Adran 44 - Cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau
104.Ni chaniateir i hysbysiad o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988 i derfynu tenantiaeth fyrddaliol sicr gael ei ddyroddi os nad yw’r landlord wedi ei gofrestru neu os yw’r landlord yn gwneud gwaith gosod neu’n cynnal gweithgareddau rheoli eiddo heb drwydded ac nad yw wedi penodi asiant trwyddedig i wneud gwaith o’r fath ar ei ran. Nid yw’r cyfyngiad hwn yn gymwys i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff buddiant yn yr annedd ei aseinio i’r landlord.