
Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Newidiadau dros amser i: Adran 112


Timeline of Changes
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/04/2017.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Adran 112 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 09 Hydref 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.

Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
112Codau ymarferLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i GCC lunio, a chyhoeddi o dro i dro, godau ymarfer sy’n pennu—
(a)safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol;
(b)safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol.
(2)Caiff y codau wneud darpariaeth wahanol mewn cysylltiad â chategorïau gwahanol o weithiwr gofal cymdeithasol.
(3)Caiff y codau hefyd bennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cymdeithasol wrth gyflawni swyddogaethau gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd (o fewn ystyr “approved mental health professional” yn adran 114 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20)).
(4)Rhaid i GCC—
(a)cadw’r codau o dan adolygiad, a
(b)amrywio eu darpariaethau pa bryd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.
(5)Pan honnir bod person sydd wedi ei gofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw safon sydd wedi ei chynnwys mewn cod a wneir o dan yr adran hon—
(a)nid yw’r methiant hwnnw, ynddo’i hun, i’w gymryd fel pe bai’n berfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol neu gamymddwyn difrifol at ddibenion adran 117 (addasrwydd i ymarfer), ond
(b)caniateir i’r methiant hwnnw gael ei ystyried mewn achosion o dan y Ddeddf hon sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer.
(6)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch ymddygiad unrhyw weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n eu cyflogi, os y’i cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i wneud hynny, ystyried unrhyw god a gyhoeddir gan GCC o dan yr adran hon.
Back to top