Adran 30 – Gorchmynion atal rhent
74.Caiff yr awdurdod trwyddedu neu’r awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y lleolir annedd ynddi wneud cais i’r tribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn atal rhent. Rhaid i awdurdod tai lleol nad yw’n awdurdod trwyddedu gael cydsyniad yr awdurdod trwyddedu cyn gwneud cais.
75.Disgrifir effeithiau gorchymyn atal rhent a roddir gan dribiwnlys yn is-adran (3)(a) i (e). Effaith gorchymyn atal rhent yw atal y taliadau rhent/taliadau ffioedd gwasanaeth (neu rannau o daliadau) sy’n ddyledus gan denant i landlord ac sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod penodedig. Mae’r cyfnod hwn yn dechrau ar ddyddiad a bennir yn y gorchymyn atal rhent ac yn dod i ben ar ddyddiad diweddarach a benderfynir gan y tribiwnlys pan gaiff y gorchymyn atal rhent ei ddirymu (gweler adran 31). Rhaid i’r symiau o rent/ffioedd gwasanaeth a delir gan denant i landlord sy’n ymwneud â’r cyfnod hwnnw gael eu had-dalu gan y landlord. Os na fydd yr ad-daliad yn digwydd, gellir adfer yr arian fel dyled sy’n ddyledus i’r tenant gan y landlord.
76.Dim ond os yw wedi ei fodloni bod trosedd yn cael ei gyflawni o dan adran 7(5) neu 13(3), a bod camau penodol wedi eu cymryd gan yr awdurdod sy’n gwneud y cais, y caiff tribiwnlys wneud gorchymyn atal rhent (p’un a yw’r person wedi ei gollfarnu neu ei gyhuddo o’r drosedd ai peidio). Rhaid i’r awdurdod roi i’r landlord a’r tenant hysbysiad o achos arfaethedig, sy’n esbonio bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn. Rhaid iddo hefyd nodi’r rhesymau dros geisio’r gorchymyn, effaith y gorchymyn, a rhaid iddo esbonio sut y gall gorchymyn o’r fath gael ei ddirymu. Rhaid i’r hysbysiad ganiatáu i’r landlord gyflwyno sylwadau i’r awdurdod o fewn cyfnod nad yw’n llai nag 28 o ddiwrnodau.
77.Yn ychwanegol, a chyn gwneud gorchymyn , rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni bod y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau wedi dod i ben a bod yr awdurdod wedi ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo. Ni chaiff y dyddiad y caiff taliadau eu hatal ohono fod yn ddyddiad cyn y dyddiad y gwneir y gorchymyn.