Search Legislation

Deddf Tai (Cymru) 2014

Atodlen 3 –Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Rhan 1 – Digartrefedd

264.Mae’r Rhan hon yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i amryw o Ddeddfau o ganlyniad i’r darpariaethau yn Rhan 2. Mae paragraffau 13 a 14 yn ymdrin ag achosion a atgyfeirir at awdurdod tai lleol yn Lloegr o awdurdod tai lleol yng Nghymru.

Rhan 2 – Sipsiwn a Theithwyr

265.Mae’r Rhan hon yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2003 a Deddf Tai 2004 ac yn dirymu Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007. Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi ei diwygio i ddarparu ar gyfer diffiniad cyson o “Sipsiwn a Theithwyr” rhwng Deddf 2013 a’r Ddeddf hon.

Rhan 3 – Safonau ar gyfer tai cymdeithasol

266.Mae’r Rhan hon yn diwygio adran 24 o Ddeddf Tai 1985 i ddileu is-adrannau (3) a (4), sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol, wrth osod rhenti rhesymol, roi sylw i’r egwyddor y dylai’r rhenti ar gyfer tenantiaeth neu feddiannaeth o’i dai fod at ei gilydd yn gymesur â rhenti yn y sector preifat. Rhaid i awdurdod tai lleol, wrth osod rhenti rhesymol o dan adran 24 o Ddeddf Tai 1985, gydymffurfio â safonau ynglŷn â ffioedd rhent neu ffioedd gwasanaeth a osodir o dan adran 111 a chanllawiau perthnasol a ddyroddir o dan adran 112 o’r Ddeddf hon.

267.O ganlyniad i ddiwygiad i Ddeddf Tai 1996, caniateir ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gydymffurfio â rheolau a bennir mewn safonau a osodir o dan adran 33A o Ddeddf 1996. Caiff Gweinidogion Cymru adolygu a thynnu’n ôl ganllawiau ar y safonau. Rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ganllawiau a ddyroddir. Rhaid iddynt ymgynghori hefyd wrth osod, adolygu neu dynnu’n ôl safonau ac wrth osod, adolygu neu dynnu’n ôl unrhyw ganllawiau.

Back to top

Options/Help