Deddf Tai (Cymru) 2014 Nodiadau Esboniadol

Rhan 2 – Mynediad i Gofrestr

260.Rhaid i awdurdod trwyddedu ddarparu gwybodaeth benodol i berson sy’n gofyn am yr wybodaeth ac sy’n darparu i’r awdurdod gyfeiriad eiddo sydd ar ei gofrestr. Yr wybodaeth, a grybwyllir yn is-baragraffau 3(2)(a)-(c), yw: enw landlord yr eiddo; enw unrhyw berson a benodwyd i wneud gwaith gosod eiddo a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord; ac a yw’r landlord neu’r person a benodwyd wedi ei drwyddedu i wneud y gwaith hwnnw. Rhaid hysbysu’r person hefyd am unrhyw orchymyn atal rhent y mae ei effaith mewn grym mewn perthynas â’r eiddo.

261.Rhaid i awdurdod trwyddedu ddarparu i berson yr wybodaeth a ddisgrifir gan is-baragraffau 4(2)(a) a (b) os yw’r person hwnnw yn gofyn am yr wybodaeth ac yn darparu i’r awdurdod enw landlord eiddo neu enw person a benodwyd i wneud gwaith gosod eiddo a gwaith rheoli eiddo mewn cysylltiad â’r eiddo. Rhaid i’r cais fod mewn cysylltiad ag eiddo yn yr ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei gyfer. Yr wybodaeth yw a yw’r landlord yn landlord cofrestredig ac a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i wneud gwaith gosod eiddo a gwaith rheoli eiddo ar yr eiddo wedi ei drwyddedu.

262.Rhaid i awdurdod trwyddedu ddarparu i berson yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-baragraffau 5(2)(a) i (c) os yw’r person hwnnw’n gofyn am yr wybodaeth ac yn darparu i’r awdurdod rif cofrestru neu rif trwydded landlord eiddo ar rent neu’n darparu rhif trwydded person a benodwyd i wneud gwaith gosod eiddo a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord. Rhaid i’r cais fod mewn cysylltiad ag eiddo yn yr ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer. Yr wybodaeth yw enw’r landlord ac unrhyw berson a benodwyd i wneud gwaith gosod eiddo a gwaith rheoli eiddo ar yr eiddo ar ran y landlord, a yw’r landlord wedi ei gofrestru, ac a yw’r landlord neu unrhyw berson a benodwyd i wneud gwaith gosod eiddo a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord wedi ei drwyddedu.

Back to top