Adran 111 – Safonau
207.Caiff Gweinidogion Cymru osod safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdod tai lleol. Rhaid i’r awdurdod tai lleol fodloni’r safonau. Caniateir i safonau gael eu gosod mewn unrhyw un neu rai neu’r cyfan o dri maes. Y meysydd a nodir yn is-adran (1) yw ansawdd y llety, y rhent a godir a’r ffioedd gwasanaeth ar gyfer y llety.
208.Caiff safonau gynnwys rheolau y mae’n rhaid i’r awdurdod gydymffurfio â hwy. Caiff rheolau perthnasol wneud darpariaeth ar gyfer lefelau isaf neu uchaf y rhent neu’r ffioedd gwasanaeth a godir gan awdurdodau tai lleol; caniateir i ddarpariaeth gael ei gwneud hefyd ynghylch lefelau uchaf neu isaf y codiadau neu’r gostyngiadau yn swm y rhent hwnnw neu’r ffioedd gwasanaeth hynny.
209.Caiff Gweinidogion Cymru adolygu safonau neu eu tynnu’n ôl drwy ddyroddi safonau pellach. Caniateir i safonau gael eu tynnu’n ôl drwy hysbysiad. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r holl safonau a hysbysiadau a roddir o dan yr adran hon.