Adran 67 – Pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgi
263.Mae adran 9 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 yn cynnwys darpariaethau sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio mewn ffordd arall, waredu mathau penodol o wastraff drwy dirlenwi. Dargyfeirio gwastraff adferadwy rhag cael ei waredu yw’r diben, a chynyddu ailgylchu yng Nghymru. Mae adran 67 o’r Ddeddf yn mewnosod adran 9A newydd yn y Mesur, sy’n cynnwys darpariaethau tebyg i’r rheini ar gyfer tirlenwi, ond sy’n ymwneud â gwahardd neu reoleiddio llosgi mathau penodol o wastraff.
264.Mae is-adran (1) o’r adran 9A newydd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gwahardd neu fel arall yn rheoleiddio llosgi mathau penodedig o wastraff yng Nghymru. Gellid defnyddio pŵer o’r fath i bennu mathau penodol o ddeunyddiau gwastraff y gellir eu hailgylchu, ac na ddylid eu llosgi, er enghraifft.
265.Mae is-adran (2) yn disgrifio mathau penodol o ddarpariaeth y gellir eu cynnwys mewn rheoliadau o dan is-adran (1). Mae hyn yn cynnwys pŵer i greu troseddau, i ragnodi cosbau ac i ddarparu ar gyfer awdurdodau gorfodi. Mae is-adran (2) hefyd yn cynnwys pŵer i ddiwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999, a fyddai’n cynnwys Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010, sy’n rheoleiddio trwyddedu a gweithredu cyfleusterau llosgi, ymysg pethau eraill.
266.Mae is-adran (3) yn diffinio llosgi at ddibenion adran 9A, ynghyd â “peiriant llosgi gwastraff”, a “peiriant cydlosgi gwastraff”. Felly mae’r pŵer yn is-adran (1) yn gymwys i beiriannau gan gynnwys y rheini sydd â’r prif ddiben o losgi gwastraff (llosgyddion gwastraff, er enghraifft) a’r rheini sy’n llosgi gwastraff i ddarparu ynni i bweru proses.