- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Croes Bennawd: Unigolion cyfrifol.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Yn y Rhan hon, ystyr “unigolyn cyfrifol” yw unigolyn—
(a)sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol o dan is-adran (2),
(b)y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei fod yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9), ac
(c)sydd wedi ei ddynodi gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac a bennir felly yng nghofrestriad y darparwr gwasanaeth.
(2)I fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol rhaid i’r unigolyn—
(a)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, fod y darparwr gwasanaeth;
(b)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, fod yn un o’r partneriaid;
(c)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol—
(i)bod yn gyfarwyddwr neu’n swyddog tebyg yn y corff,
(ii)yn achos cwmni cyfyngedig cyhoeddus, fod yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd yn y cwmni, neu
(iii)yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, fod yn aelod o’r corff;
(d)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff anghorfforedig, fod yn aelod o’r corff;
(e)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn awdurdod lleol, fod yn swyddog yn yr awdurdod lleol a ddynodir gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod.
(3)At ddibenion is-adran (2)(e), dim ond os yw cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yn meddwl bod gan swyddog y profiad a’r arbenigedd angenrheidiol i fod yn unigolyn cyfrifol y caiff ddynodi’r swyddog hwnnw.
(4)Caniateir i’r un unigolyn cyfrifol gael ei ddynodi mewn cysylltiad â mwy nag un man y darperir gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
(a)pennu amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol er nad yw gofynion is-adran (2) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, a
(b)gwneud darpariaeth i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig i unigolyn cyfrifol o’r fath.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 1 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (31.3.2024) gan Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/388), rhlau. 1(2), 79(3)
C2Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)
C3Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
C4Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
C5Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
C6A. 21(2) cyfyngwyd (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 72
C7A. 21(2) cyfyngwyd (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 59
C8A. 21(2) cyfyngwyd (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 68
C9A. 21(2) eithrio (31.3.2024) gan Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/388), rhlau. 1(2), 80
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 21 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)
(1)Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn y caiff Gweinidogion Cymru ganslo dynodiad unigolyn cyfrifol—
(a)bod rheswm ganddynt dros gredu nad yw’r unigolyn bellach yn bodloni gofynion adran 21(2);
(b)bod rheswm ganddynt dros gredu bod yr unigolyn wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;
(c)nad ydynt bellach wedi eu bodloni bod yr unigolyn yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9);
(d)bod rheswm ganddynt dros gredu nad yw’r unigolyn wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir ar yr unigolyn gan reoliadau o dan adran 28(1).
(2)Yn is-adran (1)(b), mae i “trosedd berthnasol” yr un ystyr ag yn adran 15.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo dynodiad unigolyn cyfrifol rhaid iddynt roi hysbysiad gwella i’r unigolyn.
(4)Rhaid i hysbysiad gwella a roddir o dan is-adran (3) bennu—
(a)y rheswm pam y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu canslo dynodiad yr unigolyn cyfrifol,
(b)naill ai—
(i)y camau y maent yn meddwl y mae rhaid i’r unigolyn eu cymryd, neu
(ii)yr wybodaeth y maent yn meddwl y mae rhaid i’r unigolyn ei darparu,
er mwyn eu bodloni na ddylid canslo dynodiad yr unigolyn, ac
(c)terfyn amser ar gyfer cymryd y camau neu ddarparu’r wybodaeth.
(5)Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a)bod y camau a bennir mewn hysbysiad gwella wedi eu cymryd, neu
(b)bod yr wybodaeth a bennir felly wedi ei darparu,
o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad cânt roi hysbysiad canslo.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad canslo dynodiad unigolyn cyfrifol heb gymryd y camau a grybwyllir yn is-adrannau (3) i (5) os oes ganddynt sail resymol dros gredu y bydd person, neu y gall person fod, yn agored i berygl o niwed oni bai bod y dynodiad yn cael ei ganslo.
(7)Rhaid rhoi hysbysiad canslo—
(a)i’r unigolyn cyfrifol, a
(b)i’r darparwr gwasanaeth a ddynododd yr unigolyn.
(8)Mae unigolyn yn peidio â bod wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol pan roddir yr hysbysiad canslo i’r darparwr gwasanaeth.
(9)Rhaid i hysbysiad canslo—
(a)rhoi rhesymau dros y penderfyniad,
(b)esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26,
(c)esbonio’r gofyniad ar y darparwr gwasanaeth i wneud cais am amrywiad i’r cofrestriad (gweler adran 11(1)(c)), a
(d)datgan y terfyn amser a ragnodir o dan adran 11(2) (terfyn amser rhagnodedig ar gyfer gwneud cais i ddynodi unigolyn cyfrifol newydd).
(10)Yn is-adran (6), ystyr “niwed” yw cam-drin neu amharu ar—
(a)iechyd corfforol neu iechyd meddwl, neu
(b)datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol,
ac mewn achos pan fo’r niwed yn ymwneud ag amhariad ar iechyd neu ddatblygiad plentyn, mae iechyd neu ddatblygiad y plentyn i’w gymharu â’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol oddi wrth blentyn tebyg.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I4A. 22 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: