Darpariaethau eraill sy’n ymwneud â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth AriannolLL+C
39Ymestyn dros dro swyddogaethau Panel sy’n ymwneud â phenaethiaid gwasanaethau cyflogedig i brif swyddogionLL+C
(1)Mae adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (swyddogaethau’r Panel mewn perthynas â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig) yn cael effaith mewn perthynas â chyflog ar gyfer gwasanaeth neu wasanaethau yn ystod y cyfnod perthnasol a delir i brif swyddog prif awdurdod lleol nad yw’n bennaeth gwasanaeth cyflogedig fel ag y mae mewn perthynas â chyflog a delir i’r pennaeth gwasanaeth cyflogedig hwnnw.
(2)Yn is-adran (1)—
ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2020;
mae i ”pennaeth gwasanaeth cyflogedig” (“head of paid service”) a “cyflog” (“salary”) yr ystyron a roddir gan adran 143A(7) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;
mae i “prif swyddog”, mewn perthynas â phrif awdurdod lleol, yr ystyr a roddir i “chief officer” yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch arfer ei swyddogaethau o dan adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn unol ag is-adran (1); ac wrth arfer y swyddogaethau hynny yn unol â’r is-adran honno rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 39 mewn grym ar 25.1.2016, gweler a. 46(1)
40Newidiadau i’r ddyletswydd i roi sylw i argymhellion y Panel ynghylch cyflogauLL+C
(1)Mae adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (swyddogaethau’r Panel mewn perthynas â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)Ond caiff awdurdod perthnasol cymwys sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig mewn cyflog wneud y gostyngiad cyn derbyn argymhelliad gan y Panel os nad yw’r contract y mae’r cyflog yn daladwy oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y cyflog ar ôl derbyn argymhelliad.
(3B)Pan fo awdurdod perthnasol cymwys yn newid cyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig yn unol ag is-adran (3A) ac yn derbyn argymhelliad gan y Panel ynghylch y newid wedi hynny—
(a)rhaid iddo ailystyried y cyflog, a
(b)wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i’r argymhelliad.”
(3)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)Rhaid i’r Panel hysbysu Gweinidogion Cymru am bob argymhelliad y mae’n ei wneud o dan yr adran hon.”
(4)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(5A)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys—
(a)hysbysu’r Panel a Gweinidogion Cymru am ei ymateb i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i gyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn penderfynu ar yr ymateb, a
(b)peidio â newid y cyflog cyn—
(i)diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (a), neu
(ii)os yw Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn hysbysu’r awdurdod na fyddant yn rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod o dan is-adran (5B), y diwrnod y derbynnir yr hysbysiad hwnnw.
(5B)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ymateb awdurdod perthnasol cymwys i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i gyflog yn golygu y bydd yr awdurdod yn talu (neu, o dan is-adran (3A), ei fod yn talu) cyflog sy’n anghyson â’r argymhelliad, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried y cyflog, a
(b)pennu yn y cyfarwyddyd erbyn pryd y mae’n rhaid i’r awdurdod wneud hynny.”
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 40 mewn grym ar 25.1.2016, gweler a. 46(1)
41Aelodaeth y PanelLL+C
(1)Mae paragraff 1 o Atodlen 2 i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (aelodaeth y Panel) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-baragraff (1), yn lle “Pum” rhodder “Dim llai na 3, a dim mwy na 7,”.
(3)Hepgorer is-baragraff (5) (cyflogeion awdurdodau lleol etc. heb eu hanghymhwyso rhag bod yn aelodau).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 41 mewn grym ar 25.1.2016, gweler a. 46(1)