddogaethau ACC, ar adeg benodedig neu at ddiben penodedig (neu’r ddau), wedi ei dirprwyo i berson penodedig arall.

(4)Mae dogfen yr honnir iddi gael ei dyroddi gan ACC neu gydag awdurdod ACC ac sy’n ardystio—

(a)nad yw ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd i ACC wedi ei dychwelyd, neu

(b)nad yw hysbysiad yr oedd yn ofynnol ei roi i ACC wedi ei roi,

yn dystiolaeth ddigonol o’r ffaith honno oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(5)Mae copi o ddogfen a ddyroddwyd gan ACC (neu ar ei ran) neu a ddaeth i law ACC (neu berson sy’n gweithredu ar ei ran), yr ardystiodd ACC (neu yr ardystiwyd ar ei ran) ei fod yn gopi cywir, yn dderbyniol mewn unrhyw achos cyfreithiol i’r un graddau â’r ddogfen ei hun ac mae’n dystiolaeth ddigonol o’r ddogfen honno oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(6)Gweler adran 168 (tystysgrifau dyled) am ddarpariaeth ynghylch ardystio dyled.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I44A. 22 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

ArianLL+C

23CyllidLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru dalu i ACC unrhyw symiau sy’n briodol yn eu barn hwy mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau ACC.

(2)Mae’r taliadau i’w gwneud ar yr adegau, ac yn ddarostyngedig i’r amodau, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I46A. 23 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

24GwobrauLL+C

Caiff ACC roi gwobr i berson yn dâl am wasanaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I48A. 24 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

25Talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol CymruLL+C

(1)Rhaid i ACC dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru.

(2)Ond caiff ACC wneud hynny ar ôl didynnu alldaliadau ar ffurf ad-daliadau o drethi datganoledig (gan gynnwys llog ar ad-daliadau o’r fath) a chredydau mewn cysylltiad â threthi datganoledig.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I50A. 25 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(a)

Siarter safonau a gwerthoeddLL+C

26Siarter safonau a gwerthoeddLL+C

(1)Rhaid i ACC baratoi Siarter.

(2)Rhaid i’r Siarter gynnwys—

(a)safonau gwasanaeth, safonau ymddygiad a gwerthoedd y disgwylir i ACC gadw atynt wrth ymdrin â threthdalwyr datganoledig, eu hasiantiaid a phersonau eraill wrth arfer ei swyddogaethau, a

(b)safonau ymddygiad a gwerthoedd y mae ACC yn disgwyl i drethdalwyr datganoledig, eu hasiantiaid a phersonau eraill gadw atynt wrth ymdrin ag ACC.

(3)Rhaid i ACC—

(a)cyhoeddi’r Siarter,

(b)adolygu’r Siarter—

(i)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y Siarter, a

(ii)wedi hynny, o leiaf unwaith yn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dilyn adolygiad⁠, ac

(c)diwygio’r Siarter pan fo’n briodol gwneud hynny, ym marn ACC, a chyhoeddi’r Siarter ddiwygiedig.

(4)Cyn cyhoeddi’r Siarter neu Siarter ddiwygiedig rhaid i ACC ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn ei farn.

(5)Rhaid i ACC osod y Siarter ac unrhyw Siarter ddiwygiedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Rhaid cyhoeddi’r Siarter gyntaf o fewn 3 mis i’r adran hon ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I52A. 26 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(b)

Cynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol, cyfrifon etc.LL+C

27Cynllun corfforaetholLL+C

(1)Rhaid i ACC, ar gyfer pob cyfnod cynllunio, baratoi cynllun corfforaethol a’i gyflwyno i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r cynllun corfforaethol nodi—

(a)prif amcanion ACC ar gyfer y cyfnod cynllunio,

(b)y canlyniadau y gellir mesur i ba raddau y cyflawnwyd y prif amcanion drwy gyfeirio atynt, ac

(c)y gweithgareddau y mae ACC yn disgwyl ymgymryd â hwy yn ystod y cyfnod cynllunio.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun corfforaethol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a gytunir rhyngddynt hwy ac ACC.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r cynllun corfforaethol, rhaid i ACC—

(a)cyhoeddi’r cynllun, a

(b)gosod copi o’r cynllun gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Caiff ACC, yn ystod y cyfnod cynllunio y mae cynllun corfforaethol yn ymwneud ag ef, adolygu’r cynllun a chyflwyno cynllun corfforaethol diwygiedig i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(6)Mae is-adrannau (2) i (4) yn gymwys i gynllun corfforaethol diwygiedig fel y maent yn gymwys i gynllun corfforaethol.

(7)Ystyr “cyfnod cynllunio” yw—

(a)cyfnod cyntaf a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a

(b)pob cyfnod dilynol o 3 blynedd.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi unrhyw gyfnod arall sy’n briodol yn eu barn hwy yn lle’r cyfnod a bennir am y tro yn is-adran (7)(b).

(9)Rhaid cyflwyno’r cynllun corfforaethol ar gyfer y cyfnod cynllunio cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo yn ddim hwyrach na 6 mis ar ôl sefydlu ACC; a rhaid cyflwyno’r cynllun corfforaethol ar gyfer pob cyfnod cynllunio dilynol cyn dechrau’r cyfnod cynllunio.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I54A. 27 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

28Adroddiad blynyddolLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i ACC—

(a)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y modd yr arferwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno,

(b)anfon copi o’r adroddiad at Weinidogion Cymru, ac

(c)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Rhaid i’r adroddiad gynnwys (yn benodol) asesiad o’r graddau y mae ACC, yn ystod y flwyddyn ariannol, wedi amlygu’r safonau gwasanaeth, y safonau ymddygiad a’r gwerthoedd y mae’r Siarter yn datgan y disgwylir iddo gadw atynt.

(3)Caiff ACC gyhoeddi unrhyw adroddiadau eraill ac unrhyw wybodaeth arall am faterion sy’n berthnasol i’w swyddogaethau ag y bo’n briodol yn ei farn.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I56A. 28 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

29CyfrifonLL+C

(1)Rhaid i ACC—

(a)cadw cofnodion cyfrifo priodol, a

(b)paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru gynnwys (ymysg pethau eraill) gyfarwyddydau o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;

(b)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;

(c)gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r cyfrifon.

(3)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I58A. 29 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

30Datganiad TrethLL+C

(1)Rhaid i ACC baratoi mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, ddatganiad o swm yr arian a gasglwyd ganddo yn ystod y flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (“Datganiad Treth”).

(2)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I60A. 30 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

31ArchwilioLL+C

(1)Rhaid i ACC gyflwyno—

(a)y cyfrifon a baratowyd ar gyfer blwyddyn ariannol, a

(b)y Datganiad Treth ar gyfer blwyddyn ariannol,

i Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddim hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio, ardystio ac adrodd ar y cyfrifon a’r Datganiad Treth, a

(b)yn ddim hwyrach na diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y’u cyflwynir, gosod copi o’r cyfrifon a’r Datganiad Treth ardystiedig, a’r adroddiadau arnynt, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Wrth archwilio’r cyfrifon a gyflwynir o dan yr adran hon, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru fod wedi ei fodloni yn benodol—

(a)yr aed i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n ei lywodraethu, a

(b)nad yw arian a dderbyniwyd at ddiben penodol neu at ddibenion penodol wedi ei wario ar unrhyw beth heblaw’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny.

(4)Wrth archwilio’r Datganiad Treth a gyflwynir o dan yr adran hon, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru fod wedi ei fodloni yn benodol—

(a)bod yr arian a gasglwyd gan ACC, y mae’r Datganiad Treth yn ymwneud ag ef, wedi ei gasglu’n gyfreithlon, a

(b)bod unrhyw alldaliadau a ddidynnwyd wedi eu didynnu yn unol ag adran 25(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I62A. 31 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

32Archwilio’r defnydd o adnoddauLL+C

(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau o’r graddau y defnyddiwyd adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol wrth gyflawni swyddogaethau ACC.

(2)Ond nid yw hynny yn rhoi’r hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu rhinweddau amcanion polisi ACC.

(3)Cyn cynnal archwiliad rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ystyried barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gynhaliwyd o dan yr adran hon, a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I64A. 32 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

33Swyddog cyfrifoLL+C

(1)Prif weithredwr ACC yw swyddog cyfrifo ACC.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifo, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid ACC, y cyfrifoldebau a bennir am y tro gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan yr adran hon yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon ACC a’r Datganiad Treth;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid ACC;

(c)cyfrifoldebau am ddefnyddio adnoddau ACC yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i Weinidogion Cymru neu i un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I66A. 33 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Diwygiadau canlyniadolLL+C

34Cofnodion cyhoeddus CymruLL+C

Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ystyr “Welsh public records”), yn is-adran (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)administrative and departmental records belonging to Her Majesty which are records of or held by the Welsh Revenue Authority;.

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I68A. 34 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

35Yr Ombwdsmon Gwasanaethau CyhoeddusLL+C

Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p. 10) (awdurdodau rhestredig), ar ôl yr eitem yn ymwneud â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewnosoder—

  • Taxation

    • Welsh Revenue Authority.

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I70A. 35 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

36Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

Yn adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3) (darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan adran 31 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mewn cysylltiad â Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru;.

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I72A. 36 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

RHAN 3LL+CFFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 1LL+CTROSOLWG

37Trosolwg o’r RhanLL+C

Mae’r Rhan hon yn ymwneud ag asesu trethi datganoledig ac mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)cadw cofnodion;

(b)ffurflenni treth;

(c)ymholiadau gan ACC i ffurflenni treth;

(d)dyfarniadau gan ACC ynghylch y dreth ddatganoledig sy’n ddyledus os na ddychwelir ffurflen dreth;

(e)asesiadau ACC o’r dreth ddatganoledig sy’n ddyledus [F7ac o symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth];

(f)hawliadau am [F8ryddhad] rhag asesiad dwbl ac ar gyfer ad-dalu treth ddatganoledig;

(g)gwneud hawliadau.

PENNOD 2LL+CDYLETSWYDDAU F9... I GADW COFNODION A’U STORIO’N DDIOGEL

38[F10Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: achosion pan fo’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth]LL+C

(1)Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth—

(a)cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen er mwyn galluogi’r person i [F11ddangos bod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn,]

[F12(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.]

(2)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd yr hwyraf o’r [F13dyddiad] perthnasol—

(a)a’r [F13dyddiad] y cwblheir ymholiad i’r ffurflen dreth (gweler adran 50), neu

(b)os nad oes ymholiad, a’r [F13dyddiad] pan [F14fydd cyfnod yr ymholiad yn dod i ben (gweler adran 43(1A)).]

[F15(3)Ystyr y “dyddiad perthnasol” yw 6 mlynedd i ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad ffeilio, a

(b)os dychwelwyd y ffurflen dreth a’i diwygio wedi hynny o dan adran 41, y dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r diwygiad o dan yr adran honno.

(3A)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, ystyr y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.]

(4)Caniateir pennu [F16dyddiadau] gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran [F17(3A)] .

[F18(5)Yn y Bennod hon, mae “cofnodion” yn cynnwys dogfennau ategol (er enghraifft, cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau).]

F19(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F20(7). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F21(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I74A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I75A. 38 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F2238ADyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: trafodiadau tir nad oes angen dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â hwyLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, ac eithrio trafodiad o fath a restrir yn adran 65(4) o DTTT, nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad ag ef.

(2)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir y mae’r adran hon yn gymwys iddo—

(a)cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen i alluogi’r prynwr i ddangos nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth, a

(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.

(3)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y dyddiad perthnasol.

(4)Y “dyddiad perthnasol” yw chwe mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(5)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.

(6)Caniateir pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran (5).

(7)Yn is-adran (4), mae i’r “dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith” yr un ystyr ag yn DTTT.]

39Storio gwybodaeth etc. yn ddiogelLL+C

[F23(1)] Caiff y ddyletswydd o dan adran 38 [F24neu 38A] i storio cofnodion yn ddiogel ei chyflawni—

(a)drwy eu storio’n ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, neu

(b)drwy storio’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ynddynt yn ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

[F25(2)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I76A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I77A. 39 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F2639APŵer i wneud rheoliadau ynghylch cofnodionLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod y cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan y Bennod hon yn cynnwys cofnodion o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau, neu ddarparu nad ydynt yn cynnwys cofnodion o’r fath.]

PENNOD 3LL+CFFURFLENNI TRETH

Dyddiad ffeilioLL+C

40Ystyr “dyddiad ffeilio”LL+C

[F27Yn Neddfau Trethi Cymru], [F28

(a)ystyr “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth trafodiadau tir, yw’r diwrnod erbyn pryd y mae’n ofynnol dychwelyd y ffurflen o dan DTTT;

(b)mae i “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen dreth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, yr ystyr a roddir gan adran 39(4) o DTGT.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I78A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I79A. 40 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Diwygio a chywiro ffurflenni trethLL+C

41Trethdalwr yn diwygio ffurflen drethLL+C

(1)Caiff person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth ei diwygio drwy roi hysbysiad i ACC.

(2)Rhaid gwneud diwygiad o dan yr adran hon cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol (y cyfeirir ato yn adran 42 fel y “cyfnod diwygio”).

[F29(3)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad ffeilio.

(3A)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn rhagnodi dyddiad arall mewn rheoliadau o dan yr is-adran hon, y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad hwnnw.]

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adrannau 45(3) a 50.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I80A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I81A. 41 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

42ACC yn cywiro ffurflen drethLL+C

(1)Caiff ACC gywiro unrhyw wall neu hepgoriad amlwg mewn ffurflen dreth.

(2)O ran cywiriad o dan yr adran hon—

(a)caiff ei wneud drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth, a

(b)ystyrir ei fod yn rhoi effaith i ddiwygiad i’r ffurflen dreth.

(3)Mae’r cyfeiriad at wall yn is-adran (1) yn cynnwys, er enghraifft, gamgymeriad rhifyddol neu wall o ran egwyddor.

(4)Rhaid gwneud cywiriad o dan yr adran hon cyn diwedd y cyfnod o 9 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dychwelwyd y ffurflen dreth.

[F30(4A)Os yw swm neu swm ychwanegol o dreth ddatganoledig yn daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir o dan yr adran hon, rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu’r swm, neu’r swm ychwanegol, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad.]

(5)Nid oes unrhyw effaith i gywiriad o dan yr adran hon os yw’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth yn ei wrthod—

(a)yn ystod y cyfnod diwygio, drwy ddiwygio’r ffurflen dreth [F31o dan adran 41] er mwyn gwrthod y cywiriad, neu

(b)ar ôl y cyfnod hwnnw, drwy roi hysbysiad sy’n gwrthod y cywiriad.

(6)Rhaid rhoi hysbysiad o dan is-adran (5)(b) i ACC cyn diwedd y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cywiro.

PENNOD 4LL+CYMHOLIADAU ACC

Hysbysiad a chwmpas ymholiadLL+C

43Hysbysiad ymholiadLL+C

(1)Caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth os yw’n dyroddi hysbysiad am y bwriad i wneud hynny (“hysbysiad ymholiad”) i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth cyn diwedd y cyfnod [F32ymholiad (ond gweler is-adran (1B)).]

[F33(1A)Y cyfnod ymholiad ar gyfer ffurflen dreth yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(1B)Ond caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth ar ôl i’r cyfnod ymholiad ddod i ben—

(a)os dychwelir y ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad tir,

(b)ar ôl dychwelyd y ffurflen dreth, os dychwelir ffurflen dreth bellach mewn cysylltiad â’r un trafodiad tir,

(c)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth bellach, a

(d)os yw ACC yn credu bod angen gwneud ymholiad i’r ffurflen dreth a grybwyllir ym mharagraff (a).]

(2)[F34At ddibenion is-adran (1A),] y dyddiad perthnasol yw—

(a)os dychwelwyd y ffurflen dreth ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth, neu

(b)fel arall, y dyddiad ffeilio,

ond os diwygir y ffurflen dreth o dan adran 41, y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod y gwnaed y diwygiad.

(3)Ni chaiff ffurflen dreth a fu’n destun un hysbysiad o dan yr adran hon fod yn destun un arall, ac eithrio hysbysiad a ddyroddir—

[F35(a)o ganlyniad i ddiwygio’r ffurflen dreth o dan adran 41, neu

(b)yn rhinwedd is-adran (1B)]

[F36(4)Yn is-adran (1B), ystyr “ffurflen dreth bellach” yw ffurflen dreth bellach a ddychwelir o dan DTTT.]

44Cwmpas ymholiadLL+C

(1)Mae ymholiad i ffurflen dreth yn cwmpasu unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys yn y ffurflen dreth, neu y mae’n ofynnol ei gynnwys yn y ffurflen dreth—

(a)sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a yw’r dreth ddatganoledig y mae’r ffurflen dreth yn ymwneud â hi i’w chodi ar y person a ddychwelodd y ffurflen dreth, F37...

(b)sy’n ymwneud â swm y dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar y person a ddychwelodd y ffurflen dreth,

[F38(c)sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a oes gan y person a ddychwelodd y ffurflen dreth hawlogaeth i gredyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth, neu

(d)sy’n ymwneud â’r swm o gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo.]

(2)Ond os dyroddir hysbysiad ymholiad o ganlyniad i ddiwygio ffurflen dreth o dan adran 41 ar ôl cwblhau ymholiad i’r ffurflen dreth, mae’r ymholiad wedi ei gyfyngu—

(a)i faterion y mae’r diwygiad yn ymwneud â hwy, a

(b)i faterion y mae’r diwygiad yn effeithio arnynt.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I86A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I87A. 44 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiadLL+C

45Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad er mwyn osgoi colli trethLL+C

(1)Os yw ACC yn dod i’r casgliad, yn ystod y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo—

(a)bod y swm a nodir ar y ffurflen dreth fel swm y dreth ddatganoledig [F39sydd i’w godi] yn annigonol, a

(b)ei bod yn debygol, oni bai y diwygir y ffurflen ar unwaith, y bydd treth ddatganoledig yn cael ei cholli,

caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth er mwyn gwneud iawn am yr annigonolrwydd drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd.

[F40(1A)Os yw ACC, yn ystod y cyfnod pan fo ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo, yn dod i’r casgliad—

(a)bod swm y credyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth yn ormodol, a

(b)ei bod yn debygol, oni chaiff y ffurflen dreth ei diwygio ar unwaith, y collir treth ddatganoledig,

caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd fel nad yw’r swm a hawlir yn ormodol mwyach.]

(2)Os yw’r ymholiad yn un sydd wedi ei gyfyngu gan adran 44(2) i faterion sy’n deillio o ddiwygiad i’r ffurflen dreth,

[F41(a)]nid yw is-adran (1) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r annigonolrwydd i’r diwygiad [F42, a

(b)nid yw is-adran (1A) yn gymwys ond i’r graddau y mae’r swm gormodol i’w briodoli i’r diwygiad.]

(3)Os dyroddir hysbysiad o dan [F43neu (1A)], ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan 41.

(4)Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu unrhyw swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y diwygiad.

(5)At ddibenion yr adran hon ac [F44adrannau 45A a 46] y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo yw’r cyfnod cyfan—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad ymholiad ynghylch y ffurflen dreth, a

(b)sy’n dod i ben â’r diwrnod y cwblheir yr ymholiad (gweler adran 50).

[F4545ATrethdalwr yn diwygio ffurflen dreth pan fydd ymholiad yn mynd rhagddoLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth yn ei diwygio yn ystod y cyfnod pan fydd ymholiad i’r ffurflen dreth yn mynd rhagddo.

(2)At ddibenion adran 44 (cwmpas ymholiad), mae’r diwygiad i’w drin fel rhywbeth a gynhwysir ar y ffurflen dreth.

(3)Mae’r diwygiad yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r ymholiad yn cael ei gwblhau oni bai bod ACC yn datgan yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50—

(a)bod y diwygiad wedi ei ystyried wrth lunio’r diwygiadau sy’n ofynnol i roi effaith i gasgliadau ACC, neu

(b)mai casgliad ACC yw bod y diwygiad yn anghywir.]

Atgyfeirio yn ystod ymholiadLL+C

46Atgyfeirio cwestiynau at dribiwnlys yn ystod ymholiadLL+C

(1)Ar unrhyw adeg pan fo ymholiad yn mynd rhagddo caniateir i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth ac ACC, ar y cyd, atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â chynnwys y ffurflen dreth at y tribiwnlys.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys ddyfarnu ynghylch unrhyw gwestiwn a atgyfeirir iddo.

(3)Caniateir gwneud mwy nag un atgyfeiriad o dan yr adran hon mewn perthynas ag ymholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I90A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I91A. 46 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

47Tynnu atgyfeiriad yn ôlLL+C

Caiff ACC neu’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dynnu atgyfeiriad a wnaed o dan adran 46 yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I92A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I93A. 47 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

48Effaith atgyfeirio ar ymholiadLL+C

(1)Tra bo achos ynghylch atgyfeiriad o dan adran 46 yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ymholiad—

(a)ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mewn perthynas â’r ymholiad (gweler adran 50), a

(b)ni chaniateir gwneud cais am gyfarwyddyd i ddyroddi hysbysiad cau (gweler adran 51).

(2)Mae achos ynghylch atgyfeiriad yn mynd rhagddo—

(a)pan fo atgyfeiriad wedi ei wneud a heb ei dynnu’n ôl, a

(b)pan na fo dyfarniad terfynol wedi ei wneud ynghylch y cwestiwn a atgyfeiriwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I94A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I95A. 48 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

49Effaith dyfarniadLL+C

(1)Mae dyfarniad o dan adran 46 yn rhwymo’r partïon i’r atgyfeiriad yn yr un ffordd, ac i’r un graddau, â phenderfyniad ar fater rhagarweiniol mewn apêl.

(2)Rhaid i ACC roi ystyriaeth i’r dyfarniad—

(a)wrth ddod i gasgliadau ynghylch yr ymholiad, a

(b)wrth lunio unrhyw ddiwygiadau i’r ffurflen dreth a all fod yn ofynnol er mwyn rhoi effaith i’r casgliadau hynny.

(3)Ni chaniateir ailedrych yn ystod apêl ar y cwestiwn y dyfarnwyd yn ei gylch, ac eithrio i’r graddau y gellid ailedrych arno os dyfarnwyd yn ei gylch fel mater rhagarweiniol mewn apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I96A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I97A. 49 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Cwblhau ymholiadLL+C

50Cwblhau ymholiadLL+C

(1)Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau”) i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth yn datgan—

(a)bod yr ymholiad wedi ei gwblhau, a

(b)casgliadau’r ymholiad.

(2)Rhaid i hysbysiad cau naill ai—

(a)datgan nad yw’n ofynnol diwygio’r ffurflen dreth ym marn ACC, neu

(b)gwneud y diwygiadau i’r ffurflen dreth sy’n ofynnol er mwyn rhoi effaith i gasgliadau ACC.

(3)Pan ddyroddir hysbysiad cau sy’n gwneud diwygiadau i ffurflen dreth, ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan adran 41.

(4)Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig [F46sy’n daladwy] o ganlyniad i ddiwygiad a wnaed gan hysbysiad cau cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I98A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I99A. 50 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

51Cyfarwyddyd i gwblhau ymholiadLL+C

(1)Caiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi o fewn cyfnod penodedig.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon fod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â rhoi hysbysiad cau o fewn y cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I100A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I101A. 51 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 5LL+CDYFARNIADAU ACC

52Dyfarniad o’r dreth sydd i’w chodi os na ddychwelir ffurflen drethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo gan ACC reswm i gredu bod treth ddatganoledig i’w chodi ar berson,

(b)pan na fo’r person wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi, ac

(c)pan fo’r dyddiad ffeilio perthnasol wedi mynd heibio.

(2)Ystyr “y dyddiad ffeilio perthnasol” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu yr oedd yn ofynnol dychwelyd ffurflen dreth.

(3)Caiff ACC wneud dyfarniad (“dyfarniad ACC”) ynghylch swm y dreth ddatganoledig sydd i’w chodi ar y person, ym marn ACC.

(4)Rhaid dyroddi hysbysiad am y dyfarniad i’r person.

(5)Rhaid i’r person dalu’r dreth ddatganoledig sy’n daladwy [F47yn unol â dyfarniad] ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y dyfarniad.

(6)Ni chaniateir gwneud dyfarniad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol.

(7)Y dyddiad perthnasol yw—

(a)y dyddiad ffeilio perthnasol, neu

(b)unrhyw ddyddiad arall y caiff Gweinidogion Cymru ei ragnodi drwy reoliadau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I102A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I103A. 52 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

53Ffurflen dreth yn disodli dyfarniadLL+C

(1)Os yw’r person yr oedd gan ACC reswm i gredu bod treth ddatganoledig i’w chodi arno yn dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r dreth ar ôl i ddyfarniad ACC gael ei wneud, mae’r ffurflen yn disodli’r dyfarniad.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i ffurflen dreth a ddychwelwyd—

(a)dros 4 blynedd ar ôl i’r pŵer i wneud dyfarniad ACC ddod yn arferadwy gyntaf, neu

(b)dros 12 mis ar ôl y diwrnod y dyroddwyd hysbysiad am y dyfarniad,

pa un bynnag sydd hwyraf.

(3)Pan fo—

(a)achos wedi ei gychwyn i adennill unrhyw dreth ddatganoledig a godwyd gan ddyfarniad ACC, a

(b)ffurflen dreth yn disodli’r dyfarniad cyn i’r achos ddod i ben,

caniateir parhau â’r achos fel pe bai’n achos i adennill cymaint o’r dreth ddatganoledig a godir gan y ffurflen dreth ag y mae’n ofynnol ei dalu ac nad yw wedi ei dalu eto.

Gwybodaeth Cychwyn

I104A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I105A. 53 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 6LL+CASESIADAU ACC

Asesu treth a gollir neu ad-daliad gormodolLL+C

54Asesu treth a gollirLL+C

Os daw ACC i’r casgliad—

(a)nad aseswyd swm o dreth ddatganoledig y dylid bod wedi ei asesu fel treth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson,

(b)bod asesiad o’r dreth ddatganoledig sydd i’w chodi ar berson yn annigonol neu wedi dod yn annigonol, neu

(c)bod [F48rhyddhad] mewn perthynas â threth ddatganoledig wedi ei hawlio neu wedi ei roi, sy’n ormodol neu wedi dod yn ormodol,

caiff ACC asesu’r swm neu’r swm pellach y dylid ei godi yn ei farn ef er mwyn gwneud iawn am y dreth ddatganoledig a gollir.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I106A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I107A. 54 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

55Asesiad i adennill ad-daliad treth gormodolLL+C

(1)Os ad-dalwyd swm o dreth ddatganoledig i berson, ond na ddylid bod wedi ei ad-dalu iddo, caniateir asesu ac adennill y swm hwnnw fel pe bai’n dreth ddatganoledig nas talwyd.

(2)Os gwnaed yr ad-daliad gyda llog, caiff y swm a asesir ac a adenillir gynnwys swm y llog na ddylid bod wedi ei dalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I108A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I109A. 55 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F4955A.Asesiad mewn perthynas â chredyd trethLL+C

Os yw ACC yn dod i’r casgliad—

(a)mewn perthynas â swm o gredyd treth sydd wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i berson ei dalu—

(i)na ddylid fod wedi ei osod yn erbyn y swm o dreth, neu

(ii)ei fod wedi mynd yn ormodol,

(b)mewn perthynas â swm a dalwyd i berson mewn cysylltiad â chredyd treth—

(i)na ddylid fod wedi ei dalu, neu

(ii)ei fod wedi mynd yn ormodol, neu

(c)nad yw swm y mae’n ofynnol i berson ei dalu i ACC mewn cysylltiad â chredyd treth wedi ei dalu,

caiff ACC wneud asesiad o’r swm y dylid bod wedi ei dalu i ACC, ym marn ACC, er mwyn unioni’r mater.]

56Cyfeiriadau at “asesiad ACC”LL+C

Yn y Ddeddf hon, ystyr “asesiad ACC” yw asesiad o dan adran 54 [F50, 55 neu 55A].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I110A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I111A. 56 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Gwneud asesiadau ACCLL+C

57Cyfeiriadau at y “trethdalwr”LL+C

Yn adrannau 58 i 61, ystyr “trethdalwr” yw—

(a)mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 54, y person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno,

(b)mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 55 [F51neu 55A], y person a grybwyllir yno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I112A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I113A. 57 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

58Amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACCLL+C

(1)O ran asesiad ACC—

(a)caniateir ei wneud yn y [F52pedwar] achos a bennir yn is-adrannau [F53(2), (3) [F54, (3A) a (3B)]] yn unig, a

(b)ni chaniateir ei wneud yn yr amgylchiadau a bennir yn is-adran (4).

(2)Yr achos cyntaf yw pan fo’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 wedi ei pheri’n ddiofal neu’n fwriadol gan—

(a)y trethdalwr,

(b)person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu

(c)person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.

[F55(3)Yr ail achos yw—

(a)pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,

(b)pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac

(c)ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.]

[F56(3A)Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).]

[F57(3B)Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.]

(4)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC [F58yn yr achos cyntaf na’r ail achos]

(a)os gellir priodoli’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 i gamgymeriad [F59mewn ffurflen dreth] o ran ar ba sail y dylid bod wedi cyfrifo’r rhwymedigaeth i’r dreth ddatganoledig, a

(b)os gwnaed y camgymeriad oherwydd bod y ffurflen dreth wedi ei dychwelyd ar y sail a oedd yn bodoli ar yr adeg y’i dychwelwyd, neu yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol bryd hynny.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I114A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I115A. 58 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

59Terfynau amser ar gyfer asesiadau ACCLL+C

(1)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol [F60mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b)] .

(2)Ond caniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 6 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F61, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n ddiofal gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.

(3)A chaniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 20 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F62, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n fwriadol gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.

(4)Nid yw asesiad ACC o dan adran 55 oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr ad-daliad o dan sylw.

[F63(4A)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—

(a)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a

(b)fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.]

(5)Os yw’r trethdalwr wedi marw—

(a)rhaid gwneud unrhyw asesiad ACC o’r cynrychiolwyr personol cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â dyddiad y farwolaeth, a

(b)ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn perthynas â dyddiad perthnasol dros 6 mlynedd cyn y dyddiad hwnnw.

(6)Ni ellir gwrthwynebu gwneud asesiad ACC ar y sail fod y terfyn amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio ond fel rhan o adolygiad o’r asesiad neu apêl yn ei erbyn.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) [F64, mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55,] yw—

    (za)

    [F65os na ddychwelwyd ffurflen dreth, y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd ffurflen dreth,]

    (a)

    os dychwelwyd [F66ffurflen dreth] ar ôl y dyddiad ffeilio, y diwrnod y dychwelwyd y ffurflen dreth, neu

    (b)

    fel arall, y dyddiad ffeilio;

  • [F67ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), yw—

    (a)

    pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, y dyddiad ffeilio;

    (b)

    pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth;

    (c)

    pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod y gwnaed yr hawliad.]

  • ystyr “person cysylltiedig” (“related person”), mewn perthynas â’r trethdalwr, yw⁠—

    (a)

    person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu

    (b)

    person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I116A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I117A. 59 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

60Sefyllfaoedd sydd wedi eu peri’n ddiofal neu’n fwriadolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 58 a 59.

(2)Caiff sefyllfa ei pheri’n ddiofal gan berson os yw’r person yn methu â chymryd gofal rhesymol i osgoi peri’r sefyllfa honno.

(3)Pan fo—

(a)gwybodaeth yn cael ei darparu i ACC,

(b)y person a ddarparodd yr wybodaeth, neu’r person y’i darparwyd ar ei ran, yn darganfod yn nes ymlaen bod yr wybodaeth yn anghywir, ac

(c)y person hwnnw yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC,

mae unrhyw sefyllfa sy’n cael ei pheri gan yr anghywirdeb i’w thrin fel pe bai wedi ei pheri’n ddiofal gan y person hwnnw.

(4)Mae cyfeiriadau at sefyllfa sy’n cael ei pheri’n fwriadol gan berson yn cynnwys sefyllfa sy’n cael ei pheri o ganlyniad i anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I118A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I119A. 60 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

61Y weithdrefn asesuLL+C

(1)Rhaid dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr am asesiad ACC.

(2)Rhaid talu’r swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad.

F68(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I120A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I121A. 61 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 7LL+C[F69RHYDDHAD] YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD

Asesiad dwblLL+C

62Hawlio ymwared yn achos asesiad dwblLL+C

Caiff person sy’n credu bod treth ddatganoledig wedi ei hasesu ar y person hwnnw fwy nag unwaith mewn perthynas â’r un mater wneud hawliad i ACC am ymwared rhag unrhyw dreth a godir ddwywaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I122A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I123A. 62 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Treth a ordalwyd etc.LL+C

63Hawlio [F70rhyddhad] rhag treth a ordalwyd etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo person wedi talu swm o dreth ddatganoledig ond yn credu nad oedd y dreth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

(b)pan aseswyd bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, neu pan fo dyfarniad [F71ACC] wedi ei wneud bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, ond bod y person yn credu na ddylid codi’r dreth ddatganoledig arno.

(2)Caiff y person wneud hawliad i ACC ad-dalu’r swm neu [F72ollwng y swm].

(3)Pan fo’r adran hon yn gymwys, nid yw ACC yn rhwym i roi [F73rhyddhad] ac eithrio fel y darperir yn y Rhan hon neu drwy neu o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau eraill [F74Deddfau Trethi Cymru].

(4)At ddibenion yr adran hon ac adrannau [F7563A] i 81, trinnir swm a delir gan un person ar ran person arall fel swm a dalwyd gan y person arall.

[F7663AHawlio rhyddhad mewn cysylltiad â threth trafodiadau tir: rheoliadau yn peidio â chael effaithLL+C

(1)Os yw—

(a)yn rhinwedd adran 26(2) o DTTT, y bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir mewn rheoliadau a wrthodir yn gymwys i drafodiad trethadwy, a

(b)o ganlyniad, swm y dreth trafodiadau tir sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi fel arall,

caiff y prynwr yn y trafodiad wneud hawliad i ACC am ollwng neu ad-dalu’r swm o dreth trafodiadau tir na fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.

(2)Pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i hawliad o dan is-adran (1) rhaid iddo hefyd ollwng neu ad-dalu unrhyw gosb neu log sy’n perthyn i’r swm o dreth a ollyngir neu a ad-delir.

(3)Mae unrhyw gosb neu log yn perthyn i swm o dreth at y diben hwn i’r graddau⁠—

(a)y mae i’w phriodoli neu i’w briodoli i’r swm, a

(b)na fyddid wedi mynd iddo oni bai am gymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir i’r trafodiad o dan sylw.

(4)Rhaid i hawliad o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r hwyraf o—

(a)y dyddiad y mae’r rheoliadau a wrthodir yn peidio â chael effaith, neu

(b)dyddiad ffeilio ffurflen dreth sy’n cynnwys asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gyfrifir gan ddefnyddio’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir.

(5)Mae hawliad o dan is-adran (1) i’w drin fel pe bai’n ddiwygiad a wneir o dan adran 41 i’r asesiad o’r dreth sydd i’w chodi sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen dreth.

(6)Yn yr adran hon—

  • mae i “rheoliadau a wrthodir” (“rejected regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 26(1)(a) o DTTT;

  • mae i “trafodiad trethadwy” (“chargeable transaction”) yr ystyr a roddir gan adran 17 o’r Ddeddf honno.]

Cyfoethogi anghyfiawnLL+C

64[F77Gwrthod hawliadau am ryddhad oherwydd cyfoethogi anghyfiawn]LL+C

Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am [F78ryddhad] a wneir o dan adran 63 [F79neu 63A] pe byddai ad-dalu neu [F80ollwng y] swm yn cyfoethogi’r hawlydd yn annheg, neu i’r graddau y byddai’n gwneud hynny.

65Cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellachLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo swm a dalwyd ar ffurf treth ddatganoledig a fyddai (ar wahân i adran 64) i’w ad-dalu i unrhyw berson (“y trethdalwr”) neu [F81i’w ollwng], a

(b)pan fo holl gost neu ran o gost talu’r swm hwnnw i ACC wedi ei hysgwyddo, at ddibenion ymarferol, gan berson heblaw’r trethdalwr.

(2)Pan fo, mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo, golled neu niwed wedi dod i ran y trethdalwr, neu y gallai colled neu niwed ddod i’w ran, o ganlyniad i ragdybiaethau anghywir a wnaed yn achos y trethdalwr am y ffordd y mae unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â threth ddatganoledig yn gweithredu, mae’r golled honno i’w diystyru neu’r niwed hwnnw i’w ddiystyru, ac eithrio i raddau’r swm sydd wedi ei feintioli, wrth wneud unrhyw ddyfarniad—

(a)o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai ad-dalu swm i’r trethdalwr neu [F82ollwng y swm] yn cyfoethogi’r trethdalwr, neu

(b)o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai unrhyw gyfoethogiad o ran y trethdalwr yn annheg.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y swm sydd wedi ei feintioli” yw’r swm (os o gwbl) y mae’r trethdalwr yn dangos ei fod y swm a fyddai’n digolledu’r trethdalwr yn briodol am golled neu niwed y dengys y trethdalwr iddo ddod i ran y trethdalwr yn sgil gwneud y rhagdybiaethau anghywir.

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at ddarpariaethau sy’n ymwneud â threth ddatganoledig yn gyfeiriad at unrhyw ddarpariaethau—

(a)mewn unrhyw ddeddfiad neu [F83ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir] (boed mewn grym o hyd ai peidio) sy’n berthnasol i’r dreth ddatganoledig neu i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â hi, neu

(b)mewn unrhyw hysbysiad a gyhoeddir gan ACC o dan neu at ddibenion unrhyw ddeddfiad o’r fath.

66Cyfoethogi anghyfiawn: trefniadau talu’n ôlLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i drefniadau talu’n ôl a wneir gan unrhyw berson gael eu diystyru at ddibenion adran 64 ac eithrio pan fo’r trefniadau—

(a)yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi gan y rheoliadau, a

(b)wedi eu cefnogi gan unrhyw ymrwymiadau i gydymffurfio â darpariaethau’r trefniadau ag y bo’n ofynnol eu rhoi i ACC yn ôl y rheoliadau.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “trefniadau talu’n ôl” yw unrhyw drefniadau at ddibenion hawliad o dan adran 63 [F84neu 63A]

(a)a wneir gan unrhyw berson at ddiben sicrhau na chaiff y person ei gyfoethogi’n annheg yn sgil ad-dalu neu [F85ollwng] unrhyw swm yn unol â’r hawliad, a

(b)sy’n darparu ar gyfer talu’n ôl i bersonau sydd at ddibenion ymarferol wedi ysgwyddo holl gost neu ran o gost y taliad gwreiddiol o’r swm hwnnw i ACC.

(3)Mae’r ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi drwy reoliadau o dan yr adran hon ar gyfer ei chynnwys mewn trefniadau talu’n ôl yn cynnwys yn benodol—

(a)darpariaeth sy’n gwneud taliad yn ôl o’r math a ddarperir ar ei gyfer yn y trefniadau yn ofynnol o fewn unrhyw gyfnod ar ôl yr ad-daliad y mae’n ymwneud ag ef a bennir yn y rheoliadau;

(b)darpariaeth ar gyfer ad-dalu symiau i ACC pan na fo’r symiau hynny yn cael eu talu’n ôl yn unol â’r trefniadau;

(c)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod llog a delir gan ACC ar unrhyw swm a ad-delir ganddo i’w drin yn yr un ffordd â’r swm hwnnw at ddibenion unrhyw ofyniad o dan y trefniadau i dalu personau yn ôl neu i ad-dalu ACC;

(d)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â dilyn y trefniadau a ddisgrifir yn y rheoliadau yn cael eu cadw a’u darparu i ACC.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon osod rhwymedigaethau ar bersonau a bennir yn y rheoliadau—

(a)i wneud yr ad-daliadau i ACC y mae’n ofynnol iddynt eu gwneud yn unol ag unrhyw ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau talu’n ôl yn rhinwedd is-adran (3)(b) neu (c);

(b)i gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau o’r fath yn rhinwedd is-adran (3)(d).

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch ym mha ffurf a modd, a phryd, y mae ymrwymiadau i’w rhoi i ACC yn unol â’r rheoliadau a chaiff unrhyw ddarpariaeth o’r fath ganiatáu i ACC benderfynu ynghylch y materion hynny yn unol â’r rheoliadau.

(6)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch cosbau pan fo person yn torri rhwymedigaeth a osodir yn rhinwedd is-adran (4).

(7)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth yn benodol—

(a)ynghylch yr amgylchiadau pan gyfyd rhwymedigaeth i gosb;

(b)ynghylch symiau cosbau;

(c)ar gyfer cosbau penodedig, cosbau dyddiol a chosbau a gyfrifir drwy gyfeirio at symiau’r ad-daliadau y byddai’r person wedi bod yn agored i’w gwneud i ACC pe byddai’r rhwymedigaeth wedi ei thorri;

(d)ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau;

(e)ynghylch adolygiadau o gosbau neu apelau yn eu herbyn;

(f)ynghylch gorfodi cosbau.

(8)Ond ni chaiff y rheoliadau greu troseddau.

(9)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (6) ddiwygio unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).

(10)Nid yw rheoliadau a wneir felly yn gymwys i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I130A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I131A. 66 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Seiliau eraill dros wrthod hawliadauLL+C

67Achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliadLL+C

(1)Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am [F86ryddhad] a wneir o dan adran 63 os yw’r hawliad yn dod o fewn achos a ddisgrifir yn yr adran hon, neu i’r graddau y mae’n gwneud hynny.

(2)Achos 1 yw pan fo’r swm o dreth ddatganoledig a dalwyd, neu sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd—

(a)camgymeriad mewn hawliad [F87neu ddewis], neu

(b)camgymeriad o ran gwneud [F88hawliad neu ddewis, neu fethu â gwneud hawliad neu ddewis].

[F89(2A)Yn is-adran (2), ystyr “dewis” yw dewis a wneir o dan baragraff 3, 5 neu 12 o Atodlen 15 i DTTT (rhyddhadau sy’n ymwneud â thai cymdeithasol).]

(3)Achos 2 yw pan fo’r hawlydd yn gallu ceisio [F90rhyddhad] drwy gymryd camau eraill o dan y Rhan hon, neu pan fydd yn gallu gwneud hynny.

(4)Achos 3 yw—

(a)pan allai’r hawlydd fod wedi ceisio [F91rhyddhad] drwy gymryd camau o’r fath o fewn cyfnod sydd wedi dod i ben erbyn hyn, a

(b)pan wyddai’r hawlydd neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod [F91rhyddhad] o’r fath ar gael.

(5)Achos 4 yw pan wneir yr hawliad ar seiliau—

(a)sydd wedi eu rhoi gerbron y tribiwnlys yn ystod apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, neu

(b)sydd wedi eu rhoi gerbron ACC yn ystod adolygiad gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei ddyfarnu gan y tribiwnlys yn rhinwedd adran 184.

(6)Achos 5 yw pan wyddai’r hawlydd, neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, am y seiliau ar gyfer yr hawliad cyn y diweddaraf o’r canlynol—

(a)y diwrnod pan ddyfarnodd y tribiwnlys ynghylch apêl berthnasol y gellid bod wedi cyflwyno’r sail fel rhan ohoni (neu’r dyddiad y mae i’w thrin fel pe bai wedi ei dyfarnu felly);

(b)y diwrnod pan dynnodd yr hawlydd apêl berthnasol i’r tribiwnlys yn ôl;

(c)diwedd y cyfnod pan oedd gan yr hawlydd hawl i wneud apêl berthnasol i’r tribiwnlys.

(7)Yn is-adran (6), ystyr “apêl berthnasol” yw apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu.

(8)Achos 6 yw pan dalwyd y swm o dan sylw neu pan fo’n agored i’w dalu—

(a)o ganlyniad i achos sy’n gorfodi talu’r swm hwnnw a ddygwyd yn erbyn yr hawlydd gan ACC, neu

(b)yn unol â chytundeb rhwng yr hawlydd ac ACC sy’n setlo achos o’r fath.

(9)Achos 7 yw—

(a)pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo rhwymedigaeth yr hawlydd i dreth ddatganoledig, a

(b)pan wnaed y camgymeriad oherwydd bod rhwymedigaeth wedi ei chyfrifo yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd.

(10)Nid yw achos 7 yn gymwys pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn dreth ddatganoledig sydd wedi ei chodi’n groes i gyfraith yr UE.

(11)At ddibenion is-adran (10), caiff swm o dreth ddatganoledig ei chodi’n groes i gyfraith yr UEF92...—

(a)[F93os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i’r darpariaethau] sy’n ymwneud â rhydd symudiad nwyddau, personau, gwasanaethau a chyfalaf yn Nheitlau II a IV o Ran 3 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, [F94a]

[F95(b)os yw’r hawliau a roddir gan y darpariaethau hynny, ar yr adeg y codir y dreth, yn cael eu cydnabod ac ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf honno.]

[F96(12)Achos 8 yw—

(a)pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a

(b)pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I132A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I133A. 67 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 8LL+CGWEITHDREFN AR GYFER GWNEUD HAWLIADAU ETC.

68Gwneud hawliadauLL+C

(1)Rhaid gwneud hawliad o dan adran 62 [F97, 63 neu 63A] ar unrhyw ffurf a bennir gan ACC.

(2)Rhaid i’r ffurflen hawlio ddarparu ar gyfer datganiad i’r perwyl bod yr holl fanylion a roddwyd ar y ffurflen wedi eu datgan yn gywir hyd eithaf gwybodaeth a chred yr hawlydd.

(3)Caiff y ffurflen hawlio wneud y canlynol yn ofynnol—

(a)datganiad o’r swm o dreth ddatganoledig y bydd yn ofynnol ei [F98ollwng] neu ei ad-dalu er mwyn rhoi effaith i’r hawliad;

(b)unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol at ddiben penderfynu a yw’r hawliad yn gywir, ac os felly, i ba raddau y mae’n gywir;

(c)darparu gyda’r hawliad unrhyw ddatganiadau a dogfennau, sy’n ymwneud â’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr hawliad, sy’n rhesymol ofynnol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (b).

(4)Ni chaniateir hawlio ad-daliad o dreth ddatganoledig oni bai bod gan yr hawlydd dystiolaeth ddogfennol bod y dreth ddatganoledig wedi ei thalu.

(5)Ni chaniateir gwneud hawliad o dan adran 63 drwy ei gynnwys mewn ffurflen dreth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I134A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I135A. 68 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

69Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n gwneud hawliad o dan adran 62 [F99, 63 neu 63A]

(a)bod wedi cadw unrhyw gofnodion y mae eu hangen er mwyn galluogi’r person i wneud hawliad cywir a chyflawn, a

(b)storio’r cofnodion hynny yn ddiogel yn unol â’r adran hon.

(2)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd yr olaf o’r canlynol—

(a)(ac eithrio pan fo paragraff (b) neu (c) yn gymwys) diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr hawliad;

(b)pan fo ymholiad i’r hawliad, neu i ddiwygiad i’r hawliad, y diwrnod y cwblheir yr ymholiad;

(c)pan fo’r hawliad wedi ei ddiwygio ac nad oes ymholiad i’r diwygiad, y diwrnod pan fo pŵer ACC i gynnal ymholiad i’r diwygiad yn dod i ben.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)darparu bod y cofnodion y mae’n ofynnol eu cadw a’u storio’n ddiogel o dan yr adran hon yn cynnwys cofnodion o ddisgrifiad a ragnodir gan y rheoliadau, neu ddarparu nad ydynt yn cynnwys cofnodion o’r fath;

(b)rhagnodi disgrifiadau o ddogfennau ategol y mae’n ofynnol eu cadw o dan yr adran hon.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddir gan ACC yn unol â’r rheoliadau (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl gan hysbysiad dilynol).

(5)Mae “dogfennau ategol” yn cynnwys cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I136A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I137A. 69(1)(2)(5) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

I138A. 69(3)(4) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

70Storio gwybodaeth etc. yn ddiogelLL+C

Caiff y ddyletswydd o dan adran 69 i storio cofnodion yn ddiogel ei bodloni—

(a)drwy eu storio’n ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, neu

(b)drwy storio’r wybodaeth sydd ynddynt yn ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I139A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I140A. 70 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

71Hawlydd yn diwygio hawliadLL+C

(1)Caiff person sydd wedi gwneud hawliad o dan adran 62 [F100, 63 neu 63A] ddiwygio’r hawliad drwy roi hysbysiad i ACC.

(2)Ni chaniateir gwneud diwygiad o’r fath—

(a)dros 12 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu

(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a

(ii)sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I141A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I142A. 71 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

72ACC yn cywiro hawliadLL+C

(1)Caiff ACC ddiwygio hawliad drwy ddyroddi hysbysiad i’r hawlydd er mwyn cywiro gwallau neu hepgoriadau amlwg yn yr hawliad (boed wallau o ran egwyddor, camgymeriadau rhifyddol neu fel arall).

(2)Ni chaniateir gwneud cywiriad o’r fath—

(a)dros 9 mis ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad, neu

(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 74, yn ystod y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad, a

(ii)sy’n dod i ben â’r diwrnod y caiff yr ymholiad o dan yr adran honno ei gwblhau.

(3)Nid oes unrhyw effaith i gywiriad o dan yr adran hon os yw’r hawlydd, o fewn y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad, yn rhoi hysbysiad i ACC yn gwrthod y cywiriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I143A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I144A. 72 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

73Rhoi effaith i hawliadau a diwygiadauLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i hawliad gael ei wneud, ei ddiwygio neu ei gywiro⁠—

(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r hawlydd, a

(b)pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad (boed yn rhannol neu’n llawn), rhaid iddo wneud hynny drwy [F101ollwng y swm o dreth ddatganoledig neu ei ad-dalu i’r hawlydd].

(2)Pan fo ACC yn gwneud ymholiad ynghylch hawliad neu ddiwygiad—

(a)nid yw is-adran (1) yn gymwys hyd oni ddyroddir hysbysiad cau o dan adran 75, ac yna mae’n gymwys yn ddarostyngedig i adran 77, ond

(b)caiff ACC roi effaith i’r hawliad neu’r diwygiad unrhyw bryd cyn hynny, ar sail dros dro, i unrhyw raddau y mae’n eu hystyried yn briodol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I145A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I146A. 73 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

74Hysbysiad ymholiadLL+C

(1)Caiff ACC wneud ymholiad i hawliad person neu i’w ddiwygiad o hawliad os yw’n dyroddi hysbysiad i’r hawlydd o’i fwriad i wneud hynny (“hysbysiad ymholiad”) cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y gwnaed yr hawliad neu’r diwygiad.

(2)Ni chaiff hawliad neu ddiwygiad a fu’n destun un hysbysiad ymholiad fod yn destun un arall.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I147A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I148A. 74 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

75Cwblhau ymholiadLL+C

(1)Mae ymholiad wedi ei gwblhau pan fydd ACC yn dyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau”) i’r hawlydd yn datgan—

(a)bod yr ymholiad wedi ei gwblhau, a

(b)casgliadau’r ymholiad.

(2)Rhaid i hysbysiad cau naill ai—

(a)datgan nad oes angen diwygio’r hawliad ym marn ACC, neu

(b)os yw’r hawliad yn annigonol neu’n ormodol ym marn ACC, diwygio’r hawliad er mwyn gwneud iawn am y diffyg neu’r gormodedd, neu ddileu’r diffyg neu’r gormodedd.

(3)Yn achos ymholiad i ddiwygiad o hawliad, nid yw is-adran (2)(b) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r diffyg neu’r gormodedd i’r diwygiad.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I149A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I150A. 75 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

76Cyfarwyddyd i gwblhau ymholiadLL+C

(1)Caiff yr hawlydd wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi o fewn cyfnod penodedig.

(2)Rhaid i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd oni bai ei fod yn fodlon bod gan ACC seiliau rhesymol dros beidio â dyroddi hysbysiad cau o fewn y cyfnod penodedig.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I151A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I152A. 76 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

77Rhoi effaith i ddiwygiadau o dan adran 75LL+C

(1)Rhaid i ACC, o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad o dan adran 75(2)(b) roi effaith i’r diwygiad drwy wneud unrhyw addasiad a all fod yn angenrheidiol, boed—

(a)ar ffurf asesiad o’r hawlydd, neu

(b)drwy ad-dalu treth ddatganoledig neu [F102ei gollwng].

(2)Nid yw asesiad a wneir o dan is-adran (1) oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod a grybwyllir yn yr is-adran honno.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I153A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I154A. 77 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

78Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadauLL+C

Rhaid i hawliad o dan adran 62 neu 63 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r taliad ar ffurf treth ddatganoledig, neu’r asesiad neu’r dyfarniad, yn ymwneud â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I155A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I156A. 78 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

79Yr hawlydd: partneriaethauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn ymwneud â chymhwyso adran 63 mewn achos pan fo naill ai—

(a)(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(a)) y person wedi talu’r swm o dan sylw yn rhinwedd y ffaith ei fod yn bartner mewn partneriaeth, neu

(b)(mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) yr asesiad wedi ei wneud o’r person yn y rhinwedd honno, neu’r dyfarniad yn ymwneud â’i rwymedigaeth yn y rhinwedd honno.

(2)Mewn achos o’r fath, dim ond person perthnasol sydd wedi ei enwebu i wneud hynny gan yr holl bersonau perthnasol a gaiff wneud hawliad o dan adran 63 mewn perthynas â’r swm o dan sylw.

(3)Y personau perthnasol yw’r personau a fyddai wedi bod yn agored fel partneriaid i dalu’r swm o dan sylw pe byddai’r taliad wedi bod yn ddyledus neu (mewn achos sy’n dod o fewn adran 63(1)(b)) pe byddai’r asesiad neu’r dyfarniad wedi ei wneud yn gywir.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I157A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I158A. 79 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

80Asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan wneir hawliad o dan adran 63,

(b)pan fo’r seiliau ar gyfer rhoi effaith i’r hawliad hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r hawlydd mewn perthynas â’r dreth ddatganoledig, ac

(c)pe gellid gwneud asesiad o’r fath oni bai am gyfyngiad perthnasol.

(2)Mewn achos sy’n dod o fewn adran 79(1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad at yr hawlydd yn is-adran (1)(b) o’r adran hon yn cynnwys unrhyw berson perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 79(3)).

(3)Mae’r canlynol yn gyfyngiadau perthnasol—

(a)adran 58;

(b)terfyn amser ar gyfer gwneud asesiad ACC yn dod i ben.

(4)Pan fo’r adran hon yn gymwys—

(a)mae’r cyfyngiadau perthnasol i’w diystyru, a

(b)nid yw asesiad ACC oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud cyn dyfarnu’n derfynol ar yr hawliad.

(5)Nid yw hawliad wedi ei ddyfarnu’n derfynol—

(a)hyd na ellir amrywio’r hawliad mwyach, neu

(b)hyd na ellir amrywio’r swm y mae’n berthnasol iddo mwyach,

(boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I159A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I160A. 80 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

81Setliadau contractLL+C

(1)Mae’r cyfeiriad yn adran 63(1)(a) at swm o dreth ddatganoledig a dalwyd gan berson yn cynnwys swm a dalwyd gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â threth ddatganoledig y credwyd ei bod yn daladwy.

[F103(1A)Yn adran 63A(1), mae’r cyfeiriad at ad-dalu swm o dreth trafodiadau tir yn cynnwys ad-dalu swm a delir gan berson o dan setliad contract mewn cysylltiad â’r swm hwnnw o dreth trafodiadau tir.]

(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys os nad yr un person yw’r person a dalodd y swm o dan y setliad contract (“y talwr”) a’r person yr oedd y dreth ddatganoledig yn daladwy ganddo (“y trethdalwr”).

(3)Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 mewn cysylltiad â’r swm hwnnw—

(a)mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adran 67(5), (6) ac (8) yn cael effaith fel pe baent yn cynnwys y trethdalwr, a

(b)mae’r cyfeiriadau at yr hawlydd yn adrannau 67(9) a 80(1)(b) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y trethdalwr.

(4)Mewn perthynas â hawliad o dan adran 63 [F104neu 63A] mewn cysylltiad â’r swm hwnnw, mae cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn adrannau 68, 73 a 77 yn cynnwys y swm a dalwyd o dan y setliad contract.

(5)Pan fo’r seiliau dros roi effaith i hawliad gan y talwr mewn cysylltiad â’r swm hefyd yn rhoi seiliau ar gyfer asesiad ACC o’r trethdalwr mewn cysylltiad â’r dreth ddatganoledig⁠—

(a)caiff ACC osod unrhyw swm sydd i’w ad-dalu i’r talwr o ganlyniad i’r hawliad yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan y trethdalwr o ganlyniad i’r asesiad, a

(b)mae rhwymedigaethau ACC a’r trethdalwr wedi eu cyflawni i raddau’r gwrthgyfrif.

[F105RHAN 3ALL+CY RHEOL GYFFREDINOL YN ERBYN OSGOI TRETHI

TrosolwgLL+C

81AYstyr “y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi” a throsolwg ohoniLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwrthweithio manteision treth sy’n deillio o drefniadau artiffisial i osgoi trethi, gan gynnwys darpariaeth—

(a)ynghylch ystyr “trefniant osgoi trethi”, “artiffisial” a “mantais drethiannol” (adrannau 81B i 81D);

(b)ynghylch pŵer ACC i wneud addasiadau i wrthweithio manteision treth a’r camau i’w cymryd gan ACC mewn cysylltiad ag addasiadau o’r fath (adrannau 81E i 81G).

(2)Enw’r rheolau yn y Rhan hon gyda’i gilydd yw “y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi”.

Trefniadau artiffisial i osgoi trethiLL+C

81BTrefniadau osgoi trethiLL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi” os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae trethdalwr yn ymrwymo i’r trefniant.

(2)Wrth benderfynu ai prif ddiben trefniant, neu un o’i brif ddibenion, yw cael mantais drethiannol, caniateir ystyried yn benodol y swm o dreth ddatganoledig a fyddai i’w godi yn absenoldeb y trefniant.

(3)Yn y Rhan hon—

(a)mae “trefniant” yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw weithred, unrhyw weithrediad, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad, unrhyw ddigwyddiad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);

(b)mae cyfeiriadau at drefniant i’w darllen fel pe baent yn cynnwys—

(i)cyfres o drefniadau, a

(ii)unrhyw ran o drefniant neu unrhyw gam o drefniant sy’n cynnwys mwy nag un ran neu gam;

(c)ystyr “trethdalwr” yw person sy’n agored i dreth ddatganoledig neu a fyddai’n agored iddi oni bai am y trefniant osgoi trethi o dan sylw.

81CTrefniadau artiffisial i osgoi trethiLL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant osgoi trethi yn “artiffisial” os nad yw ymrwymo iddo neu ei gyflawni yn weithred resymol mewn perthynas â darpariaethau deddfwriaeth drethi Cymru sy’n gymwys i’r trefniadau.

(2)Wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial, caniateir ystyried yn benodol—

(a)unrhyw sylwedd economaidd neu fasnachol dilys sydd i’r trefniant (ac eithrio cael mantais drethiannol);

(b)pa un ai canlyniad y trefniant yw bod swm o dreth i’w godi y mae’n rhesymol cymryd nad hwnnw oedd y canlyniad a ragwelwyd pan ddeddfwyd darpariaeth berthnasol deddfwriaeth drethi Cymru.

(3)Ond nid yw trefniant yn artiffisial os oedd, ar yr adeg yr ymrwymwyd iddo neu y’i cyflawnwyd—

(a)y trefniant yn gyson â’r arferion a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd, a

(b)ACC wedi mynegi ei fod yn derbyn yr arfer hwnnw.

(4)Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill, rhaid rhoi sylw i’r trefniadau eraill hynny hefyd wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth drethi Cymru” yw—

(a)Deddfau Trethi Cymru, a

(b)unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wneir o dan y Deddfau hynny.

81DYstyr “treth” a “mantais drethiannolLL+C

At ddibenion y Rhan hon—

  • ystyr “mantais drethiannol” (“tax advantage”) yw—

    (a)

    rhyddhad rhag treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth,

    (b)

    ad-daliad treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth,

    (c)

    osgoi swm y codir treth arno neu leihau swm y codir treth arno,

    (d)

    gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth, F106...

    (e)

    osgoi rhwymedigaeth i ddidynnu treth neu roi cyfrif am dreth [F107, ac

    (f)

    credyd treth neu gredyd treth uwch.]

  • ystyr “treth” (“tax”) yw unrhyw dreth ddatganoledig.

Gwrthweithio manteision trethLL+C

81EAddasiadau i wrthweithio manteision trethLL+C

(1)Caiff ACC wneud unrhyw addasiadau y mae o’r farn eu bod yn deg ac yn rhesymol i wrthweithio mantais drethiannol a fyddai (gan anwybyddu’r Rhan hon) yn deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi.

(2)Caniateir gwneud addasiad mewn cysylltiad â’r dreth ddatganoledig o dan sylw neu unrhyw dreth ddatganoledig arall.

(3)Rhaid i addasiad gael ei wneud—

(a)pan fo’r addasiad yn ymwneud â ffurflen dreth y mae ymholiad ar y gweill mewn cysylltiad ag ef, drwy ddiwygio’r ffurflen dreth mewn hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50;

(b)fel arall drwy asesiad ACC.

(4)Ni chaniateir i ACC wneud addasiad oni bai ei fod wedi cydymffurfio â gofynion adrannau 81F ac 81G.

81FHysbysiad gwrthweithio arfaethedigLL+C

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwrthweithio arfaethedig”) i drethdalwr os yw ACC o’r farn—

(a)bod mantais drethiannol i berson wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi, a

(b)y dylid gwrthweithio’r fantais drethiannol drwy addasiad o dan adran 81E.

(2)Rhaid i hysbysiad gwrthweithio arfaethedig—

(a)pennu’r trefniant osgoi trethi a’r fantais drethiannol,

(b)esbonio pam fod ACC o’r farn bod mantais drethiannol wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi,

(c)nodi’r addasiad y mae ACC yn bwriadu ei wneud er mwyn gwrthweithio’r fantais drethiannol,

(d)pennu unrhyw swm y bydd yn ofynnol i’r trethdalwr ei dalu yn unol â’r asesiad ACC arfaethedig, ac

(e)hysbysu’r trethdalwr—

(i)bod hysbysiad gwrthweithio terfynol i’w ddyroddi ar ôl diwedd y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â diwrnod dyroddi’r hysbysiad gwrthweithio arfaethedig,

(ii)y caiff y trethdalwr ofyn i ACC ymestyn y cyfnod 45 diwrnod hwnnw, a

(iii)y caniateir i’r trethdalwr gyflwyno sylwadau i ACC ar unrhyw adeg cyn dyroddi’r hysbysiad gwrthweithio terfynol.

81GHysbysiad gwrthweithio terfynolLL+C

(1)Rhaid i ACC, ar ôl diwedd y cyfnod o 45 o ddiwrnodau a grybwyllir yn adran 81F(2)(e)(i) neu unrhyw gyfnod hwy y mae ACC wedi cytuno iddo, ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwrthweithio terfynol”) i’r trethdalwr.

(2)Rhaid i hysbysiad gwrthweithio terfynol ddatgan pa un a yw’r fantais drethiannol sy’n deillio o’r trefniant osgoi trethi i’w gwrthweithio drwy addasiad o dan adran 81E.

(3)Wrth benderfynu pa un a yw’r fantais drethiannol i’w gwrthweithio rhaid i ACC ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wneir gan y trethdalwr.

(4)Os yw hysbysiad gwrthweithio terfynol yn datgan bod mantais drethiannol i’w gwrthweithio drwy addasiad rhaid i’r hysbysiad hefyd—

(a)pennu’r addasiad sy’n ofynnol i roi effaith i’r gwrthweithio,

(b)pan fo’r addasiad yn ymwneud â ffurflen dreth y mae ymholiad ar y gweill mewn cysylltiad ag ef, pennu’r diwygiad i’r ffurflen dreth sydd i’w gynnwys yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50 pan fydd ACC yn llunio ei gasgliadau ar yr ymholiad,

(c)pan na fo paragraff (b) yn gymwys—

(i)cynnwys gydag ef yr asesiad ACC sy’n rhoi effaith i’r addasiad, neu

(ii)pan wnaed asesiad ACC sy’n rhoi effaith i’r addasiad, pennu’r asesiad hwnnw, a

(d)pennu unrhyw swm—

(i)y bydd yn ofynnol i’r trethdalwr ei dalu o ganlyniad i’r diwygiad a bennir o dan baragraff (b), neu

(ii)y mae’n ofynnol i’r trethdalwr ei dalu yn unol â’r asesiad ACC a grybwyllir ym mharagraff (c).

(5)Os yw hysbysiad gwrthweithio terfynol yn datgan nad yw mantais drethiannol i’w gwrthweithio rhaid iddo ddatgan y rhesymau dros benderfyniad ACC.

Achos gerbron llys neu dribiwnlysLL+C

81HAchos mewn cysylltiad â’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethiLL+C

Mewn achos gerbron llys neu’r tribiwnlys mewn cysylltiad â’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi, mater i ACC yw dangos—

(a)bod yna drefniant artiffisial i osgoi trethi, a

(b)bod yr addasiadau a wneir (neu sydd i’w gwneud) i wrthweithio’r fantais drethiannol sy’n deillio o’r trefniant yn deg ac yn rhesymol.

Cychwyn a darpariaeth drosiannolLL+C

81IY rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi: cychwyn a darpariaeth drosiannolLL+C

(1)Mae’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drefniant osgoi trethi yr ymrwymir iddo ar y dyddiad y daw’r Rhan hon i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2)Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill yr ymrwymwyd iddynt cyn y diwrnod hwnnw, mae’r trefniadau eraill hynny i’w hanwybyddu at ddibenion adran 81C(4) oni bai mai canlyniad ystyried y trefniadau eraill hynny fyddai penderfynu nad oedd y trefniant osgoi trethi yn un artiffisial.]

RHAN 4LL+CPWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 1LL+CRHAGARWEINIOL

TrosolwgLL+C

82Trosolwg o’r RhanLL+C

Mae’r Rhan hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Pennod 2 yn nodi pwerau ymchwilio ACC mewn perthynas â gwybodaeth a dogfennau,

(b)mae Pennod 3 yn nodi cyfyngiadau ar y pwerau sydd ym Mhennod 2,

(c)mae Pennod 4 yn nodi pwerau ymchwilio ACC mewn perthynas â mangreoedd ac eiddo arall,

(d)mae Pennod 5 yn nodi pwerau ymchwilio pellach,

(e)mae Pennod 6 yn nodi troseddau mewn perthynas â hysbysiadau gwybodaeth, ac

(f)mae Pennod 7 yn ymwneud ag adolygiadau ac apelau yn erbyn cymeradwyaeth benodol gan y tribiwnlys i hysbysiadau gwybodaeth ac archwiliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I163A. 82 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(b)

DehongliLL+C

83Hysbysiadau gwybodaethLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “hysbysiad gwybodaeth” yw—

(a)hysbysiad trethdalwr o dan adran 86,

(b)hysbysiad trydydd parti o dan adran 87,

(c)hysbysiad trydydd parti anhysbys o dan adran 89,

(d)hysbysiad adnabod o dan adran 92, neu

(e)hysbysiad cyswllt dyledwr o dan adran 93.

(2)Caiff hysbysiad gwybodaeth naill ai bennu neu ddisgrifio’r wybodaeth neu’r dogfennau sydd i’w darparu neu eu cyflwyno.

(3)Os dyroddir hysbysiad gwybodaeth gyda chymeradwyaeth y tribiwnlys, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I164A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

I165A. 83 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

84Ystyr “sefyllfa dreth”LL+C

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “sefyllfa dreth”, mewn perthynas â pherson, yw sefyllfa’r person o ran unrhyw dreth ddatganoledig, gan gynnwys sefyllfa’r person o ran—

(a)rhwymedigaeth yn y gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, i dalu unrhyw dreth ddatganoledig,

(b)cosbau [F108credydau treth], llog (gan gynnwys llog ar gosbau [F109a symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth]) a symiau eraill a dalwyd, neu sy’n daladwy neu a all fod yn daladwy, gan y person neu i’r person mewn cysylltiad ag unrhyw dreth ddatganoledig, ac

(c)hawliadau neu hysbysiadau a wnaed neu a roddwyd, neu y gellir eu gwneud neu eu rhoi, mewn cysylltiad â rhwymedigaeth y person i dalu unrhyw dreth ddatganoledig [F110neu unrhyw swm mewn cysylltiad â chredyd treth],

ac mae cyfeiriadau at sefyllfa person o ran treth ddatganoledig benodol (sut bynnag y’u mynegir) i’w dehongli yn unol â hynny.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at sefyllfa dreth person yn cynnwys cyfeiriadau at sefyllfa dreth—

(a)unigolyn sydd wedi marw, a

(b)corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig sydd wedi peidio â bod.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at sefyllfa dreth person yn cyfeirio at sefyllfa dreth y person unrhyw bryd neu o ran unrhyw gyfnod, oni nodir i’r gwrthwyneb.

(4)Mae cyfeiriadau at wirio sefyllfa dreth person yn cynnwys cyfeiriadau at gynnal ymchwiliad neu at wneud ymholiad o unrhyw fath.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I166A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

I167A. 84 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

[F11184A.Ystyr “niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig”LL+C

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn cynnwys niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu unrhyw swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.]

85Ystyr “rhedeg busnes”LL+C

(1)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at redeg busnes yn cynnwys—

(a)cyflawni unrhyw weithgaredd at ddibenion creu incwm o dir (ble bynnag y’i lleolir),

(b)dilyn proffesiwn,

(c)gweithgareddau elusen, a

(d)gweithgareddau awdurdod lleol neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod—

(a)cyflawni gweithgaredd penodedig, neu

(b)cyflawni unrhyw weithgaredd, neu weithgaredd penodedig, gan berson penodedig,

i’w drin fel pe bai’n gyfystyr â rhedeg busnes, neu nad yw i’w drin felly, at ddibenion y Rhan hon.

(3)Yn y Ddeddf hon, mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan [F112baragraff 2A o Atodlen 18 i DTTT].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I168A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

I169A. 85 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 2LL+CPWERAU I WNEUD GWYBODAETH A DOGFENNAU YN OFYNNOL

86Hysbysiadau trethdalwrLL+C

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trethdalwr”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y trethdalwr”) ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

(a)os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr,

(b)os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, ac

(c)os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen.

(2)Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad trethdalwr heb gymeradwyaeth y tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I170A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I171A. 86 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

87Hysbysiadau trydydd partiLL+C

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trydydd parti”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

(a)os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth person arall (“y trethdalwr”) y gŵyr ACC pwy ydyw,

(b)os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, ac

(c)os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen.

(2)Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad trydydd parti heb—

(a)cytundeb y trethdalwr, neu

(b)cymeradwyaeth y tribiwnlys.

(3)O ran y trethdalwr y mae hysbysiad trydydd parti yn ymwneud ag ef—

(a)rhaid iddo gael ei enwi yn yr hysbysiad, a

(b)rhaid i ACC ddyroddi copi o’r hysbysiad iddo.

(4)Ond pan fo’n cymeradwyo hysbysiad trydydd parti, caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso un o ofynion is-adran (3), neu’r ddau ohonynt, os yw’n fodlon bod gan ACC sail dros gredu y gallai enwi’r trethdalwr neu, yn ôl y digwydd, ddyroddi copi o’r hysbysiad i’r trethdalwr, niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

Gwybodaeth Cychwyn

I172A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I173A. 87 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

88Cymeradwyaeth y tribiwnlys i hysbysiadau trethdalwr a hysbysiadau trydydd partiLL+C

(1)Caiff ACC wneud cais i’r tribiwnlys am gymeradwyaeth i ddyroddi hysbysiad trethdalwr neu hysbysiad trydydd parti i berson (“y derbynnydd”) heb i hysbysiad am y cais gael ei anfon at y derbynnydd.

(2)Os nad anfonir hysbysiad am y cais am gymeradwyaeth at y derbynnydd, ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad trethdalwr neu’r hysbysiad trydydd parti oni fo’n fodlon—

(a)bod—

(i)yn achos hysbysiad trethdalwr, gofynion adran 86(1), neu

(ii)yn achos hysbysiad trydydd parti, gofynion adran 87(1),

wedi eu bodloni, a

(b)y gallai anfon hysbysiad am y cais am gymeradwyaeth at y derbynnydd fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.

(3)Os hysbyswyd y derbynnydd am y cais am gymeradwyaeth, ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad trethdalwr neu’r hysbysiad trydydd parti oni fo’r amodau canlynol wedi eu bodloni—

(a)bod y tribiwnlys yn fodlon bod—

(i)yn achos hysbysiad trethdalwr, gofynion adran 86(1), neu

(ii)yn achos hysbysiad trydydd parti, gofynion adran 87(1),

wedi eu bodloni,

(b)bod y derbynnydd wedi cael gwybod bod yr wybodaeth neu’r dogfennau y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad trethdalwr neu’r hysbysiad trydydd parti yn ofynnol ac wedi cael cyfle rhesymol i wneud sylwadau i ACC,

(c)bod crynodeb o unrhyw sylwadau a wnaed wedi eu darparu i’r tribiwnlys, a

(d)yn achos hysbysiad trydydd parti, bod crynodeb o’r rhesymau pam fod yr wybodaeth neu’r dogfennau yn ofynnol gan ACC wedi ei ddarparu i’r trethdalwr.

(4)Ond caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso gofynion paragraff (b) neu (d) o is-adran (3) i’r graddau y mae’n fodlon y gallai cymryd y camau a bennir yn y paragraff niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.

(5)Wrth gymeradwyo dyroddi hysbysiad trethdalwr neu hysbysiad trydydd parti, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad ag y bo’n briodol yn ei farn.

Gwybodaeth Cychwyn

I174A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I175A. 88 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

89Pŵer i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol am bersonau na wyddys pwy ydyntLL+C

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad trydydd parti anhysbys”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y derbynnydd”) ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—

(a)os oes angen yr wybodaeth neu’r ddogfen ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth⁠—

(i)person na ŵyr ACC pwy ydyw, neu

(ii)dosbarth o bersonau na ŵyr ACC pwy ydynt fel unigolion,

(b)os yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen,

(c)os nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r derbynnydd ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen, a

(d)os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi’r hysbysiad.

(2)Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth heb hysbysiad.

(3)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad trydydd parti anhysbys oni fo’n fodlon—

(a)bod gofynion is-adran (1)(a) i (c) wedi eu bodloni,

(b)nad yw’r wybodaeth neu’r ddogfen y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi ar gael yn rhwydd i ACC o ffynhonnell arall,

(c)bod sail dros gredu y gallai’r person y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu unrhyw ddosbarth o bersonau y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef fod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r gyfraith yn ymwneud â threth ddatganoledig, neu y gallent fethu â chydymffurfio â hi neu â hwy, a

(d)ei bod yn debygol bod unrhyw fethiant o’r fath wedi arwain, neu y gallai arwain, at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

(4)Wrth gymeradwyo dyroddi hysbysiad trydydd parti anhysbys, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw addasiadau i’r hysbysiad ag y bo’n briodol yn ei farn.

Gwybodaeth Cychwyn

I176A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I177A. 89 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

90Gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol mewn perthynas â grŵp o ymgymeriadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ymgymeriad yn rhiant-ymgymeriad mewn perthynas ag [F113is-ymgymeriad] .

(2)Pan ddyroddir hysbysiad trydydd parti i unrhyw berson at ddiben gwirio sefyllfa dreth rhiant-ymgymeriad ac unrhyw un neu ragor o’i is-ymgymeriadau—

(a)mae’r cyfeiriadau at y trethdalwr yn adrannau 87(2)(a), (3) a (4) ac 88(3)(d) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y rhiant-ymgymeriad, a

(b)mae adran 87(3) i’w thrin fel pe bai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad ddatgan ei ddiben.

(3)Pan ddyroddir hysbysiad trydydd parti i riant-ymgymeriad at ddiben gwirio sefyllfa dreth mwy nag un is-ymgymeriad—

(a)rhaid i’r hysbysiad ddatgan ei ddiben,

(b)nid yw adrannau 87(2)(a) a (3) ac 88(3)(d) yn gymwys, ac

(c)mae adran 100 (hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth) yn gymwys fel pe bai’r hysbysiad trydydd parti yn hysbysiad trethdalwr a ddyroddir i bob is-ymgymeriad (neu, os yw’r hysbysiad trydydd parti yn enwi’r is-ymgymeriadau y mae’n ymwneud â hwy, i bob un o’r is-ymgymeriadau hynny).

(4)Yn yr adran hon, mae i “rhiant-ymgymeriad”, “is-ymgymeriad” ac “ymgymeriad” yr ystyron a roddir i “parent undertaking”, “subsidiary undertaking” ac “undertaking” yn [F114adrannau 1161 a 1162 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46) ac Atodlen 7 iddi, ond o ran cymhwyso’r adran hon i dreth trafodiadau tir, mae adran 1161(1)(b) o’r Ddeddf 2006 honno yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “carrying on a trade or business, with or without a view to profit” wedi eu hepgor.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I178A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I179A. 90 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

91Gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ymwneud â phartneriaeth yn ofynnolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo busnes yn cael ei redeg gan ddau neu ragor o bersonau mewn partneriaeth.

(2)Pan ddyroddir hysbysiad trydydd parti i rywun heblaw un o’r partneriaid at ddiben gwirio sefyllfa dreth mwy nag un o’r partneriaid (yn y rhinwedd honno)—

(a)mae adran 87(3) i’w thrin fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i ACC—

(i)datgan y diben hwnnw,

(ii)enwi’r trethdalwr drwy roi enw yr adwaenir y bartneriaeth wrtho neu y mae wedi ei gofrestru oddi tano at unrhyw ddiben, a

(iii)dyroddi copi o’r hysbysiad i un o’r partneriaid o leiaf,

(b)mae adran 87(4) i’w thrin fel pe bai’n caniatáu i’r tribiwnlys ddatgymhwyso unrhyw un neu bob un o’r gofynion a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran hon, ac

(c)mae’r cyfeiriadau at y trethdalwr yn adrannau 87(2)(a) ac 88(3)(d) yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at un o’r partneriaid o leiaf.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I180A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I181A. 91 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

92Pŵer i gael gwybodaeth er mwyn gallu cadarnhau pwy yw personLL+C

(1)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad adnabod”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth berthnasol am berson arall (“y trethdalwr”) oni fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi’r hysbysiad.

(2)Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth heb hysbysiad.

(3)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo dyroddi’r hysbysiad adnabod oni fo’n fodlon bod amodau 1 i 6 wedi eu bodloni.

(4)Amod 1 yw bod angen yr wybodaeth ar ACC at ddiben gwirio sefyllfa dreth y trethdalwr.

(5)Amod 2 yw ei bod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth berthnasol.

(6)Amod 3 yw—

(a)nad yw ACC yn gwybod pwy yw’r trethdalwr, ond

(b)bod gan ACC wybodaeth y gellir canfod pwy yw’r trethdalwr ohoni.

(7)Amod 4 yw bod gan ACC sail dros gredu—

(a)y bydd y person yn gallu canfod pwy yw’r trethdalwr o’r wybodaeth sydd gan ACC, a

(b)bod y person wedi cael gwybodaeth berthnasol am y trethdalwr yng nghwrs rhedeg busnes.

(8)Amod 5 yw na ellir canfod yn rhwydd pwy yw’r trethdalwr o’r wybodaeth sydd gan ACC drwy ddulliau eraill.

(9)Amod 6 yw nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth berthnasol.

(10)Yn yr adran hon, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw pob un neu unrhyw un o’r canlynol⁠—

(a)enw,

(b)cyfeiriad hysbys olaf, ac

(c)dyddiad geni (yn achos unigolyn).

(11)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys at ddiben gwirio sefyllfa dreth dosbarth o bersonau (ac mae cyfeiriadau at y trethdalwr i’w darllen yn unol â hynny).

Gwybodaeth Cychwyn

I182A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I183A. 92 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

93Pŵer i gael manylion cyswllt dyledwyrLL+C

(1)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cyswllt dyledwr”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson (“y trydydd parti”) ddarparu manylion cyswllt person arall (“y dyledwr”) oni fo amodau 1 i 5 wedi eu bodloni.

(2)Amod 1 yw bod swm ar ffurf—

(a)treth ddatganoledig,

(b)llog ar dreth ddatganoledig,

(c)cosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F115...

(d)llog ar gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig,

[F116(e)taliad mewn cysylltiad â chredyd treth, neu

(f)llog ar daliad mewn cysylltiad â chredyd treth,]

yn daladwy gan y dyledwr i ACC o dan ddeddfiad neu setliad contract.

(3)Amod 2 yw bod angen manylion cyswllt y dyledwr ar ACC at ddiben casglu’r swm hwnnw.

(4)Amod 3 yw ei bod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti ddarparu’r manylion.

(5)Amod 4 yw—

(a)bod y trydydd parti yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig, neu

(b)bod gan ACC sail dros gredu bod y trydydd parti wedi cael y manylion yng nghwrs rhedeg busnes.

(6)Amod 5 yw nad oes unrhyw beth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro ACC rhag ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti ddarparu’r manylion.

(7)Ond ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad cyswllt dyledwr—

(a)os yw’r trydydd parti yn elusen ac y daeth y manylion i’w law yng nghwrs darparu gwasanaethau di-dâl, neu

(b)os nad yw’r trydydd parti yn elusen ond y daeth y manylion i’w law yng nghwrs darparu gwasanaethau ar ran elusen sy’n ddi-dâl i’r sawl sy’n derbyn y gwasanaeth.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “manylion cyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw cyfeiriad y person ac unrhyw wybodaeth arall ynghylch sut y gellir cysylltu â’r person.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I184A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I185A. 93 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

94Terfyn amser ar gyfer dyroddi hysbysiad gwybodaeth a gymeradwywyd gan dribiwnlysLL+C

Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth rhaid i ACC ddyroddi’r hysbysiad—

(a)yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y diwrnod y rhoddwyd cymeradwyaeth y tribiwnlys, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys wrth roi’r gymeradwyaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I186A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I187A. 94 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

95Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaethLL+C

(1)Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad gwybodaeth iddo gydymffurfio â’r hysbysiad—

(a)o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad [F117(neu unrhyw gyfnod hwy y bydd ACC a’r person yn cytuno arno)], a

(b)mewn unrhyw fodd a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad.

(2)Ond os yw’r person wedi gofyn am adolygu’r hysbysiad neu ofyniad ynddo, neu wedi apelio yn erbyn y naill neu’r llall, mae is-adran (1)(a) yn peidio â bod yn gymwys i’r hysbysiad neu’r gofyniad.

(3)Pan fo hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen, rhaid ei chyflwyno—

(a)mewn lle y mae’r person ac ACC yn cytuno arno, neu

(b)mewn lle a bennir gan ACC.

(4)Ni chaiff ACC bennu lle a ddefnyddir fel annedd yn unig at ddiben is-adran (3)(b).

(5)Nid yw cyflwyno dogfen yn unol â hysbysiad gwybodaeth i’w ystyried fel torri unrhyw hawlrwym a hawlir ar y ddogfen.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I188A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I189A. 95 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

96Cyflwyno copïau o ddogfennauLL+C

(1)Oni bai bod hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen wreiddiol, caiff y person gydymffurfio â’r hysbysiad drwy gyflwyno copi o’r ddogfen.

(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Pan fo person yn cydymffurfio â hysbysiad drwy gyflwyno copi o’r ddogfen, caiff ACC, wedi hynny, ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno’r ddogfen wreiddiol—

(a)o fewn unrhyw gyfnod, a

(b)mewn unrhyw fodd,

a bennir gan ACC.

(4)Ond nid yw’n ofynnol i berson gyflwyno’r ddogfen wreiddiol os yw ACC yn gwneud cais dros 6 mis ar ôl y diwrnod y cyflwynwyd y copi o’r ddogfen.

Gwybodaeth Cychwyn

I190A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I191A. 96 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 3LL+CCYFYNGIADAU AR BWERAU PENNOD 2

97Hysbysiadau gwybodaeth: cyfyngiadau cyffredinolLL+C

(1)Nid yw hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen oni fo’r ddogfen ym meddiant y person neu o fewn pŵer y person.

(2)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen os yw’r ddogfen gyfan wedi ei chreu dros 6 mlynedd cyn y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, oni ddyroddir yr hysbysiad gyda chymeradwyaeth y tribiwnlys.

(3)Ni chaniateir dyroddi hysbysiad gwybodaeth a ddyroddir at ddiben gwirio sefyllfa dreth person sydd wedi marw dros 4 blynedd ar ôl i’r person farw.

(4)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen (neu unrhyw ran o ddogfen) sy’n ymwneud â chynnal adolygiad neu apêl sydd yn yr arfaeth sy’n ymwneud ag unrhyw dreth (boed dreth ddatganoledig ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I192A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I193A. 97 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

98Amddiffyniad ar gyfer deunydd newyddiadurolLL+C

(1)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu na chyflwyno deunydd newyddiadurol.

(2)Ystyr “deunydd newyddiadurol” yw gwybodaeth neu ddogfen—

(a)sydd ym meddiant rhywun a’i creodd, neu y daeth i’w feddiant, at ddibenion newyddiaduraeth, neu

(b)sydd ym meddiant rhywun a’i derbyniodd gan berson arall a fwriadai i’r derbynnydd ei ddefnyddio at ddibenion newyddiaduraeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I194A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I195A. 98 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

99Amddiffyniad ar gyfer cofnodion personolLL+C

(1)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu na chyflwyno cofnodion personol na gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn cofnodion personol.

(2)Ond caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson—

(a)cyflwyno dogfen (neu gopi o ddogfen) sy’n gofnod personol, gan hepgor yr wybodaeth sydd (naill ai ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall) yn gwneud y ddogfen yn gofnod personol;

(b)darparu gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn dogfen sy’n gofnod personol, ac eithrio’r wybodaeth sydd (naill ai ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall) yn gwneud y ddogfen yn gofnod personol.

(3)Ystyr “cofnodion personol” yw dogfennau a chofnodion eraill sy’n ymwneud ag unigolyn (“P”) (boed fyw neu farw) y gellir adnabod pwy ydyw o’r cofnodion hynny ac sy’n ymwneud ag—

(a)iechyd corfforol neu iechyd meddwl P,

(b)cwnsela neu gymorth ysbrydol a roddwyd neu sydd i’w roi i P, neu

(c)cwnsela neu gymorth a roddwyd neu sydd i’w roi i P mewn perthynas â lles personol P gan berson sydd—

(i)oherwydd swydd neu alwedigaeth, â chyfrifoldebau o ran lles personol P, neu

(ii)oherwydd gorchymyn llys, â chyfrifoldebau o ran goruchwylio P.

Gwybodaeth Cychwyn

I196A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I197A. 99 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

100Hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen drethLL+C

(1)Pan fo person wedi dychwelyd ffurflen dreth ar gyfer cyfnod treth, ni chaniateir dyroddi hysbysiad trethdalwr at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person hwnnw ar gyfer y cyfnod hwnnw.

(2)Pan fo person wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â thrafodiad, ni chaniateir dyroddi hysbysiad trethdalwr at ddiben gwirio sefyllfa dreth person mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw.

(3)Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys pan fo (neu i’r graddau y mae) naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni.

(4)Amod 1 yw bod hysbysiad ymholiad wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad ag—

(a)y ffurflen dreth, neu

(b)hawliad (neu ddiwygiad i hawliad) a wnaed gan y person mewn perthynas â’r cyfnod treth neu’r trafodiad y mae’r ffurflen yn ymwneud ag ef,

ac nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau.

(5)Amod 2 yw bod gan ACC reswm i amau, mewn perthynas â’r person—

(a)ei bod yn bosibl nad yw swm o dreth ddatganoledig y dylid bod wedi ei asesu ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad wedi ei asesu,

(b)ei bod yn bosibl bod asesiad o dreth ddatganoledig ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad yn annigonol neu wedi dod yn annigonol, F118...

(c)ei bod yn bosibl bod [F119rhyddhad] rhag treth ddatganoledig a roddwyd neu a hawliwyd ar gyfer y cyfnod treth neu mewn perthynas â’r trafodiad yn ormodol neu wedi dod yn ormodol,

[F120(d)ei bod yn bosibl bod swm o gredyd treth nad oes gan y person hawlogaeth iddo wedi ei hawlio, neu

(e)ei bod yn bosibl bod hawliad am gredyd treth yn ormodol neu wedi mynd yn ormodol.]

(6)Pan fo unrhyw bartner mewn partneriaeth wedi dychwelyd ffurflen dreth, mae’r adran hon yn cael effaith fel pe bai pob un o’r partneriaid wedi dychwelyd y ffurflen honno.

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at berson sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth yn cyfeirio at y person hwnnw yn y rhinwedd y dychwelwyd y ffurflen dreth yn unig.

101Diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig rhwng cynghorwyr cyfreithiol a chleientiaidLL+C

(1)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson—

(a)darparu gwybodaeth freintiedig, na

(b)cyflwyno unrhyw ran freintiedig o ddogfen.

(2)Mae gwybodaeth neu ddogfen yn freintiedig pe gellid cynnal hawliad ar gyfer braint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi mewn achos cyfreithiol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i’r tribiwnlys ddatrys unrhyw anghydfod o ran a yw unrhyw wybodaeth neu ddogfen yn freintiedig.

(4)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ar gyfer cadw dogfen tra dyfernir ei statws.

Gwybodaeth Cychwyn

I200A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I201A. 101(1)(2) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

I202A. 101(3)(4) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

102Diogeliad ar gyfer cynghorwyr treth ac archwilwyrLL+C

(1)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i gynghorwr treth—

(a)darparu gwybodaeth am ohebiaeth berthnasol, neu

(b)cyflwyno unrhyw ran o ddogfen sydd ym meddiant y cynghorwr treth ac sy’n ohebiaeth berthnasol.

(2)Yn is-adran (1)—

  • ystyr “cynghorwr treth” (“tax adviser”) yw person a benodwyd i roi cyngor ynghylch materion treth person arall (boed wedi ei benodi’n uniongyrchol gan y person hwnnw neu gan gynghorwr treth arall i’r person hwnnw);

  • ystyr “gohebiaeth berthnasol” (“relevant communication”) yw gohebiaeth rhwng—

    (a)

    cynghorwr treth a pherson y penodwyd y cynghorwr treth mewn perthynas â’i faterion treth, neu

    (b)

    cynghorwr treth person ac unrhyw gynghorwr treth arall i’r person hwnnw,

    at ddiben rhoi neu gael cyngor ynghylch materion treth y person.

(3)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson a benodwyd yn archwilydd at ddiben deddfiad—

(a)darparu gwybodaeth a gedwir mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r person o dan y deddfiad hwnnw, neu

(b)cyflwyno dogfen sy’n eiddo i’r person hwnnw ac a grëwyd gan y person hwnnw neu ar ran y person hwnnw ar gyfer neu mewn cysylltiad â chyflawni’r swyddogaethau hynny.

(4)Nid yw is-adrannau (1) a (3) yn cael effaith mewn perthynas ag—

(a)gwybodaeth sy’n egluro unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae’r person y dyroddir yr hysbysiad iddo wedi cynorthwyo unrhyw gleient, fel ei gyfrifydd treth, i’w pharatoi ar gyfer ACC neu i’w chyflwyno i ACC, neu

(b)dogfen sy’n cynnwys gwybodaeth o’r fath.

(5)Yn achos hysbysiad trydydd parti anhysbys, nid yw is-adrannau (1) a (3) yn cael effaith mewn perthynas ag—

(a)gwybodaeth sy’n nodi pwy yw person y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu’n rhoi ei gyfeiriad, neu’n nodi pwy yw person sydd wedi gweithredu ar ran person o’r fath neu’n rhoi ei gyfeiriad, neu

(b)dogfen sy’n cynnwys gwybodaeth o’r fath.

(6)Mae is-adrannau (1) a (3) yn cael effaith er gwaethaf is-adrannau (4) a (5) os yw’r wybodaeth o dan sylw eisoes wedi ei darparu i ACC, neu os yw dogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth eisoes wedi ei chyflwyno iddo.

(7)Pan na fo is-adran (1) neu (3) yn cael effaith mewn perthynas â dogfen yn rhinwedd is-adran (4) neu (5), mae hysbysiad gwybodaeth sy’n gwneud cyflwyno’r ddogfen yn ofynnol yn cael effaith fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno’r rhan honno neu’r rhannau hynny o’r ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth a grybwyllir yn is-adran (4) neu (5).

(8)Yn is-adran (3), mae “deddfiad” hefyd yn cynnwys deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfwyd neu y’i gwnaed) sy’n un o’r canlynol, neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

(a)Deddf Senedd yr Alban,

(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (p. 30)),

(c)offeryn Albanaidd (o fewn yr ystyr a roddir i “Scottish instrument” yn Neddf Dehongli a Diwygio Deddfwriaethol (Yr Alban) 2010 (dsa 10)), neu

(d)offeryn statudol (o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” yn Neddf Dehongli (Gogledd Iwerddon) 1954 (p. 33)).

Gwybodaeth Cychwyn

I203A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I204A. 102 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 4LL+CARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL

103Pŵer i archwilio mangre busnesLL+C

(1)Os oes gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio mangre busnes person at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person, caiff ACC fynd i’r fangre ac archwilio—

(a)y fangre;

(b)asedau busnes sydd yn y fangre;

(c)dogfennau busnes sydd yn y fangre (ond gweler adran 110).

(2)Ond ni chaiff ACC gynnal archwiliad o’r fath onid yw wedi cael—

(a)cytundeb meddiannydd y fangre, neu

(b)cymeradwyaeth y tribiwnlys.

(3)Caniateir cynnal archwiliad—

(a)ar adeg a gytunwyd â meddiannydd y fangre, neu

(b)os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad—

(i)ar adeg resymol a bennir mewn hysbysiad a ddyroddwyd i’r meddiannydd o leiaf 7 niwrnod cyn yr adeg honno, neu

(ii)ar unrhyw adeg resymol os yw’r tribiwnlys, pan fydd yn cymeradwyo’r archwiliad, yn fodlon bod gan ACC sail dros gredu y byddai hysbysu’r meddiannydd yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

(4)Os yw ACC yn ceisio cynnal archwiliad heb—

(a)cytundeb y meddiannydd, neu

(b)dyroddi hysbysiad o dan is-adran (3)(b)(i),

rhaid i ACC ddarparu hysbysiad ar yr adeg y bydd yr archwiliad i gychwyn.

(5)Rhaid i hysbysiad a ddarperir o dan is-adran (4)—

(a)os yw meddiannydd y fangre yno, gael ei roi i’r meddiannydd;

(b)os nad yw’r meddiannydd yno ond bod yno berson yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfrifol am y fangre, gael ei roi i’r person hwnnw;

(c)mewn unrhyw achos arall, gael ei adael mewn lle amlwg yn y fangre.

(6)Rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan is-adran (3)(b)(i), neu a ddarperir o dan is-adran (4), ddatgan—

(a)bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, a

(b)canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.

(7)Nid yw’r pwerau o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i unrhyw ran o’r fangre, nac i archwilio unrhyw ran ohoni, a ddefnyddir fel annedd yn unig.

[F121(8)Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I205A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I206A. 103 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

[F122103APŵer pellach i archwilio mangre busnes: treth gwarediadau tirlenwiLL+C

(1)Os oes gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni, caiff ACC fynd i fangre busnes person ac archwilio—

(a)y fangre;

(b)asedau busnes sydd yn y fangre;

(c)dogfennau busnes perthnasol sydd yn y fangre (ond gweler adran 110).

(2)Yr amod cyntaf yw bod y person yn ymwneud neu wedi ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy.

(3)Yr ail amod yw bod yr archwiliad o’r fangre yn ofynnol at ddiben gwirio sefyllfa person arall o ran treth gwarediadau tirlenwi mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan sylw.

(4)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 103 yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan adran 103(1).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “dogfennau busnes perthnasol” yw dogfennau busnes sy’n ymwneud â materion sy’n berthnasol i sefyllfa person o ran treth gwarediadau tirlenwi.

(6)Mae’r amgylchiadau pan fo ACC i’w drin fel pe bai ganddo sail dros gredu bod yr amod cyntaf wedi ei fodloni yn cynnwys (er enghraifft) amgylchiadau pan fo gan ACC sail dros gredu—

(a)bod y person, neu y bu’r person, yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â chael, â chludo neu â chyflenwi unrhyw ddeunydd at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy, neu sy’n baratoad ar gyfer hynny, neu

(b)bod y person, neu y bu’r person, yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwneud unrhyw ddeunydd yn destun unrhyw weithdrefn neu ddefnydd, neu fel arall ag ymdrin ag unrhyw ddeunydd neu wneud trefniadau mewn perthynas ag ef, at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy, neu sy’n baratoad ar gyfer hynny.

(7)Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.

(8)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at warediad deunydd yn cynnwys cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig mewn perthynas â deunydd;

(b)mae i “deunydd”, “gweithgarwch safle tirlenwi penodedig” a “gwarediad trethadwy” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.

103BPŵer pellach i archwilio mangre: gwarediadau trethadwy a wneir yn rhywle ac eithrio safleoedd tirlenwi awdurdodedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan ACC sail dros gredu—

(a)bod gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)ei bod yn ofynnol archwilio mangre sydd o fewn is-adran (3) at un neu ragor o’r dibenion a restrir yn is-adran (4).

(2)Caiff ACC fynd i’r fangre ac archwilio—

(a)y fangre, a

(b)unrhyw beth sydd yn y fangre (gan gynnwys dogfennau).

(3)Mae mangre o fewn yr is-adran hon os oes gan ACC reswm i gredu—

(a)y gwnaed y gwarediad ynddi, neu

(b)bod meddiannydd y fangre yn bodloni, neu y gallai fodloni, yr amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(4)Y dibenion yw—

(a)penderfynu a wnaed y gwarediad yn y fangre;

(b)canfod natur neu darddiad y deunydd a waredwyd;

(c)canfod ar ba ddyddiad y gwnaed y gwarediad;

(d)penderfynu a yw’r gwarediad yn warediad trethadwy;

(e)pennu pwysau’r deunydd a waredwyd;

(f)pennu swm unrhyw dreth arfaethedig sydd i’w godi ar y gwarediad o dan DTGT;

(g)canfod person sy’n bodloni, neu a allai fodloni, yr amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(5)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 103 yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan adran 103(1).

(6)Yn yr adran hon—

(a)mae i “safle tirlenwi awdurdodedig”, “deunydd” a “gwarediad trethadwy” yr un ystyron ag a roddir iddynt yn DTGT;

(b)mae i gyfeiriadau at berson yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth yr un ystyr ag ym Mhennod 2 o Ran 4 o DTGT.

104Cynnal archwiliadau o dan adran 103 [F123, 103A neu 103B] : darpariaeth bellachLL+C

(1)Wrth gynnal archwiliad o dan adran 103, [F124103A neu 103B,] mae gan ACC y pwerau a ganlyn.

(2)Wrth fynd i’r fangre F125..., caiff ACC

(a)os oes ganddo sail dros gredu y caiff ei rwystro’n ddifrifol wrth gynnal yr archwiliad, gael cwnstabl yno gydag ef, a

(b)cael person a awdurdodwyd gan ACC yno gydag ef.

(3)Caiff ACC wneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae’n ystyried bod ei angen o dan yr amgylchiadau.

(4)Caiff ACC roi cyfarwyddyd bod y fangre, neu unrhyw ran ohoni, neu unrhyw beth sydd ynddi, i’w gadael neu i’w adael yn union fel y mae (naill ai yn gyffredinol neu o ran agweddau penodol) cyhyd ag y bo angen at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o’r fath.

(5)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, gymryd samplau o ddeunydd o’r fangre.

(6)Mae’r pŵer i gymryd samplau yn cynnwys pŵer—

(a)i dyllu tyllau arbrofol neu i wneud gwaith arall yn y fangre, a

(b)i osod, i gadw neu i gynnal cyfarpar monitro a chyfarpar arall yn y fangre.

(7)Rhaid cael gwared ag unrhyw sampl a gymerir o dan is-adran (5) mewn unrhyw fodd a bennir gan ACC.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I207A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I208A. 104 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

105Cynnal archwiliadau o dan adran 103 [F126, 103A neu 103B] : defnyddio offer a deunyddiauLL+C

(1)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, fynd ag unrhyw offer neu ddeunyddiau sydd eu hangen at ddiben archwiliad o dan adran [F127103, 103A neu 103B i’r fangre] sy’n cael ei harchwilio.

(2)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, fynd ag offer neu ddeunyddiau i’r fangre—

(a)ar adeg y mae meddiannydd y fangre yn cytuno iddi, neu

(b)ar unrhyw adeg resymol, os bodlonir y naill neu’r llall o’r amodau a ganlyn—

(i)y dyroddwyd hysbysiad o dan adran 103(3)(b)(i) a bod yr hysbysiad yn pennu bod yr offer neu’r deunyddiau i’w dygyd i’r fangre, neu

(ii)bod gan ACC sail dros gredu y byddai dyroddi hysbysiad o’r fath yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

(3)Os dygir offer neu ddeunyddiau i’r fangre—

(a)heb gytundeb y meddiannydd, neu

(b)heb i hysbysiad gael ei ddyroddi yn unol ag is-adran (2)(b)(i),

rhaid i ACC ddarparu hysbysiad ar yr adeg y mae’r offer neu’r deunyddiau i’w dygyd i’r fangre.

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)os yw meddiannydd y fangre yno, gael ei roi i’r meddiannydd;

(b)os nad yw’r meddiannydd yno ond bod yno berson yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfrifol am y fangre, gael ei roi i’r person hwnnw;

(c)mewn unrhyw achos arall, gael ei adael mewn lle amlwg yn y fangre.

(5)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.

(6)Os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, neu’r defnydd o offer neu ddeunyddiau, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny.

[F128(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).]

106Pŵer i archwilio mangre neu eiddo er mwyn prisio etc.LL+C

(1)Caiff ACC fynd i fangre ac archwilio’r fangre ac unrhyw eiddo yn y fangre at ddiben prisio, mesur neu bennu cymeriad y fangre neu’r eiddo—

(a)os oes angen prisio, mesur neu bennu cymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson, a

(b)os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni.

(2)Amod 1 yw—

(a)bod yr archwiliad yn cael ei gynnal ar adeg a gytunwyd gan berson perthnasol, a

(b)bod hysbysiad sy’n nodi’r amser a gytunwyd ar gyfer cynnal yr archwiliad wedi ei ddyroddi i’r person perthnasol.

(3)Amod 2 yw—

(a)bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, a

(b)bod hysbysiad sy’n nodi’r amser y cynhelir yr archwiliad wedi ei ddyroddi i berson perthnasol a bennir gan y tribiwnlys o leiaf 7 niwrnod cyn yr amser hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)meddiannydd y fangre, neu

(b)os na ellir dweud pwy yw’r meddiannydd neu os yw’r fangre yn wag, person sy’n rheoli’r fangre.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2)(b) neu (3)(b) ddatgan canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.

(6)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3)(b) hefyd ddatgan bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad.

(7)Os yw ACC o’r farn bod angen hynny i gynorthwyo â’r archwiliad, caiff ACC gael person a awdurdodwyd gan ACC yno gydag ef.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I211A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I212A. 106 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

107Dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadauLL+C

Os nad yw person sy’n cynnal archwiliad o dan adran 103 [F129, 103A, 103B] neu 106 yn gallu dangos tystiolaeth o’i awdurdod i gynnal yr archwiliad pan ofynnir iddo—

(a)gan feddiannydd y fangre, neu

(b)gan unrhyw berson arall yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am y fangre, neu’n rheoli’r fangre,

rhaid dod â’r archwiliad i ben ac ni chaniateir iddo barhau hyd oni ddangosir tystiolaeth o’r fath.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I213A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I214A. 107 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

108Cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangreLL+C

(1)Caiff ACC ofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo—

(a)archwiliad o dan adran 103 [F130, 103A, 103B] neu 106, neu

(b)arfer pwerau o dan adran 104 neu 105 mewn perthynas ag archwiliad o dan adran 103 [F131, 103A neu 103B] y mae meddiannydd y fangre wedi cytuno iddo.

(2)Mae cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwiliad o dan adran 103 [F132, 103A neu 103B] yn cynnwys cymeradwyo arfer y pwerau o dan adran 104 neu 105 yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan y tribiwnlys wrth gymeradwyo’r archwiliad.

(3)Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth o dan is-adran (1) heb anfon hysbysiad am y cais at—

(a)y person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig, neu

(b)meddiannydd y fangre.

(4)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran [F133103, 103A neu 103B—

(a) onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni, a

(b)os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, oni fo’n fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.

[F134(4A)Y gofyniad cymwys yw—

(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;

(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;

(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.]

(5)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran 106 oni fo’n fodlon bod angen yr archwiliad at ddiben gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson ac—

(a)os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, ei fod yn fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig, neu

(b)mewn unrhyw achos arall—

(i)y rhoddwyd cyfle rhesymol i’r person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig wneud sylwadau i ACC ynghylch yr archwiliad,

(ii)y rhoddwyd cyfle rhesymol i feddiannydd y fangre wneud sylwadau o’r fath, a

(iii)y darparwyd crynodeb i’r tribiwnlys o unrhyw sylwadau a wnaed.

(6)Nid yw is-adran (5)(b)(ii) yn gymwys os yw’r tribiwnlys yn fodlon na ellir dweud pwy yw meddiannydd y fangre.

(7)Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo archwiliad o dan is-adran (1)(a) neu wedi cymeradwyo arfer pŵer o dan is-adran (1)(b) rhaid i ACC gynnal yr archwiliad neu arfer y pŵer—

(a)yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y diwrnod y rhoddodd y tribiwnlys ei gymeradwyaeth, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys wrth roi’r gymeradwyaeth.]

109Pŵer i farcio asedau a chofnodi gwybodaethLL+C

Mae’r pwerau o dan adrannau 103 i 106 yn cynnwys—

(a)pŵer i farcio asedau busnes, ac unrhyw beth sy’n cynnwys asedau busnes, at ddiben dangos eu bod wedi eu harchwilio, a

(b)pŵer i gael a chofnodi gwybodaeth (boed yn electronig neu fel arall) sy’n ymwneud â’r fangre, yr eiddo, yr asedau a’r dogfennau a archwiliwyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I217A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I218A. 109 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

110Cyfyngiad ar archwilio dogfennauLL+C

Ni chaiff ACC archwilio dogfen o dan y Bennod hon os (neu i’r graddau), yn rhinwedd Penodau 2 a 3, na allai hysbysiad gwybodaeth a ddyroddwyd i feddiannydd y fangre ar adeg yr archwiliad ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd gyflwyno’r ddogfen.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I219A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I220A. 110 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

111Dehongli Pennod 4LL+C

[F135(1)] Yn y Bennod hon—

  • ystyr “asedau busnes” (“business assets”) yw asedau y mae gan ACC reswm i gredu eu bod yn eiddo, ar les neu’n cael eu defnyddio gan unrhyw berson mewn cysylltiad â rhedeg busnes, ond nid yw’n cynnwys dogfennau;

  • ystyr “dogfennau busnes” (“business documents”) yw dogfennau (neu gopïau o ddogfennau) sy’n ymwneud â rhedeg busnes gan unrhyw berson;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur, unrhyw dir ac unrhyw ddull trafnidiaeth;

  • ystyr “mangre busnes” (“business premises”), mewn cysylltiad â pherson, yw mangre (neu unrhyw ran o fangre) y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn cael ei defnyddio mewn cysylltiad â rhedeg busnes gan y person neu ar ran y person.]

[F136(2)At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I221A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I222A. 111 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 5LL+CPWERAU YMCHWILIO PELLACH

112Pŵer i gopïo dogfennau a mynd â dogfennau ymaithLL+C

(1)Pan fo ACC yn archwilio dogfen neu pan gyflwynir dogfen gan berson, caiff ACC wneud copïau o’r ddogfen neu gymryd dyfyniadau ohoni.

(2)Pan fo ACC yn archwilio dogfen neu pan gyflwynir dogfen gan berson, caiff ACC—

(a)mynd â’r ddogfen ymaith ar adeg resymol, a

(b)cadw’r ddogfen am gyfnod rhesymol,

os ymddengys i ACC bod angen gwneud hynny.

(3)Pan fo ACC yn mynd â dogfen ymaith, rhaid i ACC ddarparu yn ddi-dâl—

(a)derbynneb ar gyfer y ddogfen, a

(b)copi o’r ddogfen,

os gofynna’r person yr oedd y ddogfen yn ei feddiant, neu a oedd â phŵer dros y ddogfen, pan gyflwynwyd neu pan archwiliwyd hi.

(4)Nid yw mynd â dogfen ymaith o dan is-adran (2)(a) i’w ystyried fel torri unrhyw hawlrwym a hawlir ar y ddogfen.

(5)Pan fo dogfen yr aed â hi ymaith o dan is-adran (2)(a) yn cael ei cholli neu ei niweidio cyn ei dychwelyd, mae ACC yn agored i ddigolledu perchennog y ddogfen am unrhyw dreuliau yr aed iddynt yn rhesymol wrth gael dogfen arall yn ei lle neu wrth ei hatgyweirio.

(6)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ddogfen yn cynnwys copi o’r ddogfen.

Gwybodaeth Cychwyn

I223A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I224A. 112 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

113Darpariaeth bellach ynghylch cofnodionLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen,

(b)caniatáu i ACC—

(i)archwilio dogfen,

(ii)gwneud neu gymryd copïau neu ddyfyniadau o ddogfen, neu

(iii)mynd â dogfen ymaith,

(c)gwneud darpariaeth ynghylch cosbau neu droseddau mewn cysylltiad â chyflwyno neu archwilio dogfennau, gan gynnwys mewn cysylltiad â’r methiant i gyflwyno dogfennau neu ganiatáu iddynt gael eu harchwilio, neu

(d)gwneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â’r gofyniad a grybwyllir ym mharagraff (a) neu’r pwerau a grybwyllir ym mharagraff (b).

(2)Mae darpariaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn cael effaith fel pe bai—

(a)unrhyw gyfeiriad yn y ddarpariaeth at ddogfen yn gyfeiriad at unrhyw beth y mae gwybodaeth o unrhyw ddisgrifiad wedi ei gofnodi ynddo, a

(b)unrhyw gyfeiriad yn y ddarpariaeth at gopi o ddogfen yn gyfeiriad at unrhyw beth y mae gwybodaeth a gofnodwyd yn y ddogfen wedi ei gopïo arno, ym mha bynnag fodd a boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

(3)Caiff ACC, ar unrhyw adeg resymol, gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â dogfen berthnasol, a’u harchwilio a gwirio eu gweithrediad.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “dogfen berthnasol” yw dogfen—

(a)y bu’n ofynnol neu y gall fod yn ofynnol i berson ei chyflwyno gan neu o dan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu

(b)y caiff ACC—

(i)ei harchwilio,

(ii)gwneud neu gymryd copïau neu ddyfyniadau ohoni, neu

(iii)mynd â hi ymaith.

(5)Caiff ACC wneud unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol ganddo at ddibenion is-adran (3) yn ofynnol gan—

(a)y person sy’n defnyddio’r cyfrifiadur neu sydd wedi defnyddio’r cyfrifiadur, neu’r person y’i defnyddir ar ei ran neu y’i defnyddiwyd ar ei ran, neu

(b)unrhyw berson sy’n gyfrifol am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’u gweithredu.

(6)Os nad yw person sy’n arfer y pŵer o dan is-adran (3) yn gallu cyflwyno tystiolaeth o awdurdod i wneud hynny pan ofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o’r fath gan—

(a)y person sy’n defnyddio’r cyfrifiadur neu sydd wedi defnyddio’r cyfrifiadur, neu’r person y’i defnyddir ar ei ran neu y’i defnyddiwyd ar ei ran, neu

(b)unrhyw berson sy’n gyfrifol am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’u gweithredu,

rhaid i’r person sy’n arfer y pŵer roi’r gorau i wneud hynny ac ni chaiff barhau hyd oni chyflwynir tystiolaeth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I225A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I226A. 113 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 6LL+CTROSEDDAU YN YMWNEUD Â HYSBYSIADAU GWYBODAETH

114Trosedd o gelu etc. ddogfennau yn dilyn hysbysiad gwybodaethLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad gwybodaeth i’r person—

(i)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno dogfen, a

(ii)sydd wedi ei gymeradwyo gan y tribiwnlys, a

(b)os yw’r person yn celu, yn difa neu fel arall yn cael gwared (neu’n trefnu i gelu, i ddifa neu i gael gwared) â’r ddogfen honno.

(2)Gall person gyflawni trosedd o dan is-adran (1) er gwaethaf y ffaith bod y person wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad gwybodaeth neu yn erbyn gofyniad ynddo.

(3)Nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) os yw’r person yn gweithredu ar ôl i’r ddogfen wreiddiol gael ei chyflwyno yn unol â’r hysbysiad gwybodaeth, oni bai bod ACC wedi hysbysu’r person bod rhaid i’r ddogfen barhau i fod ar gael i’w harchwilio (ac nad yw wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl).

(4)Pan fo copi o ddogfen wedi ei gyflwyno yn unol ag adran 96(1), nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) os yw’r person yn gweithredu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd y copi oni bai bod ACC, cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben, wedi gofyn am y ddogfen wreiddiol o dan adran 96(3).

(5)Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) ddangos bod gan y person esgus rhesymol am gelu, am ddifa neu fel arall am gael gwared (neu am drefnu i gelu, i ddifa neu i gael gwared) â’r ddogfen.

(6)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau).

Gwybodaeth Cychwyn

I227A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I228A. 114 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

115Trosedd o gelu etc. ddogfennau yn dilyn hysbysiadLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn celu, yn difa neu fel arall yn cael gwared (neu’n trefnu i gelu, i ddifa neu i gael gwared) â dogfen ar ôl i ACC ddweud wrth y person—

(a)y bydd dogfen, neu ei bod yn debygol o fod, yn destun hysbysiad gwybodaeth wedi ei gyfeirio at y person hwnnw (gweler adran 88(3)(b)), a

(b)bod ACC yn bwriadu ceisio cymeradwyaeth y tribiwnlys i ddyroddi’r hysbysiad gwybodaeth (gweler adran 87(2)(b)) neu ei bod yn ofynnol iddo geisio cymeradwyaeth o’r fath (gweler adrannau 86, 89(1)(d) a 92(1)).

(2)Nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) os yw’r person yn celu, yn difa neu fel arall yn cael gwared â’r ddogfen—

(a)ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dywedodd ACC wrth y person (neu y dywedodd wrth y person ddiwethaf), neu

(b)wedi i hysbysiad gwybodaeth gael ei ddyroddi sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person gyflwyno’r ddogfen.

(3)Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) ddangos bod gan y person esgus rhesymol am gelu, am ddifa neu fel arall am gael gwared (neu am drefnu i gelu, i ddifa neu i gael gwared) â’r ddogfen.

(4) Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau).

Gwybodaeth Cychwyn

I229A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I230A. 115 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

PENNOD 7LL+CCYMERADWYAETH Y TRIBIWNLYS

116Dim adolygu nac apelio yn erbyn cymeradwyaeth y tribiwnlysLL+C

(1)Yn adran 11(5) o [F137DTLlG] (penderfyniadau a eithrir o’r hawl i apelio i’r Uwch Dribiwnlys), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)any decision of the First-tier Tribunal under section 88, 89(3) or 92(3) of the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 (anaw 6) (approval for Welsh Revenue Authority to issue certain information notices),

(cb)any decision of the First-tier Tribunal under section 108 of that Act (approval for Welsh Revenue Authority to inspect premises),.

(2)Yn adran 13(8) o’r Ddeddf honno (penderfyniadau a eithrir o’r hawl i apelio i’r Llys Apêl etc.), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)any decision of the Upper Tribunal under section 88, 89(3) or 92(3) of the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 (anaw 6) (approval for Welsh Revenue Authority to issue certain information notices),

(bb)any decision of the Upper Tribunal under section 108 of that Act (approval for Welsh Revenue Authority to inspect premises),.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I231A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I232A. 116 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

RHAN 5LL+CCOSBAU

PENNOD 1LL+CTROSOLWG

117Trosolwg o’r RhanLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth am gosbau sy’n ymwneud â threthi datganoledig [F138neu symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth], gan gynnwys—

(a)cosbau sy’n ymwneud â methiannau i ddychwelyd ffurflenni treth neu i dalu trethi datganoledig,

(b)cosbau sy’n ymwneud ag anghywirdebau,

(c)cosbau sy’n ymwneud â chadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl, a

(d)cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau.

(2)Mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)yr amgylchiadau pan gyfyd rhwymedigaeth i’r cosbau hynny,

(b)symiau’r cosbau hynny,

(c)yr amgylchiadau pan ganiateir gohirio rhwymedigaeth i’r cosbau hynny neu ostwng symiau’r cosbau hynny,

(d)asesu’r cosbau hynny, ac

(e)talu’r cosbau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I233A. 117 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(b)

PENNOD 2LL+CCOSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH [F139NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH]

Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen drethLL+C

118Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynnyLL+C

[F140(1)] Mae person [F141y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb o £100 os yw’r person yn methu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny.

[F142(2)Ond gweler adran 118A am eithriad i’r rheol uchod.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I234A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I235A. 118 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

[F143118ACosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwiLL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—

(a)yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond

(b)y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).]

119Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 6 mis wedi’r dyddiad ffeilioLL+C

(1)Mae person [F144y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.

(2)Y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a

(b)£300.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I236A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I237A. 119 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

120Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis wedi’r dyddiad ffeilioLL+C

(1)Mae person [F145y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth] yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.

(2)Pan fo’r person, drwy fethu â dychwelyd y ffurflen dreth, yn atal yn fwriadol wybodaeth a fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo ACC i asesu rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, y gosb [F146yw—

(a) £300, neu

(b) swm uwch, heb fod yn fwy na 95% o’r swm o dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.]

(3)Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn is-adran (2), y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol⁠—

(a)5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a

(b)£300.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I238A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I239A. 120 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

121Gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgeluLL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan adran 118, [F147118A,] 119 neu 120 os yw’r person yn datgelu gwybodaeth sydd wedi ei hatal o ganlyniad i fethiant i ddychwelyd ffurflen dreth (“gwybodaeth berthnasol”).

(2)Mae person yn datgelu gwybodaeth berthnasol drwy—

(a)dweud wrth ACC amdani,

(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth ddatganoledig nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth gael ei hatal, ac

(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben gwirio faint o dreth ddatganoledig nas talwyd fel hyn.

(3)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—

(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a

(b)ansawdd y datgeliad.

(4)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—

(a)yn “ddigymell” os gwneir hynny ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth berthnasol neu ei fod ar fin ei darganfod, a

(b)fel arall, “wedi ei gymell”.

(5)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I240A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I241A. 121 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Cosb am fethu â thalu trethLL+C

[F148122[F148Cosb am fethu â thalu treth mewn pryd]LL+C

(1)Mae person yn agored i gosb os yw’r person wedi methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny mewn cysylltiad â’r swm hwnnw.

[F149(2)Y gosb—

(a)mewn cysylltiad â swm o dreth trafodiadau tir, yw 5% o swm y dreth nas talwyd;

(b)mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, yw 1% o swm y dreth nas talwyd.]

[F150(2A)Ond gweler adran 122ZA am eithriad i’r rheol yn is-adran (1).]

(3)Yn yr adran hon ac yn [F151adrannau 122ZA a 122A], y dyddiad cosbi mewn cysylltiad â swm o dreth ddatganoledig a bennir yng ngholofn 3 o Dabl A1 yw’r dyddiad a bennir yng ngholofn 4.

TABL A1
EitemY dreth ddatganoledigSwm y drethY dyddiad cosbi
1Treth trafodiadau tirSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth a ddychwelir gan y prynwr mewn trafodiad tir (oni bai bod y swm o fewn eitem 8 neu 9).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
2Treth gwarediadau tirlenwiSwm [F152sy’n daladwy o ganlyniad i] ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
3Unrhyw dreth ddatganoledigSwm sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.
4Unrhyw dreth ddatganoledigSwm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth (oni bai bod y swm o fewn eitem 7).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae ACC yn credu iddi fod yn ofynnol dychwelyd y ffurflen dreth.
5Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
6Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
7Unrhyw dreth ddatganoledigSwm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir at ddibenion gwneud addasiad i wrthweithio mantais drethiannol (gweler Rhan 3A) mewn achos pan na fo ffurflen dreth y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn ofynnol ei dychwelyd wedi ei dychwelyd mewn gwirionedd.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm (neu’r swm ychwanegol).
8Treth trafodiadau tirPan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm gohiriedig y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd adran 61(1) o’r Ddeddf honno.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig.
9Treth trafodiadau tirPan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm a wrthodir o fewn ystyr adran 61(2)(a) o’r Ddeddf honno.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir.
10Treth gwarediadau tirlenwiSwm a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 48 neu 49 o DTGT.Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol talu’r swm.
11Unrhyw dreth ddatganoledigSwm gohiriedig o fewn ystyr adran 181G(2).Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’r cyfnod gohirio yn dod i ben (gweler adran 181G ynglŷn â chyfrifo cyfnodau gohirio).

(4)Yn yr adran hon, mae i “swm gohiriedig” yr un ystyr ag yn adran 58(6)(a) DTTT.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru addasu Tabl A1 drwy reoliadau.]

[F153122ZACosb am fethiannau lluosog i dalu treth gwarediadau tirlenwi mewn prydLL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methiant i dalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny, mae cyfnod cosbi—

(a)yn dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, a

(b)yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).

(2)Os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod cosbi, yn methu â thalu swm arall o dreth gwarediadau tirlenwi (“swm B”) ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 122(1) mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a

(b)caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad cosbi ar gyfer swm B.

(3)Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at—

(a)swm B, a

(b)sawl tro yn ystod y cyfnod cosbi y mae person wedi methu â thalu swm o dreth gwarediadau tirlenwi ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw neu cyn hynny.

(4)Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 2% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(5)Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 3% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(6)Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant, mae’r person yn agored i gosb o 4% o swm B mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.

(7)Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)⁠(b).]

[F148122ACosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 [F154neu 122ZA] mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.

(2)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.

(3)Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.

(4)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.

(5)Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.]

F155123Gohirio cosb am fethu â thalu treth pan fo cytundeb cyfredol i ohirio taliadLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F156Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd trethLL+C

Diwygiadau Testunol

123A.Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth mewn prydLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.

(2)Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.

(3)Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.

(4)Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.]

Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinolLL+C

F157124Cydarwaith cosbauLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

125Gostyngiad arbennig i’r gosb o dan Bennod 2LL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.

(2)Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—

(a)y gallu i dalu, na

(b)y ffaith fod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

[F158(2A)Ond gall “amgylchiadau arbennig” gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod cytunedig.]

(3)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)dileu cosb yn llwyr,

(b)gohirio cosb, ac

(c)cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.

(4)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at gosb yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw log mewn perthynas â chosb.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I244A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I245A. 125 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

126Esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth [F159neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth] LL+C

(1)Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adrannau 118 i 120 mewn perthynas â’r methiant.

(2)Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu â thalu treth ddatganoledig, nid yw’r person yn agored i gosb o dan [F160adrannau 122 i 122A] mewn perthynas â’r methiant.

[F161(2A)Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol dros fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 123A mewn perthynas â’r methiant.]

(3)At ddibenion is-adrannau (1) [F162, (2) a (2A)]

(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

(b)pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;

(c)os oedd gan berson esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

127Asesu cosbau o dan Bennod 2LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb,

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac

(c)datgan yn yr hysbysiad y cyfnod [F163, y trafodiad neu’r swm] yr aseswyd y gosb mewn perthynas ag ef.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad ar gyfer treth ddatganoledig.

(3)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth.

(4)Os yw—

(a)asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adrannau 119 neu 120 yn seiliedig ar swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai wedi dychwelyd ffurflen dreth, a

(b)ACC yn darganfod bod y rhwymedigaeth honno yn ormodol,

caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

(5)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 [F164, 122ZA] [F165neu 122A] os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o swm y dreth ddatganoledig a oedd yn daladwy.

(6)Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 122 [F166, 122ZA] [F167neu 122A] yn seiliedig ar swm o dreth sy’n daladwy y mae ACC yn darganfod ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

[F168(6A)Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.

(6B)Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.]

(7)O ran diwygiad a wneir o dan is-adran (4) [F169, (6) neu (6B)]

(a)nid yw’n effeithio ar ba bryd y mae’n rhaid talu’r gosb, a

(b)caniateir ei wneud ar ôl y diwrnod olaf y gellid bod wedi gwneud yr asesiad o dan sylw o dan adran 128.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I248A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I249A. 127 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

128Terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2LL+C

(1)Rhaid asesu cosb o dan y Bennod hon F170... ar neu cyn y diweddaraf o ddyddiad A a (pan fo’n gymwys) dyddiad B.

(2)Dyddiad A yw diwrnod olaf y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau—

(a)yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth, â’r dyddiad ffeilio, F171...

(b)yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig, â’r dyddiad cosbi [F172, neu

(c)yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.]

(3)Dyddiad B yw diwrnod olaf y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth—

(i)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu

(ii)os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y caiff y rhwymedigaeth honno ei chanfod neu’r dyddiad y canfyddir mai dim yw’r rhwymedigaeth;

(b)yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig—

(i)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef, neu

(ii)os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y canfyddir y swm hwnnw o dreth ddatganoledig.

[F173(c)yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.]

(4)Yn is-adran (2)(b), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran [F174122(3)].

[F175(4A)Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).]

(5)Yn is-adran (3) F176..., ystyr “cyfnod apelio” [F177yw]

(a)os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a

(b)os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I250A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I251A. 128 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 3LL+CCOSBAU AM ANGHYWIRDEBAU

Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennauLL+C

129Cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACCLL+C

(1)Mae person yn agored i gosb pan fo—

(a)y person yn rhoi dogfen i ACC, a

(b)amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.

(2)Amod 1 yw bod y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb sy’n gyfystyr â’r canlynol, neu’n arwain at y canlynol—

(a)tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,

(b)datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F178...

(c)hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig [F179, neu

(d)hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.]

(3)Amod 2 yw bod yr anghywirdeb yn fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person.

(4)Mae anghywirdeb yn ddiofal ar ran person os gellir ei briodoli i fethiant y person i gymryd gofal rhesymol.

(5)Mae anghywirdeb nad oedd yn fwriadol nac yn ddiofal ar ran person pan roddwyd y ddogfen i’w drin fel un diofal—

(a)os darganfu’r person yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a

(b)os na chymerodd y person gamau rhesymol i roi gwybod i ACC.

(6)Pan fo dogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amodau 1 a 2 mewn cysylltiad â hwy, mae’r person yn agored i gosb am bob anghywirdeb o’r fath.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I252A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I253A. 129 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

130Swm y gosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACCLL+C

(1)Y gosb am anghywirdeb bwriadol yw [F180swm heb fod yn fwy na] 100% o’r refeniw posibl a gollir.

(2)Y gosb am anghywirdeb diofal yw [F181swm heb fod yn fwy na] 30% o’r refeniw posibl a gollir.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I254A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I255A. 130 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

131Gohirio cosb am anghywirdeb diofalLL+C

(1)Caiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb am anghywirdeb diofal o dan adran 129 drwy ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb.

(2)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)pa ran o’r gosb sydd i’w gohirio,

(b)cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd, ac

(c)amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy.

(3)Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohirio yn helpu’r person i osgoi dod yn agored i gosbau pellach o dan adran 129 am anghywirdeb diofal.

(4)Caiff amod gohirio bennu—

(a)cam sydd i’w gymryd, a

(b)cyfnod ar gyfer cymryd y cam hwnnw.

(5)Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben—

(a)os yw’r person yn bodloni ACC y cydymffurfiwyd â’r amodau gohirio, caiff y gosb neu’r rhan a ohiriwyd ei chanslo, a

(b)fel arall, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.

(6)Os yw’r person, yn ystod cyfnod gohirio cosb gyfan neu ran o gosb sy’n daladwy o dan adran 129, yn dod yn agored i gosb arall o dan yr adran honno, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I256A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I257A. 131 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

132Cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arallLL+C

(1)Mae person (y cyfeirir ato yn yr adran hon fel “person A”) yn agored i gosb pan fo—

(a)person arall yn rhoi dogfen i ACC,

(b)y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb perthnasol, ac

(c)yr anghywirdeb i’w briodoli—

(i)i berson A yn darparu gwybodaeth ffug i’r person arall yn fwriadol (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), neu

(ii)i berson A yn atal gwybodaeth yn fwriadol rhag y person arall,

gyda’r bwriad bod y ddogfen yn cynnwys yr anghywirdeb.

(2)Mae “anghywirdeb perthnasol” yn anghywirdeb sy’n gyfystyr ag, neu’n arwain at—

(a)tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,

(b)datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F182...

(c)hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig [F183, neu

(d)hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.]

(3)Mae person A yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag anghywirdeb pa un a yw’r person arall yn agored i gosb ai peidio o dan adran 129 mewn perthynas â’r un anghywirdeb.

(4)Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw [F184 100% o’r refeniw posibl a gollir.]

Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad etc.LL+C

133Cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniadLL+C

(1)Mae person yn agored i gosb pan fo—

(a)asesiad ACC yn tanddatgan rhwymedigaeth y person i dreth ddatganoledig, a

(b)y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.

[F185(1A)Mae person hefyd yn agored i gosb pan fo—

(a)asesiad ACC o dan adran 55A yn tanddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person ei dalu i ACC, a

(b)y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.]

(2)Wrth benderfynu pa gamau (os o gwbl) a oedd yn rhesymol, rhaid i ACC ystyried pa un a wyddai’r person am y tanasesiad, neu a ddylai fod wedi gwybod amdano.

(3)Y gosb sy’n daladwy o dan yr adran hon yw [F186swm heb fod yn fwy na] 30% o’r refeniw posibl a gollir.

(4)Yn yr adran hon—

(a)mae “asesiad ACC” yn cynnwys dyfarniad a wnaed gan ACC o dan adran 52, a

(b)yn unol â hynny, mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at danasesiad yn cynnwys cyfeiriadau at danddyfarniad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I260A. 133 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I261A. 133 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Refeniw posibl a gollirLL+C

134Ystyr “refeniw posibl a gollir”LL+C

Yn y Bennod hon, mae i “refeniw posibl a gollir” yr ystyr a roddir gan adrannau 135 i 138.

Gwybodaeth Cychwyn

I262A. 134 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I263A. 134 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

135Refeniw posibl a gollir: y rheol arferolLL+C

(1)Y “refeniw posibl a gollir” mewn cysylltiad ag—

(a)anghywirdeb mewn dogfen (gan gynnwys anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth), neu

(b)methiant i hysbysu ynghylch tanasesiad,

yw’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad â threth ddatganoledig [F187neu gredyd treth] o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb neu’r tanasesiad.

(2)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y swm ychwanegol sy’n daladwy yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)swm sy’n daladwy i ACC wedi iddo gael ei dalu drwy gamgymeriad ar ffurf ad-daliad o dreth ddatganoledig, F188...

(b)swm a fyddai wedi bod i’w ad-dalu gan ACC pe na byddai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro, [F189ac

(c)swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I264A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I265A. 135 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

136Refeniw posibl a gollir: camgymeriadau lluosogLL+C

(1)Pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad â mwy nag un anghywirdeb, a bod y cyfrifiad o’r refeniw posibl a gollir o dan adran 135 mewn cysylltiad â phob anghywirdeb yn dibynnu ar y drefn y cânt eu cywiro, dylid cymryd bod anghywirdebau diofal yn cael eu cywiro cyn anghywirdebau bwriadol.

(2)Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad ag un neu ragor o danddatganiadau mewn un neu ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â chyfnod treth [F190, trafodiad neu hawliad am gredyd treth], rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw orddatganiadau mewn unrhyw ddogfen a roddwyd gan y person sy’n ymwneud â’r un cyfnod treth [F191, trafodiad neu hawliad am gredyd treth].

(3)Yn is-adran (2)—

(a)ystyr “tanddatganiad” yw anghywirdeb sy’n bodloni amod 1 yn adran 129, a

(b)ystyr “gorddatganiad” yw anghywirdeb nad yw’n bodloni’r amod hwnnw.

(4)At ddibenion is-adran (2), mae gorddatganiadau i’w gosod yn erbyn tanddatganiadau yn y drefn a ganlyn—

(a)tanddatganiadau nad yw’r person yn agored i gosb mewn cysylltiad â hwy,

(b)tanddatganiadau diofal, ac

(c)tanddatganiadau bwriadol.

(5)Wrth gyfrifo, at ddibenion cosb o dan adran 129, refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â dogfen a roddwyd gan berson neu ar ran person, ni ddylid ystyried y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan berson i’w wrthbwyso, neu y caniateir ei wrthbwyso, gan ordaliad posibl gan berson arall (ac eithrio i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol bod rhwymedigaeth person i dreth ddatganoledig yn cael ei haddasu drwy gyfeirio at rwymedigaeth person arall i dreth ddatganoledig).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I266A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I267A. 136 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

137Refeniw posibl a gollir: colledionLL+C

(1)Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig a bod y golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, cyfrifir y refeniw posibl a gollir yn unol ag adran 135.

(2)Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig ac nad yw’r golled wedi ei defnyddio’n llwyr i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, y refeniw posibl a gollir yw—

(a)y refeniw posibl a gollir wedi ei gyfrifo yn unol ag adran 135 mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r golled a ddefnyddiwyd i ostwng y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r dreth honno, ynghyd â

(b)10% o unrhyw ran nas defnyddiwyd.

(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r canlynol fel ei gilydd—

(a)achos pan na fyddai unrhyw golled wedi ei chofnodi oni bai am yr anghywirdeb, a

(b)achos pan fyddai swm gwahanol o golled wedi ei gofnodi (ond yn yr achos hwnnw nid yw is-adrannau (1) a (2) ond yn gymwys i’r gwahaniaeth rhwng y swm a gofnodwyd a’r gwir swm).

(4)Mae’r refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â cholled yn ddim pan na fo unrhyw obaith rhesymol, oherwydd natur y golled neu amgylchiadau’r person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno, y defnyddir y golled i gefnogi hawliad i ostwng rhwymedigaeth unrhyw berson i’r dreth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I268A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I269A. 137 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

138Refeniw posibl a gollir: treth oediedigLL+C

(1)Pan fo anghywirdeb wedi arwain at ddatgan swm o dreth ddatganoledig yn hwyrach nag y dylid (“y dreth oediedig”), y refeniw posibl a gollir yw—

(a)5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o’r oedi;

(b)canran o’r dreth oediedig, ar gyfer pob cyfnod oedi o lai na blwyddyn, sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys i achos y mae adran 137 yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I270A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I271A. 138 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Cosbau o dan Bennod 3: cyffredinolLL+C

139Gostwng cosb o dan Bennod 3 am ddatgeluLL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb sy’n daladwy o dan y Bennod hon pan fo person yn gwneud datgeliad cymwys.

(2)Ystyr “datgeliad cymwys” yw datgelu—

(a)anghywirdeb sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig,

(b)bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth ddatganoledig, F192...

(c)methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad â threth ddatganoledig,

[F193(d)anghywirdeb sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,

(e)bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth, neu

(f)methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad ag atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.]

(3)Mae person yn gwneud datgeliad cymwys drwy—

(a)dweud wrth ACC amdano,

(b)rhoi cymorth rhesymol i ACC wrth feintioli—

(i)yr anghywirdeb,

(ii)yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu gelu gwybodaeth, neu

(iii)y tanasesiad, ac

(c)caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben sicrhau bod—

(i)yr anghywirdeb,

(ii)yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth, neu

(iii)y tanasesiad,

yn cael ei gywiro’n llawn.

(4)Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—

(a)pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a

(b)ansawdd y datgeliad.

(5)Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—

(a)yn “ddigymell” os caiff ei wneud ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod neu ar fin darganfod yr anghywirdeb, bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu neu bod gwybodaeth wedi ei hatal, neu’r tanasesiad, a

(b)fel arall, “wedi ei gymell”.

(6)Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I272A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I273A. 139 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

140Gostyngiad arbennig i gosb o dan Bennod 3LL+C

(1)Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.

(2)Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—

(a)gallu i dalu, na

(b)y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.

(3)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)dileu cosb yn llwyr,

(b)gohirio cosb, ac

(c)cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.

(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at gosb yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw log mewn perthynas â chosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I274A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I275A. 140 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

141Asesu cosbau o dan Bennod 3LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb,

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac

(c)datgan yn yr hysbysiad ar gyfer pa gyfnod [F194, trafodiad neu hawliad am gredyd treth] yr aseswyd y gosb.

(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad o dreth ddatganoledig.

(3)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 129 neu 132 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer y penderfyniad sy’n cywiro’r anghywirdeb, neu

(b)os nad oes asesiad o’r dreth o dan sylw o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y caiff yr anghywirdeb ei gywiro.

(4)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 133 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad treth a oedd yn cywiro’r tanddatganiad, neu

(b)os nad oes asesiad sy’n cywiro’r tanddatganiad, â’r diwrnod y caiff y tanddatganiad ei gywiro.

(5)Yn is-adrannau (3) a (4), ystyr “cyfnod apelio” [F195yw]

(a)os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a

(b)os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

(6)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan y Bennod hon os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danddatganiad o’r refeniw posibl a gollir.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I276A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I277A. 141 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

DehongliLL+C

142Dehongli Pennod 3LL+C

Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriad at roi dogfen i ACC yn cynnwys—

(i)cyfeiriad at gyfleu gwybodaeth i ACC ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd (boed drwy’r post, ffacs, e-bost, ffôn neu fel arall), a

(ii)cyfeiriad at wneud datganiad mewn dogfen;

(b)mae cyfeiriad at ddychwelyd ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth yn cynnwys cyfeiriad at ddiwygio ffurflen dreth neu at wneud unrhyw beth mewn perthynas â ffurflen dreth ddiwygiedig;

(c)mae cyfeiriad at golled yn cynnwys cyfeiriad at dâl, traul, diffyg ac unrhyw swm arall a all fod ar gael ar gyfer didyniad neu [F196ryddhad], neu y gellir dibynnu arno er mwyn hawlio didyniad neu [F196ryddhad];

(d)mae cyfeiriad at weithred yn cynnwys cyfeiriad at anweithred.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I278A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I279A. 142 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 4LL+CCOSBAU SY’N YMWNEUD Â CHADW COFNODION A THREFNIADAU TALU’N ÔL

Cosb am fethu â chadw cofnodion mewn cysylltiad â ffurflenni neu hawliadau treth a’u storio’n ddiogelLL+C

143Cosb am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C

(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 [F197, 38A] neu 69 yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.

(2)Ond nid oes unrhyw gosb i’w thalu os yw ACC yn fodlon bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I280A. 143 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I281A. 143 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

144Esgus rhesymol am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogelLL+C

(1)Os yw person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 [F198, 38A] neu 69 yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant, nid oes unrhyw rwymedigaeth i gosb o dan adran 143 mewn perthynas â’r methiant.

(2)At ddibenion is-adran (1)—

(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

(b)pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;

(c)os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I282A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I283A. 144 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

145Asesu cosbau o dan adran 143LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 143, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.

(2)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 143 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person wedi methu â chydymffurfio ag adran 38 [F199, 38A] neu 69.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I284A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I285A. 145 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

PENNOD 5LL+CCOSBAU SY’N YMWNEUD AG YMCHWILIADAU

Cosbau am fethu â chydymffurfio neu am rwystroLL+C

146Cosb am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystroLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i berson—

(a)sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth,

(b)sy’n rhwystro ACC yn fwriadol yn ystod ymchwiliad, neu wrth iddo arfer pŵer, a gymeradwywyd gan y tribiwnlys o dan adran 108,

(c)sy’n rhwystro ACC yn fwriadol wrth iddo arfer ei bŵer o dan adran 113(3), neu

(d)sy’n methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â gofyniad o dan adran 113(5).

(2)Mae’r person yn agored i gosb o £300.

(3)Mae’r cyfeiriad at berson sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth yn cynnwys person sy’n celu, yn difa, neu fel arall yn cael gwared â dogfen (neu sy’n trefnu i’w chelu, i’w difa neu i gael gwared arni) yn groes i adran 114 neu 115.

Gwybodaeth Cychwyn

I286A. 146 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I287A. 146 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)

147Cosb ddiofyn ddyddiol am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystroLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r methiant neu’r rhwystr a grybwyllir yn adran 146(1) yn parhau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad am gosb o dan adran 153(1)(b) mewn cysylltiad â’r methiant neu’r rhwystr.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r methiant yn gysylltiedig â hysbysiad cyswllt dyledwr, neu

(b)os yw penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan adran 146 mewn cysylltiad â’r methiant neu’r rhwystr yn destun—

(i)adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(ii)apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.

(3)Mae’r person yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach heb fod yn fwy na £60 am bob diwrnod y mae’r methiant neu’r rhwystr yn parhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I288A. 147 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I289A. 147 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)

148Effaith ymestyn y terfyn amser ar gyfer cydymffurfioLL+C

Ni chyfyd rhwymedigaeth i gosb o dan adran 146 neu 147 mewn cysylltiad â methiant person i wneud unrhyw beth yr oedd ofynnol ei wneud o fewn cyfnod cyfyngedig os gwnaeth y person hynny o fewn unrhyw gyfnod pellach (os o gwbl) a ganiatawyd gan ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I290A. 148 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I291A. 148 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)

149Esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio neu am rwystroLL+C

(1)Nid oes rhwymedigaeth i gosb o dan adran 146 neu 147 os yw’r person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant neu am rwystro ACC.

(2)At ddibenion yr adran hon—

(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

(b)pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant neu’r rhwystr;

(c)os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant neu’r rhwystr ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro, neu os daw’r rhwystr i ben, heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I292A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I293A. 149 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)

Cosbau pellach am barhau i fethu â chydymffurfio neu am barhau i rwystroLL+C

150Cosb ddiofyn ddyddiol uwch am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os caiff cosb o dan adran 147 ei hasesu o dan adran 153 mewn cysylltiad â methiant person i gydymffurfio â hysbysiad trydydd parti anhysbys,

(b)os yw’r methiant yn parhau am fwy na 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd hysbysiad am y gosb, ac

(c)os dywedwyd wrth y person y gellir gwneud cais o dan yr adran hon i osod cosb ddyddiol uwch.

(2)Caiff ACC wneud cais i’r tribiwnlys osod cosb ddyddiol uwch ar y person.

(3)Ond ni chaiff ACC wneud cais o’r fath os yw penderfyniad mewn perthynas â chosb o dan adran 146 neu 147 mewn cysylltiad â’r methiant yn destun—

(a)adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(b)apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.

(4)Os yw’r tribiwnlys yn penderfynu y dylid gosod cosb ddyddiol uwch, yna ar gyfer pob diwrnod cymwys y mae’r methiant yn parhau—

(a)nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 147 am y methiant, a

(b)mae’r person yn agored yn hytrach i gosb o dan yr adran hon o swm a bennir gan y tribiwnlys.

(5)Ni chaiff y tribiwnlys bennu swm sy’n uwch na £1,000 ar gyfer pob diwrnod cymwys.

(6)Wrth bennu’r swm rhaid i’r tribiwnlys roi sylw i—

(a)cost debygol cydymffurfio â’r hysbysiad i’r person,

(b)unrhyw fuddiannau i’r person o beidio â chydymffurfio â’r hysbysiad, ac

(c)unrhyw fuddiannau i unrhyw un arall sy’n deillio o’r ffaith nad yw’r person wedi cydymffurfio.

(7)Os daw person yn agored i gosb o dan yr adran hon, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad sy’n nodi’r ffaith honno i’r person.

(8)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y diwrnod cyntaf y bydd y gosb uwch yn gymwys.

(9)Mae’r diwrnod hwnnw ac unrhyw ddiwrnod dilynol y mae’r methiant yn parhau yn “ddiwrnod cymwys” at ddibenion yr adran hon ac adran 153(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I294A. 150 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I295A. 150 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)

151Cosb gysylltiedig â threth am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystroLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)person yn dod yn agored i gosb o dan adran 146,

(b)y methiant neu’r rhwystr yn parhau ar ôl y diwrnod y dyroddir hysbysiad am gosb o dan adran 153(1)(b) mewn cysylltiad â’r gosb,

(c)ACC â rheswm i gredu bod—

[F200(i)]swm y dreth ddatganoledig y mae’r person wedi ei dalu, neu y mae’n debygol o’i dalu, [F201neu

(ii)y swm y mae’r person wedi ei dalu, neu y mae’n debygol o’i dalu mewn cysylltiad â chredyd treth,]

yn sylweddol is na’r hyn y byddai wedi bod fel arall o ganlyniad i’r methiant neu’r rhwystr,

(d)cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol, ACC yn gwneud cais i’r Uwch Dribiwnlys i gosb ychwanegol gael ei gosod ar y person (gweler is-adran (6)) ac yn rhoi hysbysiad am y cais i’r person, ac

(e)yr Uwch Dribiwnlys yn penderfynu ei bod yn briodol gosod cosb ychwanegol.

(2)Mae’r person yn agored i gosb o swm a bennir gan yr Uwch Dribiwnlys.

(3)Wrth bennu’r swm, rhaid i’r Uwch Dribiwnlys roi sylw i—

[F202(i)]swm y dreth ddatganoledig [F203, neu

(ii)y swm mewn cysylltiad â chredyd treth,]

nad yw’r person wedi ei dalu, neu nad yw’n debygol o’i dalu.

(4)Mae unrhyw gosb o dan yr adran hon yn ychwanegol at y gosb neu’r cosbau o dan adran 146 neu 147.

(5)Yn is-adran (1)(d), ystyr y “dyddiad perthnasol” yw—

(a)mewn achos sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth y caiff person apelio yn ei erbyn, y diweddaraf o’r canlynol—

(i)y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb o dan adran 146,

(ii)os na wneir apêl yn erbyn yr hysbysiad gwybodaeth, diwedd y cyfnod y gellid bod wedi gwneud apêl o’r fath, a

(iii)os gwneir apêl o’r fath, y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl, a

(b)mewn unrhyw achos arall, y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb o dan adran 146.

(6)Ni chaiff ACC wneud cais o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(d) os yw penderfyniad sy’n ymwneud â chosb o dan adran 146, 147 neu 150 mewn cysylltiad â’r methiant neu’r rhwystr yn destun—

(a)adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(b)apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I296A. 151 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I297A. 151 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)

Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywirLL+C

152Cosb am wybodaeth neu ddogfennau anghywirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw person yn darparu gwybodaeth anghywir, neu’n cyflwyno dogfen sy’n cynnwys anghywirdeb, wrth gydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth heblaw hysbysiad cyswllt dyledwr, a

(b)os bodlonir amod 1, 2 neu 3.

(2)Amod 1 yw bod yr anghywirdeb—

(a)yn fwriadol, neu

(b)yn deillio o fethiant ar ran y person i gymryd gofal rhesymol.

(3)Amod 2 yw bod y person yn gwybod am yr anghywirdeb ar yr adeg y darperir yr wybodaeth neu y cyflwynir y ddogfen ond nad yw’n hysbysu ACC ar y pryd.

(4)Amod 3 yw bod y person—

(a)yn darganfod yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a

(b)yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC.

(5)Mae’r person yn agored i gosb heb fod yn fwy na £3,000.

(6)Pan fo’r wybodaeth neu’r ddogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amod 1, 2 neu 3 mewn cysylltiad â hwy, mae cosb yn daladwy am bob anghywirdeb o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I298A. 152 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I299A. 152 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)

Cosbau o dan Bennod 5: cyffredinolLL+C

153Asesu cosbau o dan Bennod 5LL+C

(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.

(2)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb.

(3)Ond mewn achos sy’n ymwneud â hysbysiad gwybodaeth y caiff person apelio yn ei erbyn, rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 146 neu 147 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)y diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb,

(b)os na wneir apêl yn erbyn yr hysbysiad, diwedd y cyfnod y gellid bod wedi gwneud apêl o’r fath, ac

(c)os gwneir apêl o’r fath, y diwrnod y caiff yr apêl ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

(4)Rhaid gwneud asesiad o gosbau o dan adran 150—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod cymwys cyntaf, a

(b)ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o 7 niwrnod sy’n cynnwys diwrnod cymwys.

(5)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 151 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y penderfynodd yr Uwch Dribiwnlys ei bod yn briodol gosod y gosb.

(6)Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 152—

(a)o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth yr anghywirdeb i sylw ACC yn gyntaf, a

(b)o fewn y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y person yn agored i’r gosb.

Gwybodaeth Cychwyn

I300A. 153 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I301A. 153 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)

PENNOD 6LL+CTALU COSBAU

154Talu cosbauLL+C

Rhaid talu cosb o dan y Rhan hon cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I302A. 154 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

I303A. 154 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(e)

[F204154AAtebolrwydd cynrychiolwyr personolLL+C

(1)Os yw person sy’n agored i gosb (“P”) wedi marw, caniateir i unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu mewn perthynas â P gael ei hasesu mewn perthynas â chynrychiolwyr personol P.

(2)Mae unrhyw gosb a asesir felly i’w thalu o ystad P.]

PENNOD 7LL+CATODOL

155Gwahardd cosbi ddwywaithLL+C

Nid yw person yn agored i gosb o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi ei gollfarnu o drosedd mewn perthynas â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I304A. 155 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

I305A. 155 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(f)

156Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth (neu ddarpariaeth bellach) ynghylch—

(a)symiau cosbau o dan y Rhan hon;

(b)y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon fod yn gymwys—

(a)i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym, neu

(b)i anghywirdeb mewn unrhyw wybodaeth neu ddogfen a ddarparwyd i ACC cyn y diwrnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I306A. 156 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

I307A. 156 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

RHAN 6LL+CLLOG

PENNOD 1LL+CLLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY I ACC

F205...LL+C

Diwygiadau Testunol

F205A. 157 croes-bennawd wedi ei hepgor (25.1.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 57; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(ii)

[F206157Llog taliadau hwyr ar drethi datganoledigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o dreth ddatganoledig—

(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth fel—

(i)y dreth sydd i’w chodi, neu

(ii)os yw’r ffurflen dreth yn ffurflen dreth bellach a wneir gan y prynwr mewn trafodiad tir, y dreth trafodiadau tir (neu’r dreth trafodiadau tir ychwanegol) sy’n daladwy;

(b)sy’n daladwy—

(i)o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen dreth o dan adran 41, 45 neu 50;

(ii)o ganlyniad i gywiriad i ffurflen dreth o dan adran 42;

(iii)yn unol ag asesiad a wnaed yn ychwanegol at ffurflen dreth o dan adran 54 neu 55, neu

(c)sy’n daladwy yn unol ag—

(i)dyfarniad o dan adran 52, neu

(ii)asesiad o dan adran 54 neu 55,

a wnaed yn lle ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd.

[F207(1A)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i swm o dreth gwarediadau tirlenwi a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 49 neu 50 o DTGT.]

(2)Os na chaiff y swm ei dalu cyn dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—

(a)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(a) neu (b), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;

(b)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(c), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd;

[F208(c)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1A), y dyddiad sy’n union ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn adran 51 o DTGT.]

(4)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.]

[F206157ALlog taliadau hwyr ar gosbauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o gosb [F209sy’n ymwneud â threth ddatganoledig].

(2)Os na thelir y swm ar y dyddiad y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod canlynol, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.]

[F210157B.Llog taliadau hwyr ar symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd trethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.

(2)Os na thelir y swm ar y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Pan fo’r swm yn daladwy o ganlyniad i asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—

(a)os hawliwyd y credyd treth o dan sylw mewn ffurflen dreth, y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;

(b)os hawliwyd y credyd treth o dan sylw drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd swm sy’n hafal â’r swm i berson mewn cysylltiad â’r hawliad.

(4)Pan fo’r swm yn daladwy o ganlyniad i asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.

(5)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr at ddibenion yr adran hon yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.]

[F206158Llog taliadau hwyr: atodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 157 [F211, 157A a 157B].

(2)Nid yw llog taliadau hwyr yn daladwy ar log taliadau hwyr.

(3)Caiff dyddiad dechrau llog taliadau hwyr fod yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn ystyr adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882 (p. 61).

(4)Mae’r dyddiad talu, mewn perthynas â swm, yn cynnwys y dyddiad y caiff y swm ei osod yn erbyn swm sy’n daladwy gan ACC.

(5)Mae i “cyfradd llog taliadau hwyr” yr ystyr a roddir gan adran 163(1).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I310A. 158 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

I311A. 158 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

F212...LL+C

Diwygiadau Testunol

F212A. 159 ac croes-bennawd wedi ei hepgor (25.1.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 59; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(ii)

F212159Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr: diwygiadau i asesiadau etc.LL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

160Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr: marwolaeth trethdalwrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw [F213person—

(i)y mae swm o dreth ddatganoledig i’w godi arno neu gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

(ii)y mae’n ofynnol iddo dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,]

yn marw cyn y daw’r swm yn daladwy, a

(b)os nad yw’r ysgutor neu’r gweinyddwr yn gallu talu’r swm cyn cael profiant neu lythyrau gweinyddu neu ddogfen arall ag iddi effaith gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth heblaw Cymru a Lloegr mewn perthynas ag ystad yr ymadawedig.

(2)Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr ar gyfer y swm hwnnw yw’r hwyraf o’r canlynol⁠—

(a)y dyddiad a fyddai wedi bod yn ddyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr oni bai am yr adran hon, a

(b)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â grant profiant neu lythyrau gweinyddu neu ddogfen arall ag iddi effaith gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth heblaw Cymru a Lloegr mewn perthynas ag ystad yr ymadawedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I312A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I313A. 160 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(g)

PENNOD 2LL+CLLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY GAN ACC

Llog ad-daliadauLL+C

161Llog ad-daliadau ar symiau sy’n daladwy gan ACCLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw swm perthnasol a dalwyd gan berson i ACC a ad-delir gan ACC i’r person hwnnw neu i berson arall.

(2)Ystyr “swm perthnasol” yw swm a dalwyd mewn cysylltiad ag unrhyw rwymedigaeth (gan gynnwys unrhyw rwymedigaeth honedig neu rwymedigaeth a ragwelir) i dalu i ACC—

(a)swm o dreth ddatganoledig, F214...

(b)swm o gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig [F215, neu

(c)swm mewn cysylltiad â chredyd treth.]

(3)Os nad ad-delir swm y mae’r adran hon yn gymwys iddo cyn dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog ad-daliadau”) ar y gyfradd llog ad-daliadau ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad ad-dalu.

(4)Dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau ar gyfer y swm perthnasol yw’r hwyraf o’r canlynol⁠—

(a)y diwrnod y talwyd y swm perthnasol i ACC, a

(b)y diwrnod y daeth y swm a grybwyllir yn is-adran [F216(2)(a), (b) neu (c)], y talwyd y swm perthnasol mewn cysylltiad ag ef, yn daladwy i ACC.

(5)Mae is-adran (3)(a) yn gymwys hyd yn oed os yw dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn yr ystyr a roddir i “non-business day” yn adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882 (p. 61).

(6)Yn yr adran hon, mae i “cyfradd llog ad-daliadau” yr ystyr a roddir gan adran 163(2).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I314A. 161 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I315A. 161 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(g)

162Llog ad-daliadau: atodolLL+C

(1)Nid yw llog ad-daliadau yn daladwy ar swm sy’n daladwy o ganlyniad i orchymyn neu ddyfarniad llys sydd â phŵer i ganiatáu llog ar y swm.

(2)Nid yw llog ad-daliadau yn daladwy ar log ad-daliadau.

(3)Mae’r dyddiad ad-dalu, mewn perthynas â swm y mae adran 161 yn gymwys iddo, yn cynnwys y dyddiad y caiff ei osod yn erbyn swm sy’n ddyledus i ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I316A. 162 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I317A. 162 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(g)

PENNOD 3LL+CCYFRADDAU LLOG

163Cyfraddau llog taliadau hwyr a llog ad-daliadauLL+C

(1)Y gyfradd llog taliadau hwyr yw’r gyfradd y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Y gyfradd llog ad-daliadau yw’r gyfradd y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) neu (2)—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)naill ai bennu cyfradd llog eu hunain neu wneud darpariaeth ar gyfer pennu cyfradd (a’i newid o bryd i’w gilydd) drwy gyfeirio at gyfradd neu gyfartaledd cyfraddau y cyfeirir ati neu ato mewn rheoliadau;

(c)darparu ar gyfer gostwng cyfraddau islaw, neu eu codi uwchlaw, yr hyn y byddent fel arall drwy gyfeirio at symiau penodedig neu at fformiwlâu penodedig;

(d)darparu ar gyfer talgrynnu i fyny neu i lawr gyfraddau a geir drwy gyfeirio at gyfartaleddau;

(e)darparu ar gyfer amgylchiadau pa fo cyfradd llog i’w haddasu neu pan na fo i’w haddasu;

(f)darparu bod addasiadau i gyfraddau i gael effaith am gyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl diwrnod a bennir yn unol â’r rheoliadau mewn perthynas â llog sy’n dechrau cronni cyn y dyddiad hwnnw yn ogystal ag o’r diwrnod hwnnw neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I318A. 163 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I319A. 163 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

RHAN 7LL+CTALU A GORFODI

TaluLL+C

164Ystyr “swm perthnasol”LL+C

Yn y Rhan hon, ystyr “swm perthnasol” yw—

(a)treth ddatganoledig;

(b)llog ar dreth ddatganoledig;

(c)cosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

(d)llog ar gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

[F217(e)swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;

(f)llog ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I320A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I321A. 164 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)

165Symiau perthnasol yn daladwy i ACCLL+C

Mae unrhyw swm perthnasol sy’n dod yn daladwy (boed o dan ddeddfiad neu o dan setliad contract) yn daladwy i ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I322A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I323A. 165 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)

166Derbynebau am daliadLL+C

Pan delir swm perthnasol i ACC, rhaid i ACC roi derbynneb os gofynnir iddo wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I324A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I325A. 166 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)

167Ffioedd taluLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod rhaid i berson sy’n talu swm perthnasol i ACC gan ddefnyddio dull talu a ragnodir gan y rheoliadau, hefyd dalu ffi a ragnodir gan y rheoliadau neu a bennir yn unol â hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y mae’n rhaid talu’r ffi.

Gwybodaeth Cychwyn

I326A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I327A. 167 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Ardystio dyledLL+C

168Tystysgrifau dyledLL+C

(1)Mae tystysgrif gan ACC nad yw swm perthnasol wedi ei dalu i ACC yn dystiolaeth ddigonol nad yw’r swm wedi ei dalu oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(2)Mae dogfen yr honnir ei bod yn dystysgrif o’r fath i’w thrin fel pe bai’n dystysgrif o’r fath oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I328A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I329A. 168 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)

AdennillLL+C

169Achos yn llys yr ynadonLL+C

(1)Pan fo swm perthnasol yn daladwy gan berson ac nad yw’n fwy na £2,000, mae i’w adennill fel dyled sifil drwy broses ynadol.

(2)Caniateir cynnwys pob un neu unrhyw un neu ragor o’r symiau sydd i’w hadennill o dan yr adran hon sy’n daladwy gan unrhyw un person o fewn yr un gŵyn, wŷs, neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gosod gerbron ynad heddwch neu ei dyroddi ganddo.

(3)Mae pob dogfen o’r fath i’w thrin, mewn cysylltiad â phob swm, fel dogfen ar wahân ac nid yw ei hannilysrwydd mewn cysylltiad ag un swm yn effeithio ar ei dilysrwydd mewn cysylltiad ag unrhyw swm arall.

(4)O ran swm perthnasol sy’n dreth ddatganoledig neu’n gosb [F218neu’n swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth], caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig [F219, y gosb neu’r swm arall] arno neu’n gynharach.

(5)O ran swm perthnasol sy’n llog ar dreth ddatganoledig neu ar gosb [F220neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth], caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig [F221, y gosb neu’r swm arall] arno neu’n gynharach.

[F222(5A)Pan fo swm perthnasol yn cynnwys swm o dreth trafodiadau tir y mae ACC wedi cytuno y gellir gohirio ei dalu, rhaid anwybyddu unrhyw gyfnod gohirio mewn cysylltiad â’r swm hwnnw (fel y’i pennir o dan Bennod 3 o Ran 6 o DTTT) wrth gyfrifo’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato yn is-adran (4) neu (5).

(5B)Pan fo swm perthnasol yn cynnwys swm a gaiff ei drin fel swm gohiriedig yn rhinwedd adran 181G, rhaid anwybyddu unrhyw gyfnod gohirio mewn cysylltiad â’r swm hwnnw (fel y’i pennir o dan yr adran honno) wrth gyfrifo’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato yn is-adran (4) neu (5).]

(6)Caiff Gweinidogion Cymru gynyddu’r swm a bennir yn is-adran (1) drwy reoliadau.

170Gorfodi drwy atafaelu nwyddauLL+C

(1)Os nad yw person yn talu swm perthnasol i ACC sy’n daladwy gan y person, caiff ACC ddilyn y weithdrefn yn Atodlen 12 i [F223DTLlG] (atafaelu nwyddau) er mwyn adennill y swm hwnnw.

(2)Yn adran 63(3) o’r Ddeddf honno (asiantau gorfodi), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)a person authorised to use the procedure in Schedule 12 by the Welsh Revenue Authority (or by a person to whom the Welsh Revenue Authority has delegated the function of authorising the use of the procedure);.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I332A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I333A. 170 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)

RHAN 8LL+CADOLYGIADAU AC APELAU

PENNOD 1LL+CRHAGARWEINIOL

TrosolwgLL+C

171Trosolwg o’r RhanLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau o benderfyniadau penodol gan ACC, ac apelau yn eu herbyn, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y penderfyniadau sy’n benderfyniadau apeliadwy,

(b)yr hawl i ofyn i ACC adolygu penderfyniadau apeliadwy,

(c)y ddyletswydd ar ACC i gynnal adolygiadau ar gais,

(d)effaith casgliadau adolygiad,

(e)yr hawl i apelio i’r tribiwnlys yn erbyn penderfyniadau apeliadwy, boed hynny yn dilyn adolygiad neu fel arall, ac

(f)y ddyletswydd ar y tribiwnlys i ddyfarnu ar yr apelau hynny.

(2)Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer setlo anghydfodau sy’n ymwneud â phenderfyniadau apeliadwy drwy gytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I334A. 171 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(b)

Penderfyniadau apeliadwyLL+C

172Penderfyniadau apeliadwyLL+C

(1)Caiff person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo—

(a)gofyn am adolygiad o’r penderfyniad (yn ddarostyngedig i is-adran (4)), a

(b)apelio yn erbyn y penderfyniad,

yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Rhan hon.

(2) Mae’r penderfyniadau a ganlyn gan ACC yn benderfyniadau apeliadwy—

(a)penderfyniad sy’n effeithio ar ba un a yw treth ddatganoledig i’w chodi ar berson;

(b)penderfyniad sy’n effeithio ar y swm o dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar berson;

(c)penderfyniad sy’n effeithio ar y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu swm o dreth ddatganoledig;

(d)penderfyniad ynglŷn â chosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

(e)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath;

[F224(f)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 14 o Atodlen 16 i DTTT (adennill rhyddhad grŵp: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth);

(g)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 9 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno (adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth);]

[F225(h)penderfyniad sy’n ymwneud â’r dull sydd i’w ddefnyddio gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig i bennu pwysau deunydd at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F226(i)penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru person at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F227(j)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F228(k)penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi grŵp o gyrff corfforaethol at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;]

[F229(l)penderfyniad sy’n ymwneud â chredyd treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi.]

[F230(2A)Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.]

(3)Ond nid yw’r penderfyniadau a ganlyn yn benderfyniadau apeliadwy—

(a)penderfyniad i ddyroddi hysbysiad ymholiad o dan adran 43 neu 74;

(b)penderfyniad i ddyroddi—

(i)hysbysiad trethdalwr, neu

(ii)hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo;

(c)penderfyniad i gynnwys gofyniad penodol mewn—

(i)hysbysiad trethdalwr, neu

(ii)hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo.

(4)Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth, ni chaiff person ofyn am adolygiad o benderfyniad ACC i ddyroddi’r hysbysiad.

(5)Pan ganiateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, caniateir gofyn amdano neu ei wneud ar y seiliau a ganlyn yn unig—

(a)ei bod yn afresymol ei gwneud yn ofynnol i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad;

(b)bod darpariaeth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro’r hysbysiad rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen;

(c)yn achos hysbysiad adnabod a ddyroddir o dan adran 92 neu hysbysiad cyswllt dyledwr a ddyroddir o dan adran 93, nad yw amod 4 o’r adran honno wedi ei fodloni.

(6)Yn achos penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath, y person y mae’r penderfyniad yn gymwys iddo at ddibenion is-adran (1) yw’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)addasu’r adran hon er mwyn—

(i)ychwanegu penderfyniad at is-adran (2) neu (3);

(ii)amrywio’r disgrifiad o benderfyniad yn y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;

(iii)tynnu ymaith benderfyniad o’r naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;

(b)diwygio’r Rhan hon er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch ar ba seiliau y caniateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad apeliadwy.

PENNOD 2LL+CADOLYGIADAU

173Gofyn am adolygiadLL+C

(1)Rhaid gwneud cais i adolygu penderfyniad apeliadwy drwy roi hysbysiad (“hysbysiad am gais”) i ACC.

(2)Rhaid i hysbysiad am gais nodi’r sail ar gyfer yr adolygiad.

(3)Ond ni chaiff person roi hysbysiad am gais os yw is-adran (4), (5) neu (6) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os penderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo yw’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno i ACC ei adolygu, a

(b)os nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau hyd yma.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person wedi apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad ac nad yw’r apêl wedi ei thynnu’n ôl.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’r person wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno i ACC ei adolygu, a

(b)pan na fo’r person wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4).

(7)Nid yw’r adran hon yn rhwystro ymdrin â phenderfyniad apeliadwy yn unol ag adran 184.

Gwybodaeth Cychwyn

I337A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I338A. 173 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

174Terfyn amser ar gyfer gofyn am adolygiadLL+C

(1)Pan roddir hysbysiad am gais i ACC cyn diwedd y cyfnod perthnasol, rhaid i ACC adolygu’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), y cyfnod perthnasol yw—

(a)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad cau sy’n hysbysu’r person fod yr ymholiad wedi ei gwblhau;

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad o unrhyw fath arall, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad sy’n hysbysu’r person am y penderfyniad.

(3)Pan fo’r person—

(a)wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn cysylltiad â’r penderfyniad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, ond

(b)wedi rhoi hysbysiad wedi hynny ei fod yn tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4),

y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad tynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I339A. 174 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I340A. 174 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

175Cais hwyr am adolygiadLL+C

(1)Pan fo person yn rhoi hysbysiad am gais i ACC ar ôl y cyfnod perthnasol—

(a)caiff ACC adolygu’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a

(b)rhaid iddo wneud hynny os yw’n fodlon—

(i)bod gan y person esgus rhesymol dros beidio â’i roi yn ystod y cyfnod perthnasol, a

(ii)ei fod wedi ei roi i ACC wedyn heb oedi afresymol.

(2)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person yn datgan a fydd yn adolygu’r penderfyniad ai peidio.

(3)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn datgan na fydd yn adolygu’r penderfyniad, caiff y person wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gynnal yr adolygiad.

(4)Caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddyd o’r fath, a rhaid iddo wneud hynny os yw’n fodlon—

(a)bod gan y ceisydd esgus rhesymol dros beidio â rhoi hysbysiad am y cais i ACC yn ystod y cyfnod perthnasol,

(b)ei fod wedi ei roi i ACC wedyn heb oedi afresymol, ac yna

(c)ei fod wedi gwneud cais i’r tribiwnlys heb oedi afresymol.

(5)Yn yr adran hon, mae i “y cyfnod perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 174.

Gwybodaeth Cychwyn

I341A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I342A. 175 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

176Cynnal adolygiadLL+C

(1)Mae natur a chwmpas yr adolygiad i fod fel ag y maent yn ymddangos yn briodol i ACC o dan yr amgylchiadau.

(2)At ddiben is-adran (1), rhaid i ACC, yn benodol, roi sylw i gamau a gymerwyd cyn dechrau’r adolygiad—

(a)gan ACC wrth ddod i’r penderfyniad, a

(b)gan unrhyw berson wrth geisio datrys anghytundeb ynghylch y penderfyniad.

(3)Rhaid i’r adolygiad ystyried unrhyw sylwadau a wneir neu a wnaed gan y person a roddodd yr hysbysiad am gais ar adeg sy’n rhoi cyfle rhesymol i ACC eu hystyried.

(4)Caiff yr adolygiad ddod i’r casgliad bod penderfyniad ACC—

(a)i’w gadarnhau,

(b)i’w amrywio, neu

(c)i’w ganslo.

(5)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad i’r person a roddodd yr hysbysiad am gais—

(a)o fewn y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y derbyniodd ACC yr hysbysiad am gais, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod arall y bydd ACC a’r person yn cytuno arno.

(6)Pan fo’r tribiwnlys yn cyfarwyddo ACC i gynnal adolygiad, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad—

(a)o fewn y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y tribiwnlys y cyfarwyddyd, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod arall y bydd ACC a’r person yn cytuno arno.

(7)Os yw ACC yn methu â dyroddi hysbysiad yn unol ag is-adran (5) neu (6)—

(a)bernir bod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad bod penderfyniad ACC i’w gadarnhau, a

(b)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r person a roddodd yr hysbysiad am gais.

Gwybodaeth Cychwyn

I343A. 176 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I344A. 176 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

177Effaith casgliadau adolygiadLL+C

(1)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 176(5), (6) neu (7) mewn perthynas ag adolygiad—

(a)mae’r casgliadau yn yr hysbysiad i’w trin fel pe bai’r tribiwnlys wedi dyfarnu apêl yn erbyn y penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn y modd a nodir yn y casgliadau, ond

(b)nid yw’r casgliadau i’w trin fel penderfyniad gan y tribiwnlys at ddibenion adrannau 9 i 13 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (adolygu penderfyniadau ac apelau yn erbyn penderfyniadau).

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r canlynol yn berthnasol, neu i’r graddau y mae’r canlynol yn berthnasol—

(a)bod ACC a’r person yn ymrwymo wedi hynny i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)bod y tribiwnlys yn dyfarnu wedi hynny ar apêl yn erbyn y penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I345A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I346A. 177 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

PENNOD 3LL+CAPELAU

178Gwneud apêlLL+C

(1)Rhaid gwneud apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy i’r tribiwnlys.

(2)Ond ni chaiff person wneud apêl i’r tribiwnlys os yw is-adran (3), (4) neu (5) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os penderfyniad ACC i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo yw’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a

(b)os nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau hyd yma.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’r person wedi rhoi hysbysiad am gais i ACC o dan adran 173 am adolygiad o’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a

(b)pan nad yw’r cyfnod y mae’n rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad oddi fewn iddo o dan adran 176(5) wedi dod i ben hyd yma.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’r person wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn, a

(b)pan na fo’r person wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4).

(6)Nid yw’r adran hon yn rhwystro ymdrin â phenderfyniad apeliadwy yn unol ag adran 184.

Gwybodaeth Cychwyn

I347A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I348A. 178 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

179Terfyn amser ar gyfer gwneud apêlLL+C

(1)Rhaid i apêl gael ei gwneud i’r tribiwnlys cyn diwedd y cyfnod perthnasol.

(2)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), y cyfnod perthnasol yw—

(a)pan fo’r apêl yn ymwneud â phenderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth yr apelai o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad cau sy’n hysbysu’r apelai fod yr ymholiad wedi ei gwblhau;

(b)pan fo’r apêl yn ymwneud â phenderfyniad o unrhyw fath arall, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad sy’n hysbysu’r apelai am y penderfyniad.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), pan fo ACC wedi adolygu’r penderfyniad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef, y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r apelai o dan adran 176(5), (6) neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad.

(4)Pan fo’r apelai wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef ond ei fod wedi rhoi hysbysiad wedi hynny ei fod yn tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4), y cyfnod perthnasol yw—

(a)y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad tynnu’n ôl, neu

(b)os yw’n hwyrach, y cyfnod perthnasol sy’n gymwys o dan is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I349A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I350A. 179 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

180Gwneud apêl yn hwyrLL+C

(1)Caniateir gwneud apêl i’r tribiwnlys ar ôl y cyfnod perthnasol os yw’r tribiwnlys yn rhoi caniatâd.

(2)Yn yr adran hon, mae i “y cyfnod perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 179.

Gwybodaeth Cychwyn

I351A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I352A. 180 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

181Dyfarnu ar apêlLL+C

(1)Os gwneir apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy i’r tribiwnlys yn unol ag adran 179 neu 180 (ac nad yw’n cael ei thynnu’n ôl), rhaid i’r tribiwnlys ddyfarnu’r apêl.

(2)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu bod y penderfyniad apeliadwy—

(a)i’w gadarnhau,

(b)i’w amrywio, neu

(c)i’w ganslo.

Gwybodaeth Cychwyn

I353A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I354A. 181 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

[F231PENNOD 3ALL+CTALU AC ADENNILL TRETH DDATGANOLEDIG [F232ETC] SY’N DESTUN ADOLYGIAD NEU APÊL

181ANid yw adolygiad neu apêl i effeithio ar y gofyniad i daluLL+C

Nid yw’r ffaith fod person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo—

(a)wedi gwneud cais am adolygiad o’r penderfyniad, neu

(b)wedi apelio yn ei erbyn,

yn effeithio ar unrhyw ofyniad ar y person i dalu swm o dreth ddatganoledig (a llog ar y swm hwnnw).

181BCeisiadau i ohirioLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person—

(a)yn rhoi hysbysiad am gais i adolygu penderfyniad apeliadwy, neu

(b)yn gwneud apêl yn erbyn penderfyniad o’r fath.

(2)Os yw’r person yn credu bod swm gormodol o dreth ddatganoledig wedi ei godi ar y person o ganlyniad i’r penderfyniad, caiff y person wneud cais i ACC ohirio adennill y swm o dreth ddatganoledig y mae’r person yn credu ei fod yn ormodol (a llog ar y swm hwnnw) (“cais i ohirio”).

(3)Rhaid i gais i ohirio bennu—

(a)y swm o dreth ddatganoledig y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef, F233...

(b)y rhesymau pam fod y person sy’n gwneud y cais yn credu bod y swm yn ormodol [F234, ac

(c)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, y rhesymau pam y mae’r person sy’n gwneud y cais yn credu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person.]

(4)Os yw ACC

[F235(a)]yn credu bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio seiliau rhesymol dros gredu bod y swm o dreth ddatganoledig y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ormodol, [F236 a

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person,]

caiff ACC ganiatáu’r cais i ohirio.

(5)Os yw ACC

[F237(a)]yn credu mai dim ond mewn perthynas â rhan o’r swm y mae gan y person seiliau rhesymol dros gredu bod y swm yn ormodol, [F238neu

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol i’r person,

caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.]

(6)Caiff ACC gymeradwyo’r cais i ohirio (yn llwyr neu’n rhannol) yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol.

(7)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad o’i benderfyniad i’r person a wnaeth y cais i ohirio.

181CTerfyn amser ar gyfer gwneud cais i ohirioLL+C

(1)Rhaid gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig ag adolygiad drwy roi hysbysiad o’r cais i ACC cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 174 ar gyfer gofyn am yr adolygiad.

(2)Ond os gwneir cais hwyr am adolygiad o dan adran 175, rhaid gwneud y cais i ohirio yr un pryd â’r cais hwyr.

(3)Rhaid gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig ag apêl drwy roi hysbysiad i ACC cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179 ar gyfer gwneud yr apêl.

(4)Ond os yw’r tribiwnlys yn rhoi caniatâd i wneud apêl hwyr o dan adran 180, rhaid gwneud y cais i ohirio yr un pryd ag y ceisir caniatâd ar gyfer yr apêl hwyr.

(5)Mae is-adrannau (1) a (3) yn ddarostyngedig i adran 181D.

181DCais hwyr i ohirioLL+C

(1)Pan fo person—

(a)yn gwneud cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 174, a

(b)yn gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig â’r adolygiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw,

ni chaiff ACC ystyried y cais i ohirio onid yw’n fodlon bod yr amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.

(2)Pan fo person—

(a)yn gwneud apêl cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179, a

(b)yn gwneud cais i ohirio sy’n gysylltiedig â’r apêl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw,

ni chaiff ACC ystyried y cais i ohirio onid yw’n fodlon bod yr amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.

(3)Yr amodau yw—

(a)bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio esgus rhesymol dros beidio â gwneud y cais yn ystod y cyfnod a bennir yn adran 174 neu 179, yn ôl y digwydd, a

(b)wedi hynny, bod y person sy’n gwneud y cais i ohirio wedi gwneud y cais heb oedi afresymol.

181ECais am adolygiad tribiwnlys o benderfyniad ar gais i ohirioLL+C

(1)Caiff person sy’n gwneud cais i ohirio, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad o’i benderfyniad ynglŷn â’r cais, wneud cais i’r tribiwnlys am adolygiad o benderfyniad ACC.

(2)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu bod penderfyniad ACC—

(a)i’w gadarnhau,

(b)i’w ganslo, neu

(c)i’w ddisodli â phenderfyniad arall y gallai ACC fod wedi ei wneud.

181FAmrywio ar ôl caniatáu cais i ohirioLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)ACC neu’r tribiwnlys wedi caniatáu cais i ohirio,

(b)newid mewn amgylchiadau wedi hynny, ac

(c)o ganlyniad i’r newid hwnnw, naill ai ACC neu’r person a wnaeth y cais yn credu—

(i)y dylid amrywio’r swm o dreth ddatganoledig y caniatawyd y cais mewn cysylltiad ef;

(ii)pan fo caniatáu’r cais yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol, y dylid amrywio’r amod.

(2)Caiff y naill barti neu’r llall geisio cytundeb ei gilydd drwy ddyroddi hysbysiad sy’n pennu’r amrywiad arfaethedig i’r parti arall.

(3)Os ceir cytundeb, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad sy’n cadarnhau’r amrywiad i’r person.

(4)Mae’r amrywiad yn cael effaith o’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad o dan is-adran (3).

(5)Os na cheir cytundeb o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad o dan is-adran (2), caiff y naill barti neu’r llall wneud cais i’r tribiwnlys am ddyfarniad.

(6)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu ar gais o’r fath drwy—

(a)cadarnhau’r amrywiad arfaethedig,

(b)gwrthod yr amrywiad arfaethedig, neu

(c)gwneud unrhyw amrywiad arall sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.

181GEffaith gohirioLL+C

(1)Ni chaiff ACC gymryd unrhyw gamau i adennill swm gohiriedig yn ystod y cyfnod gohirio.

(2)Ystyr swm gohiriedig yw—

(a)swm o dreth ddatganoledig a bennir mewn cais i ohirio (oni bai bod y cais yn gais hwyr a wneir yn unol ag adran 181C(2) neu (4) neu adran 181D), neu

(b)swm o dreth ddatganoledig y mae ACC neu’r tribiwnlys yn caniatáu cais i ohirio mewn cysylltiad ag ef.

(3)Yn achos swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(a), mae’r cyfnod gohirio ar gyfer y swm—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y gwneir y cais i ohirio, a

(b)yn dod i ben—

(i)os caniateir y cais, â’r diwrnod y’i caniateir,

(ii)os na chaniateir y cais ac os na wneir cais i’r tribiwnlys am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud cais o’r fath, neu

(iii)os na chaniateir y cais ac y gwneir cais i’r tribiwnlys am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y mae’r tribiwnlys yn gwneud ei ddyfarniad.

(4)Yn achos swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(b) mae’r cyfnod gohirio ar gyfer y swm—

(a)yn dechrau â’r dyddiad y mae ACC neu’r tribiwnlys yn caniatau’r cais i ohirio, a

(b)yn dod i ben—

(i)os gwnaed y cais i ohirio mewn cysylltiad ag adolygiad o benderfyniad apeliadwy, â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad o gasgliadau’r adolygiad, neu

(ii)os gwnaed y cais i ohirio mewn cysylltiad ag apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, â’r diwrnod y mae’r tribiwnlys yn dyfarnu’r apêl.

(5)Pan gaiff swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(b) ei amrywio o dan adran 181F, mae’r swm a amrywiwyd i’w drin fel y swm gohiriedig o ddyddiad yr amrywiad.

(6)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ganiatáu cais i ohirio yn cynnwys achosion pan gaiff y cais ei ganiatáu’n rhannol.

181HCeisiadau i ohirio sy’n ymwneud ag apelau pellachLL+C

(1)Pan fo person yn gwneud (yn unol â DTLlG) apêl bellach yn erbyn dyfarniad y tribiwnlys ar apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, mae adrannau 181B, 181C, 181E, 181F a 181G yn gymwys i’r apêl bellach fel y maent yn gymwys i apêl, ond fel pe bai’r addasiadau a ganlyn wedi eu gwneud.

(2)Mae adran 181B yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adrannau (3), (4) a (5)—

(3)Rhaid i gais i ohirio bennu—

(a)y swm o dreth ddatganoledig y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef,

(b)y rhesymau pam fod y person sy’n gwneud y cais o’r farn fod y swm yn ormodol, a

(c)y rhesymau pam fod y person o’r farn y byddai adennill y swm (a llog ar y swm) yn achosi caledi ariannol difrifol i’r person.

(4)Os yw ACC—

(a)yn credu bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio seiliau rhesymol dros gredu bod y swm o dreth ddatganoledig y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ormodol, a

(b)â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm) yn achosi caledi ariannol difrifol i’r person,

caiff ACC ganiatáu’r cais.

(5)Ond os yw ACC—

(a)yn credu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm y mae gan y person seiliau rhesymol dros gredu bod y swm yn ormodol, neu

(b)â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol difrifol i’r person,

caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.

(3)Mae adran 181C yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-adran (3), “ar y diwrnod y gwneir yr apêl bellach neu cyn hynny” wedi ei roi yn lle “cyn diwedd y cyfnod a bennir yn adran 179 ar gyfer gwneud yr apêl”, a

(b)is-adran (4) wedi ei hepgor.

(4)Mae adran 181F yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (a) yn is-adran (1)—

(a)cais i ohirio wedi ei ganiatáu gan—

(i)yr Uwch Dribiwnlys pan fo’r cais yn ymwneud ag apêl bellach a wneir o dan adran 11 o DTLlG, neu

(ii)y llys apeliadol perthnasol a bennir o dan is-adran (11) o adran 13 o DTLlG pan fo’r cais yn ymwneud ag apêl bellach a wneir o dan yr adran honno.

(5)Mae adran 181G yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-adran (2)(a) y geiriau “(oni bai bod y cais yn gais hwyr a wneir yn unol ag adran 181C(2) neu (4) neu adran 181D)” wedi eu hepgor, a

(b)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (4)(b)—

(b)yn dod i ben ar y diwrnod y dyfernir yr apêl bellach.

(6)Mae’r cyfeiriadau at “y tribiwnlys” yn adrannau 181E(1) a (2), 181F(5) a (6) a 181G(2), (3) a (4) i’w darllen fel cyfeiriadau at—

(a)yr Uwch Dribiwnlys mewn achos pan wneir yr apêl bellach o dan adran 11 o DTLlG, neu

(b)y llys apeliadol perthnasol a bennir o dan is-adran (11) o adran 13 o DTLlG mewn achos pan wneir yr apêl bellach o dan yr adran honno.

181IDim apêl bellach nac adolygiad o benderfyniadau tribiwnlys sy’n ymwneud â cheisiadau i ohirioLL+C

(1)Yn adran 11(5) o DTLlG (penderfyniadau a eithrir o’r hawl i apelio i’r Uwch Dribiwnlys), ar ôl paragraff (cb) (fel y’i mewnosodir gan adran 116(1) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(cc)any decision of the First-tier Tribunal under section 181E or 181F of that Act (appeals relating to postponement requests),.

(2)Yn adran 13(8) o DTLlG (penderfyniadau a eithrir o’r hawl i apelio i Lys Apêl etc.), ar ôl paragraff (bb) (fel y’i mewnosodir gan adran 116(2) o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(bc)any decision of the Upper Tribunal under section 181E or 181F of that Act (appeals relating to postponement requests),.]

[F239181J.Cymhwyso’r Bennod hon i symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd trethLL+C

(1)Mae’r Bennod hon yn gymwys i dalu ac adennill symiau sy’n ymwneud â chredydau treth—

(a)fel pe bai cyfeiriadau at swm o dreth ddatganoledig (gan gynnwys symiau o dreth gwarediadau tirlenwi) yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth,

(b)fel pe bai cyfeiriadau at log ar swm o dreth ddatganoledig yn gyfeiriadau at log ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, ac

(c)fel pe bai cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn cael ei chodi neu i’w chodi ar berson yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth.]

PENNOD 4LL+CAMRYWIOL AC ATODOL

Canlyniadau adolygiadau ac apelauLL+C

182Talu cosbau yn achos adolygiad neu apêlLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i benderfyniad sy’n ymwneud â chosb y gallai person fod yn agored iddi.

(2)Pan fo ACC yn cynnal adolygiad mewn cysylltiad â’r penderfyniad, nid yw [F240dyddiad talu arferol y gosb] yn gymwys i unrhyw swm o gosb y mae anghydfod yn ei gylch (“swm y mae anghydfod yn ei gylch”).

(3)Pan fo’r adolygiad yn dod i’r casgliad bod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person o dan adran 176(5) [F241, (6)] neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)Pan fo’r person yn gwneud apêl mewn cysylltiad â’r penderfyniad—

(a)nid yw [F242dyddiad talu arferol y gosb] yn gymwys i unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, a

(b)nid yw is-adran (3) yn gymwys.

(5)Pan fo’r apêl yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r person dalu—

(a)unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, os nad yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, neu

(b)os yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch y daeth yr adolygiad i’r casgliad ei fod yn daladwy,

cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod tynnu’n ôl.

(6)Pan ddyfernir yn derfynol, o ganlyniad i’r apêl, fod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

[F243(7)Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad talu arferol y gosb” yw’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu cosb o dan—

(a)adran 154, neu

(b)adran 70 o DTGT.]

183Penderfynu ar adolygiadau ac apelau mewn cysylltiad â hysbysiadau gwybodaethLL+C

(1)Pan fo casgliadau adolygiad o dan adran 176 yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu ofyniad mewn hysbysiad o’r fath, rhaid i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad (fel y’i cadarnhawyd neu y’i hamrywiwyd) o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan ACC.

(2)Pan fo’r tribiwnlys yn cadarnhau neu’n amrywio penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, rhaid i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad (fel y’i cadarnhawyd neu y’i hamrywiwyd)—

(a)o fewn y cyfnod a bennir gan y tribiwnlys, neu

(b)os nad yw’r tribiwnlys yn pennu cyfnod, o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I357A. 183 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I358A. 183 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

[F244183AAtal ad-daliad pan fo apêl bellach yn yr arfaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)ar apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, y tribiwnlys yn dyfarnu

[F245(i)]bod ACC i ad-dalu swm o dreth ddatganoledig a dalwyd gan berson, [F246neu

(ii)bod swm a dalwyd gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth i’w ad-dalu gan ACC,]

(b)ACC yn gwneud cais o dan adran 11(4) neu 13(4) o DTLlG am ganiatâd i wneud apêl bellach.

(2)Wrth wneud cais am ganiatâd caiff ACC ofyn am ganiatâd y tribiwnlys i ohirio ad-dalu’r swm hyd—

(a)y dyfernir ar yr apêl bellach, neu

(b)y mae ACC yn cael sicrhad digonol ar gyfer y swm.

(3)Rhaid i’r tribiwnlys neu’r llys perthnasol ganiatáu cais ACC—

(a)os yw’n rhoi caniatâd i’r apêl bellach gael ei chynnal, a

(b)os yw’n credu bod angen caniatáu’r cais er mwyn diogelu’r refeniw.

(4)Os na roddir caniatâd i wneud apêl bellach—

(a)gan Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn dilyn cais o dan adran 11(4)(a) o DTLlG, neu

(b)gan yr Uwch Dribiwnlys yn dilyn cais o dan adran 13(4)(a) o’r Ddeddf honno,

nid yw’r ffaith fod ACC wedi gwneud cais o dan is-adran (2) wrth wneud y cais am ganiatâd yn rhwystro ACC rhag gwneud cais arall o dan yr is-adran honno os yw ACC yn gwneud cais am ganiatâd i wneud apêl bellach o dan adran 11(4)(b) neu 13(4)(b) o DTLlG.

(5)Ond fel arall, mae penderfyniad y tribiwnlys neu’r llys perthnasol ynglŷn â chais o dan adran (2) yn derfynol.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “tribiwnlys neu lys perthnasol” (“relevant tribunal or court”) yw pa un bynnag o’r canlynol y mae ACC yn gwneud cais iddo am ganiatâd i wneud apêl bellach—

    (a)

    Tribiwnlys yr Haen Gyntaf;

    (b)

    yr Uwch Dribiwnlys;

    (c)

    y llys apeliadol perthnasol;

  • ystyr “llys apeliadol perthnasol” (“relevant appellate court”) yw’r llys a bennir felly o dan adran 13(11) o DTLlG.]

Cytundebau setloLL+C

184Setlo anghydfodau drwy gytundebLL+C

(1)Ystyr “cytundeb setlo” yw cytundeb rhwng person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo (“person perthnasol”) ac ACC fod y penderfyniad—

(a)i’w gadarnhau,

(b)i’w amrywio, neu

(c)i’w ganslo.

(2)Pan fo person perthnasol ac ACC yn ymrwymo i gytundeb setlo, mae’r canlyniadau i fod yr un fath â phe bai’r tribiwnlys, ar yr adeg yr ymrwymwyd i’r cytundeb, wedi dyfarnu ar apêl yn erbyn y penderfyniad apeliadwy yn y modd a nodir yn y cytundeb.

(3)Ond nid yw cytundeb setlo i’w drin fel un o benderfyniadau’r tribiwnlys at ddibenion adrannau 9 i 13 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (adolygiad o benderfyniadau ac apelau yn erbyn penderfyniadau).

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r person perthnasol, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r diwrnod yr ymrwymwyd i’r cytundeb setlo, yn rhoi hysbysiad i ACC fod y person yn dymuno tynnu’n ôl o’r cytundeb.

(5)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i gytundeb setlo nad yw mewn ysgrifen onid yw’r ffaith yr ymrwymwyd i’r cytundeb, a’r telerau y cytunwyd arnynt, yn cael eu cadarnhau drwy hysbysiad a ddyroddir i’r person perthnasol gan ACC.

(6)Pan ddyroddir hysbysiad yn unol ag is-adran (5), mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (2) a (4) at yr adeg yr ymrwymir i’r cytundeb setlo i’w trin fel cyfeiriadau at yr adeg y dyroddir yr hysbysiad.

(7)Ni chaiff person perthnasol ac ACC ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â phenderfyniad apeliadwy os yw apêl yn erbyn y penderfyniad wedi ei dyfarnu yn derfynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I359A. 184 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I360A. 184 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)

RHAN 9LL+CYMCHWILIO I DROSEDDAU

185Pwerau i ymchwilio i droseddauLL+C

(1)Ar ôl adran 114 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (p. 60) (cymhwyso’r Ddeddf i Gyllid a Thollau) mewnosoder—

114ZAApplication of Act to Welsh Revenue Authority

(1)The Welsh Ministers may by regulations—

(a)direct that any provision of this Act which relates to investigations of offences conducted by police officers or to the detention of persons by the police is to apply, subject to such modifications as the regulations may specify, to investigations of offences conducted by the Welsh Revenue Authority (“WRA”) or to the detention of persons by WRA in connection with such investigations;

(b)make provision permitting a person exercising a function conferred on WRA by the regulations to use reasonable force in the exercise of such a function;

(c)specify that where premises are searched by WRA in reliance on a warrant under section 8 of, or paragraph 12 of Schedule 1 to, this Act (as applied by regulations under paragraph (a)) persons found on the premises may be searched—

(i)in such cases and circumstances as are specified in the regulations, and

(ii)subject to any conditions specified in the regulations.

(2)Regulations under subsection (1) may—

(a)make provision that applies generally or only in specified cases,

(b)make different provision for different cases or circumstances, and

(c)may, in modifying a provision, in particular impose conditions on the exercise of a function.

(3)The power to make regulations under subsection (1) is exercisable by statutory instrument.

(4)A statutory instrument containing regulations under subsection (1) may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales.

(2)Ar ôl adran 67 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (p. 16) (cymhwyso Rhan 2 i swyddogion Cyllid a Thollau) mewnosoder—

67AApplication to Welsh Revenue Authority

(1)The Welsh Ministers may by regulations—

(a)direct that any provision of this Part is to apply, subject to such modifications as the regulations may specify, to investigations of offences conducted by the Welsh Revenue Authority;

(b)make provision permitting a person exercising a function conferred on the Welsh Revenue Authority by the regulations to use reasonable force in the exercise of such a function.

(2)Regulations under subsection (1) may—

(a)make provision that applies generally or only in specified cases,

(b)make different provision for different cases or circumstances, and

(c)may, in modifying a provision, in particular impose conditions on the exercise of a function.

(3)The power to make regulations under subsection (1) is exercisable by statutory instrument.

(4)A statutory instrument containing regulations under subsection (1) may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I361A. 185 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I362A. 185 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(j)

186Enillion troseddauLL+C

(1)Mae Deddf Enillion Troseddau 2002 (p. 29) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 72 (digolledu), yn is-adran (9)(f), ar ôl “(c)” mewnosoder “, (da)”.

(3)Yn adran 302 (digolledu), ar ôl is-adran (7A)(d) mewnosoder—

(da)in the case of an investigator who was exercising a function of the Welsh Revenue Authority, it is to be paid by the Welsh Revenue Authority,”..

(4)Yn adran 453 (cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)The Welsh Ministers may by order provide that a specified reference in this Act to an accredited financial investigator includes a reference to a person exercising a function of the Welsh Revenue Authority who falls within a specified description.

(5)Yn adran 459 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)yn is-adran (4), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)an order made by the Welsh Ministers under section 453(1A);,

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(4A)A statutory instrument containing an order under section 453(1A) is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I363A. 186 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I364A. 186 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(j)

187Rheoleiddio pwerau ymchwilioLL+C

(1)Mae Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (p. 23) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 30 (personau sydd â’r hawl i awdurdodi gwyliadwriaeth gyfeiriedig a chuddwybodaeth ddynol)—

(a)yn is-adran (6), ar ôl “prejudice to” mewnosoder “subsection (6A) and”, a

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(6A)The power in subsection (1) to make an order under this section prescribing individuals as persons designated for the purposes of sections 28 and 29 is exercisable by the Welsh Ministers for the purposes of prescribing persons exercising Welsh Revenue Authority functions of such description or holding such offices, ranks or positions as may be prescribed.

(6B)Any such order made by the Welsh Ministers may—

(a)make different provision for different cases;

(b)contain such incidental, supplemental, consequential and transitional provision as the Welsh Ministers think fit.

(6C)The Welsh Ministers’ power to make such an order is exercisable by statutory instrument.

(6D)A statutory instrument containing such an order is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

(3)Yn Atodlen 1 (awdurdodau cyhoeddus perthnasol), ar ôl paragraff 16 mewnosoder—

The Welsh Revenue Authority

16AThe Welsh Revenue Authority.

Gwybodaeth Cychwyn

I365A. 187 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I366A. 187 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(j)

RHAN 10LL+CDARPARIAETHAU TERFYNOL

[F247187ACymhwyso i’r Goron at ddibenion Treth Trafodiadau TirLL+C

(1)I’r graddau y mae darpariaethau canlynol y Ddeddf hon yn gymwys i dreth trafodiadau tir, maent yn rhwymo’r Goron—

(a)Rhan 3;

(b)Rhan 4 (ac eithrio Pennod 6);

(c)Rhan 6 (ac eithrio adrannau 157A, 160 a 161(2)(b));

(d)Rhan 7 (ac eithrio adrannau 168, 169 a 170);

(e)Rhan 8 (ac eithrio adrannau 172(1)(d) ac (e), (3)(b) ac (c), (4), (5) a (6), 182 a 183);

(f)adrannau 190 a 191.

(2)Ond nid yw Rhan 4 yn gymwys i Ei Mawrhydi fel unigolyn preifat (o fewn ystyr adran 38(3) o Ddeddf Achosion yn erbyn y Goron 1947 (p. 44)).]

188Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol neu atodol sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion y Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hi.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I367A. 188 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)

189RheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol, a

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 18(2), [F248122(5),] 156 neu 172(7) (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth arall) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I368A. 189 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)

190Dyroddi hysbysiadau gan ACCLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn [F249Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,] yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad i berson (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “dyroddi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (9)).

[F250(1A)Rhaid i hysbysiad bennu’r dyddiad y’i dyroddir.

(1B)Os na all y person y dyroddir yr hysbysiad iddo ganfod yn rhesymol effaith yr hysbysiad oherwydd camgymeriad ynddo neu hepgoriad ohono (gan gynnwys camgymeriad neu hepgoriad sy’n ymwneud ag enw’r person), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei ddyroddi.]

(2)Caniateir dyroddi’r hysbysiad i’r person—

(a)drwy ei ddanfon yn bersonol i’r person,

(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)drwy ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu

(d)pan fo is-adran (3) yn gymwys, drwy ei anfon yn electronig i gyfeiriad a ddarparwyd at y diben hwnnw.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person y mae’r hysbysiad i’w ddyroddi iddo wedi cytuno mewn ysgrifen iddo gael ei anfon yn electronig.

(4)At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir danfon hysbysiad yn bersonol i gorff corfforaethol drwy ei roi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(5)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(b), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn ar yr adeg y’i gadawyd yng nghyfeiriad priodol y person oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(6)At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)yn achos person sy’n gweithredu yn rhinwedd partner mewn partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

(7)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(c) drwy ei anfon i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(8)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(d), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(9)Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw hysbysiad y gall ACC—

(a)ei ddarparu i berson o dan adran 103(4) neu 105(3) [F251(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5))] , neu

(b)ei roi i’r tribiwnlys.

(10)Yn yr adran hon mae “hysbysiad” yn cynnwys copi o hysbysiad.

191Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i ACCLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn [F252Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,] yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i berson [F253ddychwelyd ffurflen dreth neu] roi hysbysiad neu ddogfen arall i ACC (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (4)).

[F254(2)Rhaid i’r ffurflen dreth, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall—

(a)bod ar ba bynnag ffurf,

(b)cynnwys pa bynnag wybodaeth,

(c)cynnwys gydag ef neu hi ba bynnag ddogfennau eraill, a

(d)cael ei roi neu ei rhoi ym mha bynnag fodd,

a bennir gan ACC.]

(3)Ond mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth wahanol a wneir yn [F255Neddfau Trethi Cymru neu oddi tanynt] .

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw ddogfen a roddir i ACC gan Weinidogion Cymru neu’r tribiwnlys.

192DehongliLL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, dyfernir yn derfynol ynghylch apêl neu atgyfeiriad—

(a)pan fo wedi ei dyfarnu neu ei ddyfarnu, a

(b)pan nad oes unrhyw bosibilrwydd pellach y caiff y dyfarniad ei amrywio neu ei roi o’r neilltu (gan ddiystyru unrhyw bŵer i roi caniatâd i apelio oddi allan i’r cyfnod).

(2)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

    (a)

    cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

    (b)

    cyngor dosbarth neu gyngor sir yn Lloegr, un o gynghorau bwrdeistref Llundain, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain neu Gyngor Ynysoedd Scilly,

    (c)

    cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994 (p. 39), neu

    (d)

    cyngor dosbarth yng Ngogledd Iwerddon;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

    (a)

    y cyfnod sy’n dechrau â sefydlu ACC ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol, a

    (b)

    pob cyfnod dilynol o flwyddyn sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

  • [F256ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth o dan reoliadau a wneir o dan adran 54 o DTGT;]

  • ystyr “cyfnod treth” (“tax period”) yw cyfnod y codir treth ddatganoledig ar ei gyfer;

  • [F257ystyr “Deddfau Trethi Cymru” (“the Welsh Tax Acts”) yw—

    (a)

    y Ddeddf hon, F258...

    (b)

    DTTT] [F259, ac

    (c)

    DTGT.]

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

    (a)

    Deddf Seneddol,

    (b)

    Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

    (c)

    is-ddeddfwriaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wnaed o dan—

    (i)

    Deddf Seneddol, neu

    (ii)

    Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • [F260“ystyr “DTGT” (“LDTA“) yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3);]

  • [F257ystyr “DTLlG” (“TCEA”) yw Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15);]

  • [F257ystyr “DTTT” (“LTTA”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 0);]

  • ystyr “ffurflen dreth” (“tax return”) yw ffurflen sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;

  • ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

  • ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—

    (a)

    partneriaeth o fewn Deddf Bartneriaeth 1890 (p. 39),

    (b)

    partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24), neu

    (c)

    ffyrm neu endid tebyg ei gymeriad a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

  • [F257mae i “prynwr” (“buyer”) yr un ystyr ag yn DTTT;]

  • ystyr “setliad contract” (“contract settlement”) yw cytundeb a wneir mewn cysylltiad â rhwymedigaeth unrhyw berson i wneud taliad i ACC o dan unrhyw ddeddfiad;

  • [F257mae i “trafodiad tir” (“land transaction”) yr un ystyr ag yn DTTT;]

  • mae i “treth ddatganoledig” yr ystyr a roddir i “devolved tax” gan adran 116A(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

  • ystyr “trethdalwr datganoledig” (“devolved taxpayer”) yw person sy’n agored i dalu treth ddatganoledig;

  • [F260“mae i “treth gwarediadau tirlenwi” (“landfill disposals tax”) yr un ystyr ag yn DTGT;]

  • ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yw—

    (a)

    Tribiwnlys yr Haen Gyntaf, neu

    (b)

    pan bennir hynny gan neu o dan Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlys, yr Uwch Dribiwnlys.

193Mynegai o ymadroddion a ddiffinnirLL+C

Mae’r Tabl a ganlyn yn rhestru ymadroddion a ddiffinnir neu a eglurir fel arall yn y Ddeddf hon.

TABL 1

YmadroddAdran
ACC (“WRA”)adran 2(2)
Aelod anweithredol (“non-executive member”)adran 3(4)(a)
Aelod gweithredol (“executive member”)adran 3(4)(b)
Aelod gweithredol etholedig (“elected executive member”)adran 3(4)(c)
[F261Artiffisial (mewn perthynas â’r rheol gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol) (“artificial”) adran 81C]
Asedau busnes (“business assets”)adran 111
Asesiad ACC (“WRA assessment”)adran 56
Awdurdod lleol (“local authority”)adran 192(2)
Blwyddyn ariannol (“financial year”)adran 192(2)
[F262Credyd treth (“tax credit”)adran 192(2)]
Cyfnod treth (“tax period”)adran 192(2)
Cyfradd llog ad-daliadau (“repayment interest rate”)adran 163(2)
Cyfradd llog taliadau hwyr (“late payment interest rate”)adran 163(1)
Cytundeb setlo (“settlement agreement”)adran 184(1)
[F261Deddfau Trethi Cymru (“Welsh Tax Acts”) adran 192(2)]
Deddfiad (“enactment”)adran 192(2)
[F263DTGT (“LDTAadran 192(2)]
Dogfennau busnes (“business documents”)adran 111
[F261DTLlG (“TCEA”) adran 192(2)]
[F261DTTT (“LTTA”) adran 192(2)]
Dyddiad cosbi (“penalty date”)adran 122(2)
Dyddiad dechrau llog ad-daliadau (“repayment interest start date”)adran 161(4)
Dyddiad dechrau llog taliadau hwyr (“late payment interest start date”)adrannau 157(3), 159(2) a 160(2)
Dyddiad ffeilio (“filing date”)adran 40
Dyfarniad ACC (“WRA determination”)adran 52(3)
Elusen (“charity”)adran 85(3)
Ffurflen dreth (“tax return”)adran 192(2)
Gwybodaeth warchodedig am drethdalwr (“protected taxpayer information”)adran 17(3) a (4)
Hysbysiad (“notice”)adran 192(2)
Hysbysiad adnabod (“identification notice”)adran 92(1)
Hysbysiad am gais (“notice of request”)adran 173(1)
Hysbysiad cau (“closure notice”)dran 50(1) (mewn perthynas ag ymholiad i ffurflen dreth) ac adran 75(1) (mewn perthynas ag ymholiad i hawliad)
Hysbysiad cyswllt dyledwr (“debtor contact notice”)adran 93(1)
[F261Hysbysiad gwrthweithio arfaethedig (“proposed counteraction notice”) adran 81F]
[F261Hysbysiad gwrthweithio terfynol (“final counteraction notice”) adran 81G]
Hysbysiad gwybodaeth (“information notice”)adran 83
Hysbysiad trethdalwr (“taxpayer notice”)adran 86(1)
Hysbysiad trydydd parti (“third party notice”)adran 87(1)
Hysbysiad trydydd parti anhysbys (“unidentified third party notice”)adran 89(1)
Hysbysiad ymholiad (“notice of enquiry”)adran 43(1) (mewn perthynas â ffurflen dreth) ac adran 74(1) (mewn perthynas â hawliad)
Llog ad-daliadau (“repayment interest”)adran 161(3)
Llog taliadau hwyr (“late payment interest”)adran 157(2)
Mangre (“premises”)adran 111
Mangre busnes (“business premises”)adran 111
[F261Mantais drethiannol (“tax advantage”) adran 81D]
Partneriaeth (“partnership”)adran 192(2)
Penderfyniad apeliadwy (“appealable decision”)adran 172(2) a (3)
[F261Prynwr (“buyer”) adran 192(2)]
Refeniw posibl a gollir (“potential lost revenue”)adran 134
Rhedeg busnes (“carrying on a business”)adran 85
[F261Rheol gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol (“general anti-avoidance rule”) adran 81A(2)]
Sefyllfa dreth (“tax position”)adran 84
Setliad contract (“contract settlement”)adran 192(2)
Swyddog perthnasol (“relevant official”)adran 17(2)
[F261Trefniant (mewn perthynas â’r rheol gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol) (“arrangement”) adran 81B(3)A]
Treth ddatganoledig (“devolved tax”)adran 192(2)
Trethdalwr datganoledig (“devolved taxpayer”)adran 192(2)
[F263Treth gwarediadau tirlenwi (“landfill disposals tax”) adran 192(2)]
[F261Trefniant osgoi trethi (“tax avoidance arrangement”) adran 81B]
Y tribiwnlys (“the tribunal”)adran 192(2)

194Dod i rymLL+C

(1)Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adrannau 37, 82, 117 a 171;

(c)y Rhan hon.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I373A. 194 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)

195Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Gwybodaeth Cychwyn

I374A. 195 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources