Adran 82 - Dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu‘n cael ei atgyfeirio
163.Mae is-adran (1) yn esbonio pan fydd awdurdod lleol, sy’n ceisio atgyfeirio achos ceisydd at awdurdod tai lleol arall, yn peidio â bod dan ddyletswydd o dan adran 68 ac adran 73 i’r ceisydd hwnnw. Pan na fo’r dyletswyddau’n gymwys, rhaid i’r awdurdod sy’n ceisio gwneud yr atgyfeiriad sicrhau llety addas i’w feddiannu gan y ceisydd hyd nes y caiff ei hysbysu am y penderfyniad gwirioneddol ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni.
164.Pan fydd penderfyniad wedi ei wneud ynghylch atgyfeirio, rhaid i’r ceisydd gael ei hysbysu’n unol ag adran 84. Os penderfynir nad yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni, mae dyletswydd o hyd ar yr awdurdod i’r ceisydd o dan adran 73 (y ddyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref). Pan fo’r amodau ar gyfer atgyfeiriad wedi eu bodloni a bod yr awdurdod y mae’r achos i’w atgyfeirio ato (yr “awdurdod sy’n cael ei hysbysu”) yng Nghymru, daw’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu wedyn yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 mewn cysylltiad â’r ceisydd. Mewn achosion pan fo’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn Lloegr, dylid trin yr achos yn unol ag adran 201A o Ddeddf Tai 1996.
165.Mae is-adrannau (5) a (6) yn nodi’r sefyllfa pan fo’r ceisydd yn ceisio cael adolygiad o benderfyniad yr awdurdod sy’n hysbysu. Mae is-adran (7) yn gwneud darpariaeth i drin hysbysiadau nad ydynt wedi dod i law fel rhai sydd wedi eu rhoi os ydynt ar gael i’w casglu.