Adran 96 - Cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant
183.Mae is-adran (1) yn esbonio nad yw darpariaethau eraill yr adran hon yn gymwys ond os oes gan awdurdod tai lleol reswm i gredu y gallai ceisydd y mae person o dan 18 mlwydd oed yn preswylio gydag ef, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef: yn anghymwys i gael cymorth; yn ddigartref ond ei bod yn annhebyg bod dyletswyddau yn ddyledus iddo o dan adrannau 68, 73 neu 75; neu o dan fygythiad o ddigartrefedd ond ei bod yn annhebyg bod dyletswydd yn ddyledus iddo o dan adran 66.
184.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i sicrhau bod y ceisydd yn cael ei wahodd i gydsynio ag atgyfeirio’r ffeithiau hanfodol am ei achos at yr adran gwasanaethau cymdeithasol a phan fo cydsyniad wedi ei roi, trefniadau i hysbysu’r adran honno am y ffeithiau hynny ac am benderfyniad dilynol yr awdurdod mewn cysylltiad ag achos y ceisydd. Fel a nodir yn is-adran (3), nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod i ddatgelu unrhyw wybodaeth i’w adran gwasanaethau cymdeithasol heb gydsyniad.
185.Pan fo’n penderfynu fel awdurdod tai lleol bod ceisydd yn anghymwys i gael cymorth, ei fod wedi dod yn ddigartref yn fwriadol neu wedi dod o dan fygythiad o ddigartrefedd yn fwriadol, rhaid i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol wneud trefniadau i sicrhau bod ei adran dai yn rhoi i’r adran gwasanaethau cymdeithasol y cyngor a’r cynhorthwy y bydd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.