Adran 23 – Rheoliadau etholiadol os na wneir unrhyw argymhellion
48.Pe byddai’r Comisiwn yn methu â darparu adroddiad pellach sy’n cynnwys argymhellion o fewn y terfynau amser a bennir gan Weinidogion Cymru yn eu cyfarwyddyd cychwynnol, mae adran 23 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal arfaethedig, ynghyd ag unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, yn niffyg argymhellion gan y Comisiwn. Pan fo amgylchiadau o’r fath yn codi, rhaid i’r Comisiwn ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a gasglwyd hyd yr adeg honno mewn cysylltiad â’r adolygiad cychwynnol. Byddai hefyd yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal ei adolygiad cyntaf o’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig, fel sy’n ofynnol gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, cyn gynted â phosibl ar ôl etholiad cyffredin cyntaf y cyngor ar gyfer yr ardal honno, a chyn etholiadau nesaf y cyngor ar gyfer yr ardal honno beth bynnag.
49.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau dilynol, amrywio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan yr adran hon.