Search Legislation

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: RHAN 9

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, RHAN 9 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 29 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 9:

  • specified provision(s) savings for amendments by 2018 anaw 1, s. 6, Sch. 6 by S.I. 2019/110 reg. 5

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

PENNOD 1LL+CTROSOLWG A DARPARIAETHAU RHAGARWEINIOL

TrosolwgLL+C

147Trosolwg o’r RhanLL+C

Mae’r tabl a ganlyn yn darparu trosolwg o’r Rhan hon—

TABL 1
PENNODCONTRACTAU MEDDIANNAETH Y MAE’N BERTHNASOL IDDYNTCYNNWYS Y BENNOD
1Pob contract meddiannaeth (ac eithrio adran 151, nad yw ond yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig)
(a)

ffyrdd y gellir terfynu contractau meddiannaeth,

(b)

amgylchiadau y gall landlordiaid wneud hawliad i’r llys i adennill meddiant o annedd oddi tanynt, ac

(c)

“hysbysiadau adennill meddiant”, sef hysbysiadau y mae’n rhaid i landlordiaid eu rhoi i ddeiliaid contractau cyn gwneud hawliad meddiant o dan adran 157 (tor contract), [F1adran 160] (mewn perthynas â seiliau rheoli ystad), adran 165 neu 170 (adennill meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract), adrannau 181 a 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol) neu adran 191 (adennill meddiant ar ôl defnyddio cymal terfynu deiliad y contract).

2Pob contract meddiannaethAmgylchiadau penodol pryd y gall contractau meddiannaeth derfynu heb hawliad meddiant.
3Pob contract meddiannaeth

Hawliadau meddiant gan landlordiaid—

(a)

ar y sail fod deiliad y contract wedi torri’r contract, a

(b)

ar seiliau rheoli ystad.

4Contractau diogelHawl deiliad y contract i derfynu’r contract.
5Contractau safonol cyfnodol
(a)

hawl deiliad y contract i derfynu’r contract, a

(b)

hawliau’r landlord i derfynu’r contract a gwneud hawliad meddiant.

6 a 7Contractau safonol cyfnod penodol
(a)

yr hyn sy’n digwydd ar ddiwedd y cyfnod,

(b)

hawl deiliad y contract i derfynu’r contract, a

(c)

hawliau’r landlord i derfynu’r contract a gwneud hawliad meddiant.

8Contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedigAdolygiad gan landlord, pan fo’n ofynnol gan ddeiliad y contract, o benderfyniad y landlord i roi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant ar seiliau penodol.
9 a 10Pob contract meddiannaeth
(a)

pwerau’r llys mewn perthynas â phob hawliad meddiant, a

(b)

pwerau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â seiliau meddiant yn ôl disgresiwn.

11Contractau diogelPwerau a dyletswyddau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â hysbysiad deiliad y contract.
12Contractau safonolPwerau a dyletswyddau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â seiliau meddiant absoliwt.
13 i 15Pob contract meddiannaeth
(a)

hawliau’r landlord pan fo deiliad y contract yn cefnu ar yr annedd,

(b)

terfynu a gwahardd pan fo cyd-ddeiliaid contract, a

(c)

fforffedu a rhybudd i ymadael heb fod ar gael mewn perthynas â chontractau meddiannaeth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 147 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 147 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Terfynu a ganiateir, hawliadau meddiant a hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiantLL+C

148Terfynu a ganiateir etc.LL+C

(1)Ni chaniateir terfynu contract meddiannaeth ond yn unol ag—

(a)telerau sylfaenol y contract sy’n ymgorffori darpariaethau sylfaenol a ddynodir yn y Rhan hon neu delerau eraill a gynhwysir yn y contract yn unol â’r Rhan hon, neu

(b)deddfiad.

(2)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar—

(a)unrhyw hawl sydd gan y landlord neu ddeiliad y contract i ddad-wneud y contract, na

(b)gweithrediad cyfraith llesteirio.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 148 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 148 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

149Hawliadau meddiantLL+C

(1)Ni chaiff y landlord o dan gontract meddiannaeth wneud hawliad i’r llys i adennill meddiant o’r annedd oddi wrth ddeiliad y contract (“hawliad meddiant”) ond yn yr amgylchiadau a amlinellir ym Mhenodau 3 i 5 a 7.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 149 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

150Hysbysiadau adennill meddiantLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad adennill meddiant y mae’n ofynnol i landlord ei roi i ddeiliad contract [F2o dan unrhyw un o’r adrannau a ganlyn] cyn gwneud hawliad meddiant [F3

(a)adran 159 (mewn perthynas â thor contract gan ddeiliad contract);

(b)adran 161 (mewn perthynas â seiliau rheoli ystad);

(c)adran 166, 171 neu 192 (mewn perthynas â hysbysiad deiliad y contract);

(d)adran 182 neu 188 (mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent difrifol o dan gontract safonol).]

(2)Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â nodi’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad)—

(a)datgan bwriad y landlord i wneud hawliad meddiant,

(b)rhoi manylion y sail, ac

(c)datgan ar ôl pa ddyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 150 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8A. 150 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant: contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedigLL+C

151Contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig: hysbysiadau o dan adrannau 173 a 181LL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i—

(a)hysbysiad a roddir yn unol ag adran 173 (hysbysiad gan landlord) mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;

(b)hysbysiad adennill meddiant a roddir yn unol ag adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol) mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.

(2)Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â chydymffurfio gydag unrhyw ofynion eraill o dan y Ddeddf hon) hysbysu deiliad y contract am yr hawl i wneud cais am adolygiad o dan adran 202 (adolygiad gan landlord), a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol rhagarweiniol a phob contract safonol ymddygiad gwaharddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 151 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I10A. 151 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 2LL+CTERFYNU ETC. HEB HAWLIAD MEDDIANT(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

152Deiliad y contract yn terfynu’n fuanLL+C

(1)Caiff deiliad y contract derfynu’r contract meddiannaeth unrhyw bryd cyn y cynharaf o’r canlynol—

(a)y landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) i ddeiliad y contract, neu

(b)y dyddiad meddiannu.

(2)Er mwyn terfynu’r contract o dan is-adran (1), rhaid i ddeiliad y contract roi hysbysiad i’r landlord yn datgan ei fod yn terfynu’r contract.

(3)Pan fydd yn rhoi’r hysbysiad i’r landlord, bydd deiliad y contract—

(a)yn peidio â bod ag unrhyw atebolrwydd o dan y contract, a

(b)yn dod â’r hawl i gael unrhyw flaendal, rhent neu gydnabyddiaeth arall a roddwyd i’r landlord yn unol â’r contract wedi’i ddychwelyd iddo.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 152 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I12A. 152 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

153Terfynu drwy gytundebLL+C

(1)Os yw’r landlord a deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cytuno i derfynu’r contract, daw’r contract i ben—

(a)pan fydd deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd yn unol â’r cytundeb, neu

(b)os nad yw’n ildio meddiant ac y gwneir contract meddiannaeth newydd i gymryd lle’r un gwreiddiol, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth newydd.

(2)Mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth newydd sy’n cymryd lle’r un gwreiddiol—

(a)os yw’n cael ei wneud mewn perthynas â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract gwreiddiol, a

(b)os oedd deiliad contract oddi tano hefyd yn ddeiliad contract o dan y contract gwreiddiol.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 153 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I14A. 153 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

154Tor contract ymwrthodol ar ran y landlordLL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn cyflawni tor contract ymwrthodol, a bod deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd oherwydd y tor contract hwnnw, daw’r contract i ben pan fydd deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 154 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I16A. 154 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

155Marwolaeth unig ddeiliad contractLL+C

(1)Os yw unig ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn marw, daw’r contract i ben—

(a)mis ar ôl marwolaeth deiliad y contract, neu

(b)os yw’n gynharach, pan fydd y personau awdurdodedig yn hysbysu’r landlord am y farwolaeth.

(2)Y personau awdurdodedig yw—

(a)cynrychiolwyr personol deiliad y contract, neu

(b)y rheini sydd â chaniatâd i feddiannu’r annedd sy’n 18 oed a hŷn (os oes rhai) yn gweithredu gyda’i gilydd.

(3)Ni ddaw’r contract i ben os oes un neu ragor o bersonau yn gymwys i olynu deiliad y contract o dan adran 74.

(4)Ni ddaw’r contract i ben os, ar farwolaeth deiliad y contract, oes gorchymyn eiddo teuluol yn effeithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract drosglwyddo’r contract i berson arall.

(5)Os, ar ôl marwolaeth deiliad y contract, yw’r gorchymyn eiddo teuluol yn peidio â chael effaith ac os nad oes unrhyw berson yn gymwys i olynu deiliad y contract, daw’r contract i ben—

(a)pan fydd y gorchymyn yn peidio â chael effaith, neu

(b)os yw’n hwyrach, pan fyddai’r contract yn dod i ben o dan is-adran (1).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys y ddarpariaeth a grybwyllir yn adran 139(1) (trosglwyddo ar farwolaeth unig ddeiliad contract); mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 155 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I18A. 155 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

156Marwolaeth landlord pan fo’r contract meddiannaeth yn drwyddedLL+C

Mae contract meddiannaeth sy’n drwydded yn dod i ben pan fydd y landlord yn marw.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 156 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I20A. 156 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 3LL+CTERFYNU POB CONTRACT MEDDIANNAETH (HAWLIAD MEDDIANT GAN LANDLORD)

Tor contractLL+C

157Tor contractLL+C

(1)Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cyflawni tor contract, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 209 yn darparu na chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny (ac mae rhesymoldeb i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 10).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 157 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I22A. 157 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

158Datganiad ffug sy’n darbwyllo’r landlord i wneud contract i’w drin fel tor contractLL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn cael ei ddarbwyllo i wneud y contract drwy ddatganiad ffug perthnasol—

(a)mae deiliad y contract i’w drin fel pe bai wedi torri’r contract meddiannaeth, a

(b)caiff y landlord, felly, wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract).

(2)Mae datganiad ffug yn berthnasol os caiff ei wneud yn fwriadol neu’n fyrbwyll gan—

(a)deiliad y contract, neu

(b)person arall sy’n gweithredu ar symbyliad deiliad y contract.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 158 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I24A. 158 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

159Cyfyngiadau ar adran 157LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall) ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod yr adran honno wedi ei thorri.

(3)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri unrhyw deler arall yn y contract cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod y teler hwnnw wedi ei dorri.

(4)Yn y naill achos a’r llall, ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 159 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I26A. 159 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Seiliau rheoli ystadLL+C

160Seiliau rheoli ystadLL+C

(1)Caiff y landlord o dan gontract meddiannaeth wneud hawliad meddiant ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad.

(2)Mae’r seiliau rheoli ystad wedi eu dynodi yn Rhan 1 o Atodlen 8 (mae paragraff 10 o’r Atodlen honno yn darparu bod Rhan 1 o’r Atodlen honno yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth).

(3)Mae adran 210 yn darparu na chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar sail rheoli ystad oni bai—

(a)ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny (ac mae rhesymoldeb i’w benderfynu yn unol ag Atodlen 10), a

(b)ei fod yn fodlon bod llety arall addas (mae’r hyn sy’n addas i’w benderfynu yn unol ag Atodlen 11) ar gael i ddeiliad y contract (neu y bydd ar gael i ddeiliad y contract pan fydd y gorchymyn yn cael effaith).

(4)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar sail rheoli ystad (ac nid ar unrhyw sail arall), rhaid i’r landlord dalu i ddeiliad y contract swm cyfwerth â’r treuliau rhesymol y mae deiliad y contract yn debygol o fynd iddynt wrth symud o’r annedd.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar Sail A neu B (y seiliau ailddatblygu) o’r seiliau rheoli ystad (ac nid ar unrhyw sail arall).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I28A. 160 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

161Cyfyngiadau ar adran 160LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar sail rheoli ystad, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Ni chaiff y landlord wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)Os yw cynllun ailddatblygu yn cael ei gymeradwyo o dan Ran 2 o Atodlen 8 yn ddarostyngedig i amodau, caiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu Sail B o’r seiliau rheoli ystad cyn bod yr amodau wedi eu bodloni.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu Sail G o’r seiliau rheoli ystad (dim angen y llety ar olynydd)—

(a)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) i wybod am farwolaeth y deiliad contract blaenorol, neu

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(5)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu sail rheoli ystad H (cyd-ddeiliad contract yn gadael) i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract i ben o dan y contract.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 161 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I30A. 161 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

162Seiliau rheoli ystad: cynlluniau ailddatblyguLL+C

Mae Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu) yn gwneud darpariaeth sy’n ategu Sail B o’r seiliau rheoli ystad.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 162 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I32A. 162 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 4LL+CTERFYNU CONTRACTAU DIOGEL (HYSBYSIAD DEILIAD Y CONTRACT)

163Hysbysiad deiliad y contractLL+C

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract [F4diogel].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 163 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I34A. 163 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

164Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163 fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I36A. 164 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

165Adennill meddiantLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 212 yn darparu bod rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract [F5diogel].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I38A. 165 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

166Cyfyngiadau ar adran 165LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 165 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 165 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 163 fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I40A. 166 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

167Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y contractLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a

(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I42A. 167 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 5LL+CTERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

Terfynu gan ddeiliad contract: hysbysiad deiliad contractLL+C

168Hysbysiad deiliad contractLL+C

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I44A. 168 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

169Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168 fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 169 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I46A. 169 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

170Adennill meddiantLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I48A. 170 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

171Cyfyngiadau ar adran 170LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 170 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 170 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 168 fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 171 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I50A. 171 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

172Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y contractLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y diwrnod a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a

(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 172 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I52A. 172 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Terfynu gan landlord: hysbysiad y landlordLL+C

173Hysbysiad y landlordLL+C

(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

F6(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C2A. 173 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 98A (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(6))

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I54A. 173 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

174Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na [F7chwe mis] ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

[F8(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—

(a)nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 174 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I56A. 174 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F9174AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8ALL+C

(1)Os yw contract safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sydd—

(a)yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, a

(b)o fewn Atodlen 8A.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 174A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

175[F10Cyfyngiad ar adran 173: ni chaniateir rhoi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth]LL+C

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o [F11chwe mis] sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.

(2)Os yw’r contract yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o [F12chwe mis] sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract yn dod yn union ar ôl diwedd contract meddiannaeth blaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract, ddeiliad contract o dan y contract yn ddeiliad contract o dan y contract blaenorol a landlord o dan y contract yn landlord o dan y contract blaenorol, a

(iii)os yw’r contract yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol, a

(b)ystyr “contract gwreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd contract nad yw’n gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth sy’n rhagflaenu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall;

(ii)pan fo cyfres o gontractau olynol yn gontractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—

(a)nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio),

F13...

Diwygiadau Testunol

F10Pennawd A. 175 wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 4(2), 19(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I59A. 175 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F14176Cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173: torri rhwymedigaethau statudolLL+C

Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 176 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I61A. 176 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F15177Cyfyngiadau ar roi hysbysiadau pellach o dan adran 173LL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo—

(a)landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (“yr hysbysiad cyntaf”), a

(b)y landlord wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl wedi hynny (gweler adran 180(3)).

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd yr hysbysiad cyntaf ei dynnu’n ôl, ac eithrio yn unol ag is-adran (3).

(3)Caiff y landlord roi un hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cyntaf.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—

(a)landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173, a

(b)y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 wedi dod i ben heb i’r landlord fod wedi gwneud hawliad.

(5)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â diwrnod olaf y cyfnod y gallai’r landlord fod wedi gwneud yr hawliad cyn iddo ddod i ben (gweler adran 179(1)(b)).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I63A. 177 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F16177ACyfyngiad ar roi hysbysiad o dan adran 173 yn dilyn hawliad meddiant dialgarLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178, a

(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 177A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

178Adennill meddiantLL+C

(1)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar: contractau safonol) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I66A. 178 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

179Cyfyngiad ar adran 178LL+C

(1)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178—

(a)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan adran 173, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I68A. 179 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

180Terfynu contract yn dilyn hysbysiad y landlordLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os[F17

(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu

(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—

(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a

(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.]

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I70A. 180 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Terfynu gan landlord: ôl-ddyledion rhent difrifolLL+C

181Ôl-ddyledion rhent difrifolLL+C

(1)Os oes gan ddeiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol ôl-ddyledion rhent difrifol, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol—

(a)pan fo’r cyfnod rhentu yn wythnos, yn bythefnos neu’n bedair wythnos, os oes o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu;

(b)pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu;

(c)pan fo’r cyfnod rhentu yn chwarter, os oes rhent o leiaf un chwarter dros dri mis yn hwyr;

(d)pan fo’r cyfnod rhentu yn flwyddyn, os oes o leiaf 25% o’r rhent dros dri mis yn hwyr.

(3)Mae adran 216 yn darparu bod rhaid i’r llys (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract) wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd os yw’n fodlon bod gan ddeiliad y contract—

(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a

(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I72A. 181 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

182Cyfyngiadau ar adran 181LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail honno i ddeiliad y contract.

(2)Ni chaiff landlord o dan gontract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)Ni chaiff y landlord o dan gontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Mae is-adran (1) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac

(a)mae is-adran (2) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;

(b)mae is-adran (3) yn ddarpariaeth sylfaenol nad yw ond wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I74A. 182 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Terfynu contractau safonol cyfnodol a oedd yn gontractau safonol cyfnod penodolLL+C

183Perthnasedd digwyddiadau o dan gontract safonol cyfnod penodolLL+C

(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2) (contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod penodol) wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar—

(a)hysbysiad adennill meddiant, F18...

(b)hysbysiad o dan adran 186,[F19neu

(c)hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord,]

y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y contract cyfnod penodol.

[F20(2)Mae adrannau 179 a 180—

(a)yn gymwys i hysbysiad o dan adran 186(1) fel y maent yn gymwys i hysbysiad o dan adran 173, a

(b)yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 186(5) gan ddibynnu ar hysbysiad o’r fath fel y maent yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 178 gan ddibynnu ar hysbysiad o dan adran 173.]

(3)Mewn unrhyw hysbysiad adennill meddiant y mae’r landlord yn ei roi i ddeiliad y contract, caiff y landlord ddibynnu ar ddigwyddiadau a ddigwyddodd cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 183 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I76A. 183 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 6LL+CCONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL: DIWEDD Y CYFNOD PENODOL

184Diwedd y cyfnod penodolLL+C

(1)Mae contract safonol cyfnod penodol yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y’i gwneir ar ei gyfer.

(2)Os yw deiliad y contract yn dal i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod, mae’r landlord a deiliad y contract i’w trin fel pe baent wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd.

(3)Mae gan y contract newydd—

(a)dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl diwedd y cyfnod penodol, a

(b)cyfnodau rhentu sydd yr un fath â’r rheini yr oedd rhent yn daladwy ar eu cyfer ddiwethaf o dan y contract cyfnod penodol.

(4)Mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori fel telerau’r contract newydd heb eu haddasu.

(5)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), mae i’r contract newydd yr un telerau â’r contract cyfnod penodol yn union cyn iddo ddod i ben.

(6)Nid yw contract meddiannaeth newydd yn dod i fodolaeth fel y disgrifir yn is-adran (2) os yw’r landlord a deiliad y contract wedi gwneud contract meddiannaeth newydd mewn perthynas â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) sydd â dyddiad meddiannu yn union ar ôl i’r contract cyfnod penodol ddod i ben.

(7)Os, cyn neu ar ddyddiad meddiannu contract meddiannaeth newydd sy’n dod i fodolaeth fel y disgrifir yn is-adran (2) neu (6)—

(a)yw deiliad y contract yn ymrwymo i rwymedigaeth i gyflawni gweithred a fydd yn peri i’r contract newydd ddod i ben, neu

(b)yw deiliad y contract yn rhoi unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall a fyddai, oni bai am yr is-adran hon, yn peri i’r contract newydd ddod i ben,

ni ellir gorfodi’r rhwymedigaeth neu (yn ôl y digwydd) nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad neu’r ddogfen.

(8)Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad contract ar ddechrau contract) yn gymwys mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol sy’n codi o dan is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 184 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I78A. 184 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

185Caniatáu i ddatganiad ysgrifenedig ymdrin â chontract safonol cyfnodol sy’n codi o dan adran 184(2)LL+C

(1)Caiff datganiad ysgrifenedig o gontract safonol cyfnod penodol, o ran y contract safonol cyfnodol a allai godi o dan adran 184(2) (“y contract posibl”), nodi beth fyddai telerau’r contract hwnnw o dan adran 184(3) i (5) drwy—

(a)pennu telerau’r contract safonol cyfnod penodol na fyddant yn delerau’r contract posibl, a nodi’r telerau a fydd yn gymwys i’r contract posibl yn unig, neu

(b)nodi holl delerau’r contract posibl ar wahân.

(2)Pan fo datganiad ysgrifenedig o gontract safonol cyfnod penodol yn ymdrin â’r contract posibl yn unol ag is-adran (1)—

(a)nid yw’r datganiad ysgrifenedig yn anghywir (gweler adran 37) ond am ei fod yn ymdrin â’r contract posibl;

(b)mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn adran 31(1) (darparu datganiad ysgrifenedig) mewn perthynas â’r contract posibl, ac

(c)ni chaniateir gorfodi telerau’r contract posibl yn erbyn deiliad y contract cyn dyddiad meddiannu’r contract hwnnw (ac, o ganlyniad, nid yw adran 42 yn gymwys).

Gwybodaeth Cychwyn

I79A. 185 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I80A. 185 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 7LL+CTERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Diwedd cyfnod penodol: hysbysiad y landlordLL+C

186Hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol [F21contract sydd o fewn Atodlen 9B] LL+C

(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol [F22sydd o fewn Atodlen 9B], cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

F23(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3)[F24O] ran y dyddiad a bennir—

(a)ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, a

(b)ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

F25(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-adran (1), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(6)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(7)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.

(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol [F26sydd o fewn Atodlen 9B.]

Diwygiadau Testunol

F21Geiriau yn pennawd a. 186 wedi eu mewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(2), 19(3)

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C3A. 186 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 98A (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(6))

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 186 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I82A. 186 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F27186ACyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186: torri rhwymedigaethau statudolLL+C

Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 186A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Terfynu gan y landlord: ôl-ddyledion rhent difrifolLL+C

187Ôl-ddyledion rhent difrifolLL+C

(1)Os oes gan ddeiliad y contract o dan gontract safonol cyfnod penodol ôl-ddyledion rhent difrifol, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol—

(a)pan fo’r cyfnod rhentu yn wythnos, yn bythefnos neu’n bedair wythnos, os oes o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu;

(b)pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu;

(c)pan fo’r cyfnod rhentu yn chwarter, os oes rhent o leiaf un chwarter dros dri mis yn hwyr;

(d)pan fo’r cyfnod rhentu yn flwyddyn, os oes o leiaf 25% o’r rhent dros dri mis yn hwyr.

(3)Mae adran 216 yn darparu bod rhaid i’r llys (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract) wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd os yw’n fodlon bod gan ddeiliad y contract—

(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a

(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I84A. 187 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I85A. 187 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

188Cyfyngiadau ar adran 187LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 187, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Ni chaiff y landlord wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I86A. 188 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I87A. 188 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Cymal terfynu deiliad y contractLL+C

189Cymal terfynu deiliad contractLL+C

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol gynnwys teler sy’n galluogi deiliad y contract i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu deiliad y contract, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I88A. 189 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I89A. 189 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

190Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I90A. 190 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I91A. 190 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

191Adennill meddiantLL+C

(1)Os yw deiliad contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I92A. 191 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I93A. 191 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

192Cyfyngiadau ar adran 191LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 191 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 191 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I94A. 192 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I95A. 192 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

193Terfynu contract o dan gymal terfynu deiliad y contractLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a

(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I96A. 193 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I97A. 193 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Cymal terfynu’r landlordLL+C

194Cymal terfynu’r landlordLL+C

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol [F28sydd o fewn is-adran (1A)] gynnwys teler sy’n galluogi’r landlord i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd yn rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

[F29(1A)Mae contract safonol cyfnod penodol o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor, neu

(b)os yw o fewn Atodlen 9C (pa un a yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor ai peidio).]

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu’r landlord, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C4A. 194 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 98A (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(6))

Gwybodaeth Cychwyn

I98A. 194 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I99A. 194 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

195Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na [F30chwe mis] ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

[F31(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I100A. 195 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I101A. 195 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F32195AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnod penodol sydd o fewn Atodlen 8ALL+C

(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd—

(a)yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, a

(b)o fewn Atodlen 8A.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I102A. 195A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

196[F33Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth]LL+C

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod o [F3418 mis] sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.

F35(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F36(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio),

F37...

Diwygiadau Testunol

F33Pennawd A. 196 wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(2), 19(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I103A. 196 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I104A. 196 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F38197Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudolLL+C

Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I105A. 197 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I106A. 197 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F39198Cyfyngiad ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord yn dilyn hawliad meddiant dialgarLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan gymal terfynu’r landlord) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199, a

(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan gymal terfynu’r landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I107A. 198 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I108A. 198 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

199Adennill meddiantLL+C

(1)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I109A. 199 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I110A. 199 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

200Cyfyngiad ar adran 199LL+C

(1)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199—

(a)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I111A. 200 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I112A. 200 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

201Terfynu contract o dan gymal terfynu’r landlordLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os [F40

(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu

(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—

(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a

(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.]

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I113A. 201 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I114A. 201 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 8LL+CADOLYGIAD GAN LANDLORD O BENDERFYNIAD I ROI HYSBYSIAD YN EI GWNEUD YN OFYNNOL ILDIO MEDDIANT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL A CHONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG)

202Adolygiad o benderfyniad i derfynu contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedigLL+C

(1)Nid yw’r adran hon yn gymwys ond mewn perthynas â chontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.

(2)Os yw’r landlord yn penderfynu rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (hysbysiad y landlord) neu i roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol), caiff deiliad y contract ofyn i’r landlord gynnal adolygiad o’r penderfyniad hwnnw.

(3)Rhaid gwneud cais am adolygiad i’r landlord cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir mewn ysgrifen gan y landlord) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I115A. 202 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I116A. 202 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

203Adolygiad y landlord o benderfyniad i roi hysbysiadLL+C

(1)Os yw deiliad y contract, yn unol ag adran 202, yn gofyn am adolygiad o benderfyniad y landlord i roi hysbysiad, rhaid i’r landlord gynnal yr adolygiad.

(2)Yn dilyn adolygiad, caiff y landlord—

(a)cadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad, neu

(b)gwrthdroi’r penderfyniad.

(3)Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y dyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant ar ei ôl.

(4)Os yw’r landlord yn cadarnhau’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad nodi’r rhesymau dros y cadarnhad.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag adolygiad o dan yr adran hon.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (5), ymysg pethau eraill—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson o safle uwch priodol nad yw wedi bod yn ymwneud â’r penderfyniad, a

(b)dynodi amgylchiadau pan fo hawl gan ddeiliad y contract i wrandawiad llafar, a dynodi a ganiateir iddo gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I117A. 203 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I118A. 203(1)-(4) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I119A. 203(5)(6) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I120A. 203(5)(6) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 9LL+CHAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

204Hawliadau meddiantLL+C

(1)Ni chaiff y llys wrando hawliad meddiant a wneir gan y landlord o dan gontract meddiannaeth—

(a)os yw’r landlord wedi methu â gweithredu yn unol â pha un bynnag o’r darpariaethau a ganlyn sy’n gymwys—

F41(i). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(ii)adran 159 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn tor contract);

(iii)adran 161 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar seiliau rheoli ystad);

(iv)adran 166 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);

(v)adran 171 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);

(vi)adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol [F42tan ar ôl chwe mis cyntaf] meddiannaeth);

(vii)adrannau [F43177, 177A] a 179 (cyfyngiadau yn ymwneud â hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);

(viii)adran 182 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);

(ix)adran 186 (cyfyngiad yn ymwneud â hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

(x)adran 188 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);

(xi)adran 192 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar ôl defnyddio cymal terfynu deiliad contract mewn contract safonol cyfnod penodol);

(xii)adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol [F44tan ar ôl 18 mis cyntaf] meddiannaeth);

(xiii)adrannau F45...198 a 200 (cyfyngiadau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol);

(xiv)adran 203 (adolygiad o benderfyniad i roi hysbysiad yn ceisio meddiant: contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig),

[F46(xv)Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol),] neu

(b)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant a’i fod wedi methu â chydymffurfio ag adran 150 neu (mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig) adran 151.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r llys yn ystyried ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion a grybwyllir yn yr is-adran honno.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i gais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn isddeiliad o dan adran 65(2) (gorchymyn adennill meddiant estynedig).

205Gorchmynion adennill meddiantLL+C

(1)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ildio meddiant o’r annedd ond ar un neu ragor o’r seiliau yn—

(a)adran 157 (tor contract);

(b)adran 160 (rheoli ystad);

(c)adran 165 (hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);

(d)adran 170 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);

(e)adran 178 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);

(f)adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);

(g)adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

(h)adran 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);

(i)adran 191 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnod penodol);

(j)adran 199 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnod penodol).

(2)Pan fo’n ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar sail nad yw wedi ei phennu yn hysbysiad adennill meddiant y landlord.

(3)Ond caiff y llys ganiatáu addasu neu ychwanegu at y sail (neu’r seiliau) a bennir yn yr hysbysiad adennill meddiant ar unrhyw adeg cyn i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I123A. 205 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I124A. 205 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

206Effaith gorchymyn adennill meddiantLL+C

(1)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, daw’r contract i ben—

(a)os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad hwnnw, neu cyn hynny, ar y dyddiad hwnnw,

(b)os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant, ar y diwrnod y mae’n ildio meddiant o’r annedd, neu

(c)os nad yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant, pan weithredir y gorchymyn adennill meddiant.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys—

(a)os yw’n amod o’r gorchymyn fod yn rhaid i’r landlord gynnig contract meddiannaeth newydd mewn perthynas â’r un annedd i un neu ragor o’r cyd-ddeiliaid contract (ond nid pob un ohonynt), a

(b)os yw’r cyd-ddeiliad contract hwnnw (neu’r cyd-ddeiliaid contract hynny) yn parhau i feddiannu’r annedd ar ddiwrnod meddiannu’r contract newydd ac ar ôl hynny.

(3)Daw’r contract meddiannaeth y gwnaed y gorchymyn adennill meddiant mewn perthynas ag ef i ben yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract newydd.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I125A. 206 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I126A. 206 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

207Cymryd rhan mewn achosLL+C

(1)Mae hawl gan berson sy’n meddiannu annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, ac sydd â hawliau cartref, cyhyd ag y bo’r person yn parhau i’w meddiannu—

(a)i fod yn barti i unrhyw achos ar hawliad meddiant sy’n ymwneud â’r annedd, neu mewn cysylltiad â gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, neu

(b)i geisio gohiriad, ataliad neu oediad o dan adran 211, 214 neu 219.

(2)Mae i “hawliau cartref” yr un ystyr ag a roddir i “home rights” yn adran 30(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27).

Gwybodaeth Cychwyn

I127A. 207 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I128A. 207 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

208Camliwio neu gelu ffeithiau i gael gorchymyn adennill meddiantLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys, ar ôl i’r landlord o dan gontract meddiannaeth gael gorchymyn adennill meddiant yn erbyn deiliad y contract, yn fodlon bod y gorchymyn wedi ei gael drwy gamliwio neu gelu ffeithiau perthnasol.

(2)Caiff y llys orchymyn i’r landlord dalu i ddeiliad y contract unrhyw swm sy’n ymddangos yn ddigollediad digonol am niwed neu golled a gafodd deiliad y contract o ganlyniad i’r gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I129A. 208 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I130A. 208 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 10LL+CHAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU YN ÔL DISGRESIWN(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

209Sail tor contractLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract).

(2)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(3)Nid yw’r llys wedi ei atal rhag gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno ond am fod deiliad y contract wedi rhoi’r gorau i gyflawni’r tor contract cyn i’r landlord wneud yr hawliad meddiant.

(4)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn adennill meddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I131A. 209 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I132A. 209 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

210Seiliau rheoli ystadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant o dan adran 160 ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad.

(2)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno (neu ar y seiliau hynny) oni bai—

(a)ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, a

(b)ei fod yn fodlon bod llety arall addas ar gael i ddeiliad y contract (neu y bydd ar gael i ddeiliad y contract pan fydd y gorchymyn yn cael effaith).

(3)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn am feddiant.

(4)Penderfynir a oes llety arall addas ar gael i ddeiliad y contract neu a fydd ar gael gan roi sylw i Atodlen 11.

(5)Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant ar Sail B o’r seiliau rheoli ystad a bod y cynllun ailddatblygu yn cael ei gymeradwyo o dan Ran 2 o Atodlen 8 yn ddarostyngedig i amodau, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant oni bai ei fod yn fodlon bod yr amodau wedi eu bodloni, neu y cânt eu bodloni.

(6)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant a’i bod yn ofynnol i’r landlord dalu swm i ddeiliad y contract o dan adran 160(4), o ran y swm sy’n daladwy—

(a)os nad yw wedi ei gytuno rhwng y landlord a deiliad y contract, mae i’w ddyfarnu gan y llys, a

(b)gellir ei adennill oddi wrth y landlord fel dyled sifil.

Gwybodaeth Cychwyn

I133A. 210 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I134A. 210 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

211Pwerau i ohirio achosion ac i ohirio ildio meddiantLL+C

(1)Os yw hawliad meddiant a wneir gan landlord yn dibynnu ar y sail yn adran 157 (tor contract) neu ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad, caiff y llys ohirio’r achos ar yr hawliad am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n rhesymol yn ei farn.

(2)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 neu 210, caiff (wrth wneud y gorchymyn neu ar unrhyw adeg cyn gweithredu’r gorchymyn) ohirio ildio meddiant am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n briodol yn ei farn.

(3)Gellir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.

(4)Pan geir gohiriad o dan yr adran hon, rhaid i’r llys osod amodau o ran—

(a)talu ôl-ddyledion rhent (os oes rhai) gan ddeiliad y contract, a

(b)parhau i dalu’r rhent (os oes rhent i’w dalu),

oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud hynny’n achosi caledi eithriadol i ddeiliad y contract neu y byddai’n afresymol fel arall.

(5)Caiff y llys osod unrhyw amodau eraill sy’n briodol yn ei farn.

(6)Os yw deiliad y contract yn cydymffurfio â’r amodau, caiff y llys ryddhau’r gorchymyn am feddiant.

(7)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gohiriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I135A. 211 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I136A. 211 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 11LL+CHAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL)

212Sail hysbysiad deiliad y contractLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os—

(a)yw’r landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 165 (hysbysiad deiliad y contract), a

(b)yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.

(2)Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 213 (adolygiad gan y llys sirol).

Gwybodaeth Cychwyn

I137A. 212 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I138A. 212 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

213Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwtLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar y sail yn adran 165 (deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract), ac—

(a)bod y landlord yn landlord cymunedol, neu

(b)bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.

(2)Caiff deiliad y contract wneud cais yn yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.

(3)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu.

(4)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(5)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—

(a)rhoi’r hysbysiad adennill meddiant o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;

(b)gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(6)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (2) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I139A. 213 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I140A. 213 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

214Pwerau i ohirio ildio meddiantLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o annedd o dan adran 212.

(2)Ni chaiff y llys ohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na 14 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn, oni bai ei bod yn ymddangos i’r llys y câi caledi eithriadol ei achosi pe na byddai ildio meddiant yn cael ei ohirio hyd ddyddiad diweddarach.

(3)Ni chaniateir gohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na chwe wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn mewn unrhyw achos.

(4)Caniateir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I141A. 214 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I142A. 214 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 12LL+CHAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL)

Seiliau meddiant absoliwt mewn perthynas â chontractau safonolLL+C

215Seiliau rhoi hysbysiadLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os—

(a)yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 170 neu 191 (hysbysiad deiliad y contract) neu adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol), a

(b)yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.

(2)Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys os—

(a)yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 neu 199 (hysbysiad y landlord), a

(b)yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.

(4)Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(5)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 218 (adolygiad gan y llys sirol).

Gwybodaeth Cychwyn

I143A. 215 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I144A. 215 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

216Seiliau ôl-ddyledion rhent difrifolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181 neu 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol).

(2)Os yw’r llys yn fodlon bod gan ddeiliad y contract—

(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a

(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant,

rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae adran 181(2) neu (yn ôl y digwydd) adran 187(2) yn gymwys er mwyn penderfynu a oes gan ddeiliad contract ôl-ddyledion rhent difrifol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 218 (adolygiad gan y llys sirol).

Gwybodaeth Cychwyn

I145A. 216 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I146A. 216 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Troi allan dialgar: sail absoliwt sy’n dod yn sail yn ôl disgresiwnLL+C

217Hawliadau meddiant dialgar er mwyn osgoi rhwymedigaethau i atgyweirio etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 neu adran 199 (hysbysiad y landlord), a

(b)os yw’r llys o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar.

(2)Caiff y llys wrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant.

(3)Mae hawliad meddiant yn hawliad dialgar—

(a)os yw deiliad y contract wedi gorfodi rhwymedigaethau’r landlord o dan adran 91 neu 92 neu wedi dibynnu arnynt, a

(b)os yw’r llys yn fodlon bod y landlord wedi gwneud yr hawliad meddiant er mwyn osgoi cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau at ddiben darparu ar gyfer disgrifiadau pellach o hawliad dialgar.

Gwybodaeth Cychwyn

I147A. 217 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I148A. 217 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Adolygiad a gohirioLL+C

218Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwtLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar sail mewn adran y mae is-adran (2) yn gymwys iddi, a—

(a)bod y landlord yn landlord cymunedol, neu

(b)bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r adrannau a ganlyn—

(a)adran 170 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol),

(b)adran 178 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol),

(c)adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol),

(d)adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol),

(e)adran 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol),

(f)adran 191 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnod penodol), ac

(g)adran 199 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnod penodol).

(3)Caiff deiliad y contract wneud cais yn ystod yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.

(4)Caiff deiliad y contract wneud cais o dan yr adran hon ni waeth a ofynnodd am adolygiad gan y landlord o dan adran 202 (contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig) ai peidio.

(5)Ond ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan yr adran hon ar y sail fod yr hawliad meddiant yn hawliad dialgar (o fewn ystyr adran 217).

(6)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad i wneud yr hawliad neu ei ddiddymu.

(7)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(8)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—

(a)rhoi’r hysbysiad adennill meddiant neu (yn ôl y digwydd) hysbysiad y landlord o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;

(b)gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(9)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (3) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I149A. 218 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I150A. 218 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

219Pwerau i ohirio ildio meddiantLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o annedd o dan adran 215 neu 216.

(2)Ni chaiff y llys ohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na 14 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn, oni bai ei bod yn ymddangos i’r llys y câi caledi eithriadol ei achosi pe na byddai ildio meddiant yn cael ei ohirio tan ddyddiad diweddarach.

(3)Ni chaniateir gohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na chwe wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn mewn unrhyw achos.

(4)Caniateir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I151A. 219 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I152A. 219 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 13LL+CCEFNU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

220Meddiannu anheddau y cefnwyd arnyntLL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth perthnasol yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, caiff y landlord adennill meddiant o’r annedd yn unol â’r adran hon.

(2)Mae contract meddiannaeth yn berthnasol os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract—

(a)yn datgan bod y landlord yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os nad yw deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, ac

(c)yn hysbysu deiliad y contract o fwriad y landlord i derfynu’r contract os yw’r landlord, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, yn fodlon bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(4)Yn ystod y cyfnod rhybuddio rhaid i’r landlord wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn bodloni ei hun bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(5)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff y landlord, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (4), derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract.

(6)Daw’r contract i ben pan roddir yr hysbysiad o dan is-adran (5) i ddeiliad y contract.

(7)Os terfynir contract meddiannaeth o dan yr adran hon caiff y landlord adennill meddiant o’r annedd heb achos llys.

(8)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i ddeiliad y contract.

(9)Rhaid i’r landlord roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3) a chopi o hysbysiad o dan is-adran (5) i unrhyw letywr neu isddeiliad i ddeiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I153A. 220 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I154A. 220 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

221Gwaredu eiddoLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn cysylltiad â diogelu eiddo (ac eithrio eiddo’r landlord) sydd yn yr annedd pan ddaw contract i ben o dan adran 220, a’i draddodi i’w berchennog.

(2)Caiff y rheoliadau, ymysg pethau eraill—

(a)darparu bod traddodi eiddo yn amodol ar dalu treuliau yr aed iddynt gan y landlord;

(b)awdurdodi gwaredu eiddo ar ôl cyfnod rhagnodedig;

(c)caniatáu i’r landlord gymhwyso unrhyw enillion o werthi eiddo tuag at dalu’r treuliau yr aed iddynt gan y landlord a’r symiau sy’n ddyledus gan ddeiliad y contract o dan y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I155A. 221 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I156A. 221 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I157A. 221 mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

222Rhwymedïau deiliad y contractLL+C

(1)Caiff deiliad contract, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 220(5), wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (2) am ddatganiad neu orchymyn o dan is-adran (3).

(2)Y seiliau yw—

(a)bod y landlord wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 220(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 220(4);

(b)nad oedd deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 220(3);

(c)nad oedd gan y landlord, pan roddodd yr hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 220(5), seiliau rhesymol dros fod yn fodlon bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(3)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi, caiff—

(a)gwneud datganiad nad oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o dan adran 220(5) a bod y contract meddiannaeth yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r annedd,

(b)gorchymyn i’r landlord ddarparu llety arall addas i ddeiliad y contract, neu

(c)gwneud unrhyw orchymyn arall sy’n briodol yn ei farn.

(4)Os yw’r llys yn gwneud y naill neu’r llall o’r pethau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) o is-adran (3), caiff wneud unrhyw orchymyn arall y mae’n ei ystyried yn briodol.

(5)Mae addasrwydd llety arall i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 11.

Gwybodaeth Cychwyn

I158A. 222 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I159A. 222 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

223Pŵer i amrywio cyfnodau yn ymwneud â chefnuLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio adran 220(8) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(b)diwygio adran 222(1) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I160A. 223 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I161A. 223 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

224Hawliau mynediadLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth perthnasol yn credu’n rhesymol bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.

(2)Caiff y landlord fynd i’r annedd unrhyw bryd er mwyn ei gwneud yn ddiogel neu i ddiogelu ei chynnwys ac unrhyw osodion neu ffitiadau, a chaiff ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny.

(3)Mae contract meddiannaeth yn berthnasol os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I162A. 224 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I163A. 224 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 14LL+CCYD-DDEILIAID CONTRACT: GWAHARDD A THERFYNU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

Gwahardd cyd-ddeiliaid contractLL+C

225Anfeddiannaeth: gwahardd gan y landlordLL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn credu nad yw cyd-ddeiliad contract y mae’n ofynnol iddo feddiannu’r annedd (“C”)—

(a)yn meddiannu’r annedd, na

(b)yn bwriadu ei meddiannu,

caiff y landlord derfynu hawliau a rhwymedigaethau C yn unol â’r adran hon.

(2)Mae’n ofynnol i gyd-ddeiliad contract feddiannu’r annedd os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid iddo feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i C—

(a)yn datgan bod y landlord yn credu nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i C hysbysu’r landlord mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd, ac

(c)yn hysbysu C o fwriad y landlord i derfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract os yw’r landlord, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, yn fodlon nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu.

(4)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i C.

(5)Yn ystod y cyfnod rhybuddio rhaid i’r landlord wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn bodloni ei hun nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff y landlord, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (5), derfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract drwy roi hysbysiad iddo.

(7)Mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar ddiwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan is-adran (6).

(8)Rhaid i’r landlord roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3) a chopi (os rhoddwyd un i C) o hysbysiad o dan is-adran (6) i bob un o’r cyd-ddeiliaid contract eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I164A. 225 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I165A. 225 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

226Rhwymedïau am wahardd o dan adran 225LL+C

(1)Caiff C, cyn diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 225(6), wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (2) am ddatganiad o dan is-adran (3).

(2)Y seiliau yw—

(a)bod y landlord wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 225(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 225(5);

(b)bod C yn meddiannu’r annedd, neu’n bwriadu ei meddiannu, a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 225(3);

(c)nad oedd gan y landlord, pan roddodd yr hysbysiad i C o dan adran 225(6), seiliau rhesymol dros fod yn fodlon nad oedd C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu.

(3)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi, caiff—

(a)gwneud datganiad nad oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o dan adran 225(6) a bod C yn parhau i fod yn barti i’r contract, a

(b)gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I166A. 226 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I167A. 226 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

227Anfeddiannaeth: gwahardd gan gyd-ddeiliad contractLL+C

(1)Os yw cyd-ddeiliad contract (“A”) yn credu nad yw cyd-ddeiliad contract arall (“C”) y mae’n ofynnol iddo feddiannu’r annedd o dan gontract meddiannaeth—

(a)yn meddiannu’r annedd, na

(b)yn bwriadu ei meddiannu,

caniateir terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract yn unol â’r adran hon.

(2)Mae’n ofynnol i gyd-ddeiliad contract feddiannu’r annedd os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid iddo feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)Rhaid i A roi hysbysiad i C—

(a)yn datgan bod A yn credu nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i C hysbysu A mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd, ac

(c)yn hysbysu C y gall hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract gael eu terfynu os yw A yn fodlon, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.

(4)Rhaid i A roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3)—

(a)i’r landlord, a

(b)os oes cyd-ddeiliaid contract heblaw A ac C, i bob un o’r cyd-ddeiliaid contract eraill hynny.

(5)Yn ystod y cyfnod rhybuddio, rhaid i A wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn ei fodloni ei hun nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.

(6)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff A, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (5), wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract meddiannaeth.

(7)Os yw’r llys yn fodlon nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu, caiff wneud y gorchymyn y gwneir cais amdano o dan is-adran (6).

(8)Ond ni chaiff wneud y gorchymyn os gellir priodoli’r ffaith nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu, i’r ffaith bod A neu gyd-ddeiliad contract arall wedi methu â chydymffurfio ag adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).

(9)Os yw’r llys yn gwneud y gorchymyn, mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.

(10)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i C.

Gwybodaeth Cychwyn

I168A. 227 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I169A. 227 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

228Rhwymedïau am wahardd o dan adran 227LL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn o dan adran 227(7) sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract meddiannaeth.

(2)Cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gorchymyn, caiff C wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (3) am orchymyn a datganiad o dan is-adran (4)(a).

(3)Y seiliau yw—

(a)bod A wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 227(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 227(5);

(b)bod C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 227(3);

(c)nad oedd gan A, pan wnaeth gais i’r llys, seiliau rhesymol dros fod yn fodlon nad oedd C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu.

(4)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi caiff—

(a)dadwneud ei orchymyn drwy orchymyn o dan adran 227, a gwneud datganiad bod C yn parhau i fod yn barti i’r contract meddiannaeth, a

(b)gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I170A. 228 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I171A. 228 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

229Pŵer i amrywio cyfnodau sy’n ymwneud â gwahardd cyd-ddeiliad contractLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio adran 225(4) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(b)diwygio adran 226(1) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(c)diwygio adran 227(10) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;

(d)diwygio adran 228(2) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I172A. 229 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I173A. 229 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

230Ymddygiad gwaharddedig: gwahardd gan y landlordLL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn credu bod cyd-ddeiliad contract (“C”) wedi torri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall), caniateir terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract yn unol â’r adran hon.

(2)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i C—

(a)yn datgan bod y landlord yn credu bod C wedi torri adran 55,

(b)yn rhoi manylion y toriad, ac

(c)yn datgan y bydd y landlord yn gwneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract.

(3)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill—

(a)yn datgan bod y landlord yn credu bod C wedi torri adran 55, a

(b)yn datgan y bydd y landlord yn gwneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract.

(4)Caiff y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i C o dan is-adran (2).

(5)Caiff y llys wneud gorchymyn o’r fath pe byddai wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn C pe byddai’r amgylchiadau wedi bod y rheini a grybwyllir yn is-adran (6).

(6)Yr amgylchiadau yw—

(a)mai C oedd yr unig ddeiliad contract o dan y contract, a

(b)bod y landlord wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn C ar y sail bod C wedi torri adran 55.

(7)Os yw’r llys yn gwneud y gorchymyn, mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I174A. 230 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I175A. 230 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

TerfynuLL+C

231Terfynu contract meddiannaeth sydd â chyd-ddeiliaid contractLL+C

(1)Os oes cyd-ddeiliaid contract o dan gontract meddiannaeth, ni ellir dod â’r contract i ben drwy weithred gan un neu ragor o gyd-ddeiliaid y contract yn gweithredu heb y cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I176A. 231 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I177A. 231 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 15LL+CFFORFFEDIAD A RHYBUDD I YMADAEL HEB FOD AR GAEL

232Fforffediad a rhybuddion i ymadaelLL+C

(1)Ni chaiff landlord o dan gontract meddiannaeth ddibynnu ar—

(a)unrhyw ddarpariaeth yn y contract ar gyfer ailfynediad neu fforffediad, na

(b)unrhyw ddeddfiad (oni bai am y Ddeddf hon neu ddeddfiad a wneir oddi tani) neu reol gyfreithiol yn ymwneud ag ailfynediad neu fforffediad.

(2)Ni chaiff landlord o dan gontract meddiannaeth gyflwyno rhybudd i ymadael.

(3)Yn unol â hynny nid oes unrhyw effaith i unrhyw ddarpariaeth mewn contract meddiannaeth ar gyfer ailfynediad neu fforffediad, neu’n ymwneud â rhybudd i ymadael gan y landlord neu’r amgylchiadau y caniateir cyflwyno rhybudd o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I178A. 232 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I179A. 232 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources