AmrywiolLL+C
42Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyrLL+C
(1)Mae adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (dyletswydd i gynnal arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (2) (awdurdod lleol i gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin), yn lle “ar ôl pob” rhodder “, neu drefnu i gynnal arolwg, mewn perthynas â phob”.
(3)Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)Yn achos etholiad cyffredin caniateir i arolwg gael ei gynnal—
(a)yn llwyr ar ôl yr etholiad cyffredin, neu
(b)drwy ofyn i’r ymgeiswyr i gael eu hethol i swydd cynghorydd ateb y cwestiynau rhagnodedig cyn yr etholiad cyffredin a chrynhoi’r wybodaeth a ddarparwyd wedi hynny.”
(4)Yn is-adran (5) (dim dyletswydd i ddarparu gwybodaeth) yn lle “gynghorydd neu ymgeisydd na lwyddodd i gael ei ethol i swydd cynghorydd” rhodder “unrhyw unigolyn”.
(5)Hepgorer adran (6) (awdurdod lleol i wneud trefniadau i wybodaeth gael ei darparu yn ddienw).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 42 mewn grym ar 25.1.2016, gweler a. 46(1)
43Cynigion a gyflwynwyd cyn i Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 gychwynLL+C
Yn adran 74(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (adolygiadau o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n mynd rhagddynt ar adeg cychwyn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013), mewnosoder ar y diwedd “ac at ddibenion cynigion a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru cyn yr adeg honno.”
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 43 mewn grym ar 25.1.2016, gweler a. 46(1)