Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Pennod 10 - Hawliadau Meddiant: Pwerau’R Llys Mewn Perthynas  Seiliau Yn Ôl Disgresiwn.(Mae’R Bennod Hon Yn Gymwys I Bob Contract Meddiannaeth)
Adran 209 – Hawliad ar sail tor contract

449.Pan fo landlord yn gwneud hawliad meddiant ar sail tor contract ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant os na ddarbwyllir y llys fod gwneud hynny yn rhesymol. Caiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant hyd yn oed os nad oedd deiliad y contract mwyach yn torri’r contract cyn i’r landlord wneud yr hawliad meddiant.

450.Mae’r adran hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 10.

Atodlen 10 – Gorchmynion adennill meddiant ar seiliau disgresiwn etc.: rhesymoldeb

451.Mae Atodlen 10 yn pennu’r amgylchiadau y mae’n rhaid i’r llys eu hystyried (i’r graddau y mae’r llys yn ystyried eu bod yn berthnasol) mewn perthynas â gwneud gorchymyn adennill meddiant ar sail tor contract. Mae disgresiwn gan y llys o ran gwneud y gorchymyn ai peidio (yn wahanol i ‘seiliau absoliwt’, pan fo’n rhaid i’r llys wneud y gorchymyn a geisir os yw’r sail wedi ei phrofi, a siarad yn gyffredinol). Mae’r Atodlen hon hefyd yn gymwys pan fo’r llys yn ystyried a ddylai wneud gorchymyn ar sail rheoli ystad (gweler adran 210), a phan fo’r llys yn ystyried a ddylai ohirio achos neu ohirio ildio meddiant o dan orchymyn adennill meddiant (gweler adran 211).

452.Mae paragraffau 4 i 13 yn pennu’r amgylchiadau amrywiol. Yn gryno, y rhain yw:

  • Amgylchiadau o ran deiliad y contract;

  • Amgylchiadau o ran y landlord;

  • Amgylchiadau o ran personau eraill;

  • Pa un a yw’r landlord wedi cynnig, neu’n ymrwymo i gynnig, contract meddiannaeth newydd;

  • Amgylchiadau sy’n berthnasol i hawliad meddiant ar sail tor contract;

  • Amgylchiadau sy’n berthnasol i hawliad meddiant sy’n ymwneud ag adran 55 (ymddygiad gwaharddedig);

  • Amgylchiadau sy’n berthnasol i hawliad meddiant yn ymwneud â Sail G o’r seiliau rheoli ystad (dim angen y llety ar yr olynydd wrth gefn); ac

  • Amgylchiadau sy’n berthnasol i hawliad meddiant ar Sail H o’r seiliau rheoli ystad (cyd-ddeiliad contract yn ymadael).

453.Mae paragraff 14 yn amlinellu amgylchiad na ddylai llys roi sylw iddo (yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd arall i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw); hynny yw, y tebygolrwydd y darperir cymorth i ddeiliad y contract os aiff yn ddigartref.

Adran 210 – Seiliau rheoli ystad

454.Pan fo landlord yn gwneud hawliad meddiant o dan sail rheoli ystad (gweler adran 160), ni chaiff y llys wneud gorchymyn oni bai ei fod o’r farn y byddai’n rhesymol gwneud hynny (gweler Atodlen 10, y cyfeirir ati uchod) ac wedi ei fodloni y bydd y landlord yn sicrhau bod llety addas arall ar gael i ddeiliad y contract (gweler Atodlen 11).

455.Pan fo landlord yn gwneud hawliad meddiant ar y Sail B (ailddatblygu), a’r cynllun ailddatblygu yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r llys fod wedi ei fodloni bod yr amodau naill ai wedi eu bodloni neu y byddant yn cael eu bodloni cyn y gall wneud y gorchymyn. Dylai’r landlord a deiliad y contract gytuno rhyngddynt ar unrhyw gostau a ddyfernir i ddeiliad y contract ar gyfer ei dreuliau rhesymol o dan adran 160(4), ond gall y llys eu pennu a’u hadennill oddi ar y landlord fel dyled sifil. Dyled y gall y llys ei gorfodi yw dyled sifil.

456.Mae’r adran hon (ynghyd ag adran 222) hefyd yn cyflwyno Atodlen 11, sy’n pennu’r materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu a yw llety arall yn addas ai peidio.

Atodlen 11 – Llety arall addas

457.Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â gorchmynion adennill meddiant o dan sail rheoli ystad. Mae hefyd yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn a wneir o dan adran 222 (apêl yn dilyn meddiant oherwydd cefnu), sy’n rhoi pŵer i’r llys orchymyn i landlord ddarparu llety arall addas.

458.Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch pennu a fydd llety addas o’r fath yn cael ei ddarparu mewn unrhyw achos penodol. Mae paragraff 4, yn benodol, yn nodi nifer o faterion y mae’n rhaid i’r llys eu hystyried.

Adran 211 – Pwerau i ohirio achosion ac i ohirio ildio meddiant

459.Caiff y llys ohirio achosion meddiant a wneir ar y sail yn adran 157 (tor contract) neu ar sail rheoli ystad (gweler adran 160) am ba bynnag gyfnod neu gyfnodau a ystyrir yn rhesymol gan y llys. Pan fo’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 (tor contract) neu adran 210 (seiliau rheoli ystad), caiff ohirio ildio meddiant am ba bynnag gyfnod neu gyfnodau yr ystyria’n briodol.

460.Pan fo’r llys, o dan yr adran hon, wedi gohirio achos neu wedi gohirio ildio meddiant, rhaid iddo osod amodau ar ddeiliad y contract mewn perthynas ag unrhyw ôl-ddyledion rhent a pharhau i dalu unrhyw rent hyd nes bo’r achos wedi ei gwblhau, oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud hynny yn achosi caledi eithriadol i ddeiliad y contract neu’n afresymol mewn unrhyw ffordd arall.

461.Caiff y llys osod unrhyw amodau eraill a ystyria’n briodol, a chaiff ryddhau’r gorchymyn adennill meddiant yn erbyn deiliad y contract os yw o’r farn bod yr amodau angenrheidiol wedi eu bodloni. Rhaid i’r llys ystyried yr amgylchiadau a bennir yn Atodlen 10 (y cyfeirir ati uchod), i’r graddau y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol, wrth wneud penderfyniad o ran pa un a ddylai atal achos neu ohirio ildio meddiant.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources