Adran 8 – Eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig
17.Mae eithriadau i’r gofyniad yn adrannau 6 a 7 i landlord fod yn drwyddedig. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer hefyd i bennu drwy orchymyn achosion eraill nad yw’r gofynion yn yr adrannau hynny yn gymwys iddynt. Nid yw adrannau 6(1), 7(1) a 7(3) yn gymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig nac i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol, am yr un rhesymau ag y maent yn esempt o dan adran 5 rhag yr angen i fod yn gofrestredig. Mae eithriadau yn gymwys hefyd pan fo landlord wedi gwneud cais i fod yn gofrestredig a bod y cais yn cael ei ystyried, ac yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl i fuddiant y landlord yn yr annedd gael ei aseinio iddo, er enghraifft pan fo’r landlord wedi prynu’r eiddo, a bod y gwerthiant wedi ei gwblhau a’r trosglwyddiad wedi ei gofrestru. Mae eithriad hefyd yn gymwys os yw landlord yn ceisio adennill meddiant o eiddo a’i fod wedi cychwyn camau i adennill y meddiant cyn pen 28 o ddiwrnodau ar ôl i’r eiddo gael ei aseinio iddo.