Adran 10 -Tir y mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol neu’r Cynllun Datblygu Strategol yn effeithio arno
44.Mae gwerth eiddo yn aml yn cwympo pan fydd gwaith cyhoeddus, fel traffordd neu reilffordd newydd, yn effeithio arno; gelwir hyn yn “falltod”. Mae Rhan 6 ac Atodlen 13 o DCGTh 1990 yn ymdrin â thir o dan falltod ac yn darparu y gall tirfeddianwyr a effeithiwyd, mewn amgylchiadau penodol, ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol brynu eu tir.
45.Mae adran 149 yn Rhan 6 o DCGTh 1990 yn cyflwyno Atodlen 13, sy’n nodi’r hyn y gellir ei drin fel tir o dan falltod (ni fydd pob tir y mae datblygiad arfaethedig yn effeithio arno yn “dir o dan falltod”). Fel arall mae darpariaethau yn Rhan 6 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer perchennog tir o dan falltod i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gaffael buddiant y perchennog yn y tir.
46.O dan adran 150 yn Rhan 6, o fodloni amodau penodol, gall perchennog tir sydd o’r farn bod cynigion awdurdod cyhoeddus yn golygu ei fod o dan falltod roi hysbysiad i’r awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol iddo brynu buddiant y perchennog yn y tir. Pris y tir yw ei werth ar y farchnad gan anwybyddu effeithiau’r datblygiad sy’n creu’r malltod.
47.Gwneir diwygiadau canlyniadol yn yr adran hon i Ran 6 o DCGTh 1990 ac Atodlen 13 iddi o ganlyniad i gyflwyno’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r cynlluniau datblygu strategol. Caiff cyfeiriadau at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r cynllun datblygu strategol eu mewnosod yn Atodlen 13. Mae’r adran hon hefyd yn rhoi pwerau prynu gorfodol i Weinidogion Cymru pan fo hysbysiad malltod wedi ei gyflwyno mewn cysylltiad â thir sydd wedi ei neilltuo at ddibenion penodol yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Effaith hyn yw bod perchenogion tir y mae cynigion yn y Fframwaith neu mewn cynllun datblygu strategol yn golygu ei fod o dan falltod i’w trin yn yr un modd â’r rheini y mae cynigion cynllunio eraill yn effeithio arnynt.