Adran 136 – Dyfarniadau o dan y Rhan hon
240.Caiff dyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu fathau gwahanol o achosion, gan gynnwys ar gyfer ardaloedd gwahanol, awdurdodau tai lleol gwahanol, neu ddisgrifiadau gwahanol o awdurdodau. Cyn gwneud dyfarniad o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â chynrychiolwyr llywodraeth leol ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy. Os yw dyfarniad yn ymwneud ag awdurdod tai lleol penodol, rhaid iddynt ymgynghori hefyd â’r awdurdod hwnnw. Rhaid i Weinidogion Cymru anfon, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, gopi o’r dyfarniad i’r awdurdod neu’r awdurdodau y mae’n ymwneud ag ef neu hwy. Caniateir i gopïau o ddyfarniadau gael eu hanfon yn electronig (yn unol â’r ddarpariaeth bresennol yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989).