Adran 139 - Swm y dreth sy’n daladwy ar gyfer mathau penodol o annedd
247.Mae’r adran hon yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel y’i nodir yn Atodlen 3, Rhan 4. Mae’n mewnosod adrannau 12A and 12B newydd yn y Ddeddf honno.
248.Mae’r adran 12A newydd yn rhoi i awdurdodau bilio yng Nghymru (sef y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol) ddisgresiwn i godi’r treth gyngor sy’n daladwy ar anheddau gwag hirdymor yn eu hardaloedd. Mae uchafswm y codiad yn 100 y cant ychwanegol o ffi safonol y dreth gyngor h.y. premiwm treth gyngor o 100 y cant. Mae lle i fabwysiadu dull fesul cam o weithredu’r premiwm gyda chodiadau cynyddrannol yn gymwys dros gyfnod amser.
249.Diffinnir annedd wag hirdymor (“long-term empty dwelling”) fel un sydd wedi bod heb ei meddiannu a heb fawr o ddodrefn am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf. Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi cyfnod amser gwahanol nad yw’n llai na blwyddyn, yn lle’r cyfnod hwnnw. Wrth ddyfarnu a yw annedd yn annedd wag hirdymor, rhaid peidio ag ystyried unrhyw gyfnod sy’n dod cyn y dyddiad y daw’r adran i rym. Yn ychwanegol, rhaid peidio ag ystyried unrhyw un neu ragor o gyfnodau nad ydynt yn hwy na 6 wythnos pryd y mae’r eiddo naill ai wedi ei feddiannu neu wedi ei ddodrefnu i raddau helaeth (neu wedi ei feddiannu a’i ddodrefnu i raddau helaeth). Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi cyfnod amser gwahanol nad yw’n llai na 6 wythnos, yn lle’r cyfnod o 6 wythnos.
250.Mae’r adran 12B newydd yn rhoi i awdurdodau bilio yng Nghymru ddisgresiwn i godi’r dreth gyngor sy’n daladwy ar anheddau sy’n cael eu meddiannu o bryd i’w gilydd yn eu hardaloedd (gelwir yr anheddau hyn yn aml yn “ail gartrefi”). Mae uchafswm y codiad yn 100 y cant ychwanegol o ffi safonol y dreth gyngor h.y. premiwm treth gyngor o 100 y cant. Diffinnir ail gartref (“second home”) fel cartref nad yw’n unig neu brif breswylfa person ac sydd i raddau helaeth wedi ei ddodrefnu. Y tro cyntaf y mae awdurdod bilio yn penderfynu codi premiwm treth gyngor ar ail gartrefi, rhaid iddo wneud ei ddyfarniad o leiaf blwyddyn cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y codir y premiwm arnynt ynddi.
251.Bydd dyfarniad gan awdurdod bilio o dan yr adran 12A newydd neu’r adran 12B newydd i godi premiwm treth gyngor yn datgymhwyso hefyd y disgownt sydd ar gael o dan adran 11(2)(a) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol Act 1992 (disgownt ar swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn cysylltiad ag anheddau nad oes unrhyw breswylwyr ynddynt).
252.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n rhagnodi categorïau annedd na chaniateir codi arnynt y premiwm treth gyngor ar eiddo gwag neu ail gartrefi. Cânt amrywio hefyd, drwy reoliadau, uchafswm y premiwm treth gyngor y caniateir ei godi ar gartrefi gwag neu ail gartrefi.
253.Rhaid i awdurdodau bilio roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth gymhwyso’r premiwm treth gyngor ar eiddo gwag neu ail gartrefi.
254.Nodir y trefniadau ar gyfer gwneud, amrywio neu ddirymu dyfarniad i godi premiwm mewn cysylltiad ag anheddau gwag hirdymor yn is-adrannau (7) i (9) o’r adran 12A newydd; a chynhwysir y trefniadau ar gyfer gwneud, amrywio neu ddirymu dyfarniad i godi premiwm ail gartrefi yn is-adrannau (8) i (10) o’r adran 12B newydd. Yn y naill achos neu’r llall, rhaid gwneud dyfarniad cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y bydd yn gymwys ynddi. Gall dyfarniad gael ei amrywio neu ei ddirymu, ond dim ond cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y bydd yn gymwys ynddi. Pan fo dyfarniad wedi ei wneud, rhaid i’r awdurdod bilio gyhoeddi hysbysiad mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn ei ardal. Rhaid cyhoeddi’r hysbysiad cyn pen 21 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad y dyfarniad.