Adran 43 – Gweithgaredd sy’n groes i’r Rhan hon: effaith ar gytundebau tenantiaeth
103.Nid yw unrhyw doriad o’r Rhan hon o’r Ddeddf yn effeithio ar ddilysrwydd cytundeb tenantiaeth neu orfodadwyedd unrhyw rwymedigaethau o dan gytundeb o’r fath. O dan amgylchiadau felly, bydd gan denant hawlogaeth o hyd i feddiannu’r fangre o dan gytundeb tenantiaeth dilys. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal rhent rhag cael ei atal neu ei dalu’n ôl yn unol â gorchmynion atal rhent neu orchmynion ad-dalu rhent.