Adran 13 – Swyddogaethau pwyllgorau pontio
26.Mae adran 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddogaethau pwyllgor pontio. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor pontio gynghori’r awdurdodau sy’n uno a’r awdurdod cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, a rhoi argymhellion iddynt:
ynghylch trosglwyddo swyddogaethau, staff a hawliau a rhwymedigaethau eiddo mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon o’r awdurdodau sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd,
ynghylch sicrhau bod y prif awdurdod lleol newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni ei swyddogaethau’n effeithiol o’r adeg y mae’n eu hysgwyddo; a
at unrhyw ddiben arall y mae Gweinidogion Cymru yn ei bennu mewn cyfarwyddydau.
27.Mae adran 13(2) i (4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd i un neu ragor o bwyllgorau pontio, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt arfer eu swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd. Rhaid i bwyllgor pontio gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir a gall Gweinidogion ddirymu neu amrywio cyfarwyddyd ar unrhyw adeg, drwy roi cyfarwyddyd arall.
28.Mae adran 13(5) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i bwyllgorau pontio ynghylch arfer eu swyddogaethau; a rhaid i bwyllgor pontio roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath.
29.Mae adran 13(6) yn atal pwyllgor archwilio neu bwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod sy’n uno rhag cyflawni ei swyddogaethau mewn cysylltiad ag unrhyw beth y mae’r pwyllgor pontio yn ei wneud. Ni fydd gan bwyllgorau pontio bŵer i wneud penderfyniadau ar faterion polisi, materion strategol na materion gweithredol mewn perthynas â’r awdurdod newydd na’r awdurdod presennol; cynghori a gwneud argymhellion fydd eu swyddogaethau. Gallai’r pwyllgorau archwilio a chraffu perthnasol ystyried unrhyw benderfyniadau gan awdurdodau newydd neu awdurdodau presennol yng ngoleuni cyngor neu argymhellion y pwyllgorau pontio.