Adran 10 – Darpariaethau canlyniadol etc. eraill
19.Mae adran 10 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gynnwys y ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol a throsiannol a’r ddarpariaeth arbed honno sy’n briodol yn eu barn hwy yn y rheoliadau uno, ac i wneud rheoliadau eraill sy’n gymwys yn gyffredinol (sy’n gymwys y tu hwnt i awdurdodau sy’n uno y mae rheoliadau uno penodol yn gymwys iddynt) sy’n cynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol a throsiannol a darpariaeth arbed at ddibenion rheoliadau uno neu i roi effaith lawn i reoliadau uno. Mae’r adran yn nodi amryw o ddefnyddiau penodol y pwerau hyn, ac yn darparu bod yr hawliau a’r rhwymedigaethau y caniateir eu trosglwyddo yn unol â’r rheoliadau hyn yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogi a bod Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246) (TUPE) yn gymwys i drosglwyddiad staff o dan y rheoliadau hyn, ar wahân i reoliadau 4(6) a 10.
20.Mae eithrio rheoliad 4(6) TUPE yn golygu y caiff y rhwymedigaeth ar gyngor a ddiddymir i gael ei erlyn, ei euogfarnu a’i ddedfrydu am unrhyw drosedd ei throsglwyddo i’r cyngor newydd. Heb y ddarpariaeth hon byddai unrhyw rwymedigaeth droseddol sydd ar gyngor a ddiddymir o dan neu mewn cysylltiad â chontractau cyflogaeth a drosglwyddir i’r cyngor newydd, yn diflannu ar 1 Ebrill 2020, pan ddiddymir y cynghorau. Drwy eithrio rheoliad 10 TUPE cedwir hawliau pensiwn galwedigaethol staff sy’n cael eu trosglwyddo o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf. Heb y ddarpariaeth hon, ni fyddai rhwymedigaeth gyfreithiol ar y siroedd newydd i anrhydeddu hawliau, dyletswyddau na rhwymedigaethau pensiwn o dan gontractau cyflogaeth presennol.
21.Ceir tri awdurdod tân ac achub (ATA) cyfunol yng Nghymru ar gyfer ardaloedd y 22 prif awdurdod lleol, a chrëwyd y rhain gan orchmynion cyfuno a wnaed o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947. O dan adran 4 o Ddeddf Tân ac Achub 2004 caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio neu ddiddymu cynlluniau i gyfuno awdurdodau tân ac achub. Ond cyn gwneud hynny, mae adran 4(6) o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru beri i ymchwiliad gael ei gynnal i’r amrywiad sy’n cael ei gynnig. Mae adran 10(10) yn atal hynny pan fo’r newidiadau arfaethedig i’r cynllun yn deillio o uno gwirfoddol. Gwneir hynny er mwyn osgoi unrhyw oedi i’r rhaglen uno.
22.Mae adran 10(11) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i amrywio rheoliadau uno (neu reoliadau a wnaed o dan adran 10(11)(a) sy’n amrywio rheoliadau uno) ac i amrywio neu ddirymu rheoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol a wnaed o dan adran 10(2).