Adran 21 – Adrodd ar adolygiad cychwynnol
44.Yn dilyn y cyfnod ar gyfer sylwadau mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried ei gynigion yng ngoleuni unrhyw sylwadau a gafodd. Yna, rhaid iddo lunio adroddiad pellach sy’n cynnwys yr argymhellion ar gyfer trefniadau etholiadol y brif ardal arfaethedig, unrhyw argymhellion canlyniadol ar gyfer ffiniau a wardiau cymuned, manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad dilynol, a manylion unrhyw newidiadau a wnaed i’r adroddiad cychwynnol yng ngoleuni unrhyw sylwadau a ddaeth i law.
45.Rhaid i’r Comisiwn gyflwyno’r adroddiad a’i argymhellion i Weinidogion Cymru, cyhoeddi’r adroddiad ar-lein, sicrhau ei fod ar gael mewn mannau penodedig i edrych arno am 6 wythnos o leiaf, a hynny’n ddi-dâl, anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion mandadol a’r Arolwg Ordnans, a hysbysu’r personau hynny a gyflwynodd dystiolaeth neu a roddodd sylwadau mewn cysylltiad â’r adroddiad cychwynnol sut i gael copi o’r adroddiad.
46.Fel arfer, ni chaniateir i unrhyw argymhellion gael eu gwneud na’u cyhoeddi mewn cysylltiad ag adolygiadau ar gyfer trefniadau etholiadol yn ystod y 9 mis cyn etholiad cyffredin. Fodd bynnag, gan ei bod yn debygol y bydd y cyfnod y bydd y Comisiwn yn cynnal adolygiadau o brif ardaloedd arfaethedig yn cynnwys y cyfnod sy’n arwain at etholiadau cyffredin 2017, mae adran 21(5) yn atal y ddarpariaeth berthnasol yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 o ran argymhellion gan y Comisiwn o dan adran 21 mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig. Heb yr ataliad hwn, byddai’n anodd dros ben i’r Comisiwn gynnal ei raglen adolygu mewn da bryd cyn etholiadau cyntaf yr awdurdodau cysgodol.