Adran 80 - Atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall
159.Caiff awdurdod tai lleol atgyfeirio ceisydd at awdurdod arall yng Nghymru neu Loegr ond dim ond os yw’r ceisydd mewn angen blaenoriaethol ac yn ddigartref yn fwriadol. Rhaid i’r awdurdod fod yn fodlon bod amodau penodol wedi eu bodloni a rhaid i’r achos fod yn un lle y byddai’r awdurdod, pe na bai’r achos yn cael ei atgyfeirio, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety yn adran 73. Mae is-adran (3) yn nodi’r amodau ar gyfer atgyfeirio y mae angen eu bodloni, tra bo is-adran (4) yn esbonio pryd na fydd yr amodau wedi eu bodloni.
160.Cytunir fel rheol rhwng y ddau awdurdod ar y cwestiwn ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni. Os na allant gytuno a bod y ddau awdurdod yng Nghymru, bydd yr atgyfeiriad yn unol â’r trefniadau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cyfarwyddo. Pan fo’r awdurdod sy’n atgyfeirio’r achos yng Nghymru a’r llall yn Lloegr, bydd yr atgyfeiriad yn unol â’r trefniadau y bydd Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol yn eu cyfarwyddo ar y cyd drwy orchymyn.
161.Mae diwygiadau canlyniadol wedi eu gwneud i Ddeddf Tai 1996 i ddarparu ar gyfer atgyfeiriadau oddi wrth awdurdodau tai lleol yn Lloegr at awdurdodau yng Nghymru (gweler Atodlen 3).