Adran 29(1) – Cyfarwyddydau mewn perthynas â gweithgareddau cyfyngedig
64.O dan adran 29(1) caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod sy’n uno i beidio â chynnal “gweithgaredd cyfyngedig” heb naill ai ystyried barn, neu gael cydsyniad ysgrifenedig, person a bennir yn y cyfarwyddyd. Y personau y caniateir eu pennu yw unrhyw awdurdodau neu bersonau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol. Gall hyn gynnwys Gweinidogion Cymru eu hunain, pwyllgorau pontio ac awdurdodau cysgodol (adran 30(3)).
65.Mae adran 29(2) yn disgrifio’r gweithgareddau cyfyngedig y gellir dyroddi cyfarwyddyd barn/cydsynio yn eu cylch:
gwerthu neu brynu tir, buddiannau mewn tir, neu ganiatáu opsiwn i brynu tir neu fuddiannau mewn tir (trothwy – dros £150,000);
ymrwymo i gontractau neu gytundebau sy’n ymestyn am gyfnod y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu y gellid eu hymestyn felly (trothwy – dros £500,000 os yw’n gontract cyfalaf; £150,000 ar gyfer pob contract arall);
gwneud caffaeliadau penodol o gyfalaf cyfrannau neu fenthyciad (trothwy – dros £500,000);
rhoi grant neu gymorth ariannol arall (trothwy – dros £150,000);
gwneud benthyciad sy’n ymestyn am gyfnod y tu hwnt i’r dyddiad trosglwyddo, neu y gellid ei ymestyn felly (trothwy – dros £150,000);
cynnwys swm o gronfeydd ariannol wrth gefn wrth gyfrifo ei gyllideb;
dechrau’r broses o recriwtio prif swyddog neu ddirprwy brif swyddog anstatudol.
66.Diffinnir “contract neu gytundeb perthnasol” fel un sy’n cynnwys cytundeb fframwaith o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2006 (O.S. 2006/5); ac mae contract cyfalaf yn un y mae’r gydnabyddiaeth sy’n daladwy gan yr awdurdod mewn perthynas â’r contract yn wariant cyfalaf at ddibenion Deddf Llywodraeth Leol 2003 (adran 34(3) a (4)).
67.Er bod adran 34 yn nodi’r trothwyon isaf y caiff Gweinidogion Cymru dyroddi cyfarwyddydau mewn perthynas â gweithgareddau cyfyngedig ar ôl eu croesi, bydd unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn pennu’r trothwy gwirioneddol; gallai hwn fod yn wahanol i’r trothwy isaf. Mae adran 35 yn nodi sut i benderfynu a yw’r trothwyon ariannol wedi eu croesi. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio’r trothwyon presennol.
68.Mae adran 29(5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod sy’n uno ddarparu manylion gweithgaredd cyfyngedig i’r person a bennir mewn cyfarwyddyd, ac mae adran 29(6) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod sy’n uno gyhoeddi ei resymau dros benderfynu bwrw ymlaen â gweithgaredd cyfyngedig pan fo’r person a bennir mewn cyfarwyddyd wedi mynegi’r farn na fyddai’n briodol i’r awdurdod sy’n uno wneud hynny.
69.Mae adran 30(2) yn galluogi cyfarwyddydau o dan adran 29(1) i gael eu dyroddi mewn perthynas ag un awdurdod sy’n uno, dau neu ragor o awdurdodau penodedig, neu awdurdodau o ddisgrifiad penodedig. Yn yr un modd, mae adran 30(4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu bod gwahanol bersonau i fynegi barn/cydsynio mewn perthynas â materion gwahanol neu mewn perthynas â gwahanol awdurdodau sy’n uno neu wahanol ddisgrifiadau o awdurdodau. Gall cyfarwyddydau hefyd ddarparu gwahanol ofynion mewn perthynas â’r un gweithgareddau cyfyngedig o werthoedd gwahanol; er enghraifft, efallai y bydd angen cydsyniad awdurdod cysgodol i brynu tir sy’n is ei werth, ond mae’n bosibl y bydd angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ar gyfer pryniannau gwerth uwch.
70.O ran cronfeydd ariannol wrth gefn, mae adran 31 yn caniatáu i gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 29(1) gynnwys cronfeydd ariannol wrth gefn o ddisgrifiadau penodol, neu gronfeydd ariannol wrth gefn hyd at drothwy penodedig, wrth gyfrifo’r swm gofynnol yn y gyllideb heb fod angen barn/cydsyniad person penodedig. Bwriad hyn yw galluogi Gweinidogion Cymru i reoli’r defnydd priodol o gronfeydd ariannol wrth gefn, ond heb fynd mor bell â rhwystro awdurdodau sy’n uno rhag defnyddio eu harian.
71.Nodir canlyniadau methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddwyd mewn perthynas â gweithgaredd cyfyngedig yn adran 33. Bernir na fydd modd gorfodi contract neu gytundeb yr aed iddo; bydd trafodiad tir neu gaffaeliad cyfalaf yn ddi-rym; bydd rhaid ad-dalu unrhyw grant neu gymorth ariannol arall, neu fenthyciad perthnasol; a chaiff y defnydd o gronfeydd ariannol wrth gefn heb ei awdurdodi wrth bennu gofyniad yn y gyllideb ei drin fel pe na bai’r cyfrifiad wedi ei wneud, gan rwystro’r awdurdod sy’n uno rhag pennu a chasglu ei dreth gyngor.