Search Legislation

Deddf Cymwysterau Cymru 2015

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cymwysterau Cymru 2015, ATODLEN 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(a gyflwynwyd gan adran 11)

ATODLEN 3LL+CDARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU

This schedule has no associated Explanatory Notes

Cyfnod para cydnabyddiaethLL+C

1(1)Mae’r gydnabyddiaeth o gorff dyfarnu yn cael effaith o ba ddyddiad bynnag a bennir gan Gymwysterau Cymru wrth gydnabod y corff.

(2)Mae’n peidio â chael effaith ar yr achlysur cynharaf o’r canlynol—

(a)pan gaiff ei hildio o dan baragraff 17;

(b)pan gaiff ei thynnu’n ôl o dan baragraff 19;

(c)pan fydd y corff dyfarnu (yn achos corff a gydnabyddir o dan adran 9) yn peidio â chael ei gydnabod o dan adran 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Amodau cydnabod safonolLL+C

2(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio a chyhoeddi amodau (yr ”amodau safonol”) y mae (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4)) pob cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu i fod yn ddarostyngedig iddynt.

(2)Caiff yr amodau safonol, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch cydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir i gorff cydnabyddedig gan Gymwysterau Cymru o dan y paragraff hwn.

(3)Caniateir i amodau safonol gwahanol gael eu gosod at ddibenion gwahanol, gan gynnwys ymhlith pethau eraill drwy gyfeirio at—

(a)disgrifiadau gwahanol o gyrff dyfarnu;

(b)cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster (gan gynnwys drwy gyfeirio at ba un a yw cymhwyster yn gymhwyster a gymeradwywyd neu’n gymhwyster sydd wedi ei ddynodi o dan adran 29 ai peidio);

(c)amgylchiadau gwahanol y dyfernir cymhwyster odanynt;

(d)disgrifiadau gwahanol o berson y dyfernir cymhwyster iddo.

(4)Caiff Cymwysterau Cymru benderfynu, mewn achos penodol, nad yw cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu i fod yn ddarostyngedig i amod safonol a bennir yn y penderfyniad a fyddai fel arall yn gymwys.

(5)Caniateir i benderfyniad o fewn is-baragraff (4) gael ei wneud naill ai ar adeg rhoi’r gydnabyddiaeth o dan sylw, neu wedi hynny, a chaiff Cymwysterau Cymru ei ddirymu.

(6)Ni chaiff yr amodau safonol gynnwys—

(a)amodau capio ffioedd (gweler paragraffau 6 i 11 am y rhain);

(b)amodau trosglwyddo (gweler paragraffau 12 i 16 am y rhain).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I4Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

3(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r amodau safonol; ac os yw’n gwneud hynny, mae pob cydnabyddiaeth (pa un a’i rhoddir cyn neu ar ôl i’r diwygiadau ddod i rym) i fod yn ddarostyngedig i’r amodau fel y’u diwygiwyd.

(2)Mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 2(3) a (4).

(3)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r amodau safonol, rhaid iddo—

(a)cyhoeddi’r amodau fel y’u diwygiwyd,

(b)hysbysu pob corff cydnabyddedig am y diwygiadau, a pha bryd y maent i gael effaith.

(4)Caiff Cymwysterau Cymru ddarparu bod diwygiad i’r amodau i gael effaith ar ddyddiadau gwahanol mewn perthynas â chyrff gwahanol, neu mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o gorff.

(5)Nid yw diwygiad i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith mewn perthynas â chorff cyn i’r corff gael ei hysbysu amdano.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I6Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Amodau arbennig y caniateir i gydnabyddiaeth fod yn ddarostyngedig iddyntLL+C

4(1)Caniateir i’r gydnabyddiaeth o gorff, yn ychwanegol, gael ei gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill (“amodau arbennig”) a bennir gan Gymwysterau Cymru, naill ai ar adeg cydnabod y corff neu wedi hynny.

(2)Caiff yr amodau arbennig gynnwys—

(a)amodau capio ffioedd;

(b)amodau trosglwyddo;

(c)amodau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir o dan y paragraff hwn gan Gymwysterau Cymru.

(3)Caiff amodau arbennig wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, gan gynnwys ymhlith pethau eraill drwy gyfeirio at—

(a)cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster (gan gynnwys drwy gyfeirio at ba un a yw cymhwyster yn gymhwyster a gymeradwywyd neu’n gymhwyster sydd wedi ei ddynodi o dan adran 29 ai peidio);

(b)amgylchiadau gwahanol y dyfernir cymhwyster odanynt;

(c)disgrifiadau gwahanol o berson y dyfernir cymhwyster iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I8Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

5(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio neu ddirymu amod arbennig.

(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio neu’n dirymu amod arbennig, rhaid iddo—

(a)hysbysu’r corff o dan sylw am y diwygiad neu’r dirymiad, a

(b)pennu pa bryd y mae’r diwygiad neu’r dirymiad i ddod i rym.

(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff (2)(b) beidio â rhagflaenu’r dyddiad hysbysu o dan is-baragraff (2)(a).

(4)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 11 (diwygio amod capio ffioedd).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I10Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Amodau capio ffioeddLL+C

6(1)Mae amod capio ffioedd yn amod arbennig sy’n cyfyngu ar y swm a godir gan gorff cydnabyddedig mewn cysylltiad â—

(a)dyfarnu gan y corff i berson gymhwyster a gymeradwywyd,

(b)dyfarnu gan y corff i berson ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dynodi o dan adran 29, neu

(c)darparu gan y corff unrhyw wasanaeth neu gyfleuster arall mewn cysylltiad â dyfarnu gan y corff i berson gymhwyster a gymeradwywyd neu ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei dynodi o dan adran 29, yn ôl y digwydd,

pan fo’r cwrs addysg neu hyfforddiant sy’n arwain at y cymhwyster, ac y mae’r person o dan sylw yn ymgymryd ag ef, yn cael ei gyllido’n gyhoeddus.

(2)Mae cwrs addysg neu hyfforddiant yn cael ei gyllido’n gyhoeddus, at ddibenion y paragraff hwn,—

(a)os y’i cyllidir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol yng Nghymru, neu

(b)os y’i darperir gan neu ar ran ysgol a gynhelir yng Nghymru.

(3)Yn y paragraff hwn, ystyr “ysgol a gynhelir” yw—

(a)ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol;

(b)ysgol arbennig gymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I12Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

7Dim ond os yw Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni ei bod yn briodol gosod amod capio ffioedd er mwyn sicrhau gwerth am arian y caiff wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I14Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Y weithdrefn ar gyfer gosod amodau capio ffioeddLL+C

8(1)Cyn gosod amod capio ffioedd, rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff o dan sylw hysbysiad am ei fwriad i wneud hynny.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi’r amod capio ffioedd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu ei osod;

(b)esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu gosod yr amod;

(c)pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i’w osod.

(3)Wrth benderfynu pa un ai i osod yr amod, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff cydnabyddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I16Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

9(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu gosod yr amod capio ffioedd, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi gwybod i’r corff am ei hawl o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 10 i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad,

(b)datgan y dyddiad olaf y caniateir gwneud unrhyw gais am adolygiad, ac

(c)pennu’r dyddiad y mae’r amod, yn absenoldeb cais am adolygiad, i gymryd effaith.

(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff (2)(c) fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad olaf y caniateir gwneud cais am adolygiad o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I18Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Adolygu amodau capio ffioeddLL+C

10(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau i benderfyniad o dan baragraff 9 i osod amod capio ffioedd fod yn ddarostyngedig i adolygiad ar gais y corff cydnabyddedig o dan sylw.

(2)Rhaid i’r trefniadau—

(a)pennu’r cyfnod y caniateir gwneud cais am adolygiad ynddo,

(b)gwneud darpariaeth i‘r person sy’n cynnal yr adolygiad wneud argymhellion i Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r amod capio ffioedd o dan sylw,

(c)gwneud darpariaeth i Gymwysterau Cymru, ar ôl ystyried yr argymhellion hynny, naill ai cadarnhau neu wrthdroi ei benderfyniad i osod yr amod, neu newid yr amod o dan sylw, a

(d)ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff o dan sylw am ganlyniad yr adolygiad.

(3)Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru gynnal adolygiad.

(4)Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—

(a)yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;

(b)yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.

(5)Os yw Cymwysterau Cymru, yn dilyn adolygiad, yn cadarnhau ei benderfyniad i osod amod, neu’n newid yr amod o dan sylw, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff o dan sylw—

(a)sy’n nodi’r amod, fel y’i cadarnhawyd neu fel y’i newidiwyd,

(b)sy’n rhoi rhesymau dros y cadarnhad neu’r newid, ac

(c)sy’n datgan y dyddiad y bydd yr amod, neu’r amod fel y’i newidiwyd, yn cymryd effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I20Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Diwygio amodau capio ffioeddLL+C

11Mae paragraffau 8 i 10 yn gymwys mewn cysylltiad â diwygio amod capio ffioedd o dan baragraff 5 fel pe bai’r diwygiad yn gyfystyr â gosod amod capio ffioedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I22Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Amodau trosglwyddoLL+C

12(1)Mae amod trosglwyddo yn amod arbennig sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff dyfarnu, yn achos digwyddiad a bennir yn yr amod, ac yn unol â chyfarwyddyd Cymwysterau Cymru, wneud trefniadau a bennir yn y cyfarwyddyd at ddiben sicrhau y caniateir i ffurf ar gymhwyster sy’n cael ei dyfarnu neu sydd wedi ei dyfarnu gan y corff gael ei dyfarnu gan gorff dyfarnu arall—

(a)pan fo’r ffurf ar gymhwyster wedi ei chymeradwyo gan Gymwysterau Cymru, neu

(b)pan fo’r ffurf ar gymhwyster wedi ei dynodi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 29.

(2)Caiff y trefniadau gynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth ar gyfer trosglwyddo eiddo a hawliau ac ar gyfer gwneud taliadau.

(3)Dim ond os yw Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol rhoi cyfarwyddyd i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo er mwyn osgoi effeithiau andwyol sylweddol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar gymhwyster y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi y caiff wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I24Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

13(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn bwriadu rhoi cyfarwyddyd i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo, rhaid iddo roi i’r corff o dan sylw hysbysiad am y cynnig.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi’r cyfarwyddyd arfaethedig;

(b)esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu rhoi’r cyfarwyddyd;

(c)pennu pa bryd y mae’n bwriadu penderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd.

(3)Wrth benderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff dyfarnu.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I26Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

14(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu rhoi’r cyfarwyddyd, rhaid iddo roi i’r corff dyfarnu hysbysiad am y penderfyniad, sy’n nodi’r cyfarwyddyd.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi gwybod i’r corff am ei hawl i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad,

(b)datgan y dyddiad olaf y caniateir gwneud unrhyw gais am adolygiad, ac

(c)pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae’r cyfarwyddyd, yn absenoldeb cais am adolygiad, i gael effaith.

(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff (2)(c) fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad olaf y caniateir gwneud cais am adolygiad o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 16.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I28Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

15Os yw Cymwysterau Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo, caiff, os yw’n ystyried ei bod yn rhesymol ac yn briodol gwneud hynny o dan yr amgylchiadau, dalu digollediad i’r corff mewn cysylltiad â’r golled y mae’r corff wedi ei chael oherwydd cydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I30Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Adolygu penderfyniad i roi cyfarwyddydLL+C

16(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau i’w benderfyniad i roi’r cyfarwyddyd y cyfeirir ato ym mharagraff 14 fod yn ddarostyngedig i adolygiad ar gais y corff dyfarnu o dan sylw.

(2)Rhaid i’r trefniadau—

(a)pennu’r cyfnod y caniateir gwneud cais am adolygiad ynddo,

(b)gwneud darpariaeth i’r person sy’n cynnal yr adolygiad wneud argymhellion i Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r cyfarwyddyd,

(c)gwneud darpariaeth i Gymwysterau Cymru, ar ôl ystyried yr argymhellion hynny, naill ai cadarnhau neu wrthdroi ei benderfyniad i roi’r cyfarwyddyd, neu newid y cyfarwyddyd, a

(d)ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff o dan sylw am ganlyniad yr adolygiad.

(3)Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru gynnal adolygiad.

(4)Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—

(a)yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;

(b)yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.

(5)Os yw Cymwysterau Cymru, yn dilyn adolygiad, yn cadarnhau ei benderfyniad i roi cyfarwyddyd, neu’n newid y cyfarwyddyd o dan sylw, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff o dan sylw—

(a)sy’n nodi’r cyfarwyddyd, fel y’i cadarnhawyd neu fel y’i newidiwyd,

(b)sy’n rhoi rhesymau dros y cadarnhad neu’r newid, ac

(c)sy’n datgan y dyddiad y bydd y cyfarwyddyd, neu’r cyfarwyddyd fel y’i newidiwyd, yn cymryd effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I32Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Ildio cydnabyddiaethLL+C

17(1)Caiff corff cydnabyddedig roi hysbysiad (“hysbysiad idlio”) i Gymwysterau Cymru ei fod yn dymuno peidio â chael ei gydnabod mewn cysylltiad—

(a)â dyfarnu cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu

(b)â phob cymhwyster y’i cydnabyddir mewn cysylltiad ag ef.

(2)Rhaid i hysbysiad ildio bennu’r dyddiad y mae’r corff yn dymuno peidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt o dan sylw pan ddaw i ben.

(3)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad ildio ddod i law, rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig (“cydnabyddiaeth o ildio”) sy’n darparu bod y corff i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt hwnnw pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben neu, os yw Cymwysterau Cymru o’r farn ei bod yn briodol, pan ddaw dyddiad gwahanol i ben.

(4)Os yw’r gydnabyddiaeth o ildio yn pennu bod y corff i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt hwnnw pan ddaw dyddiad gwahanol i’r un a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, rhaid i’r gydnabyddiaeth o ildio roi rhesymau dros hyn.

(5)Mae cydnabyddiaeth yn y cyswllt o dan sylw yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio i ben.

(6)Wrth benderfynu a yw cydnabyddiaeth corff i beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben, neu pan ddaw dyddiad gwahanol i ben, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r canlynol—

(a)yr angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y cymhwyster, neu gymhwyster o’r disgrifiad, a bennir yn yr hysbysiad ildio, a

(b)dymuniad y corff y dylai’r gydnabyddiaeth beidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ildio i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 3 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I34Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad ag ildioLL+C

18(1)Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael y cymhwyster o dan sylw, neu gymhwyster o’r disgrifiad o dan sylw, wneud darpariaeth mewn cydnabyddiaeth o ildio o dan baragraff 17(3) sydd o fewn is-baragraff (2).

(2)Mae darpariaeth o fewn yr is-baragraff hwn yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y corff, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei drin at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(3)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn y gydnabyddiaeth o ildio, a

(b)mae’r corff i gael ei drin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben, at y dibenion a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(4)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio at ddibenion y paragraff hwn;

  • ystyr “dyddiad ildio” (“surrender date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel yr un y mae’r corff i beidio â chael ei gydnabod pan ddaw i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 3 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I36Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Tynnu cydnabyddiaeth yn ôlLL+C

19(1)Os yw corff cydnabyddedig yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod y mae cydnabyddiaeth mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl ei gydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad â dyfarnu—

(a)cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu

(b)pob cymhwyster y cydnabyddir y corff mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.

(2)Os yw corff cydnabyddedig sy’n dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl ei gydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad â dyfarnu⁠—

(a)cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu

(b)pob cymhwyster y cydnabyddir y corff mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 3 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I38Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Y weithdrefn ar gyfer tynnu cydnabyddiaeth yn ôlLL+C

20(1)Cyn tynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrth gorff cydnabyddedig o dan baragraff 19, rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff hysbysiad am ei fwriad i wneud hynny.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu tynnu cydnabyddiaeth yn ôl yn y cyswllt o dan sylw, a

(b)pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl.

(3)Wrth benderfynu pa un ai i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl fel y’i pennir yn yr hysbysiad, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff cydnabyddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 3 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I40Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

21(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu tynnu cydnabyddiaeth yn ôl, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi gwybod i’r corff am ei hawl o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 22 i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad,

(b)datgan y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gwneud unrhyw gais am adolygiad, ac

(c)pennu’r dyddiad y mae’r tynnu’n ôl, yn absenoldeb cais am adolygiad, i gymryd effaith pan ddaw i ben (y “dyddiad tynnu’n ôl”).

(3)Rhaid i’r dyddiad tynnu’n ôl fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad olaf y caniateir gwneud cais am adolygiad o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 22.

(4)Ar unrhyw adeg cyn y dyddiad tynnu’n ôl, caiff Cymwysterau Cymru benderfynu peidio â thynnu cydnabyddiaeth y corff yn ôl; ac os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo roi i’r corff hysbysiad i’r perwyl hwn.

(5)Wrth benderfynu ar y dyddiad tynnu’n ôl, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, cymhwyster, neu gymhwyster o’r disgrifiad, y mae cydnabyddiaeth i gael ei thynnu’n ôl mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 3 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I42Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Adolygu penderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôlLL+C

22(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau i benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrth gorff fod yn ddarostyngedig i adolygiad ar gais y corff o dan sylw.

(2)Rhaid i’r trefniadau—

(a)pennu’r cyfnod y caniateir gwneud cais am adolygiad ynddo,

(b)gwneud darpariaeth i’r person sy’n cynnal yr adolygiad wneud argymhellion i Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r tynnu’n ôl,

(c)gwneud darpariaeth i Gymwysterau Cymru, ar ôl ystyried yr argymhellion hynny, naill ai cadarnhau neu wrthdroi ei benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl, a

(d)ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff o dan sylw am ganlyniad yr adolygiad.

(3)Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru gynnal adolygiad.

(4)Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—

(a)yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;

(b)yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.

(5)Os yw Cymwysterau Cymru, yn dilyn adolygiad, yn cadarnhau ei benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff o dan sylw—

(a)sy’n rhoi rhesymau dros y cadarnhad, a

(b)sy’n datgan y dyddiad y bydd y tynnu’n ôl yn cymryd effaith pan ddaw i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 3 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I44Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thynnu’n ôlLL+C

23(1)Caiff hysbysiad o dan baragraff 21 neu 22 gynnwys darpariaeth o fewn is-baragraff (2), os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried bod y ddarpariaeth honno yn briodol at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael y cymhwyster, neu gymhwyster o’r disgrifiad, y mae cydnabyddiaeth i gael ei thynnu’n ôl mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.

(2)Mae darpariaeth o fewn yr is-baragraff hwn yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y corff, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad tynnu’n ôl i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei drin at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(3)Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth mewn hysbysiad o fewn is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn yr hysbysiad, a

(b)mae’r corff i gael ei drin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad tynnu’n ôl i ben, at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(4)Mae is-baragraff (5) yn gymwys—

(a)os yw hysbysiad o dan baragraff 21 yn cynnwys darpariaeth o fewn is-baragraff (2) (“y ddarpariaeth estyn wreiddiol”), a

(b)os yw adolygiad o’r penderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl yn cael ei gynnal o dan baragraff 22.

(5)Nid yw’r ddarpariaeth estyn wreiddiol yn cael unrhyw effaith, at ddibenion is-baragraff (3)(b), onis cadarnheir mewn hysbysiad o dan baragraff 22 sy’n cadarnhau’r penderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl.

(6)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad at ddibenion y paragraff hwn;

  • ystyr “dyddiad tynnu’n ôl” (“withdrawal date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn yr hysbysiad fel yr un y mae’r gydnabyddiaeth i gael ei thynnu’n ôl pan ddaw i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 3 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I46Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources