Search Legislation

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, RHAN 6. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 6LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 1LL+CSEILIAU AMHARIAD

117Addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Dim ond am un neu ragor o’r seiliau a ganlyn y caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer at ddibenion y Rhan hon a Rhan 4—

(a)perfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(b)camymddwyn difrifol (pa un ai fel gweithiwr gofal cymdeithasol neu fel arall);

(c)cynnwys y person ar restr wahardd;

(d)dyfarniad gan gorff perthnasol i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer;

(e)iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol;

(f)collfarn neu rybuddiad yn y Deyrnas Unedig am drosedd, neu gollfarn neu rybuddiad yn rhywle arall am dramgwydd a fyddai’n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr.

(2)At ddibenion is-adran (1)(a) caiff “perfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol” gynnwys—

(a)achos o esgeuluster,

(b)torri ymgymeriad y cytunir arno â GCC o dan y Ddeddf hon, ac

(c)torri ymgymeriad y cytunir arno â phanel addasrwydd i ymarfer o dan y Ddeddf hon.

(3)Yn is-adran (1)(c) ystyr “rhestr wahardd” yw—

(a)rhestr a gynhelir o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47);

(b)rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007 (dsa 14);

(c)rhestr a gynhelir o dan erthygl 6 o Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007 (O.S. 2007/1351).

(4)Yn is-adran (1)(d) ystyr “corff perthnasol” yw—

(a)y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal [F1neu Waith Cymdeithasol Lloegr ] ;

(b)y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;

(c)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban;

(d)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;

(e)corff y tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau a fyddai, yng Nghymru, yn cael eu rheoleiddio gan GCC;

(f)corff rhagnodedig.

(5)Caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer oherwydd materion sy’n codi neu ddigwyddiadau sy’n digwydd—

(a)pa un ai y tu mewn neu y tu allan i Gymru;

(b)pa un a oedd y person wedi ei gofrestru ar y gofrestr ar y pryd ai peidio;

(c)pa un ai cyn neu ar ôl i’r adran hon ddod i rym.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) at ddiben ychwanegu, addasu neu ddileu sail amhariad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 117 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

PENNOD 2LL+CGWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL

Ystyriaeth ragarweiniol i honiadau etc.LL+C

118Atgyfeirio honiadau etc. o amhariad ar addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo honiad yn cael ei wneud i GCC bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, neu

(b)pan fo gan GCC reswm fel arall dros gredu y gall fod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)O ran GCC—

(a)rhaid iddo atgyfeirio am ystyriaeth ragarweiniol y mater sy’n destun yr honiad neu ei reswm dros gredu y gall fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, a

(b)caiff atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim (gweler Pennod 4).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 118 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

119Ystyriaeth ragarweiniolLL+C

(1)Rhaid i’r person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater a atgyfeirir gan GCC atgyfeirio’r mater hwnnw i ymchwilio iddo o dan adran 125 oni bai—

(a)bod y person yn dyfarnu nad yw’r mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen o dan adran 120, neu

(b)ei bod yn ofynnol i’r person drwy adran 121 atgyfeirio’r mater yn uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer.

(2)Caiff y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater atgyfeirio’r mater, ar unrhyw adeg, i banel gorchmynion interim (yn ychwanegol at wneud atgyfeiriad neu ddyfarniad o dan is-adran (1)).

(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyriaeth ragarweiniol a gaiff, yn benodol, ddarparu i’r canlynol gynnal ystyriaeth ragarweiniol—

(a)un neu ragor o bersonau a benodir at y diben hwnnw, ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys tâl) y mae GCC yn penderfynu arnynt;

(b)un neu ragor o aelodau o staff GCC.

(4)Ond ni chaiff rheolau a wneir o dan is-adran (3) ddarparu i’r canlynol gynnal ystyriaeth ragarweiniol—

(a)person sy’n aelod o—

(i)GCC,

(ii)[F2Gwaith Cymdeithasol Lloegr] ,

(iii)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu

(iv)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;

(b)person sy’n aelod o banel addasrwydd i ymarfer;

(c)person sy’n aelod o banel gorchmynion interim;

(d)person rhagnodedig.

(5)Rhaid i GCC wneud unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn ef i hwyluso cydweithredu rhwng—

(a)person sydd wedi gwneud honiad bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, a

(b)y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i’r honiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6A. 119 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

120Cymhwystra ar gyfer atgyfeirio ymlaenLL+C

(1)Mae mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen oni bai—

(a)bod y mater yn ymwneud ag ymddygiad neu ddigwyddiad a ddigwyddodd 5 mlynedd neu ragor cyn y dyddiad perthnasol ac nad oes unrhyw un o’r eithriadau yn is-adran (4) yn gymwys,

(b)bod y person a benodir i roi ystyriaeth ragarweiniol i’r mater yn meddwl bod yr honiad yn flinderus, neu

(c)pan fo honiad wedi ei wneud yn ddienw, neu gan berson sy’n methu â chydymffurfio â’r weithdrefn ystyriaeth ragarweiniol, na all y person a benodir i roi ystyriaeth ragarweiniol i’r mater ei wirio.

(2)Yn is-adran (1) mae’r cyfeiriad at atgyfeirio ymlaen yn gyfeiriad at—

(a)atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121, neu

(b)atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.

(3)Yn is-adran (1)(a) ystyr “dyddiad perthnasol” yw—

(a)dyddiad yr honiad o dan adran 118(1)(a), neu

(b)pan na fo honiad wedi ei wneud o dan yr adran honno, y dyddiad y daeth GCC yn ymwybodol o’r mater yn gyntaf.

(4)At ddibenion is-adran (1)(a) yr eithriadau yw—

(a)bod y mater yn ymwneud â chollfarn person cofrestredig am drosedd berthnasol;

(b)bod y mater yn ymwneud â chynnwys y person cofrestredig ar restr wahardd (fel y’i diffinnir yn adran 117);

(c)bod y mater yn ymwneud â dyfarniad gan gorff perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 117) i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer;

(d)bod y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i’r mater yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i’r mater gael ei atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad.

(5)At ddibenion is-adran (4)(a) ac adran 121, trosedd berthnasol yw—

(a)yn achos collfarn gan lys yn y Deyrnas Unedig, trosedd y gosodwyd dedfryd o garchar, neu y gellid bod wedi gosod dedfryd o garchar, mewn cysylltiad â hi, neu

(b)yn achos collfarn gan lys yn rhywle arall, trosedd y gallai dedfryd o garchar fod wedi ei gosod mewn cysylltiad â hi, pe bai’r drosedd wedi ei chyflawni yng Nghymru neu Loegr.

(6)Yn is-adran (5), mae i “dedfryd o garchar” yr ystyr a roddir i “custodial sentence” gan adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p.6) [F3neu adran 222 o'r Cod Dedfrydu] .

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn a. 120(6) wedi eu mewnosod (1.12.2020) gan Sentencing Act 2020 (c. 17), a. 416(1), Atod. 24 para. 309(2) (ynghyd ag Atod. 27); O.S. 2020/1236, rhl. 2

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8A. 120 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

121Atgyfeirio’n uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarferLL+C

Rhaid i berson sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater ei atgyfeirio’n uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer—

(a)os yw’r mater yn ymwneud â chollfarn person cofrestredig am drosedd berthnasol (gweler adran 120(5)), a

(b)o dan unrhyw amgylchiadau eraill a bennir gan GCC mewn rheolau.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10A. 121 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

122Hysbysiad: anghymhwystra ar gyfer atgyfeirio ymlaenLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater yn dyfarnu nad yw’r mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen o dan adran 120(1).

(2)Rhaid i GCC roi hysbysiad o’r dyfarniad i’r personau perthnasol, oni bai bod GCC yn meddwl nad yw er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(3)At ddibenion is-adran (2) “y personau perthnasol” yw—

(a)y person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a

(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), y person a wnaeth yr honiad.

(4)Caiff GCC roi hysbysiad i unrhyw berson arall nad yw mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen pan fo wedi ei fodloni ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(5)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)cynnwys hysbysiad o dan yr adran hon, a

(b)y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I12A. 122 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

123Hysbysiad: atgyfeirio ymlaenLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i ystyriaeth ragarweiniol o dan adran 119 ddod i ben, pan fo mater yn cael ei atgyfeirio—

(a)i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121, neu

(b)ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.

(2)Rhaid i GCC roi hysbysiad—

(a)i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef;

(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), i’r person a wnaeth yr honiad;

(c)i bob person y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC;

(d)i bob person sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(e)i unrhyw bersonau eraill a ragnodir.

(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rhoi hysbysiad o dan is-adran (2).

(4)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)cynnwys hysbysiad;

(b)y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad;

(c)y cyfnod y mae rhaid rhoi hysbysiad ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I14A. 123 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

124Hysbysiad: atgyfeirio i banel gorchmynion interimLL+C

Pan fo person yn atgyfeirio mater i banel gorchmynion interim o dan adran 118(2)(b) neu 119(2), o ran GCC—

(a)rhaid iddo roi hysbysiad o’r atgyfeirio—

(i)i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a

(ii)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), i’r person a wnaeth yr honiad, a

(b)caiff roi hysbysiad o’r atgyfeirio i unrhyw berson arall os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 124 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I16A. 124 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

YmchwilioLL+C

125Dyletswydd i ymchwilioLL+C

(1)Rhaid i GCC ymchwilio, neu wneud trefniadau ar gyfer ymchwilio, i fater a atgyfeirir o dan adran 119 mewn cysylltiad ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)Caiff y person sy’n cynnal ymchwiliad o dan yr adran hon atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim ar unrhyw adeg yn ystod yr ymchwiliad.

(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer ymchwiliadau o dan yr adran hon.

(4)Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (3), yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)i’r person cofrestredig gyflwyno sylwadau i’r person sy’n cynnal yr ymchwiliad;

(b)i aelod o staff GCC gynnal ymchwiliadau;

(c)ar gyfer penodi un neu ragor o unigolion at ddiben cynnal ymchwiliad;

(d)ar gyfer penodi personau i roi cynhorthwy mewn perthynas ag ymchwiliad.

(5)Ond ni chaiff rheolau a wneir o dan is-adran (3) ddarparu i’r canlynol gynnal ymchwiliad⁠—

(a)person sy’n aelod o—

(i)GCC,

(ii)[F4Gwaith Cymdeithasol Lloegr ] ,

(iii)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu

(iv)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;

(b)person sy’n aelod o banel addasrwydd i ymarfer;

(c)person sy’n aelod o banel gorchmynion interim;

(d)person rhagnodedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I18A. 125 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

126Pwerau yn dilyn ymchwiliadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r ymchwiliad i fater sy’n ymwneud ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer wedi dod i ben.

(2)Rhaid i GCC atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer os yw wedi ei fodloni—

(a)bod rhagolwg realistig i’r panel ddod i’r casgliad bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, a

(b)ei bod er budd y cyhoedd i atgyfeirio’r mater.

(3)Pan na fo’r mater yn cael ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, caiff GCC—

(a)penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig;

(b)rhoi cyngor i’r person cofrestredig, neu i unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad;

(c)dyroddi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol;

(d)cytuno â’r person cofrestredig y bydd yn cydymffurfio ag unrhyw ymgymeriadau sy’n briodol ym marn GCC;

(e)caniatáu cais o dan adran 92 gan y person cofrestredig i’w gofnod yn y gofrestr gael ei ddileu drwy gytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 126 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I20A. 126 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

127Hysbysiad: atgyfeirio neu wareduLL+C

(1)Rhaid i GCC roi hysbysiad i’r personau a restrir yn is-adran (2)—

(a)bod mater wedi ei atgyfeirio i banel gorchmynion interim o dan adran 125(2);

(b)bod mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 126(2);

(c)o’r ffordd y mae’r mater wedi ei waredu o dan adran 126(3).

(2)Y personau yw—

(a)y person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a

(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), y person a wnaeth yr honiad.

(3)Caiff GCC roi hysbysiad i unrhyw berson arall o’r atgyfeiriad neu’r gwarediad o fater o dan adran 126 os yw wedi ei fodloni ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(4)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon roi’r rhesymau dros yr atgyfeiriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I22A. 127 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

128RhybuddionLL+C

(1)Pan fo GCC yn bwriadu dyroddi rhybudd i berson cofrestredig, rhaid i GCC—

(a)hysbysu’r person cofrestredig am ei fwriad, a

(b)hysbysu’r person hwnnw am yr hawl i ofyn am wrandawiad llafar at ddiben dyfarnu pa un ai i roi rhybudd ai peidio.

(2)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y cyfnod y caniateir i gais am wrandawiad llafar gael ei wneud ynddo;

(b)y trefniadau a’r weithdrefn ar gyfer gwrandawiad llafar.

(3)Rhaid i GCC ganiatáu cais am wrandawiad llafar os gwneir y cais yn unol â gofynion rheolau a wneir o dan is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I24A. 128 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

129YmgymeriadauLL+C

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch cytuno ar ymgymeriadau o dan adran 126(3)(d).

(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn ar gyfer cytuno ar ymgymeriadau;

(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn os caiff ymgymeriad ei dorri;

(c)canlyniadau torri ymgymeriad;

(d)adolygiad cyfnodol o ofyniad i gydymffurfio ag ymgymeriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I26A. 129 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

130CyfrynguLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, neu awdurdodi GCC drwy reolau i ddarparu, ar gyfer trefniadau i gynnal cyfryngu gydag unrhyw berson cofrestredig yr atgyfeirir mater ar gyfer ymchwiliad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 125.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth, neu awdurdodi GCC drwy reolau i wneud darpariaeth, ynghylch—

(a)yr amgylchiadau pan ganiateir cynnal cyfryngu, a

(b)y trefniadau ar gyfer cynnal cyfryngu.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I28A. 130 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

AdolyguLL+C

131Adolygu penderfyniadau gan GCCLL+C

(1)Rhaid i GCC adolygu penderfyniad y mae is-adran (2) yn gymwys iddo—

(a)os yw’n meddwl y gall fod diffyg perthnasol ar y penderfyniad, neu

(b)os yw’n meddwl y gall penderfyniad gwahanol fod wedi ei wneud ar sail gwybodaeth nad oedd ar gael pan wnaed y penderfyniad.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r penderfyniadau a ganlyn—

(a)penderfyniad i beidio ag atgyfeirio mater i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121 neu 126(2),

(b)penderfyniad i beidio ag atgyfeirio mater ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125,

(c)penderfyniad i waredu achos ar ôl ymchwiliad o dan adran 126(3), a

(d)penderfyniad i atgyfeirio achos ar gyfer cyfryngu o dan reoliadau o dan adran 130.

(3)Ni chaiff GCC adolygu penderfyniad ar ôl diwedd y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y penderfyniad oni bai bod GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(4)Pan fo GCC yn penderfynu adolygu penderfyniad, rhaid iddo roi hysbysiad i’r partïon a chanddynt fuddiant—

(a)o’r penderfyniad i gynnal adolygiad, a

(b)o’r rhesymau dros gynnal adolygiad.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “partïon a chanddynt fuddiant” yw—

(a)y person cofrestredig y gwnaed y penderfyniad sy’n cael ei adolygu mewn cysylltiad ag ef,

(b)y person (os oes un) a wnaeth honiad y gwnaed y penderfyniad mewn cysylltiad ag ef, ac

(c)unrhyw berson arall y mae GCC yn meddwl bod ganddo fuddiant yn y penderfyniad.

(6)Yn sgil adolygiad o dan yr adran hon, caiff GCC—

(a)rhoi yn lle’r penderfyniad sy’n cael ei adolygu benderfyniad arall o fath a allai fod wedi ei wneud gan y penderfynwr gwreiddiol,

(b)atgyfeirio’r mater ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125, neu

(c)dyfarnu bod y penderfyniad yn sefyll.

(7)Rhaid i GCC roi hysbysiad o ganlyniad yr adolygiad i’r partïon a chanddynt fuddiant.

(8)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cynnal adolygiad o dan yr adran hon.

(9)Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (8), yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth gynnal adolygiad (gan gynnwys darpariaeth i’r partïon a chanddynt fuddiant gyflwyno sylwadau i GCC);

(b)cynnwys ac amseriad hysbysiadau sydd i’w rhoi o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I30A. 131 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

132Canslo atgyfeiriad i banel addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121 neu 126(2) neu i banel gorchmynion interim o dan adran 118(2)⁠(b), 119(2) neu 125(2) ac—

(a)nad yw GCC bellach yn meddwl bod rhagolwg realistig y bydd y panel yn dod i’r casgliad bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, neu

(b)bod GCC fel arall yn meddwl nad yw bellach yn briodol i’r person cofrestredig fod yn ddarostyngedig i achos addasrwydd i ymarfer o dan y Rhan hon.

(2)Caiff GCC—

(a)dyfarnu na chaiff y panel addasrwydd i ymarfer neu’r panel gorchmynion interim ddechrau achos neu barhau ag achos mewn cysylltiad â’r mater, neu

(b)dyfarnu na chaiff yr achos addasrwydd i ymarfer ddechrau neu barhau ond mewn cysylltiad ag unrhyw fanylion y mater y mae GCC yn eu pennu.

(3)Pan fo GCC yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (2), caiff atgyfeirio’r mater, neu fanylion penodedig y mater, ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.

(4)Rhaid i GCC roi hysbysiad o ddyfarniad o dan is-adran (2)—

(a)i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef,

(b)pan fo honiad wedi ei wneud, i’r person a wnaeth yr honiad, ac

(c)i unrhyw berson y rhoddwyd hysbysiad o’r atgyfeirio iddo o dan adran 123(2)(c), (d) neu (e) neu 127(3).

(5)Rhaid i’r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y dyfarniad.

(6)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon; yn benodol, darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth wneud dyfarniad o dan is-adran (2), a

(b)cynnwys ac amseriad hysbysiad o dan is-adran (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 132 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I32A. 132 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

133Atgyfeirio gan GCC ar gyfer achos adolyguLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig—

(a)ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng y person a GCC o dan adran 126(3)(d);

(b)ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng y person a phanel addasrwydd i ymarfer o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7);

(c)gorchymyn cofrestru amodol a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c);

(d)gorchymyn atal dros dro a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7).

(2)Os yw GCC yn meddwl ar unrhyw adeg ei bod yn ddymunol y dylai panel addasrwydd i ymarfer adolygu addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, caiff GCC atgyfeirio’r achos i’r panel i gynnal adolygiad (gweler Pennod 5).

(3)Ond rhaid i GCC atgyfeirio achos i banel addasrwydd i ymarfer i gynnal adolygiad o addasrwydd i ymarfer person cofrestredig os oes gan GCC reswm dros gredu—

(a)pan fo’r person wedi cytuno ar ymgymeriad o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)⁠(a) neu (b), fod y person wedi torri’r ymgymeriad, neu

(b)pan fo’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(c), fod y person wedi torri unrhyw amod o’r gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 133 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I34A. 133 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

PENNOD 3LL+CGWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER

134Cwmpas Pennod 3 a’i dehongliLL+C

(1)Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn cysylltiad â mater sydd wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer.

(2)Ond nid yw’n gymwys mewn cysylltiad ag achosion adolygu o dan adran 151 (ac eithrio i’r graddau y caniateir i reolau gael eu gwneud o dan adran 136(4) neu 137(6) ynghylch ymgymeriadau y cytunir arnynt, a gadarnheir neu a amrywir, neu rybuddion a roddir, yn sgil adolygiad a gynhelir o dan adran 151).

(3)Nid yw ychwaith yn gymwys mewn cysylltiad ag achosion gerbron panel addasrwydd i ymarfer, na’r rhan honno o achosion gerbron panel addasrwydd i ymarfer, pan fo’r panel hwnnw yn ystyried—

(a)pa un ai i wneud gorchymyn interim o dan adran 144, neu

(b)adolygu gorchymyn interim o dan adran 146.

(4)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig y mae’r atgyfeiriad i’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 134 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I36A. 134 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

135Dileu o’r gofrestr ar sail gydsyniolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)pan fo person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, a

(b)pan fo’r cais hwnnw wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 92(3).

(2)Ni chaiff y panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person cofrestredig gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb ond os yw’r person wedi cytuno ar ddatganiad o ffeithiau sy’n ymwneud â’r mater y gwnaed yr atgyfeiriad a grybwyllir yn is-adran (1) mewn cysylltiad ag ef.

(3)Os gwneir gorchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb, caiff GCC—

(a)cyhoeddi’r datganiad o ffeithiau y cytunir arnynt yn y modd sy’n briodol ym marn GCC, a

(b)datgelu’r datganiad i unrhyw berson os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I38A. 135 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

136Gwaredu cydsyniol arall gan banel addasrwydd i ymarfer: ymgymeriadauLL+C

(1)Caiff panel addasrwydd i ymarfer gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer.

(2)Rhaid i GCC ddatgelu manylion yr ymgymeriadau i unrhyw berson—

(a)y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC;

(b)sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(c)y mae’r person cofrestredig, hyd y gŵyr GCC, yn ceisio cyflogaeth o’r fath neu drefniant o’r fath ganddo;

(d)a ragnodir.

(3)Ond ni chaiff GCC ddatgelu i unrhyw berson fanylion unrhyw ymgymeriad nad yw ond yn ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person cofrestredig.

(4)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch ymgymeriadau y cytunir arnynt â phanel addasrwydd i ymarfer o dan yr adran hon; a chaiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch y materion a bennir yn adran 129(2) (y weithdrefn sydd i’w dilyn ar gyfer cytuno ar ymgymeriadau etc.).

(5)Caiff rheolau o dan is-adran (4) gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag ymgymeriadau y cytunir arnynt, a gadarnheir neu a amrywir yn sgil adolygiad o dan adran 138(4), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I40A. 136 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

137Gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o ddim amhariadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu nad oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)Caiff y panel benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(3)Neu, caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r pethau a ganlyn—

(a)gwaredu’r mater yn y ffordd a bennir yn is-adran (4);

(b)gwaredu’r mater yn y ffordd a bennir yn is-adran (5).

(4)Caiff y panel roi cyngor ynghylch unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r honiad o dan adran 118(1)(a) neu’r wybodaeth a arweiniodd at yr achos o dan adran 118(1)(b) (yn ôl y digwydd)—

(a)i’r person cofrestredig, a

(b)i unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’r achos.

(5)Caiff y panel roi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(6)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer rhoi rhybudd o dan yr adran hon.

(7)Caiff rheolau o dan is-adran (6), yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad o rybudd arfaethedig i’r person cofrestredig, a

(b)sy’n caniatáu i’r person cofrestredig gyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r rhybudd arfaethedig.

(8)Caiff rheolau o dan is-adran (6) hefyd gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad â rhybudd a roddir o dan adran 138(6) neu yn sgil adolygiad o dan adran 152(3)(b)(ii), 153(3)(b)(ii), 154(3)(b)(ii) neu 155(6)(b)(ii).

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I42A. 137 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

138Gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o amhariadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)Rhaid i’r panel waredu’r mater mewn un o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adrannau (3) i (9).

(3)Caiff y panel wneud gorchymyn o dan adran 135(2) ar gyfer dileu cofnod y person cofrestredig o’r gofrestr drwy gytundeb.

(4)Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig; yn yr achos hwnnw, mae adran 136(2) a (3) yn gymwys mewn cysylltiad ag ymgymeriadau o’r fath.

(5)Caiff y panel benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig.

(6)Caiff y panel roi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(7)Caiff y panel wneud gorchymyn cofrestru amodol, sef gorchymyn sy’n gosod amodau ar gofrestriad y person.

(8)Caiff y panel wneud gorchymyn atal dros dro, sef gorchymyn sy’n atal cofrestriad y person cofrestredig dros dro.

(9)Caiff y panel wneud gorchymyn dileu, sef gorchymyn ar gyfer dileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r person cofrestredig yn y gofrestr.

(10)Ond ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu os yr unig sail y mae wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer arni yw iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I44A. 138 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

139Gwarediadau: darpariaeth bellach ynghylch gorchmynion cofrestru amodol a gorchmynion atal dros droLL+C

(1)Rhaid i orchymyn cofrestru amodol bennu—

(a)yr amodau y mae rhaid i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy, a

(b)y cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 153 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.

(2)Caiff gorchymyn cofrestru amodol bennu—

(a)bod rhaid adolygu’r gorchymyn yn unol â’r trefniadau a bennir yn y gorchymyn;

(b)amodau gwahanol sy’n cael effaith ar gyfer cyfnodau gwahanol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r terfyn a grybwyllir yn is-adran (1)(b).

(3)Rhaid i orchymyn atal dros dro bennu’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na blwyddyn; ond gweler adran 154 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.

(4)Caiff gorchymyn atal dros dro bennu bod rhaid adolygu’r gorchymyn yn unol â’r trefniadau a bennir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I46A. 139 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

140Gorchmynion effaith ar unwaith ar gyfer cofrestru amodol neu atal dros droLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol, gorchymyn atal dros dro neu orchymyn dileu mewn cysylltiad â pherson cofrestredig o dan adran 138(7), (8) neu (9) (“y penderfyniad”).

(2)Caiff y panel addasrwydd i ymarfer—

(a)yn achos gorchymyn cofrestru amodol, gwneud gorchymyn y dylai cofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr fod yn ddarostyngedig i’r amodau gydag effaith ar unwaith, neu

(b)yn achos gorchymyn atal dros dro neu orchymyn dileu, gwneud gorchymyn y dylai cofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr gael ei atal dros dro gydag effaith ar unwaith.

(3)Ni chaiff y panel wneud gorchymyn o dan is-adran (2) (“gorchymyn effaith ar unwaith”) ond os yw wedi ei fodloni bod y gorchymyn—

(a)yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)er budd y person cofrestredig.

(4)Rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig bod gorchymyn effaith ar unwaith wedi ei wneud.

(5)Mae gorchymyn effaith ar unwaith yn cael effaith o’r dyddiad yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano—

(a)tan y dyddiad y mae’r penderfyniad yn cymryd effaith yn unol ag adran 141(5), neu

(b)hyd nes bod apêl yn erbyn y penderfyniad yn cael ei chadarnhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I48A. 140 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

141Penderfyniadau addasrwydd i ymarfer: hysbysu a chymryd effaithLL+C

(1)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adrannau 135 i 138, rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r penderfyniad o ran gwaredu’r achos.

(2)Mewn unrhyw achos pan fo’r gwarediad yn dilyn canfyddiad o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer, rhaid i’r hysbysiad i’r person cofrestredig gynnwys—

(a)datganiad o ffeithiau a ganfyddir gan y panel, a

(b)canfyddiad y panel o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer.

(3)Mae penderfyniad i waredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 135, 136 neu 137 yn cymryd effaith ar unwaith.

(4)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 138(5) i (9), rhaid i GCC hefyd roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o dan adran 158.

(5)Nid yw penderfyniad i waredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 138(5) i (9) yn cymryd effaith—

(a)tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd y person cofrestredig am y penderfyniad, neu

(b)os gwneir apêl o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes bod yr apêl yn cael ei thynnu’n ôl, ei therfynu neu ei gwrthod.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I50A. 141 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

142Rheoliadau ynghylch gwarediadau gan baneli addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio adrannau 135 i 138 i ddiwygio’r ffyrdd y caiff panel addasrwydd i ymarfer waredu mater addasrwydd i ymarfer.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)ychwanegu pŵer gwaredu newydd at y pwerau a grybwyllir yn yr adrannau hynny, a gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â’r pŵer hwnnw;

(b)diwygio neu ddiddymu pŵer gwaredu a grybwyllir yn yr adrannau hynny;

(c)diwygio neu ddiddymu darpariaethau yn yr adrannau hynny sy’n gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â pŵer gwaredu a grybwyllir yn yr adrannau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I52A. 142 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

PENNOD 4LL+CGORCHMYNION INTERIM AC ADOLYGU GORCHMYNION INTERIM

143Cwmpas Pennod 4 a’i dehongliLL+C

(1)Mae’r Bennod hon yn gymwys—

(a)pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel gorchmynion interim, a

(b)pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, i’r achos gerbron y panel addasrwydd i ymarfer, neu’r rhan honno o’r achos hwnnw, pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried—

(i)pa un ai i wneud gorchymyn interim o dan adran 144, neu

(ii)adolygu gorchymyn interim o dan adran 146.

(2)Yn y Bennod hon—

  • ystyr “achos gorchymyn interim” (“interim order proceedings”) yw achos y mae’r Bennod hon yn gymwys mewn cysylltiad ag ef, ac

  • ystyr “panel” (“panel”) yw’r panel gorchmynion interim neu’r panel addasrwydd i ymarfer y dygir yr achos ger ei fron.

(3)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig y mae’r atgyfeiriad i’r panel wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 143 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I54A. 143 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

144Gorchmynion interimLL+C

(1)Caiff panel mewn achos gorchymyn interim wneud gorchymyn interim mewn perthynas â pherson cofrestredig.

(2)Caiff panel gorchmynion interim wneud gorchymyn interim pa un a yw’r mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer ai peidio.

(3)Pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, rhaid i unrhyw orchymyn interim gael ei wneud cyn i’r panel addasrwydd i ymarfer waredu’r mater yn unol ag unrhyw un neu ragor o adrannau 135 i 138.

(4)Y ddau fath o orchymyn interim yw—

(a)gorchymyn atal dros dro interim, sef gorchymyn sy’n atal cofrestriad y person cofrestredig dros dro;

(b)gorchymyn cofrestru amodol interim, sef gorchymyn sy’n gosod amodau ar gofrestriad y person cofrestredig.

(5)Ni chaiff panel wneud gorchymyn interim ond os yw wedi ei fodloni bod y gorchymyn—

(a)yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)er budd y person cofrestredig.

(6)O ran gorchymyn interim—

(a)mae’n cymryd effaith ar unwaith, a

(b)ni chaniateir iddo gael effaith am gyfnod sy’n hwy na 18 mis (oni bai ei fod yn cael ei estyn; gweler adran 148 (estyn gorchymyn interim gan y tribiwnlys)).

(7)Pan fo gorchymyn interim yn cael ei wneud mewn cysylltiad â pherson cofrestredig, rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person—

(a)o’r penderfyniad,

(b)o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac

(c)o’r hawl i apelio o dan adran 145 yn erbyn y penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I56A. 144 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

145Apelau yn erbyn gorchmynion interimLL+C

(1)Pan fo panel wedi gwneud gorchymyn interim o dan adran 144 mewn cysylltiad â pherson cofrestredig, caiff y person hwnnw apelio yn erbyn y gorchymyn i’r tribiwnlys.

(2)Rhaid i apêl gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 144(7).

(3)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(4)Ar apêl, caiff y tribiwnlys—

(a)dirymu’r gorchymyn interim,

(b)yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, dirymu neu amrywio unrhyw amod,

(c)rhoi gorchymyn cofrestru amodol interim yn lle gorchymyn atal dros dro interim,

(d)rhoi gorchymyn atal dros dro interim yn lle gorchymyn cofrestru amodol interim,

(e)amrywio’r cyfnod y mae’r gorchymyn interim i gael effaith ar ei gyfer,

(f)anfon yr achos yn ôl i GCC er mwyn iddo ei waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys, neu

(g)peidio â gwneud unrhyw newid i’r gorchymyn interim.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I58A. 145 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

146Adolygiadau o orchmynion interim: amseriadLL+C

(1)Rhaid i banel adolygu’n gyntaf orchymyn interim a wneir o dan adran 144 o fewn chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn.

(2)Pan fo gorchymyn interim a wneir o dan adran 144 wedi ei amrywio neu ei amnewid gan y tribiwnlys ar apêl o dan adran 145, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y dyddiad y gwnaed y gorchymyn i’w ddarllen fel cyfeiriad at ddyddiad penderfyniad y tribiwnlys.

(3)Mae is-adran (4) yn nodi amseriad yr adolygiad cyntaf o orchymyn interim ar ôl i’r tribiwnlys ei estyn neu ei estyn ymhellach (gweler adran 148), ac ystyr “penderfyniad y tribiwnlys” yw’r penderfyniad i estyn y gorchymyn neu i estyn y gorchymyn ymhellach (yn ôl y digwydd).

(4)Rhaid i banel adolygu’r gorchymyn interim—

(a)os nad oedd unrhyw adolygiad o’r gorchymyn wedi digwydd cyn penderfyniad y tribiwnlys, o fewn chwe mis sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad y tribiwnlys, neu

(b)os oedd adolygiad o’r gorchymyn wedi digwydd cyn penderfyniad y tribiwnlys, o fewn tri mis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(5)Mae is-adran (6) yn nodi amseriad yr adolygiad cyntaf o orchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol yn sgil adolygiad (“y gorchymyn amnewidiol”) (gweler adran 147(1)(c) a (d)).

(6)Rhaid i banel adolygu’r gorchymyn amnewidiol—

(a)os nad oedd unrhyw adolygiad o’r gorchymyn sydd wedi ei amnewid wedi digwydd cyn yr adolygiad a arweiniodd at wneud y gorchymyn amnewidiol, o fewn chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn amnewidiol, neu

(b)os oedd adolygiad o’r gorchymyn sydd wedi ei amnewid wedi digwydd cyn yr adolygiad a arweiniodd at wneud y gorchymyn amnewidiol, o fewn tri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn amnewidiol.

(7)Ar ôl yr adolygiad cyntaf o orchymyn interim o dan is-adran (1), (4) neu (6), rhaid i banel adolygu’r gorchymyn (am gyhyd ag y mae mewn grym)—

(a)o fewn chwe mis sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad yr adolygiad diweddaraf, neu

(b)os yw’r person cofrestredig yn gofyn am adolygiad cynharach ar ôl diwedd y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(8)Caiff panel adolygu gorchymyn interim ar unrhyw adeg os daw tystiolaeth newydd ar gael sy’n berthnasol i’r achos.

(9)Mewn is-adrannau (7) ac (8), mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at⁠—

(a)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys,

(b)gorchymyn interim fel y’i hamrywir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(b)), ac

(c)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 146 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I60A. 146 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

147Adolygiadau o orchymyn interim: penderfyniadau posiblLL+C

(1)Ar ôl i banel gwblhau adolygiad o orchymyn interim, caiff y panel—

(a)dirymu’r gorchymyn interim;

(b)yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, dirymu neu amrywio unrhyw amod;

(c)rhoi gorchymyn cofrestru amodol interim yn lle gorchymyn atal dros dro interim;

(d)rhoi gorchymyn atal dros dro interim yn lle gorchymyn cofrestru amodol interim;

(e)peidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r gorchymyn interim.

(2)Ni chaiff panel wneud penderfyniad a bennir yn is-adran (1)(b), (c), (d) neu (e) ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod y penderfyniad—

(a)yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)er budd y person cofrestredig.

(3)Mae gorchymyn amnewidiol a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d) yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y gorchymyn y mae’n cymryd ei le yn cael effaith ar ei gyfer (oni bai ei fod yn cael ei estyn o dan adran 148).

(4)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(i)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;

(ii)gorchymyn interim fel y’i hamrywir o dan is-adran (1)(b);

(iii)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d);

(b)mae cyfeiriad at orchymyn cofrestru amodol interim neu orchymyn atal dros dro interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(i)gorchymyn interim o’r math hwnnw fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;

(ii)yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, gorchymyn interim fel y’i hamrywir o dan is-adran (1)(b);

(iii)gorchymyn amnewidiol o’r math hwnnw a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d).

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 147 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I62A. 147 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

148Estyn gorchymyn interim gan y tribiwnlysLL+C

(1)Caiff GCC wneud cais i’r tribiwnlys i orchymyn interim gael ei estyn neu ei estyn ymhellach.

(2)Ar gais, caiff y tribiwnlys—

(a)dirymu’r gorchymyn interim,

(b)yn achos gorchymyn cofrestru amodol, dirymu neu amrywio unrhyw amod,

(c)estyn, neu estyn ymhellach, y gorchymyn am hyd at 12 mis, neu

(d)peidio â gwneud unrhyw newid i’r gorchymyn nac i’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer.

(3)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach o dan yr adran hon,

(b)gorchymyn interim a amrywir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(b)), ac

(c)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(c) neu (d)).

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 148 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I64A. 148 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

149Dirymu gorchmynion interimLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)bo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu mater mewn cysylltiad â pherson cofrestredig mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a nodir yn adrannau 135 i 138, a

(b)ar yr adeg honno, fo’r person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn interim (gweler adran 144).

(2)Rhaid i’r panel addasrwydd i ymarfer, ar yr un pryd ag y mae’n gwaredu’r mater, ddirymu’r gorchymyn interim.

(3)Mae’r dirymiad o’r gorchymyn interim yn cymryd effaith ar y dyddiad y mae’r panel yn gwaredu’r mater fel y’i disgrifir yn is-adran (1)(a).

(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol (gweler adrannau 147 a 148)—

(a)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;

(b)gorchymyn interim fel y’i hamrywir yn sgil adolygiad;

(c)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I66A. 149 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

PENNOD 5LL+CACHOSION ADOLYGU

150Achosion adolygu: dehongli a chyffredinolLL+C

(1)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig y mae ei addasrwydd i ymarfer yn ddarostyngedig i adolygiad o dan adran 151.

(2)Ni chaiff panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn ar gyfer dileu cofnod person cofrestredig o’r gofrestr drwy gytundeb o dan adran 152(2), 153(2), 154(2) neu 155(5) ond os yw’r person wedi cytuno ar ddatganiad o ffeithiau sy’n ymwneud â’r mater.

(3)Os gwneir gorchymyn o’r fath o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny, caiff GCC—

(a)cyhoeddi’r datganiad o ffeithiau y cytunir arnynt yn y modd y mae’n meddwl ei fod yn briodol, a

(b)datgelu’r datganiad i unrhyw berson os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(4)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn cytuno ar ymgymeriadau neu’n eu cadarnhau, neu’n cytuno ar unrhyw amrywiad o ymgymeriadau, o dan adran 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7), rhaid i GCC ddatgelu manylion yr ymgymeriadau i unrhyw berson—

(a)y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC,

(b)sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol,

(c)y mae’r person cofrestredig, hyd y gŵyr GCC, yn ceisio cyflogaeth o’r fath neu drefniant o’r fath ganddo, a

(d)a ragnodir.

(5)Ond ni chaiff GCC ddatgelu i unrhyw berson fanylion unrhyw ymgymeriad nad yw ond yn ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person cofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 150 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I68A. 150 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

151Achosion adolyguLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng panel addasrwydd i ymarfer a pherson cofrestredig o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7) yn cael effaith.

(2)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn yr ymgymeriadau hynny.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo gorchymyn cofrestru amodol a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c) yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig.

(4)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn y gorchymyn cofrestru amodol.

(5)Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo gorchymyn atal dros dro a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7) yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig.

(6)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiad o addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer yn unol ag unrhyw ofynion o ran adolygiad a gynhwysir yn y gorchymyn atal dros dro.

(7)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer hefyd gynnal adolygiad o addasrwydd person cofrestredig i ymarfer mewn achos y mae GCC yn ei atgyfeirio iddo o dan adran 133.

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 151 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I70A. 151 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

152Adolygu ymgymeriadau: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Mae’r adran hon yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan adran 151(2) neu (7) o addasrwydd i ymarfer berson cofrestredig sydd wedi cytuno ar ymgymeriadau.

(2)Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.

(3)Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—

(a)rhaid i’r panel ddirymu’r ymgymeriadau, a

(b)caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(i)rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;

(ii)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(4)Os yw’r person cofrestredig yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer, caiff y panel wneud gwarediad a bennir yn is-adran (5) neu (6).

(5)Caiff y panel gytuno â’r person cofrestredig fod yr ymgymeriadau yn parhau i gael effaith heb unrhyw amrywiadau.

(6)Caiff y panel gytuno â’r person cofrestredig y caniateir i’r naill neu’r llall neu’r ddau o’r amrywiadau a ganlyn gael eu gwneud i unrhyw ymgymeriad—

(a)amrywio ei delerau;

(b)estyn neu leihau’r cyfnod y mae i gael effaith ar ei gyfer.

(7)O dan is-adran (6)(b), ni chaiff estyniad o’r cyfnod y mae unrhyw ymgymeriad i gael effaith ar ei gyfer fod am fwy na 3 blynedd.

(8)Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, caiff y panel ddirymu’r ymgymeriadau a phenderfynu—

(a)peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person,

(b)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol,

(c)gwneud gorchymyn cofrestru amodol,

(d)gwneud gorchymyn atal dros dro, neu

(e)yn ddarostyngedig i is-adran (9), gwneud gorchymyn dileu.

(9)Ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu mewn achos pan fo’r panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall yn adran 117.

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 152 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I72A. 152 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

153Adolygu gorchmynion cofrestru amodol: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Mae’r adran hon yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan adran 151(4) neu (7) o addasrwydd i ymarfer berson cofrestredig sy’n ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol.

(2)Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.

(3)Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—

(a)rhaid i’r panel ddirymu’r gorchymyn cofrestru amodol, a

(b)caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(i)rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;

(ii)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(4)Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig—

(a)os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu

(b)os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer.

(5)Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer (ac na chytunwyd ar ymgymeriadau), caiff y panel waredu’r achos fel y’i disgrifir yn is-adrannau (6), (7) neu (9).

(6)Caiff y panel gadarnhau’r gorchymyn cofrestru amodol heb unrhyw amrywiadau.

(7)Caiff y panel wneud unrhyw un neu ragor neu’r cwbl o’r canlynol mewn cysylltiad â’r gorchymyn cofrestru amodol—

(a)dirymu unrhyw amod;

(b)amrywio unrhyw amod;

(c)estyn neu leihau’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer.

(8)O dan is-adran (7)(c) ni chaiff estyniad o’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer fod am fwy na 3 blynedd.

(9)Caiff y panel ddirymu’r gorchymyn cofrestru amodol a phenderfynu—

(a)peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig,

(b)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol,

(c)gwneud gorchymyn atal dros dro, neu

(d)yn ddarostyngedig i is-adran (10), gwneud gorchymyn dileu.

(10)Ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu mewn achos pan fo’r panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall yn adran 117.

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 153 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I74A. 153 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

154Adolygu gorchmynion atal dros dro: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Mae’r adran hon yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan adran 151(6) neu (7) o addasrwydd i ymarfer berson cofrestredig sy’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro.

(2)Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i‘r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.

(3)Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—

(a)rhaid i’r panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro, a

(b)caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(i)rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;

(ii)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(4)Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig—

(a)os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu

(b)os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer.

(5)Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer (ac na chytunwyd ar ymgymeriadau), caiff y panel waredu’r achos fel y’i disgrifir yn is-adrannau (6), (7), (8) neu (10).

(6)Caiff y panel gadarnhau’r gorchymyn atal dros dro heb unrhyw amrywiadau.

(7)Caiff y panel—

(a)estyn y cyfnod y mae’r gorchymyn atal dros dro i gael effaith ar ei gyfer am gyfnod nad yw’n hwy na 12 mis, neu

(b)lleihau’r cyfnod y mae’r gorchymyn atal dros dro i gael effaith ar ei gyfer.

(8)Caiff y panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro a phenderfynu—

(a)peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig,

(b)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol,

(c)gwneud gorchymyn cofrestru amodol, neu

(d)gwneud gorchymyn dileu.

(9)Ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu mewn achos pan fo’r panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall yn adran 117.

(10)Os yw’r amodau yn is-adran (11) wedi eu bodloni, caiff y panel wneud gorchymyn atal dros dro amhenodol, sef gorchymyn sy’n atal dros dro gofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr am gyfnod amhenodol.

(11)Yr amodau yw—

(a)bod y panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall a bennir yn adran 117,

(b)bod y person, ar ddyddiad penderfyniad y panel, wedi ei atal dros dro am o leiaf 2 flynedd, ac

(c)bod y gorchymyn atal dros dro y mae’r person yn ddarostyngedig iddo i fod i ddod i ben o fewn 2 fis i ddyddiad penderfyniad y panel.

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 154 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I76A. 154 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

155Adolygu gorchmynion atal dros dro amhenodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn atal dros dro amhenodol.

(2)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu’r gorchymyn atal dros dro amhenodol ar gais y person cofrestredig.

(3)Ni chaiff y person cofrestredig wneud cais am adolygiad—

(a)cyn i’r cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn ddod i ben, neu

(b)o fewn y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â dyddiad cais blaenorol am adolygiad.

(4)Mae’r is-adrannau a ganlyn yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan is-adran (2).

(5)Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.

(6)Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—

(a)rhaid i’r panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro amhenodol, a

(b)caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(i)rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;

(ii)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(7)Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig—

(a)os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu

(b)os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer.

(8)Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer (ac na chytunwyd ar ymgymeriadau), caiff y panel waredu’r achos fel y’i disgrifir yn is-adran (9) neu (10).

(9)Caiff y panel gadarnhau’r gorchymyn atal dros dro amhenodol.

(10)Caiff y panel ddirymu’r gorchymyn atal dros dro amhenodol a phenderfynu—

(a)peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig,

(b)rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol, neu

(c)gwneud gorchymyn cofrestru amodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 155 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I78A. 155 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

156Adolygiadau: darpariaeth bellach ynghylch gorchmynion cofrestru amodol a gorchmynion atal dros droLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys i orchymyn cofrestru amodol a wneir o dan adran 152(8)(c), 154(8)(c) neu 155(10)(c).

(2)Rhaid i’r gorchymyn bennu—

(a)yr amodau y mae rhaid i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy, a

(b)y cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 153 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.

(3)Caiff y gorchymyn bennu—

(a)bod rhaid ei adolygu yn unol â threfniadau a bennir yn y gorchymyn;

(b)amodau gwahanol sy’n cael effaith ar gyfer cyfnodau gwahanol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r terfyn a grybwyllir yn is-adran (2)(b).

(4)Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys i orchymyn atal dros dro a wneir o dan adran 152(8)(d) neu 153(9)(c).

(5)Rhaid i’r gorchymyn bennu’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 154 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.

(6)Caiff y gorchymyn bennu bod rhaid ei adolygu yn unol â threfniadau a bennir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I79A. 156 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I80A. 156 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

157Penderfyniadau mewn achosion adolygu: hysbysu a chymryd effaithLL+C

(1)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adrannau 152 i 155, rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r penderfyniad o ran gwaredu’r achos.

(2)Mewn unrhyw achos pan fo’r gwarediad yn dilyn canfyddiad o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer, rhaid i’r hysbysiad a roddir i’r person cofrestredig gynnwys—

(a)datganiad o ffeithiau a ganfyddir gan y panel, a

(b)rhesymau’r panel dros ei ganfyddiad.

(3)Mae penderfyniad i waredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adrannau 152 i 155, ac eithrio’r gwarediadau hynny a bennir yn is-adran (4), yn cymryd effaith ar unwaith.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn—

(a)adran 152(8),

(b)adran 153(6), (7) neu (9),

(c)adran 154(6), (7), (8) neu (10), neu

(d)adran 155(9) neu (10).

(5)Rhaid i GCC hefyd roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r hawl i apelio o dan adran 158 yn erbyn y penderfyniad.

(6)Nid yw penderfyniad i waredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn is-adran (4) yn cymryd effaith—

(a)tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd y person cofrestredig am y penderfyniad, neu

(b)os gwneir apêl o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes bod yr apêl yn cael ei thynnu’n ôl, ei therfynu neu ei gwrthod.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys—

(a)pan fo person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c), a

(b)pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 153(6), (7) neu (9)(c) neu (d) (“y penderfyniad”).

(8)Mae cofrestriad amodol y person cofrestredig o dan y gorchymyn fel y’i crybwyllir yn is-adran (7)(a) yn parhau i gael effaith—

(a)hyd nes bod y penderfyniad yn cymryd effaith yn unol ag is-adran (6), neu

(b)hyd nes bod apêl yn erbyn y penderfyniad yn cael ei chadarnhau,

er gwaethaf y ffaith y byddai’r cofrestriad amodol, pe na bai am yr is-adran hon, yn peidio â chael effaith cyn y dyddiad hwnnw.

(9)Pan fo person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol fel y’i crybwyllir yn is-adran (7)(a) a bod panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu drwy estyn cyfnod y gorchymyn cofrestru amodol o dan adran 153(7)(c) mae’r cyfnod estynedig hwnnw o gofrestriad amodol i gael ei drin fel pe bai wedi dechrau ar y dyddiad y byddai’r cyfnod blaenorol o gofrestriad amodol, pe na bai am is-adran (8), wedi peidio â chael effaith.

(10)Mae is-adran (11) yn gymwys—

(a)pan fo person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7), neu orchymyn atal dros dro amhenodol o dan adran 154(10) neu 155(9), a

(b)pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 154(6), (7), (8)(c) neu (d) neu (10) neu 155(10)(c) (“y penderfyniad”).

(11)Mae ataliad dros dro’r person cofrestredig o dan y gorchymyn fel y’i crybwyllir yn is-adran (10)(a) yn parhau i gael effaith—

(a)hyd nes bod y penderfyniad yn cymryd effaith yn unol ag is-adran (6), neu

(b)hyd nes bod apêl yn erbyn y penderfyniad yn cael ei chadarnhau,

er gwaethaf y ffaith y byddai’r ataliad dros dro, pe na bai am yr is-adran hon, yn peidio â chael effaith cyn y dyddiad hwnnw.

(12)Pan fo person cofrestredig yn ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7) a bod panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos adolygu drwy estyn cyfnod y gorchymyn atal dros dro o dan adran 154(7)(a) mae’r cyfnod estynedig hwnnw o ataliad dros dro i gael ei drin fel pe bai wedi dechrau ar y dyddiad y byddai’r cyfnod blaenorol o ataliad dros dro, pe na bai am is-adran (11), wedi peidio â chael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 157 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I82A. 157 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

PENNOD 6LL+CAPELAU AC ATGYFEIRIADAU I’R TRIBIWNLYS

158Apelau yn erbyn penderfyniadau panel addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer—

(a)ar ôl dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer (“canfyddiad o amhariad”), yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach o dan adran 138(5);

(b)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn rhoi rhybudd o dan adran 138(6);

(c)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud gorchymyn cofrestru amodol o dan adran 138(7);

(d)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud gorchymyn atal dros dro o dan adran 138(8);

(e)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud gorchymyn dileu o dan adran 138(9);

(f)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 152(8) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o ymgymeriadau);

(g)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 153(6), (7) neu (9) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o orchymyn cofrestru amodol);

(h)yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 154(6), (7), (8) neu (10) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o orchymyn atal dros dro);

(i)yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 155(9) neu (10) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o orchymyn atal dros dro amhenodol).

(2)Caiff y person y gwnaed penderfyniad o fath a restrir yn is-adran (1) mewn cysylltiad ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

(3)Rhaid i apêl gael ei dwyn o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad i’r person o dan sylw.

(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad,

(b)rhoi penderfyniad arall y gallai’r panel addasrwydd i ymarfer fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn, neu

(c)anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 158 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I84A. 158 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

PENNOD 7LL+CCYFFREDINOL AC ATODOL

159Datgelu gwybodaeth am addasrwydd i ymarferLL+C

Caiff GCC gyhoeddi neu ddatgelu i unrhyw berson wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer os yw’n meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 159 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I86A. 159 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

160Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparuLL+C

(1)At ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon, caiff GCC ei gwneud yn ofynnol i⁠—

(a)person cofrestredig, neu

(b)unrhyw berson arall (ac eithrio un o Weinidogion y Goron),

y mae GCC yn meddwl ei fod yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu gyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n ymddangos ei bod yn berthnasol i arfer unrhyw swyddogaeth o’r fath, gyflenwi’r wybodaeth honno neu gyflwyno’r ddogfen honno.

(2)Caiff GCC, yn benodol, ei gwneud yn ofynnol i’r person cofrestredig yr ymchwilir i’w addasrwydd i ymarfer, ddarparu manylion unrhyw berson—

(a)y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo;

(b)sydd â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol.

(3)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol, neu sy’n caniatáu, unrhyw ddatgeliad o wybodaeth a waherddir drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Ond pan fo gwybodaeth yn cael ei chadw ar ffurf y mae’r gwaharddiad yn gweithredu ynddi oherwydd bod yr wybodaeth yn gallu golygu bod modd adnabod unigolyn, caiff GCC ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi ar ffurf nad yw’n gallu golygu bod modd adnabod yr unigolyn hwnnw.

(5)Os yw person yn methu â chyflenwi unrhyw wybodaeth neu gyflwyno unrhyw ddogfen o fewn 14 o ddiwrnodau, neu gyfnod hwy y mae GCC yn ei bennu, i’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r person wneud hynny o dan yr adran hon, caiff GCC wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei chyflenwi neu i’r ddogfen gael ei chyflwyno.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 160(1) modified (25.3.2020) by Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(1), Atod. 5 para. 2(5) (ynghyd ag aau. 89, 90) (subject to expiry in accordance ynghyd ag a. 89(1)(2)(d) of the modifying Deddf)

Gwybodaeth Cychwyn

I87A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I88A. 160(1)-(4) mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

161Cyhoeddi penderfyniadau addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i wneud gwarediad cydsyniol o fater o dan adran 135 neu 136.

(2)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achos o dan adran 137 (gwarediad yn dilyn canfyddiad o ddim amhariad ar addasrwydd i ymarfer).

(3)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achos o dan adran 138 (gwarediad yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer).

(4)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achosion adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adrannau 152 i 155.

(5)Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i wneud gorchymyn effaith ar unwaith o dan adran 140.

(6)Rhaid i GCC gyhoeddi’r penderfyniadau a ganlyn gan banel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer—

(a)penderfyniad i wneud gorchymyn interim o dan adran 144;

(b)penderfyniad i gadarnhau neu amrywio gorchymyn interim yn sgil adolygiad o dan adran 147.

(7)Rhaid i GCC gyhoeddi unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud—

(a)i ddyroddi rhybudd o dan adran 126(3)(c) (pwerau GCC pan na fo’r achos yn cael ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer),

(b)i gytuno ar ymgymeriadau o dan adran 126(3)(d), neu

(c)i ganiatáu cais i ddileu cofnod o’r gofrestr drwy gytundeb o dan adran 126(3)(e).

(8)Mae is-adrannau (1) i (7) yn ddarostyngedig i is-adrannau (9) a (10).

(9)Nid yw’n ofynnol i GCC gyhoeddi unrhyw benderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â pherson cofrestredig o dan adran 137(2), 138(5), 152(8)(a), 153(9)(a), 154(8)(a) neu 155(10)(a); ond caiff wneud hynny.

(10)Rhaid i GCC beidio â chyhoeddi unrhyw wybodaeth am iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.

Gwybodaeth Cychwyn

I89A. 161 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I90A. 161 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

162Canllawiau ynghylch addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau a all, yn ei farn ef, ei gwneud yn briodol, neu’n amhriodol, i banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim wneud neu gadarnhau gorchymyn interim o dan Bennod 4.

(2)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (1) wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Bennod 4.

(3)Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau a all, yn ei farn ef, ei gwneud yn briodol, neu’n amhriodol, i banel addasrwydd i ymarfer wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)cyrraedd gwarediad cydsyniol o fater o dan adran 135 neu 136;

(b)rhoi cyngor neu rybudd o dan adran 137;

(c)gwaredu unrhyw fater mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adran 138(3) i (9);

(d)gwneud gorchymyn effaith ar unwaith o dan adran 140;

(e)gwaredu mater yn sgil adolygiad mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adrannau 152 i 155.

(4)Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch—

(a)ymgymeriadau penodol, neu fathau penodol o ymgymeriadau, y caniateir i banel addasrwydd i ymarfer gytuno arnynt, a pha bryd y gall fod yn briodol neu’n amhriodol cytuno ar yr ymgymeriadau hynny;

(b)amodau penodol, neu fathau penodol o amodau, y caniateir eu cynnwys mewn gorchymyn cofrestru amodol, a pha bryd y gall fod yn briodol neu’n amhriodol cynnwys yr amodau hynny;

(c)y cyfnod o amser y dylai unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael effaith ar ei gyfer⁠—

(i)ymgymeriadau;

(ii)amodau a gynhwysir mewn gorchymyn cofrestru amodol;

(iii)gorchymyn atal dros dro.

(5)Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau y mae’n meddwl y dylid eu hystyried wrth ddyfarnu pa un a oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol ai peidio.

(6)Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan is-adrannau (3) i (5) wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I91A. 162 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I92A. 162 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

163Atal dros dro: atodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn cysylltiad â pherson sy’n ddarostyngedig—

(a)i orchymyn atal dros dro a wneir o dan adran 138(8) (gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o amhariad);

(b)i orchymyn atal dros dro a wneir, a gadarnheir neu a amrywir yn sgil adolygiad o dan adran 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7);

(c)i orchymyn atal dros dro amhenodol a wneir neu a gadarnheir yn sgil adolygiad o dan adran 154(10) neu 155(9);

(d)i orchymyn atal dros dro interim a wneir, a gadarnheir neu a amrywir o dan adran 144 neu 147.

(2)Mae’r person i’w drin at bob diben ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn is-adran (3) fel pe na bai wedi ei gofrestru yn y gofrestr er gwaethaf y ffaith bod enw’r person yn parhau i ymddangos ynddi.

(3)Mae’r person i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru at ddiben—

(a)unrhyw achosion o dan y Rhan hon (gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol neu ymchwiliad o dan Bennod 2) sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;

(b)cais a wneir o dan reolau o dan adran 92 i gofnod gael ei ddileu o ran o’r gofrestr drwy gytundeb;

(c)achosion o dan adran 94 (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol) sy’n ymwneud â chofnod mewn rhan o’r gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I93A. 163 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I94A. 163 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

164Ystyr “person cofrestredig” yn Rhan 6LL+C

Yn y Rhan hon, ystyr “person cofrestredig” yw person sydd wedi ei gofrestru yn [F5y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol] F6... o’r gofrestr; ac mae’n cynnwys person—

(a)y byddai ei gofrestriad wedi darfod o dan adran 87(1) oni bai am y ffaith bod is-adran (2) o’r adran honno yn gymwys i’r person;

(b)y mae gorchymyn atal dros dro yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c), 154(6), (7) neu (10) neu 155(9);

(c)y mae gorchymyn atal dros dro interim yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef o dan adran 144 neu 147.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I95A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I96A. 164 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources