Adran 17 – Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Comisiwn
35.Mae adran 17 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion y mae’n rhaid i gyfarwyddyd a wneir o dan adran 16 ymdrin â hwy, neu y gall ymdrin â hwy. O fewn unrhyw gyfarwyddyd o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru bennu erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i’r Comisiwn ddarparu ei adroddiad ar ei adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig. Caiff cyfarwyddyd bennu materion y mae’n rhaid i’r Comisiwn roi sylw iddynt wrth gynnal adolygiad cychwynnol. Caniateir i Weinidogion Cymru hefyd ddyroddi cyfarwyddydau cyffredinol i’r Comisiwn ynghylch cynnal adolygiadau cychwynnol, gan gynnwys ym mha drefn y mae’n rhaid i’r Comisiwn gynnal yr adolygiadau unigol; fodd bynnag, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn cynrychioli awdurdodau lleol, cyn dyroddi cyfarwyddyd cyffredinol.
36.Mae adran 17 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir i’r Comisiwn drwy gyfarwyddyd dilynol. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd pellach o dan adran 16 i’r Comisiwn, mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig, wedi i’r Comisiwn gynnal adolygiad cychwynnol o’r brif ardal arfaethedig honno, ac adrodd arno.
37.Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan adran 16 neu 17 a rhaid iddo hefyd roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch adolygiadau cychwynnol o brif ardaloedd arfaethedig.