Adran 28 – Datganiadau polisi tâl
60.Mae adran 28 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cysgodol lunio a chymeradwyo datganiad polisi tâl (fel y darperir yn adrannau 38 a 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011) ar gyfer y cyfnod a nodir yn is-adran (3). Y diben yw sicrhau bod gan yr awdurdod cysgodol ddatganiad cyhoeddus sy’n cyfleu polisïau’r awdurdod ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â thâl ei weithlu yn y dyfodol, yn enwedig ei brif swyddogion (a drafodir isod) a’i gyflogeion sydd ar y cyflogau isaf. Er mwyn cynorthwyo’r awdurdod cysgodol, mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor pontio gyhoeddi argymhellion ar gyfer yr awdurdod cysgodol ar y datganiad polisi tâl sydd i’w baratoi gan yr awdurdod cysgodol yn ddim hwyrach na 42 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y sefydlir neu yr etholir yr awdurdod cysgodol. Gwaherddir awdurdodau cysgodol rhag penodi prif swyddog hyd nes y bydd y datganiad polisi tâl ar gyfer y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3)(a) wedi ei lunio a’i gymeradwyo.
61.Mae i’r term “prif swyddog” (“chief officer”) yr un ystyr ag yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac mae’n cynnwys y swyddogion a ganlyn o brif awdurdod lleol:
y pennaeth gwasanaeth cyflogedig (a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”))
swyddog monitro (a ddynodir o dan adran 5(1) o Ddeddf 1989)
prif swyddog statudol a grybwyllir yn adran 2(6) o Ddeddf 1989, hy:
cyfarwyddwr gwasanaethau plant
cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd
prif swyddog addysg
cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol
swyddog sy’n gyfrifol am weinyddu materion ariannol yr awdurdod
prif swyddog anstatudol a grybwyllir yn adran 2(7) o Ddeddf 1989, hy:
person y mae’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig yn uniongyrchol gyfrifol amdano
person y mae’n ofynnol iddo, o ran ei holl ddyletswyddau neu’r rhan fwyaf ohonynt, adrodd yn uniongyrchol i’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig, neu sy’n atebol yn uniongyrchol iddo
unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo, o ran ei holl ddyletswyddau neu’r rhan fwyaf ohonynt, adrodd yn uniongyrchol i’r awdurdod lleol ei hun neu i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o’r awdurdod, neu sy’n atebol yn uniongyrchol iddynt
dirprwy brif swyddog a grybwyllir yn adran 2(8) o Ddeddf 1989, hy, person y mae’n ofynnol iddo, o ran ei holl ddyletswyddau neu’r rhan fwyaf ohonynt, adrodd yn uniongyrchol i un neu ragor o’r prif swyddogion statudol neu anstatudol, neu sy’n atebol yn uniongyrchol iddynt. Nid yw hyn yn cynnwys person y mae ei ddyletswyddau yn rhai ysgrifenyddol neu glerigol yn unig, neu sydd fel arall o natur gwasanaethau cymorth.
62.Mae is-adran (6) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i bwyllgorau pontio ac awdurdodau cysgodol ynghylch cyflawni eu dyletswyddau o dan yr adran hon. Rhaid i’r awdurdodau cysgodol a’r pwyllgorau pontio roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath wrth gyflawni’r dyletswyddau hynny.